Ynys Sgomer yn barod am y gwanwyn ar ôl gwaith y gaeaf
Y gwanwyn yw tymor adfywiad yn draddodiadol, wrth i natur fentro allan unwaith eto wedi dyddiau tywyll y gaeaf. Ac nid oes unman y mae hyn yn fwy amlwg nag ar Ynys Sgomer, y tlws ar arfordir de-orllewin Cymru.
Mae Sgomer, sydd lai na milltir oddi ar arfordir Sir Benfro, yn gartref i amrywiaeth anhygoel o blanhigion ac anifeiliaid, a hynny ar y tir a’r môr.
Mae’r ynys yn eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ond yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, ac mae’n gartref i’r boblogaeth fwyaf yn ne Prydain o balod sy’n bridio ynghyd â’r boblogaeth fwyaf yn y byd o adar drycin Manaw sydd ͏͏– yn ôl yr amcangyfrifon – yn bron i 350,000 o barau.
Mae’r dyfroedd o amgylch Sgomer yn llawn bywyd y môr; gellir gweld morloi llwyd yn gorweddian yn eu cannoedd ar y traethau, llamidyddion, dolffiniaid, a hyd yn oed forfilod yn brigo’r tonnau ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Ar y tir, mae’r ynys yn gartref i Lygoden bengron Sgomer, sy’n isrywogaeth i’r Llygoden bengron goch ac yn unigryw i Sgomer, ac mae cwningod yn pori’r ynys sy’n helpu i gynnal yr amrywiaeth o blanhigion.
Felly, gyda’r ynys yn dod yn fyw yn y gwanwyn mae’n ymddangos bod byd natur yn llewyrchu yma. Fodd bynnag, dros ddyddiau hir y gaeaf cafodd natur rywfaint o gymorth gan griw o bobl dan arweiniad Tîm Peirianneg Integredig De-orllewin Cymru, yn ogystal â’r Ymddiriedolaeth Natur a chontractwyr peirianneg i wneud gwelliannau hanfodol i seilwaith yr ynys cyn dechrau’r tymor bridio.
Dyma Uwch Beiriannydd Sifil CNC, James Brock, i adrodd yr hanes:
“Mae Sgomer wedi bod yn eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r cyrff blaenorol ers 1959, ac ar hyn o bryd mae wedi’i brydlesu i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
“Mae’r ynys, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn unig Warchodfa Natur Forol Cymru, yn gartref i dîm bach o wardeiniaid a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Natur sy’n byw ar yr ynys o fis Mawrth tan fis Tachwedd bob blwyddyn i warchod a monitro ei phoblogaethau o adar môr sydd o bwys rhyngwladol.
“Ein gwaith ni oedd uwchraddio’r trac mynediad cul a oedd wedi’i ddifrodi gan y tywydd. Mae’r trac yn arwain o lithrfa North Haven ac yn llwybr hanfodol ar gyfer cludo cyflenwadau a deunyddiau mae eu hangen ar staff.”
Oherwydd lleoliad agored yr ynys, roedd rhannau o’r trac wedi erydu’n ddifrifol ac yn beryglus o agos at ymyl y clogwyn. Roedd hynny’n peri heriau sylweddol o ran symud cerbydau’n ddiogel. O dan delerau’r brydles bresennol, mae CNC yn gyfrifol am fathau penodol o seilwaith ar yr ynys.
Mewn lleoliadau llai amgylcheddol sensitif, byddai gwaith yn cael ei wneud yn ystod cyfnodau cynhesach a mwy sefydlog y flwyddyn, ond ffenestr ecolegol gul sydd gan Sgomer er mwyn lleihau’r effaith ar adar môr yn nythu, felly roedd yn rhaid i’r dasg ddigwydd yn ystod mis Chwefror.
Meddai James:
“Dechreuon ni weithio ar 7 Chwefror; roedd rhaid i ni wneud y trac yn fwy llydan, gosod system ddraenio effeithiol, a chreu bwnd i amddiffyn yr ymyl.
“Roedd heriau logistaidd sylweddol ynghlwm â’r gwaith. Roedd yn rhaid cludo peiriannau, cyfarpar a deunyddiau ar fad ac fe arhosodd y tîm adeiladu a minnau ar yr ynys am bythefnos i gwblhau’r prosiect.
“Yn ystod y cyfnod hwnnw, dim ond pump neu chwe diwrnod da oedd gennym i weithio a hyd yn oed ar ôl cwblhau roedd rhaid i ni dreulio cwpl o ddiwrnodau eto ar yr ynys gan fod y tywydd yn rhy wael i ni adael, tan 22 Chwefror.”
Yn ogystal â natur beryglus y gwaith a’r tywydd gaeafol gwyllt, cafodd y prosiect ei gymhlethu ymhellach gan seilwaith naturiol bregus yr ynys.
Meddai James:
“Roedd yn rhaid i ni droedio’n ofalus rhwng sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel a diogelu’r dirwedd ar gyfer y bywyd gwyllt. Fe weithiais i’n agos gyda Chris Lawrence, Uwch Swyddog yn y Tîm Amgylchedd yn ystod y gwaith dylunio i sicrhau na fyddai’r cynllun yn effeithio’n wael ar yr ynys. Roedd hyn yn golygu defnyddio deunyddiau bioddiraddadwy, osgoi plastig a sicrhau nad oeddem yn dod ag unrhyw rywogaethau goresgynnol i’r ynys gyda’n cyfarpar.
“Yn ffodus, cawsom gymorth arbennig gyda hyn gan sbaniel wedi’i hyfforddi’n arbennig mewn bioddiogelwch a oedd yn gallu ffroeni unrhyw lygod mawr a allai fod yn cuddio yn y peiriannau a’r deunyddiau, a fyddai’n achosi trychineb amgylcheddol ar yr ynys.
“Hoffwn ddiolch i’r tîm a fu’n gweithio gyda mi ar Sgomer; Aled Thomas, Anthony Evans, Carwyn Jenkins a Tomos Edwards o’r prif gontractwr EJ Thomas a’i Feibion; Dilwyn Sanderson-Jones o’r arbenigwyr mynediad â rhaff Bodacc Ltd, Gareth Reynolds o Dale Sailing a’n cludodd ni a’n hoffer i’r ynys ac oddi yno, a hefyd wrth gwrs Warden Ynys Sgomer, Leighton Newman.
“Mae’n haws treulio pythefnos ar ynys wyntog ganol gaeaf pan fyddwch chi gyda thîm o weithwyr proffesiynol.”
Bob haf, mae Sgomer yn croesawu 25,000 o ymwelwyr sy’n rhyfeddu at y cyfoeth o fywyd gwyllt. Os ydych chi’n un ohonyn nhw, cofiwch am y bobl sy’n gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llen, yn aml yn yr amgylchiadau mwyaf digroeso, i sicrhau bod yr ynys yn parhau i fod yn baradwys i fywyd gwyllt.