‘Meistr y Mawn’ yng Nghymru yn ennill gwobr nodedig!

Cyflwynwyd gwobr nodedig i Arbenigwr Mawndir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Dr Peter Jones MBE, mewn cynhadledd genedlaethol ar fawndiroedd a gynhaliwyd yn Abertawe (11 Mehefin 2026).

Cyflwynwyd Gwobr Cadwraeth Mawndir Lindsay i Dr Jones yng nghynhadledd ‘Mawndiroedd Dan Bwysau’ Rhaglen Mawndir y DU yr IUCN, 9-11 Mehefin 2026.

Rhoddir y wobr mawr ei bri er anrhydedd i’r gwyddonydd mawndir enwog Richard Lindsay a’i waith dros fawndiroedd. Mae'n cael ei dyfarnu'n flynyddol i unigolion o unrhyw le ledled y DU y mae eu hymroddiad a'u hangerdd eithriadol dros fawndiroedd yn haeddu cael ei gydnabod.

Ar hyn o bryd mae Dr Jones yn arwain ar bolisi a gwaith achos mawndiroedd Cymru i sicrhau bod mawndiroedd yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag pwysau datblygiadau. Mae hefyd yn darparu mewnbwn strategol ledled y DU drwy'r IUCN, Defra a mentrau mawndir eraill. Mae Dr Jones yn darparu arweinyddiaeth yng ngrwpiau partneriaeth Adfer Mawndir Cymru (AMC), megis ar Dystiolaeth a Monitro, ac mae ei arbenigedd yn cael ei werthfawrogi'n fawr yng ngrwpiau Partneriaid ac Ymarferwyr Strategol AMC.

Fe'i enwebwyd gan Mannon Lewis, arweinydd Prosiectau Strategol CNC ar gyfer y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (yRhWGF), a ddywedodd:

"Mae Pete wedi bod ar flaen y gad yn gyson yn y DU yn darparu arbenigedd ar fawndiroedd ac yn cynrychioli materion sy’n ymwneud â mawndir yng Nghymru, gan godi ymwybyddiaeth bod mawndiroedd iach yn cyfrannu at wydnwch ecosystemau, bioamrywiaeth, storio carbon, cyfyngu allyriadau nwyon tŷ gwydr, arafu llif dŵr ac atal lledaeniad tanau gwyllt."

Dywedodd Emma Hinchliffe, Cyfarwyddwr Rhaglen Mawndiroedd y DU yr IUCN:

"Mae Pete yn cael ei adnabod fel ‘Meistr y Mawn’ (neu’r ‘Bogfather’) yng Nghymru, ac mae wedi cael MBE yn gydnabyddiaeth am ei waith. Mae ymroddiad Pete wedi ysbrydoli rhaglen weithredu nad oes mo’i thebyg yn unrhyw le arall yng Nghymru. Oherwydd ei angerdd parhaus, mae mawndiroedd wedi symud o fod yn gynefin Sinderela, nad oedd yn cael sylw na gwerthfawrogiad digonol, i fod yn ganolbwynt atebion sy'n seiliedig ar natur yng Nghymru."

Dywedodd Ceri Davies, Prif Weithredwr CNC:

 "Mae'r wobr hon yn anrhydedd fawr i un o'n tîm. Mae CNC yn ymfalchïo yn ei arbenigwyr a'i arbenigwyr pwnc, ac mae Dr Peter Jones yn cynrychioli'r gorau y mae CNC yn ei gynnig yn ei wasanaeth i'r amgylchedd a Chymru. Rydym yn ei longyfarch yn gynnes ar ei wobr ac yn diolch iddo am flynyddoedd o wasanaeth ymroddedig i fawndiroedd Cymru drwy ei waith yn CNC."

Meddai Dr Peter Jones, Uwch Gynghorydd Arbenigol ar gyfer Mawndiroedd yn CNC/RhWGF, gan ddangos syndod a diolchgarwch yn y seremoni:

"Mae’n anrhydedd enfawr derbyn Gwobr Cadwraeth Mawndir Lindsay. Mae’n anrhydedd fawr cael fy enwebu a'm gwobrwyo gan fy nghymheiriaid, ac yn enwedig yn enw Richard Lindsay y mae gennyf barch mawr tuag ato. Rydym ni yn y proffesiwn mawndiroedd ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur er budd cenedlaethau'r dyfodol.
Rwy'n gobeithio y gall cenedlaethau'r dyfodol fyfyrio'n gadarnhaol ar yr effaith y mae pobl fel Richard Lindsay wedi'i chael, yn ogystal â'm cyd-enwebeion, a'r holl weithwyr proffesiynol ymroddedig iawn a gasglwyd ynghyd yn y gynhadledd hon gan Raglen Mawndir y DU yr IUCN."

Caiff y Rhaglen Fawndiroedd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, a'i rheoli gan CNC, i arwain y gwaith adfer mawndir yng Nghymru, drwy bartneriaeth Adfer Mawndir Cymru. Rhagorodd ar dargedau'r llywodraeth yn 2020-2025 ac mae targedau uchelgeisiol wedi’u gosod i dreblu'r gwaith adfer yn ei Chynllun 2025-2030

Mae Rhaglen Mawndir y DU yr IUCN yn hyrwyddo adfer mawndiroedd yn y DU ac yn eirioli dros fanteision lluosog mawndiroedd trwy bartneriaethau, gwyddoniaeth gref, polisi cadarn ac arfer effeithiol. Mynychodd dros 400 o gynrychiolwyr gynhadledd yr IUCN, a gynhaliwyd dros dri diwrnod, ar-lein ac yn bersonol ym Mhrifysgol Abertawe.

Roedd y wobr eleni yn cynnwys plât â gwaith celf gwydr o fawndir gan Natalie Thomas ac fe'i noddwyd gan Beada Moss.

Dr Peter Jones MBE, yn derbyn Gwobr Cadwraeth Mawndir Lindsay yng nghynhadledd Mawndir y DU yr IUCN a gynhaliwyd yng Nghymru, gyda’i gydweithwraig Mannon Lewis.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru