Gweithio gyda natur: adroddiad newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynefinoedd arfordirol iach o ran lleihau perygl llifogydd
Mae cynefinoedd arfordirol naturiol – fel twyni tywod, graean bras a morfeydd heli – yn darparu miliynau o bunnoedd o fuddion i gymunedau yng Nghymru o ganlyniad i’w gallu i liniaru perygl llifogydd, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan gydweithio â'r ymgynghorwyr morol ABPmer a'r ymgynghorydd economaidd eftec, wedi cynnal astudiaeth Cymru-gyfan sy'n archwilio gwahanol fathau o gynefinoedd arfordirol a’u rôl o ran lliniaru perygl llifogydd.
Edrychodd ar nodweddion y gwahanol gynefinoedd a pha mor effeithiol ydynt wrth glustogi ynni tonnau, lleihau uchder tonnau a lleihau llifogydd llanwol.
Mae'r astudiaeth yn amcangyfrif y gallai'r cynefinoedd hyn ddarparu £36 miliwn o fuddion bob blwyddyn o ran lliniaru perygl llifogydd. Cyfrifwyd y ffigur hwn gan ystyried y difrod a osgowyd i eiddo, tir amaethyddol a seilwaith megis ffyrdd a rheilffyrdd.
Mae rhai o'r ardaloedd allweddol lle mae cynefinoedd wedi'u nodi fel rhai sydd â'r potensial i ddarparu budd economaidd pwysig o ran lliniaru perygl llifogydd yn cynnwys Port Talbot, Casnewydd, Castell-nedd, Abertawe, Bae Caerfyrddin, ac ar hyd arfordir y Gogledd.
Fodd bynnag, er mwyn i gynefinoedd arfordirol gyrraedd eu potensial llawn o ran lleihau effeithiau llifogydd a chynnal ecosystem iach, mae angen iddynt fod mewn cyflwr da. Mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi bod llawer o gynefinoedd yr arfordir mewn cyflwr gwael ac wedi'u heffeithio gan golli a darnio cynefinoedd - a bydd pwysau newid hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr yn achosi mwy o ddifrod.
Amcangyfrifir bod tua 30% o arwynebedd twyni tywod gwreiddiol Cymru wedi'i golli ers 1900, a gallai hyd at chwarter o forfeydd heli mewn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru ddiflannu erbyn 2155.
Dywedodd Nicola Rimington, Prif Ymgynghorydd ar Brosesau Ffisegol y Môr a'r Arfordir yn CNC:
“Mae llawer o gymunedau’n elwa ar amddiffynfeydd arfordirol o waith dyn, ond maent yn wynebu’r posibilrwydd gwirioneddol y bydd perygl llifogydd yn cynyddu’n sylweddol yn y degawdau i ddod.
“Wrth i ni wynebu heriau cynyddol newid hinsawdd, mae angen i ni ehangu ein dull gweithredu—gweithio gyda natur i feithrin mwy o wydnwch dros yr hirdymor.
“Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae ein cynefinoedd arfordirol yn ei chwarae wrth amddiffyn cymunedau ac yn atgyfnerthu pam fod yn rhaid i ymdrechion i’w hadfer a’u diogelu fod yn flaenoriaeth. Ein cam nesaf yw nodi lleoliadau penodol lle gall ymdrechion adfer cynefinoedd a datrysiadau ehangach sy'n seiliedig ar natur wneud y gwahaniaeth mwyaf i leihau perygl llifogydd a gwella gwydnwch ardaloedd arfordirol.”
Dywedodd Kathryn Robbins, Prif Ymgynghorydd Amgylcheddol yn ABPmer:
“Mae cynefinoedd arfordirol yng Nghymru wedi profi dirywiad o ran maint a chyflwr dros yr ychydig ddegawdau diwethaf.
“Mae’r astudiaeth genedlaethol hon yn rhoi cipolwg cychwynnol ar y lefel sylweddol o ddiogelwch a budd economaidd y mae’r cynefinoedd hyn yn ei ddarparu i amddiffyn cymunedau rhag llifogydd arfordirol.
“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw amddiffyn ac adfer cynefinoedd arfordirol ac yn cefnogi defnyddio datrysiadau ar sail natur yn fwy aml wrth reoli perygl llifogydd a newid arfordirol.”
Gellir dod o hyd i gopi llawn o'r adroddiad ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'n dilyn asesiadau cyflwr a gynhaliwyd yn ddiweddar gan CNC ar rwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru, a dynnodd sylw at yr angen am gamau brys i amddiffyn cynefinoedd, bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr.
Mae'r gwaith hwn yn dystiolaeth o gyflwr presennol cynefinoedd morol ac yn tynnu sylw at ardaloedd â blaenoriaeth lle dylid rheoli amgylcheddau morol mewn ffordd gynaliadwy.