Ein cyfrifoldebau

Rydym yn gyfrifol am ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru, ond mae gennym gyfrifoldebau hefyd i wella lles. Darparu dyfodol gwell i bawb:

  • lleihau’r effaith a gaiff busnesau ar iechyd pobl ac ar yr amgylchedd
  • annog pobl i fynd allan i’r awyr agored ac ymgysylltu â byd natur

Beth ydym yn ei wneud

  • hyrwyddo manteision ymgysylltu â byd natur a’r amgylchedd naturiol
  • rheoleiddio busnesau yn ogystal â darparu cyngor a chanllawiau i leihau eu heffaith ar iechyd pobl
  • ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol, er enghraifft llygredd aer, clefyd coed a llifogydd
  • ymgynghori ar y polisi a’r strategaeth iechyd a lles cenedlaethol
  • ystyried yr effaith mae ein strategaethau, cynlluniau, polisïau a phrosiectau yn ei gael ar iechyd a lles pobl
  • gofalu am safleoedd ledled Cymru lle gall pobl fynd i gerdded, rhedeg, beicio, marchogaeth a mwy
  • cyhoeddi adnoddau addysg i helpu mwy o bobl ifanc ddysgu yn yr awyr agored ac ymgysylltu â byd natur
  • darparu cyllid grant ar gyfer prosiectau sy’n helpu i wella iechyd pobl

Gweithio gyda’n partneriaid

Mae ein cynghorwyr iechyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, yn genedlaethol ac yn lleol drwy’r Datganiadau Ardal, i  helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy boddhaus, wedi’u hamddiffyn rhag peryglon amgylcheddol.

Dyma rai o’n prif feysydd dylanwad:

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf