Cwmni o Ogledd Cymru wedi’i ddedfrydu am weithredu safle pren gwastraff heb drwydded
Mae cwmni o Ogledd Cymru wedi cael ei ddedfrydu am weithredu safle pren gwastraff heb y drwydded ofynnol, diolch i ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Ddydd Iau, 11 Rhagfyr, yn Llys y Goron Caernarfon, dedfrydwyd Platts Agricultural Limited ar ôl pledio’n euog ym mis Gorffennaf 2025 i weithredu safle pren gwastraff heb y drwydded amgylcheddol ofynnol. Digwyddodd y troseddau rhwng 2017 a 2021.
Gorchmynnodd y llys ddirwy o £22,500 ac i’r cwmni dalu £21,910.25 mewn costau.
Daeth CNC â’r erlyniad hwn yn erbyn Platts Agricultural Limited ar ôl ymdrechion dro ar ôl tro i sicrhau cydymffurfedd. Archwiliwyd y safle gan swyddogion, gan nodi pa drwyddedau oedd eu hangen ac erbyn pryd, a defnyddiwyd offer gorfodi cymesur. Er gwaethaf hyn, parhaodd Platts Agricultural Limited i dderbyn a phrosesu pren gwastraff i’w ddefnyddio mewn sarn i anifeiliaid heb awdurdodiad.
Dywedodd Carys Williams, Arweinydd y Tîm Rheoleiddio Gwastraff yn CNC:
Nid gofyniad cyfreithiol yn unig yw trwyddedau amgylcheddol – maent yn cynnal safonau sy’n hanfodol i amddiffyn pobl a’n hamgylchedd. Maent yn sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli’n ddiogel ac yn gyfreithlon. Mae’r achos hwn yn dangos bod rhaid i unrhyw un sy’n trin pren gwastraff gael y caniatâd cywir ar waith.
Mae gweithredu heb drwydded neu dorri corneli yn tanseilio busnesau cyfreithlon sy’n buddsoddi mewn cydymffurfio. Mae’n creu cystadleuaeth annheg ac yn cynyddu risgiau amgylcheddol ac i iechyd y cyhoedd.
Rydym hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid i gyhoeddi datganiad amlasiantaeth ar ddefnyddio pren gwastraff mewn sarn i anifeiliaid. Gall pren gwastraff wedi’i drin fod yn niweidiol os caiff ei gamddefnyddio, felly rhaid i fusnesau ddilyn canllawiau a dod o hyd i ddeunyddiau mewn ffordd gyfrifol.
Dylai busnesau sy’n trin pren gwastraff wirio a oes angen trwydded neu esemptiad cofrestredig arnynt cyn dechrau gweithrediadau. I roi gwybod am drosedd gwastraff a amheuir, cysylltwch â chanolfan gyfathrebu digwyddiadau 24/7 CNC drwy’r ffurflen ‘Rhoi gwybod’ ar-lein. Gallwch hefyd gysylltu ag CNC unrhyw awr o’r dydd a’r nos ar 0300 065 3000.