Sut y mae Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru o fudd i Gymru

Children enjoying the woodlands


Mae eich coedwigoedd – Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru – yn drysor cenedlaethol. Wrth reoli’r coetiroedd cyhoeddus hyn, rydym ni'n ceisio cydbwyso anghenion y bobl, yr amgylchedd ac economi'r goedwig yng Nghymru a'n braint ni yw gofalu amdanyn nhw ar ran Llywodraeth Cymru

Pa mor fawr yw’r Ystâd Goetir?

Mae'r ystâd yn ymestyn dros fwy na 126,000 hectar – sydd bron yn 6% o gyfanswm arwynebedd tir y wlad - a thua 40% o adnoddau coedwigoedd Cymru, sy’n golygu mai ni yw’r rheolwr tir mwyaf yng Nghymru. Rydym ni’n darparu amrywiaeth bwysig o nwyddau a gwasanaethau.

Cynhyrchu pren

Mae tua 850,000 tunnell fetrig o bren, o ffynonellau cynaliadwy o’ch coedwigoedd, yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnal, yn uniongyrchol, filoedd o swyddi ac yn cyfrannu at economi Cymru, yn ogystal ag yn ein helpu i ymladd newid hinsawdd drwy gloi carbon.

Ni yw cyflenwyr mwyaf o bren ardystiedig yng Nghymru - y ‘stamp cymeradwyaeth’ annibynnol ar ein hymarfer coedwigaeth cynaliadwy.

Ynni adnewyddadwy

Rydym ni hefyd yn gweithio i ddatblygu potensial ynni gwynt a dŵr yr Ystâd Goetir. Mae ynni gwynt a dŵr yn ffynonellau glan ac adnewyddadwy o drydan sy’n helpu i leihau gollyngiadau o nwyon tŷ gwydr.

Buddion lu eich coedwigoedd

Mae coedwigoedd Cymru hefyd yn gartref i amrywiaeth rhyfeddol o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys rhai o'r mathau mwyaf prin yng ngwledydd Prydain, a gellir gweld ôl troed pobl ar hyn y canrifoedd ar gannoedd o safleoedd archeolegol.

Yn fwy na dim, mae’r tir rydym ni’n ei reoli a’i warchod ar ran y genedl, yn syml iawn, yn lle gwych i ymweld, i gymryd rhan mewn gweithgareddau codi gwallt eich pen, dysgu yn yr awyr agored neu fyfyrio'n dawel -a bron iawn bopeth arall hefyd.

Canfod rhagor

Os hoffech chi ganfod rhagor ynghylch gwerth coetiroedd a beth mae eich coedwigoedd yn ei wneud i chi, cymerwch olwg ar y dolenni ar y dudalen hon.

Os hoffech gysylltu â'r Tîm Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy yn Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiad at sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf