Dau leoliad Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngheredigion yn ennill Gwobr Travellers’ Choice gan TripAdvisor ar gyfer 2021
Mae Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas - ger Aberystwyth - wedi ennill y Gwobr Travellers’ Choice gan TripAdvisor ar gyfer 2021.
Mae’r ddau leoliad, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wedi cadw’r statws ar ôl ennill y wobr yn 2020. Mae'r wobr yn cydnabod lleoliadau sy'n ennill adolygiadau cadarnhaol gan dwristaidd yn gyson. Mae hyn yn golygu bod y safleoedd yn y 10% uchaf o leoliadau a restrir ar y wefan deithio boblogaidd.
Dywedodd Jenn Jones, Arweinydd Tîm Canolfannau Ymwelwyr CNC yng Nghanolbarth Cymru:
"Mae derbyn y gwobrwyon yn dangos bod Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas yn lleoedd arbennig iawn sy'n dod â llawenydd i'w hymwelwyr.
"Mae hefyd yn adlewyrchu'r gwaith caled y mae ein timau wedi'i wneud yn y ddau leoliad. Rwy'n arbennig o ddiolchgar iddynt am y ffordd y maent wedi mynd ati i wneud eu gwaith yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws."
Mae Bwlch Nant yr Arian yn adnabyddus am ei draddodiad hirsefydlog o fwydo barcudiaid coch bob dydd ac am ei lwybrau beicio mynydd.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas yn gartref i boblogaeth gyforiog o degeirianau, mwsogl, llys yr afu, ffwng, pryfed a phryfed cop; llawer ohonynt yn rhywogaethau prin, gyda rhai ohonynt ar gael yn unlle arall ym Mhrydain. Mae ganddo hefyd ardaloedd o bwysigrwydd rhyngwladol o safbwynt fflatiau llaid, banciau tywod a morfa heli, ac yn darparu ardaloedd bwydo a chlwydo arbennig i adar dŵr.
Mae'r warchodfa 2,000 hectar hefyd yn cynnwys Aber Afon Dyfi a Chors Fochno - un o'r enghreifftiau mwyaf a gorau o blith y cyforgorsydd mawn sydd ar ôl ym Mhrydain - mae mawn wedi bod yn cronni yno’n raddol ac yn barhaus ers dros 6,000 o flynyddoedd ac erbyn hyn mae wedi cyrraedd dyfnder o dros chwe metr.