Arwyr cynefin â charnau cadarn yn dychwelyd i Beacon Hill
Mae gwartheg yn ôl ar rostir Beacon Hill yn Sir Fynwy y gwanwyn hwn, gan roi eu cymorth i adfer a gwarchod y dirwedd arbennig hon.
Cyrhaeddodd wyth o wartheg Lowline Awstralia ar 8 Mai a byddant yn treulio misoedd y gwanwyn a'r haf yn pori'r rhostir fel rhan o waith cadwraeth parhaus Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth â Thirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy.
Bellach yn ei bedwaredd flynedd, mae'r prosiect pori cadwraeth yn ffordd naturiol ac effeithiol o reoli cynefin y rhostir.
Drwy gnoi llystyfiant sy'n tyfu'n gyflym fel rhedyn, mieri a bedw, mae'r gwartheg yn helpu i atal y rhywogaethau hyn rhag cymryd drosodd, gan ganiatáu i amrywiaeth ehangach o blanhigion a bywyd gwyllt ffynnu.
Mae rhostiroedd fel Beacon Hill yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth, ond mae angen rheolaeth weithredol arnynt i oroesi. Heb bori, gall prysgwydd ymledu'n gyflym, gan gysgodi planhigion llai a lleihau'r amrywiaeth sy'n gwneud y cynefinoedd hyn mor werthfawr.
Mae tîm gwartheg Lowline eleni – gan gynnwys Hamish, Onyx, Geoff, Sam, Banana a Tuesday – yn berffaith addas ar gyfer y swydd hon.
Yn wreiddiol o Awstralia, mae gwartheg Lowline yn wydn, yn ddof ac wedi addasu'n dda i bori cadwraeth. Mae eu maint llai yn lleihau'r risg o gywasgu pridd a difrod i briddoedd sensitif, ac mae eu harferion pori amrywiol yn helpu i greu cymysgedd mwy amrywiol o lystyfiant, a sicrhau nad yw'r safle'n cael ei orbori.
Meddai Rosalind Watkins, Uwch Swyddog Rheoli Tir CNC:
“Rydym yn falch iawn i groesawu’r gwartheg yn ôl i Beacon Hill am dymor pori arall. Maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel wrth gadw'r rhostir mewn cyflwr da, gan helpu i reoli prysgwydd a chreu'r amodau cywir i fywyd gwyllt ffynnu.
“Bob blwyddyn rydym yn gweld manteision eu gwaith, ac mae'n wych gallu defnyddio dull mor naturiol ac effaith isel o reoli'r lle arbennig hwn.”
Efallai y bydd ymwelwyr yn sylwi ar arwyddion o amgylch y safle gyda rhagor o wybodaeth am y prosiect. Fel bob amser, anogir pobl i fwynhau'r ardal yn gyfrifol, cadw cŵn dan reolaeth, a rhoi digon o le i'r gwartheg.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect ehangach, ewch i Pori cadwraeth yng Nghors Cleddon.