Gwarchodwch gefn gwlad Cymru rhag tanau gwyllt dros Ŵyl y Banc
Mae pobl sy’n bwriadu mwynhau awyr agored gwych Cymru dros benwythnos Gŵyl y Banc yn cael eu hannog i ymddwyn yn gyfrifol a meddwl yn ofalus am yr effaith y gall eu gweithredoedd ei chael ar yr amgylchedd, bywyd gwyllt a chymunedau lleol.
Mae’r cyfnod o dywydd cynnes a sych a gawsom ar hyd a lled Cymru wedi cynyddu’r perygl y gwelwn danau gwyllt.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub a phartneriaid eraill i gefnogi ymdrechion i reoli a mynd i’r afael â thanau gwyllt a glaswellt ar hyd a lled y wlad.
Ddydd Mercher (29 Ebrill), fe anfonon ni allan hofrennydd diffodd tân i ollwng dŵr wedi’i dargedu ar danau gwyllt yng Nghwm Elan, Cwmystwyth, am fod risg uchel i natur, mynediad anodd i’r tir, gwyntoedd yn y rhagolygon tywydd a diffyg glaw sylweddol.
Ers neithiwr, rydym wedi bod yn cefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i daclo tân gwyllt mawr yn Waun Wen ger Merthyr Tudful.
Gyda’r rhagolygon yn awgrymu y bydd yr amodau’n dal i fod yn sych dros y dyddiau nesaf, mae Cymru bellach yn mynd i mewn i gyfnod o risg uwch o ran tanau gwyllt. Er y bydd ein timau yn dal ati i weithio ddydd a nos i ddiogelu pobl, natur ac eiddo, rydym hefyd yn atgoffa pobl o’r canlyniadau dinistriol y gall cynnau tân a defnyddio barbeciws tafladwy eu cael ar yr amgylchedd.
Dywedodd Richard Preece, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae tirweddau Cymru yn arbennig iawn, ond maen nhw hefyd yn agored i niwed. Dim ond un weithred ddiofal sydd ei hangen i dân gynnau a mynd allan o reolaeth yn gyflym. Rydym yn gofyn i bawb sy’n ymweld â’r awyr agored dros Ŵyl y Banc ystyried canlyniadau eu gweithredoedd a’n helpu i warchod ein bywyd gwyllt, ein dŵr a’n cymunedau.”
Wrth i bobl fwynhau’r awyr agored dros Ŵyl y Banc, mae pobl yn cael eu hannog i fod yn #DoethamDanauGwyllt drwy ddilyn cyngor syml ond hanfodol:
- peidiwch byth â chynnau tân yng nghefn gwlad.
- dim ond lle mae arwyddion yn nodi bod hawl i ddefnyddio barbeciw y dylech wneud hynny, peidiwch byth â’u gadael heb neb i gadw golwg arnynt, a sicrhewch eu bod yn cael ei ddiffodd yn llawn cyn i chi adael.
- ewch â’ch holl sbwriel adref, yn enwedig poteli gwydr.
- peidiwch â thaflu sigaréts na matsis.
- rhowch wybod am unrhyw arwyddion o dân neu weithgarwch amheus ar unwaith trwy ffonio 999.
Dywedodd Carl Williams, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol ar gyfer MAWWFRS:
“Mae tanau gwyllt nid yn unig yn dargyfeirio criwiau oddi wrth argyfyngau eraill ond hefyd yn golygu bod diffoddwyr tân yn wynebu risgiau sylweddol. Mae’r digwyddiadau hyn yn aml yn gofyn nifer fawr o bersonél, gan gynnwys staff ar alwad sy’n gorfod gadael eu prif waith i fynychu digwyddiadau am gyfnodau estynedig, sy’n rhoi straen sylweddol ar bersonél ac adnoddau.
“Yn wahanol i danau mewn adeiladau, gall tanau gwyllt losgi ar draws tirweddau gwledig enfawr, gan fygwth cartrefi cyfagos, ffermydd, da byw, cyflenwadau pŵer a llwybrau trafnidiaeth allweddol. Gall mwg o’r tanau hyn hefyd achosi peryglon ar y ffyrdd ac effeithiau difrifol ar iechyd, yn enwedig i bobl agored i niwed.
“Drwy wneud dewisiadau cyfrifol, gall y cyhoedd helpu i ddiogelu diffoddwyr tân a chymunedau, a gwarchod cefn gwlad Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Ychwanegodd Rhydian Slade-Jones, Swyddog Ymgysylltu â Thirfeddianwyr SWFRS:
“Rydym yn gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ffermwyr lleol a thirfeddianwyr drwy gydol y flwyddyn i nodi ardaloedd o risg uchel a rhoi mesurau ataliol yn eu lle, ond allwn ni ddim gwneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae’r rhan fwyaf o danau gwyllt yng Nghymru yn cael eu hachosi gan weithgareddau pobl, felly rydym yn gofyn i bawb fod yn gyfrifol. Os gwelwch unrhyw gynnau tân yn fwriadol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein bryniau, mae’n bwysig eich bod chi’n ei adrodd ar unwaith. Gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr i gadw ein cymunedau a’n criwiau yn ddiogel.”
Er y gall fod yn anodd ei amgyffred, mae’r rhan fwyaf o danau gwyllt yng Nghymru yn cael eu cynnau’n fwriadol. Caiff eraill eu hachosi gan ddiofalwch, yn aml trwy ddefnyddio barbeciws yn amhriodol neu fflamau agored yng nghefn gwlad. Ychydig iawn o danau gwyllt sy’n ganlyniad damweiniau neu achosion naturiol.
Mae tanau gwyllt yn gadael llwybr o ddinistr a all bara am flynyddoedd. Nid yw coed, planhigion a bywyd gwyllt yn gallu dianc rhag y fflamau, gyda chynefinoedd cyfan yn cael eu dinistrio o fewn oriau. Mae gan danau effeithiau amgylcheddol ehangach hefyd, wrth i ludw a phriddoedd wedi’u tarfu gael eu golchi i afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr, gan leihau ansawdd y dŵr a niweidio pysgod a mathau eraill o fywyd y dŵr.
Mae colli llystyfiant yn cynyddu perygl erydiad y pridd a llifogydd, tra gall tirweddau sydd wedi’u difrodi gymryd degawdau i wella. Mae’r tanau hyn yn gadael creithiau parhaol ar gefn gwlad arbennig Cymru, gan effeithio ar y rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld yno.
Yn ogystal â difrod hirdymor i natur a choedwigaeth, mae tanau gwyllt yn peryglu bywydau. Gall diffoddwyr tân, rheolwyr tir a chymunedau cyfagos i gyd gael eu bygwth gan danau a mwg sy’n lledaenu’n gyflym, sy’n golygu mai atal tân rhag cychwyn yw’r amddiffyniad mwyaf diogel a mwyaf effeithiol.
Gallwch ddysgu mwy am atal tanau gwyllt a chael cyngor am ddiogelwch drwy ddilyn yr hashnod #WildfireWise #DoethiDanauGwyllt – ymgyrch gan y bwrdd amlasiantaeth, Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru. Mae atal tanau gwyllt yn dechrau gyda chyfrifoldeb unigol.