Ynni: ein gwaith yng Nghymru
Mae mynediad at ynni yn hanfodol i gymdeithasau modern. Mae’n sail i lawer o’n bywydau beunyddiol, o’r adeiladau rydym yn byw ynddynt, i’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n cefnogi ein heconomi, y drafnidiaeth rydym yn dibynnu arni, a’r gweithgareddau hamdden rydym yn eu mwynhau.
Mae ymwybyddiaeth gynyddol bod ein ffynonellau ynni presennol yn gyfyngedig, a bod yr allyriadau rydyn ni’n eu creu yn newid ein hinsawdd fyd-eang.
Y trilema ynni
Y tri phrif fater sy’n ymwneud ag ynni, a elwir y Trilema Ynni, yw:
- Diogelwch ynni, gan gynnwys diogelwch y cyflenwad a dibynadwyedd seilwaith
- Tegwch ynni, sy’n ymwneud â pha mor hygyrch a fforddiadwy yw’r cyflenwad ynni ar draws poblogaeth
- Cynaliadwyedd amgylcheddol, sy’n ymwneud â symud tuag at gyflenwad ynni adnewyddadwy a charbon isel er mwyn mynd i’r afael â’n heriau newid hinsawdd
Ynni a newid hinsawdd
Mae newid hinsawdd yn cael ei gydnabod fel y bygythiad amgylcheddol mwyaf y mae dynoliaeth erioed wedi’i wynebu. Y sector cyflenwi ynni (echdynnu, trosi, storio, trosglwyddo a dosbarthu ynni) yw’r cyfrannwr mwyaf at allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang ar hyn o bryd, sy’n achosi newid hinsawdd.
Mae ynni wrth wraidd yr her newid hinsawdd. Cyfrannodd sector cyflenwi ynni Cymru at 30% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2021.
Atebion ynni
Mae ateb dwy ran i’r her ynni hon:
- lleihau allyriadau sy’n deillio o’r cyflenwad ynni drwy gynyddu cyfran yr ynni carbon isel neu ddi-garbon yn y cymysgedd cyflenwi
- cymedroli twf yn y galw am ynni drwy gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynhyrchiant ynni yn sylfaenol (yr allbwn economaidd a gynhyrchir o bob uned o ynni a ddefnyddir)
Dylai gwneud y ddau beth hyn ein galluogi i fodloni’r galw am ynni yn y dyfodol heb orboethi’r blaned, bydd cyflenwadau ynni’n lanach, a bydd anghenion pobl yn cael eu diwallu’n fwy effeithlon.
Trawsnewid i ynni adnewyddadwy
Mae angen i’n systemau ynni gyflawni trawsnewidiad cyflymach tuag at gynhyrchiant ynni uwch ac allyriadau nwyon tŷ gwydr is er mwyn mynd i’r afael â’r trilema ynni.
Mae technolegau newydd fel cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a thechnolegau storio fel batris a hydrogen, yn dod i’r amlwg, wrth i hen ffurfiau o gynhyrchu ynni, fel pwerdai glo, adael y system.
Ynni a datganoli
Yng Nghymru, mae ynni yn fater a gedwir yn ôl, sy’n golygu bod penderfyniadau strategol a chyfrifoldebau rheoleiddio sy’n ymwneud â materion ynni, megis diogelwch, fforddiadwyedd a thegwch y farchnad, yn cael eu gwneud ar lefel Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Deddf Cymru 2017 yn cynrychioli newid lle mae’r Ddeddf yn datganoli cyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru am gynhyrchu ynni ar raddfa fwy a swyddogaethau mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir.
Fframwaith polisi ynni Cymru
Yn 2017, gosododd Llywodraeth Cymru darged i ddiwallu 70% o alw Cymru am drydan o ffynonellau trydan adnewyddadwy erbyn 2030. Yn ogystal â’r targed ar gyfer 2030, yn 2023 cyhoeddodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd darged ychwanegol o gyflawni cynhyrchu trydan adnewyddadwy o 100% yng Nghymru erbyn 2035.
Mae targedau hefyd ar gyfer
- 1.5 GW o gapasiti trydan adnewyddadwy yng Nghymru i fod mewn perchnogaeth leol erbyn 2035
- Pob prosiect ynni adnewyddadwy newydd i gynnwys elfen o berchnogaeth leol
Mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod fframwaith ar waith i helpu i gyflawni’r targedau hyn.
Ein gwaith ar ynni
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) lawer o ddyletswyddau mewn perthynas â materion ynni. Diben cyffredinol CNC yw mynd ar drywydd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn perthynas â Chymru, drwy gymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wrth arfer ein swyddogaethau, a thrwy wneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau Llesiant a ddeddfwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae gennym rai rolau penodol mewn perthynas â materion ynni, gan gynnwys rolau rheoli tir, cynghori a rheoleiddio, a nodir isod. Mae hyn yn rhoi cyfle i greu dull newydd ac arloesol o sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n integredig drwy wneud y gorau o’n hoffer a’n rolau er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol yn well i bobl, yr amgylchedd a’r economi.
Penderfynwr/rheoleiddiwr
Fel gwneuthurwr penderfyniadau a rheoleiddiwr, ein prif nod yw amddiffyn pobl a’r amgylchedd, a chymryd camau gorfodi cymesur yn erbyn y rhai sy’n torri’r rheoliadau yr ydym yn gyfrifol amdanynt. O safbwynt ynni, mae gennym ddyletswydd statudol i gynghori ar lawer o’r effeithiau amgylcheddol a all ddeillio o gynhyrchu, trosglwyddo a defnyddio ynni, a’u rheoleiddio. Mae manylion ein rolau trwyddedu yn amrywio yn ôl y math o dechnoleg – o bwerdai nwy i orsafoedd ynni niwclear, cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach ac electroleiddio hydrogen. Yn ogystal â phenderfynu ar drwyddedau amgylcheddol, rydym hefyd yn sicrhau, trwy ein gweithgareddau cydymffurfio, fod gweithredwyr, unwaith y rhoddir caniatâd iddynt, yn ymgymryd â gweithgareddau perthnasol yn unol â’r gofynion a nodir yn y trwyddedau.
Rydym hefyd yn gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliadau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yng Nghymru, gan gynnwys rhoi trwyddedau i safleoedd sy’n destun y rheoliadau a gwirio eu bod yn cydymffurfio â rheolau gweithredol y system.
Rheolwr/hwylusydd tir
Rydym yn rheoli 7% o dir Cymru, gan gynnwys coedwigoedd, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, dŵr ac amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mae hyn yn cynnwys Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, yr ydym yn ei rheoli ar ran Llywodraeth Cymru. Yma, un o’n rolau yw hwyluso’r defnydd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy fel ffermydd gwynt, ynni dŵr, ynni solar a biomas. Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio’n agos gyda chwmni datblygu ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru, Trydan Gwyrdd Cymru.
Ymgynghorydd statudol
Rydym yn ymgynghorydd statudol yn system gynllunio Cymru ac yn ymateb i tua 8,000 o ymgynghoriadau ar geisiadau cynllunio bob blwyddyn.
Ein rôl ni yw cynghori datblygwyr ac awdurdodau cynllunio ar yr effeithiau amgylcheddol posibl o gynigion datblygu. Dyma broses sy’n cael ei llywio gan y warchodaeth a roddir i fuddiannau amgylcheddol fel y nodir mewn deddfwriaeth berthnasol a pholisïau Llywodraeth Cymru.
Cynghorydd technegol/polisi
Rydym yn gynghorydd i Lywodraeth Cymru, ac i ddiwydiant, y cyhoedd ehangach a’r sector gwirfoddol, ar faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd ac adnoddau naturiol. Rydym hefyd yn rhoi cyngor diduedd a thystiolaeth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o fewn polisi ynni a fframwaith cynllunio ehangach.
Casglwr tystiolaeth
Mae gan CNC rôl hefyd o ran monitro ein hamgylchedd, comisiynu a chynnal gwaith ymchwil, datblygu ein gwybodaeth, a bod yn gorff cofnodion cyhoeddus. Byddwn yn parhau i ddarparu fframweithiau cynllunio cadarnhaol fel bod y ffynonellau ynni mwyaf priodol yn cael eu defnyddio yn y mannau mwyaf priodol, gan integreiddio manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Mae ein gwaith ar yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn arloesol ac yn enghreifftiol. Mae’r adroddiad pum mlynedd yn nodi cyflwr adnoddau naturiol Cymru, gan gynnwys adnoddau ynni. Mae’n asesu i ba raddau y mae adnoddau naturiol yng Nghymru yn cael eu rheoli’n gynaliadwy, ac yn argymell dull rhagweithiol o feithrin gwydnwch. Mae hefyd yn cysylltu gwydnwch adnoddau naturiol Cymru â lles pobl Cymru drwy dynnu sylw at rai o’r risgiau i’n lles, a’r cyfleoedd i wella nid yn unig cyflwr ein hadnoddau naturiol, ond y manteision a gawn ohonynt.
Egwyddorion ynni arweiniol CNC
Mae’r adran hon yn amlinellu set o egwyddorion arweiniol ar gyfer llywio gwaith CNC o ymgysylltu â’r sector ynni. Mae’r egwyddorion yn ganllaw syml ar y gwaith y mae CNC yn ei wneud o ran ynni, pam ein bod yn gwneud y gwaith, a sut rydym yn ei wneud.
- Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a newid hinsawdd, fel y cydnabyddir gan Lywodraeth Cymru.
- Yr hierarchiaeth ynni yw conglfaen ein gwaith, gan ddarparu llwybr clir i ddatblygu rheolaeth ynni drylwyr.
- Dylai cadwraeth ynni ac effeithlonrwydd ynni ddod yn ganolog i drawsnewid ein system ynni wrth gyflawni economi carbon isel.
- Dylai hanfodion ynni ac amgylcheddol fynd law yn llaw i arwain at y canlyniadau mwyaf cynaliadwy, gan wneud y mwyaf o’r manteision i natur.
- Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein strategaeth, ein penderfyniadau, ein gweithrediadau a’n cyngor i’r llywodraeth ac eraill yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu hategu gan reoliadau.
- Rydym yn annog a, lle bo modd, yn cefnogi cymunedau i gynhyrchu a defnyddio ynni o adnoddau cynaliadwy lleol.
- Byddwn yn parhau i ymgysylltu’n gynnar â rhanddeiliaid allweddol er mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithlon ac effeithiol.
- Byddwn yn parhau i wella a helpu i ddylunio prosesau rheoleiddio priodol sy’n cynorthwyo datblygiad ynni cyfrifol, wrth amddiffyn a cheisio bod o fudd i adnoddau naturiol Cymru.
Enghreifftiau o’n gwaith ynni
Mae’r adran hon yn tynnu sylw at rai o’n rolau a’n dulliau arloesol o fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â’r trilema ynni – er mwyn lliniaru newid hinsawdd a diogelu diogelwch a fforddiadwyedd ein cyflenwadau ynni.
Mae Trydan Gwyrdd Cymru yn ddatblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Ei genhadaeth yw cyflymu’r broses o gyflawni prosiectau ynni glân ledled Cymru, gyda ffocws ar fudd cymunedol a pherchnogaeth leol. Mae CNC yn cefnogi Trydan Gwyrdd Cymru drwy nodi safleoedd addas ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, darparu data amgylcheddol, a symleiddio prosesau rheoleiddio. Mae’r cydweithrediad hwn yn sicrhau bod datblygiadau ynni adnewyddadwy yn gynaliadwy a chynhwysol ac yn cyd-fynd ag uchelgeisiau sero net Cymru.
Mae ynni morol yn sector sy’n tyfu yng Nghymru, gyda photensial sylweddol ar gyfer technolegau ffrwd lanw, tonnau a lagŵn. Mae gan CNC rôl allweddol wrth gefnogi datblygiad ynni morol drwy ei swyddogaethau rheoleiddio, cynghori a chasglu tystiolaeth. Rydym yn gweithio’n agos gyda datblygwyr a Rhaglen Ynni Morol Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod prosiectau’n gyfrifol yn amgylcheddol ac yn dechnegol gadarn. Mae mentrau diweddar yn cynnwys asesiadau amgylcheddol strategol a mesurau diogelu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau morol fel llamhidyddion ac adar y môr.
Mae cynllunio ynni ardal leol yn ddull cydweithredol o ddylunio systemau ynni sydd wedi’u teilwra i anghenion cymunedau penodol. Mae CNC yn cyfrannu at gynllunio ynni ardal leol drwy ddarparu data, arbenigedd amgylcheddol a chyngor polisi i awdurdodau lleol a chynllunwyr ynni rhanbarthol. Mae ein cyfranogiad yn helpu i sicrhau bod cynlluniau ynni yn wydn ac yn garbon isel ac yn cyd-fynd ag egwyddorion rheoli adnoddau naturiol. Rydym wedi cefnogi prosiectau cynllunio ynni ardal leol mewn sawl rhanbarth yng Nghymru, gan helpu i lunio dyfodol ynni mwy cynaliadwy a theg.