Rhwydweithiau Natur - gwybodaeth ar brosiectau natur
Mae Rhwydweithiau Natur yn rhaglen dair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru drwy gynyddu bioamrywiaeth, gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig a gwella gwytnwch a chysylltedd ein cynefinoedd a'n rhywogaethau.
Mae'r rhaglen yn rhedeg rhwng 2022 a 2025 ac mae'n cynnwys cynefinoedd daearol, dŵr croyw a morol. Mae CNC yn gweithio gyda pherchnogion tir, partneriaid a rhanddeiliaid eraill i weithredu mesurau rheoli sy'n mynd i'r afael â'n hamcanion ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i amgylchedd Cymru.
Cyllideb y rhaglen dros dair blynedd yw oddeutu £45 miliwn, ac mae'n ariannu cyfran y mae CNC yn cyflwyno cais amdano yn flynyddol yn ogystal â rhaglen grantiau Rhwydwaith Natur Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth Genedlaethol y Loteri.
Er bod rhywfaint o'r gyllideb wedi'i dyrannu i roi hwb i'n rheolaeth gadwraeth bresennol o safleoedd gwarchodedig, mae prosiectau penodol wedi'u creu hefyd i ganolbwyntio sylw ar rywogaethau a chynefinoedd bregus.
Isod mae'r prosiectau natur sydd ar y tir - darllenwch am brosiectau morol.
Prosiectau ar y tir
Cytundebau Rheoli Tir
Bydd y prosiect hwn yn datblygu cytundebau gyda thirfeddianwyr ar SoDdGA, gyda'r nod o sicrhau rheolaeth ffafriol drwy dalu am fesurau cadwraeth fel cyfundrefnau pori, gwaredu llystyfiant a rhywogaethau anfrodorol, rheoli ffosydd, a ffensio.
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Bydd gwaith yn cael ei gwblhau ar Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan CNC a gan bartneriaid. Y nod fydd gwella eu cyflwr, tra'n uwchraddio seilwaith hanfodol a’r cyfleusterau ac offer sydd eu hangen ar gyfer rheoli cynefinoedd a rhywogaethau, e.e. ffensio a chyfleusterau trin da byw.
Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru
Byddwn ni'n sefydlu rhwydweithiau ecolegol ac yn datblygu gwaith adfer cynefinoedd ar safleoedd 'gwerth cadwraeth natur uchel' ar, ac o amgylch, Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru. Mae'r ardaloedd rhwydwaith yng Nghoedwigoedd Dyffryn Gwy, Dyfi a Gwydyr. Bydd y gwaith yn cynnwys rheoli rhywogaethau anfrodorol ymledol; tynnu prysgwydd, yn ogystal â rheoli gwrychoedd a gwaith rhywogaethau, yn enwedig ar gyfer y pathew ac ystlumod.
Gloÿnnod britheg y gors a Thir Glas
Mae glaswelltir yn un o'r cynefinoedd sydd dan y bygythiad mwyaf yng Nghymru, gyda dros 90% hectar wedi eu colli yn y ganrif ddiwethaf. Bydd y prosiect hwn yn cael ei ganolbwyntio yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro, a bydd yn ceisio adfer ac ymestyn cynefinoedd glaswelltir yn seiliedig ar safleoedd lle ceir poblogaeth o loÿnnod britheg y gors.
Safleoedd Arfordirol
Canolbwynt y prosiect hwn yw cynefinoedd morfa heli a chlogwyni'r môr ynghyd â glaswelltir a rhostir arfordirol. Canolbwynt cychwynnol y gwaith fydd gwaith morfa heli yn Sir Gaerfyrddin, yn aber yr afonydd Conwy a Hafren ac ar glogwyni ym Mhen Llŷn ac Ynys Mȏn.
Twyni Tywod
Bydd y gwaith yn adfer cynefinoedd twyni tywod pwysig fel eu bod yn gwneud cynnydd tuag at statws cadwraeth ffafriol ar gyfer nodweddion twyni dynodedig ledled Cymru. Bydd y safleoedd wedi'u dynodi'n bennaf fel Ardal Cadwraeth Arbennig neu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Bydd y cyllid hwn yn ategu'r hyn sydd wedi'i gynllunio gan y prosiectau Dynamic Dunes a Thwyni Byw.
Porfa Pren
Mae porfa pren yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys gwahanol fathau o laswelltir, rhostir, tir gwlyb a rhedyn, wedi'u plethu â choed. Ymhlith y safleoedd nodweddiadol mae Ffridd sydd i’w weld ar gyrion yr uchel ac ar lethrau mwy serth yn yr iseldiroedd. Fel cynefin mae angen i ni wella ein dealltwriaeth o gyflwr a maint y safleoedd ar draws Cymru yn ogystal â'r mesurau rheoli cadwraeth sydd eu hangen.
Nitrogen atmosfferig
Mae allyriadau amonia wedi bod yn codi yng Nghymru ers tua 2010, ac erbyn heddiw mae dros 60% o lystyfiant sensitif yn cael ei effeithio gan lefelau sy’n uwch na'r hyn y gall ei oddef. Mae hwn yn gynnydd o 13% ers 2010, y newid mwyaf sydd wedi ei gofnodi yn y DU. Bydd y prosiect yn ceisio targedu gostyngiadau yn yr amonia sy’n tarddu o ffermydd ger safleoedd sensitif drwy gynhyrchu Cynlluniau Gweithredu Nitrogen (SNAPS) y gellir eu defnyddio yng Nghynlluniau Ffermydd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru o 2025 ymlaen.