CNC yn tynnu sylw at gamau allweddol er mwyn i ffermwyr daenu’n ddiogel

Tail organig yn cael ei wasgaru ar gae

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn tynnu sylw at reolau i helpu i ddiogelu tir a dŵr wrth i ffermwyr ledled Cymru baratoi ar gyfer ailagor y tymor taenu tail organig.

Dros yr hydref a'r gaeaf, roedd mesurau ar waith i atal y gymuned ffermio rhag gwasgaru slyri neu fathau eraill o dail sydd â lefelau uchel o nitrogen fel ffordd o leihau llygredd amaethyddol.

Er y gellir ailddechrau taenu ar laswelltir ar 16 Ionawr a bod taenu ar dir âr yn agor o 31 Ionawr, mae nifer o gyfyngiadau o dan Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (CoAPR) yn parhau mewn grym tan ddiwedd mis Chwefror.

Mae hyn yn cynnwys taenu dim mwy na 30m³ o slyri fesul hectar neu wyth tunnell o dail dofednod ar unwaith, gydag o leiaf dair wythnos rhwng pob achos o daenu.

Cyn gwasgaru tail organig, mae'n ofynnol i gynhyrchwyr gynnal archwiliadau ar gaeau i asesu cyflwr y tywydd a'r pridd, goleddf y tir, gorchudd y ddaear, ac agosrwydd at gyrsiau dŵr gan helpu i leihau'r risg o ddŵr ffo.

Disgwylir i fusnesau fferm gynllunio a chofnodi pob achos o daenu yn eu Cynllun Rheoli Nitrogen er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y pridd a'r cnydau ac yn aros o fewn terfynau nitrogen.

Gwaherddir gwasgaru ar bridd dwrlawn, pridd sydd dan ddŵr, tir wedi'i orchuddio ag eira neu sydd wedi rhewi, gan gynnwys pridd sydd wedi rhewi am fwy na 12 awr yn y 24 awr flaenorol.

Bydd timau Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gefnogi ffermwyr a monitro cydymffurfiaeth.

Dywedodd Simon Griffiths, Arweinydd Tîm Arolygu Llygredd Amaethyddol CNC:

“Wrth i’r cyfnodau gwaharddedig ddod i ben, rydym am atgoffa ffermwyr, tenantiaid, landlordiaid a chontractwyr o’r cyfyngiadau sy’n parhau mewn grym tan ddiwedd mis Chwefror.
“Mae hyn yn golygu bod angen i unrhyw un sy’n ystyried gwasgaru tail organig sicrhau bod yr amodau’n addas cyn i’r gwaith ddechrau.
“Mae CNC wedi ymrwymo i ddiogelu’r amgylchedd a byddwn yn ymchwilio i unrhyw achosion o lygredd a bydd camau gorfodi priodol yn cael eu cymryd.”

Mae CNC yn annog ffermwyr ac aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau llygredd ar unwaith drwy gysylltu â'n canolfan gyfathrebu digwyddiadau 24/7 drwy ein ffurflen rhoi gwybod ar-lein neu drwy ffonio 0300 065 3000.