Diweddariad 17 Mehefin: Cyfnod adfer aml-asiantaeth yn parhau yn dilyn tan ffatri ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug

Dywedodd Lyndsey Rawlinson o Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r cyfnod adfer aml-asiantaeth ar safle Synthite yn parhau. O'r wythnos hon (dydd Llun, 17 Mehefin), bydd mwy o waith ar y safle wrth i ddeunyddiau halogedig gael eu symud a’u gwaredu'n ddiogel. Disgwylir i'r gwaith barhau am hyd at 28 diwrnod.
“Bydd swyddogion CNC yn parhau i fonitro’r safle a chyrsiau dŵr lleol, ac yn rhoi cyngor ac arweiniad er mwyn lleihau’r risg i’r amgylchedd a chymunedau lleol.
“Gofynnwn i bobl adrodd unrhyw ddigwyddiadau neu bryderon am y gwaith adfer ar y safle i’n llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000 neu drwy ein ffurflen ar-lein.”