Troseddau dŵr
Deddf Draenio Tir 1991
Adran 24(3)
Trosedd ddiannod yn unig.
Peidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan Adran 24 y Ddeddf Draenio Tir.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Adran 25(6)(b)
Trosedd ddiannod yn unig.
Peidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan Adran 25 y Ddeddf Draenio Tir
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Adran 53(2)
Methiant, heb esgus rhesymol, i gydymffurfio â hysbysiad sy’n gofyn am wybodaeth, neu, wrth ganlyn yr hysbysiad – (i) yn gwneud unrhyw ddatganiad mewn perthynas â'r wybodaeth sy'n ofynnol y mae'n gwybod ei fod yn anwir o safbwynt manylyn perthnasol; neu (ii) yn gwneud unrhyw ddatganiad yn ddiofal mewn perthynas â'r wybodaeth honno sy'n anwir o safbwynt manylyn perthnasol.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae'r sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 64(6)
Rhwystro neu amharu’n fwriadol ar unrhyw unigolyn a awdurdodwyd gan CNC i weithredu grym mynediad o dan adran 64(1) Deddf Draenio Tir 1991.
Trosedd Ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i’r drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad Ffurfiol
- Erlyniad
Adran 66(6)
Mynd yn groes i, neu beidio â chydymffurfio ag is-ddeddf a wneir o dan Adran 66.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Deddf y Diwydiant Dŵr 1991
Adran 71(1)(a)
Achosi, neu adael i unrhyw ddŵr tanddaearol redeg i wastraff o unrhyw ffynnon, twll turio neu waith arall. Tynnu dŵr o unrhyw ffynnon, twll turio neu waith arall, sy’n ormodol o ran gofynion rhesymol.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 120(9)
Lle mae ymgymerwr carthffosiaeth yn methu â chyfeirio unrhyw ymholiad at yr asiantaeth briodol, o fewn dau fis, ynghylch a ddylid gwahardd gollyngiadau o elifion o gategori arbennig, neu eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 130(7)
Lle mae ymgymerwr carthffosiaeth yn methu â chyfeirio unrhyw ymholiad at yr asiantaeth briodol ynghylch a ddylid gwahardd unrhyw weithrediadau at ddibenion, neu mewn cysylltiad â derbyn neu gael gwared ar elifiad o gategori arbennig, neu eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 133(5)
Lle mae ymgymerwr carthffosiaeth yn methu ag arfer ei bwerau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau hysbysiad a gyflwynwyd gan yr asiantaeth briodol o dan Adran 132 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 135A(2)(a)
Methu â darparu gwybodaeth
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 165(3)
Methu â chymryd y camau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod dŵr a ollyngir mor rhydd ag sy'n rhesymol ymarferol o sylweddau amrywiol (e.e. mwd, gwaddodion)
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 166(8)
Mynd yn groes i ofynion Adran 166 neu amod caniatâd, gan ymgymerwr dŵr.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Deddf Adnoddau Dŵr 1991
Adran 24
a.24(1) a 24(4)(a)
Tynnu dŵr heb drwydded, neu fel arall heb fod yn unol â thrwydded neu ganiatâd ymchwiliad dŵr daear (GIC), neu dynnu dŵr heb esemptiad dilys neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.
a.24(2) a 24(4)(a)
Adeiladu, ymestyn, gosod neu addasu unrhyw waith, cyfarpar neu beirianwaith at ddibenion tynnu dŵr daear heb drwydded, neu fel arall heb fod yn unol â thrwydded, caniatâd ymchwiliad dŵr daear neu esemptiad dilys, neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.
a.24(4)(b)
Methiant deiliad trwydded i gydymffurfio ag amodau eraill trwydded. Enghraifft: Amodau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â thynnu dŵr, fel rhwymedigaeth i ollwng dŵr rywle arall, i fonitro ac ati.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
- Hysbysiad stop
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 25
a.25(1)(a) a 25(2)(a)
Dechrau adeiladu neu addasu gwaith cronni dŵr heb drwydded, neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.
a.25(1)(b) a 25(2)(a)
Cronni dŵr heb drwydded, neu achosi neu ganiatáu i unrhyw unigolyn arall wneud hynny.
25(2)(b):
Methiant deiliad trwydded i gydymffurfio ag amodau trwydded cronni dŵr.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
- Hysbysiad stop
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 25C
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd o dan Adran 25A Deddf Adnoddau Dŵr 1991.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 80
a.80(1)
Tynnu a/neu gronni dŵr yn groes i orchymyn neu drwydded sychder.
a.80(2)
Methiant i adeiladu, cynnal a chadw neu sicrhau mynediad i archwilio unrhyw gyfarpar neu gofnodion ar gyfer mesur llif y dŵr sy'n ofynnol o dan orchymyn neu drwydded sychder.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
- Hysbysiad stop
Mae sancsiynau sifil y gellir eu cynnig yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 91B(3)
Methiant i roi hysbysiad ynghylch gadael cloddfa yn segur.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid oes sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 107(3)
Peidio â chydymffurfio â hysbysiad o dan Adran 107(3) y Ddeddf Adnoddau Dŵr (hysbysiad sy'n gofyn am adfer prif afon er mwyn sicrhau llif priodol).
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 161D(1)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwaith gwrthlygredd.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 173 ac Atodlen 20, Paragraff 7
Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru rhag arfer ei bwerau mynediad
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 173 ac Atodlen 20, Paragraff 7
Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru rhag arfer ei bwerau mynediad
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Adran 174
Dynwared unigolyn sydd ag awdurdod i gael mynediad i safle
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 176
Ymyrryd â chyfarpar Cyfoeth Naturiol Cymru.
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 199
a.199(1) a 199(4)
Methiant i hysbysu'r asiantaeth briodol am gynnig i adeiladu neu ymestyn ffynhonnell dŵr daear at ddibenion chwilio am fwynau neu weithrediadau dad-ddyfrio.
a.199(2) a 199(4)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad cadwraeth a roddwyd er mwyn rheoli gweithgareddau'n ymwneud â chwilio am fwynau.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 201(3)
Methiant i ddarparu gwybodaeth sy'n ofynnol gan hysbysiad o dan Adran 201 y Ddeddf Adnoddau Dŵr
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 202(4)
Methiant i ddarparu gwybodaeth sy’n ofynnol gan hysbysiad o dan adran 202.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 206
a.206(1)
Gwneud datganiadau sy'n anwir yn eu hanfod, yn fwriadol neu'n ddi-hid. Enghraifft: Wrth wneud cais am drwydded.
a.206(3)
Newid, neu ymyrryd â mesurydd, medrydd neu offeryn arall sy'n ofynnol o dan ddarpariaethau trwydded yn fwriadol.
a.206(3A)
Cofnodi gwybodaeth anwir yn fwriadol mewn unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan drwydded tynnu dŵr.
a.206(4)
Gwneud unrhyw ddatganiad sy'n anwir o safbwynt manylyn perthnasol, yn fwriadol neu'n ddi-hid, y mae’n ofynnol ei gadw neu ei ddarparu o dan Adran 198 neu 205 y Ddeddf Adnoddau Dŵr.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010 yng Nghymru.
Adran 211(3)
Torri unrhyw is-ddeddf sy'n ymwneud â physgodfeydd
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 211(4)
Torri unrhyw is-ddeddf at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd a draenio
Trosedd ddiannod yn unig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ar gyfer y drosedd hon.
Adran 217(1)
Atebolrwydd troseddol cyfarwyddwyr, rheolwyr ac ysgrifenyddion mewn perthynas â throseddau y mae eu cwmni (corff corfforedig) yn euog ohonynt ac y profwyd eu bod wedi'u chyflawni gyda chaniatâd ac ymoddefiad y bobl dan sylw neu y gellir eu priodoli i'w hesgeulustod.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd camau gorfodi yn erbyn y parti cyntaf, a gellir rhoi ymateb gwahanol i bob un. Dylid cyfeirio, felly, i'r ffactorau budd y cyhoedd.
Nid yw sancsiynau sifil ar gael am y drosedd hon ond lle maent ar gael ar gyfer y drosedd y mae'r corff corfforedig yn euog ohoni.
Adran 217(2)
Atebolrwydd aelodau o gorff corfforedig lle maent yn rheoli materion y busnes.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd camau gorfodi yn erbyn y parti cyntaf, a gellir rhoi ymateb gwahanol i bob un. Dylid cyfeirio, felly, i'r ffactorau budd y cyhoedd.
Nid yw sancsiynau sifil ar gael am y drosedd hon ond lle maent ar gael ar gyfer y drosedd y mae'r corff corfforedig yn euog ohoni.
Adran 217(3)
Atebolrwydd trydydd partïon am droseddau o dan ddarpariaethau llygredd dŵr.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Nid yw hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd camau gorfodi yn erbyn y parti cyntaf, a gellir rhoi ymateb gwahanol i bob un. Dylid cyfeirio, felly, i'r ffactorau budd y cyhoedd.
Nid yw sancsiynau sifil ar gael am y drosedd hon ond lle maent ar gael ar gyfer y drosedd y mae'r corff corfforedig yn euog ohoni.
Deddf Dŵr 2003
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwaith cronni dŵr a gyflwynwyd o dan Adran 4(1) WA 2003.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Cosb ariannol newidiol
Nid yw sancsiynau sifil ar gael ond am droseddau a ddigwyddodd ar ôl 15 Gorffennaf 2010.
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
Adran 15(3)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd o dan Adran 14(1), sy'n gofyn am wybodaeth gan unigolyn mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r cosbau sifil sydd ar gael yn cynnwys:
- Os yw'r unigolyn yn methu â darparu'r wybodaeth hon, yna gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi hysbysiad gorfodi o dan Adran 15(1);
- Os yw'r unigolyn yn methu â chydymffurfio â'r hysbysiad gorfodi, yna, o dan Adran 15(3), gall Cyfoeth Naturiol Cymru osod hysbysiad cosb nad yw’n fwy na £1,000.
Dyddiadau cychwyn perthnasol: 6 Ebrill 2011
Adran 30 ac Atodlen 1 paragraff 11(4)
Methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ased dynodedig.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Dyddiadau cychwyn perthnasol: 1 Awst 2012
Nid oes sancsiynau sifil ar gael.
Adran 30 ac Atodlen 1 paragraff 13(5)
Rhwystro swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n arfer pwerau mynediad at ddibenion penderfynu a ellir dynodi strwythur neu nodwedd yn ased llifogydd.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy'n benodol i'r drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Dyddiadau cychwyn perthnasol: 1 Awst 2012
Nid oes sancsiynau sifil ar gael.
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2003
Rheoliad 9(4)
Cychwyn 'prosiect perthnasol' o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol heb ganiatâd dilys gan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu fel arall heb fod yn unol â thelerau'r caniatâd hwnnw.
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016
Rheoliad 9
Mynd yn groes i reoliad 4 (gofynion cynwysyddion storio olew ), 5(1) (gofynion systemau cyfyngu eilaidd), 6(1) (gofynion tanciau sefydlog), 7(1) (gofynion pibau tanddaearol sy'n gysylltiedig â thanciau sefydlog) neu 8(1) (gofynion bowserau symudol).
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Hysbysiad adfer
- Cosb ariannol benodedig
- Cosb ariannol newidiol
- Hysbysiad stop
Mae sancsiynau sifil y gellir eu gosod yn cynnwys:
- Ymgymeriad gorfodi
Gweler Rheoliad 1 ar gyfer gweithrediad graddol y rheoliadau hyn. Yn gyffredinol, daw'r rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2016. Fodd bynnag, noder:
- Mewn perthynas ag unrhyw gynhwysydd a fu'n storio olew ar 15 Mawrth 2016, bydd y rheoliadau'n gymwys o 15 Mawrth 2020.
- Mewn perthynas ag unrhyw gynhwysydd a fu'n storio olew ar 15 Mawrth 2016 ac sydd wedi'i leoli llai na 10 metr i ffwrdd o unrhyw ddŵr croyw mewndirol neu ddŵr arfordirol neu lai na 50 metr i ffwrdd o ffynnon neu dwll turio, bydd y rheoliadau'n dod i rym ar 15 Mawrth 2018.
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
Rheoliad 46
Torri unrhyw ddarpariaethau o’r rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd.
Mae ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i’r drosedd yn cynnwys y canlynol:
- Rhybudd
- Rhybuddiad ffurfiol
- Erlyniad
Mae’r troseddau fel a ganlyn:
Gwneud neu storio silwair
Rheoliad 24
- Rhaid i unrhyw unigolyn sy’n rheoli neu’n gofalu am silwair sy’n cael ei wneud neu ei storio fodloni gofynion rheoliad 24 ac Atodlen 5.
Storio slyri
Rheoliad 25
- Rhaid i unrhyw unigolyn sy’n rheoli neu’n gofalu am slyri fod â system storio slyri sy’n bodloni gofynion rheoliad 25 ac Atodlen 6. Rhaid i slyri a gynhyrchir gael ei storio yn y system honno.
Rheoliad 28
- Rhaid gwahanu’r slyri yn ei rannau solet a hylifol naill ai’n fecanyddol neu ar arwyneb anathraidd lle mae’r rhan hylifol yn draenio i dderbynnydd addas.
Rheoliad 29
- Rhaid i feddiannydd daliad sy’n cadw unrhyw un o’r anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 ddarparu digon o le storio ar gyfer yr holl slyri a gynhyrchir ar y daliad yn ystod y cyfnod storio, a’r holl dail dofednod a gynhyrchir mewn iard neu adeilad ar y daliad yn ystod y cyfnod storio.
- Y cyfnod storio ar gyfer moch a dofednod yw’r cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Ebrill.
- Y cyfnod storio mewn unrhyw achosion eraill yw’r cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Mawrth.
Storio tail
Rheoliad 23
- Rhaid i feddiannydd daliad sy’n storio unrhyw dail organig (heblaw slyri), neu unrhyw wellt sarn sydd wedi’i halogi ag unrhyw dail organig, ei storio mewn storfa sy’n bodloni gofynion rheoliad 23.
- Rhaid i domenni dros dro mewn caeau gydymffurfio â rheoliad 27.
Rheoliad 27
- Rhaid i safleoedd dros dro mewn caeau fodloni gofynion rheoliad 27, 1(a-d) a 3(a-c).
- Rhaid i unrhyw dail solet gan ddofednod nad oes â gwellt sarn yn gymysg ag ef ac sy’n cael ei storio ar safle dros dro mewn cae gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd.
Hysbysiad o adeiladu
Rheoliad 32
- Rhaid i unigolyn sy’n cynnig rheoli neu ofalu am silwair neu slyri sydd i’w gadw mewn stôr newydd neu well (y mae’r gwaith o’i adeiladu i gychwyn ar 28 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny) roi rhybudd o leiaf 14 diwrnod cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.
Hysbysiad sy’n gofyn am waith ac ati
Rheoliad 30
- Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 30”) i unigolyn sy’n rheoli neu’n gofalu am silwair neu slyri, neu sy’n gyfrifol am silo neu system storio slyri, mewn amgylchiadau lle mae’r rheoliadau hyn yn gymwys, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn gyflawni gwaith, neu gymryd rhagofalon neu gamau eraill, a bennir yn yr hysbysiad.
Taenu tail da byw – cyfanswm y terfyn nitrogen ar gyfer y daliad cyfan
Rheoliad 4
- Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau mewn unrhyw flwyddyn na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a daenir yn y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy ei daenu, yn fwy na 170 cilogram wedi’i luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
- Rhaid cyfrifo faint o nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.
- Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod faint o nitrogen y caniateir i’w daenu ar y daliad, ni ddylid cymryd unrhyw ystyriaeth o ddyfroedd wyneb, unrhyw lawr caled, adeiladau, ffyrdd nac unrhyw goetir oni bai bod y coetir hwnnw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pori.
Taenu tail organig
Rheoliad 5
- Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad yn fwy na 250 cilogram.
- Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig ar ffurf compost ardystiedig yn unig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad yn fwy na 1,000 cilogram os caiff ei roi fel tomwellt ar dir perllan, neu 500 cilogram mewn unrhyw gyfnod o ddwy flynedd os caiff ei roi ar unrhyw dir arall.
Cynllunio’r gwaith o daenu gwrtaith nitrogen
Rheoliad 6
- Rhaid i feddiannydd daliad, sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen, gyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn ystod y tymor tyfu, cyfrifo’r maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, a llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen yn y tymor tyfu hwnnw.
- Rhaid i’r cynllun fod ar ffurf barhaol a bodloni gofynion rheoliad 6, 5(a-c) a 6(a-f).
Gwybodaeth ychwanegol i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn
Rheoliad 7
- Cyn taenu tail organig, rhaid i’r deiliad gyfrifo bob tro faint o nitrogen o’r tail hwnnw sy’n debygol o fod ar gael i’r cnydau ei amsugno yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo.
- Cyn taenu, rhaid i’r meddiannydd gofnodi gofynion rheoliad 7, 2(a-f).
- Cyn taenu gwrtaith nitrogen, rhaid i’r deiliad gofnodi’r swm y mae ei angen, a’r dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (mis).
Cyfanswm taeniad nitrogen ar ddaliad
Rheoliad 8
- Ni ddylai cyfanswm y nitrogen mewn unrhyw gyfnod o 12 mis a gyfrifir fod yn fwy na’r terfynau a nodir o dan reoliad 10, yn unol â rheoliad 9.
Cyfrifo faint o nitrogen sydd ar gael i gnydau ei amsugno o dail organig
Rheoliad 9
- Rhaid i’r meddiannydd ganfod cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw at ddibenion rheoliad 8 drwy ddefnyddio Rhan 1 neu Ran 2 o Atodlen 3.
Terfynau nitrogen uchaf fesul cnwd
Rheoliad 10
- Cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar gnydau a nodir yn y rheoliad hwn dros gyfanswm yr arwynebedd mewn hectarau o’r cnwd hwnnw a heuwyd ar y daliad.
Rheoli lledaeniad gwrtaith nitrogen
Rheoliad 11
- Rhaid i feddiannydd daliad sy’n taenu tail organig ar y daliad hwnnw gynnal map risg sy’n dangos gofynion rheoliad 11, 3(a-j).
- Os bydd amgylchiadau’n newid rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn tri mis i’r newid.
- Rhaid cadw copi o’r map risg.
Rheoliad 12
- Rhaid i feddiannydd sydd yn bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gynnal archwiliad maes i ddechrau er mwyn ystyried y risg o nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb.
- Ni chaiff unrhyw unigolyn daenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol o nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb, gan ystyried y ffactorau a restrir o dan reoliad 12, 2(a-f).
- Ni chaiff unrhyw unigolyn daenu gwrtaith nitrogen os yw’r pridd yn ddwrlawn, dan ddŵr oherwydd llifogydd, wedi’i orchuddio gan eira, wedi rhewi, neu wedi rhewi am fwy na 12 awr yn y 24 awr flaenorol.
Rheoliad 13
- Ni chaiff unrhyw unigolyn daenu gwrtaith nitrogen wedi’i weithgynhyrchu o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb.
Rheoliad 14
- Ni chaiff unrhyw unigolyn daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb (oni bai ei fod yn defnyddio offer taenu manwl gywir; yn yr achos hwnnw ni chaiff unrhyw unigolyn daenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb).
- Ni chaiff unrhyw unigolyn daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, tarddell neu ffynnon.
Rheoliad 15
- Rhaid i unrhyw unigolyn sy’n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu isel.
- Rhaid i unrhyw unigolyn sy’n taenu gwrtaith nitrogen wneud hynny mor gywir â phosibl.
Ymgorffori tail organig
Rheoliad 16
- Rhaid i unrhyw unigolyn sy’n rhoi tail organig ar wyneb pridd moel neu sofl sicrhau ei fod wedi’i ymgorffori o fewn 24 awr.
Cyfnodau caeedig ar gyfer taenu tail organig â nitrogen uchel sy’n hawdd ei gyrchu
Rheoliad 18
- Ni chaiff unrhyw unigolyn daenu tail organig gyda nitrogen sy’n hawdd ei gyrchu ar dir rhwng y dyddiadau canlynol, gan gynnwys pob dyddiad –
- Pridd bas a thywodlyd – glaswelltir: 1 Medi – 31 Rhagfyr
- Pridd bas a thywodlyd – tir âr: 1 Awst – 31 Rhagfyr
- Pob pridd arall – glaswelltir: 15 Hydref – 15 Ionawr
- Pob pridd arall – tir âr: 1 Hydref – 31 Ionawr
Cyfyngiadau yn dilyn y cyfnod cau
Rheoliad 21
- O ddiwedd y cyfnod caeedig tan ddiwedd mis Chwefror, y swm mwyaf o slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg yw 30 metr ciwbig yr hectar, a’r swm mwyaf o dail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg yw 8 tunnell yr hectar.
- Rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.
Cyfnodau caeedig ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen wedi’i weithgynhyrchu
Rheoliad 22
- Ni chaiff unrhyw unigolyn daenu gwrtaith nitrogen wedi’i weithgynhyrchu ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (gan gynnwys pob dyddiad) –
- Ar laswelltir: 15 Medi–15 Ionawr
- Ar dir âr: 1 Medi–15 Ionawr
Cyfrifiadau a chofnodion
Cofnodi maint y daliad
Rheoliad 33
- Rhaid i feddiannydd daliad gadw cofnod o gyfanswm maint y daliad wedi’i gyfrifo yn unol â rheoliad 4.
- Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru’r cofnod hwn o fewn mis.
Cofnodion sy’n ymwneud â storio tail yn ystod y cyfnod storio
Rheoliad 34
- Rhaid i feddiannydd daliad â da byw gadw cofnod sy’n bodloni gofynion rheoliad 34, 1(a-c).
- Rhaid i feddiannydd sy’n cyflwyno anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â gofynion 1(a-c) o fewn mis i gyflwyno’r anifeiliaid.
- Os bydd maint y capasiti storio yn newid, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r newid o fewn wythnos.
Rheoliad 35
- Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn, rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio a chofnodi’r safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.
Cofnod o nitrogen a gynhyrchir gan anifeiliaid ar y daliad
Rheoliad 36
- Cyn y dyddiad perthnasol bob blwyddyn, rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o nifer a chategori’r anifeiliaid ar y daliad yn ystod cyfnod y 12 mis blaenorol, a nifer y dyddiau y treuliodd pob anifail ar y daliad.
- Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo faint o nitrogen yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno, a gwneud cofnod o’r cyfrifiadau a sut y daethpwyd at y ffigurau terfynol.
Tail da byw a ddygwyd i’r daliad neu a anfonwyd oddi arno
Rheoliad 37
- Rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i ddaliad, o fewn wythnos, gofnodi gofynion rheoliad 37, 1(a-d).
- Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw oddi ar ddaliad, o fewn wythnos, gofnodi gofynion rheoliad 37, 2(a-e).
- Os nad yw maint y nitrogen yn hysbys pan ddygir tail da byw i ddaliad, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.
- Rhaid canfod holl gynnwys nitrogen y tail da byw gan ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi fel y nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.
Samplu a dadansoddi
Rheoliad 38
- Rhaid i unrhyw unigolyn sy’n samplu ac yn dadansoddi i ganfod maint y nitrogen mewn tail organig gadw’r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.
Cofnodion o gnydau a heuwyd
Rheoliad 39
- Rhaid i feddiannydd sydd yn bwriadu taenu gwrtaith nitrogen o fewn wythnos i hau cnwd gofnodi’r cnwd a heuwyd, a dyddiad ei hau.
Cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen
Rheoliad 40
- O fewn wythnos i daenu tail organig, rhaid i’r meddiannydd gofnodi gofynion rheoliad 40, 1(a-g).
- O fewn un wythnos i daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, rhaid i’r meddiannydd gofnodi dyddiad ei daenu, a maint y nitrogen a daenwyd.
Cofnodion dilynol
Rheoliad 41
- Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i’w ganfod.
- Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn, rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.
Rheoliad 42
- Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan unigolyn sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y rheoliadau am bum mlynedd.
Rheoliad 43
- Rhaid i unrhyw unigolyn y mae’n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y rheoliadau gadw’r cofnod hwnnw am bum mlynedd.
Gorchymyn Dynodi Parth Diogelu Dŵr (Dalgylch Afon Dyfrdwy) 1999
Erthygl 5
Achosi neu ganiatáu’n fwriadol i reolau parth diogelu gael eu torri
Ymatebion troseddol safonol ac ymatebion sy’n benodol i drosedd yn cynnwys:
- Rhybudd
- Rhybuddiad Ffurfiol
- Erlyniad
Dyddiadau dechrau perthnasol yw: 21 Rhagfyr 1999
Nid yw sancsiynau sifil ar gael