Pam y thema hon?


Y newid yn yr hinsawdd yw un o'r materion, os nad y mater, sy'n diffinio ein cyfnod. O batrymau tywydd newidiol sy'n bygwth cynhyrchu bwyd i lefelau'r môr yn codi gyda'r bygythiad o lifogydd catastroffig, mae effaith y newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang ei chwmpas ac, felly, ar raddfa ddigynsail. Mae angen cymryd camau gweithredu difrifol nawr. Nid yn unig y bydd ceisio addasu yn y dyfodol yn fwy anodd a chostus, ond yn rhy hwyr o bosib.

Mae addasu i effaith y newid yn yr hinsawdd yn golygu cymryd camau gweithredu ar bob lefel o'r gymdeithas. Yma yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae angen i sefydliadau ac unigolion newid eu hymddygiad nid yn unig i leihau effeithiau negyddol y newid yn yr hinsawdd, ond hefyd i gynyddu ein gwydnwch i'w ganlyniadau.

 

 

Drwy weithredu'n lleol, mae'n rhaid i ni sicrhau'r canlynol:

  • Bod ein cymunedau'n gynhwysol, wedi'u grymuso, yn wydn ac yn ddiogel yn wyneb y newid yn yr hinsawdd

  • Bod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn gallu addasu

  • Bod ein heconomi gynhwysol a chynaliadwy'n hyblyg, yn addasadwy ac yn ymatebol i'r newid yn yr hinsawdd

  • Bod systemau ategol ein cymdeithas yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

  • Bod ein hamgylchedd naturiol yn cael ei werthfawrogi, ei fwynhau, ei ddiogelu a'i wella, a’i fod yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn well

Mae'n werth ailbwysleisio bod y thema hon yn cynrychioli conglfaen Datganiad Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru, gan dorri ar draws pedair thema arall o ran ceisio cyflawni canlyniadau ehangach ac, yn ei thro, helpu cymunedau i liniaru ac addasu i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft, mae cynyddu’r maint o goetir ger cymuned nid yn unig yn gwella bioamrywiaeth, iechyd cymdeithasol a llesiant, ond mae hefyd yn galluogi coed i weithredu fel 'dalfeydd carbon', gan amsugno gormodedd o ddŵr a lleihau'r hyn a elwir yn 'effaith ynys wres drefol', sef rhywbeth sy'n digwydd pan fo ardal drefol yn troi'n gynhesach o lawer nag ardaloedd amgylchynol oherwydd gweithgareddau dynol. Yn anhygoel, dengys bod coeden ffawydd 80 troedfedd o daldra yn gallu amsugno allbwn carbon deuocsid dyddiol dau gartref teuluol.

Efallai nad yw'n syndod fod yr argyfwng hinsawdd presennol yn nodwedd amlwg yn ein digwyddiadau ymgysylltu ar gyfer y Datganiad Ardal. Yn arbennig, gwnaeth rhanddeiliaid bwysleisio eu bod yn pryderu am lifogydd ac erydiad arfordirol. Mae rheoli risgiau presennol ac yn y dyfodol yn allweddol ar hyd arfordir gogledd Cymru, ac o fewn dalgylchoedd afon Dyfrdwy ac afon Clwyd. Mae y cysyniad o liniaru llifogydd ym myd natur yn ymestyn ar hyd y Datganiad Ardal cyfan.

Dylid nodi bod cwestiynau wedi cael eu gofyn am a oedd proses y Datganiad Ardal yn rhoi sylw digonol i’r argyfwng yn yr hinsawdd. Yn wir, gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint awgrymu y dylai'r argyfwng hinsawdd chwarae rôl ganolog nid yn unig fel thema ar wahân ond hefyd fel sail i'r pedair arall o ran cyflawni gallu i wrthsefyll ac addasu.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae angen i ni barhau i siarad mwy am y newid yn yr hinsawdd os ydym am gael dealltwriaeth well o'r materion lleol. Ynghyd ag ymagwedd ranbarthol gogledd Cymru at y newid yn yr hinsawdd, rydym am gael sgwrs y gall pobl ymwneud â hi. Mae angen i’r sgwrs fod yn fath o sgwrs newydd, un sy'n cynnwys cynifer o bobl â phosib ac sy'n rhoi safbwynt cymuned i'r ddadl ynghylch yr argyfwng yn yr hinsawdd. Drwy wneud newidiadau bach yn lleol, gallwn helpu i ddatrys problem fawr sy’n gofyn am gamau gweithredu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Difrod o’r llifogydd yn Ffynnongroyw ar ôl stormydd 2015

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Gall graddfa anferthol yr argyfwng hinsawdd presennol ymddangos yn llethol, sy'n rhywbeth a oedd yn cael ei adlewyrchu yn ein digwyddiadau ymgysylltu. Mae pobl am siarad am gyfleoedd ond nid ydynt yn gwybod yn union ble i ddechrau. Mae hynny'n esbonio pam mae angen mwy o drafodaethau er mwyn ar drywydd y cyfleoedd hynny. Er hynny, cytunwyd yn ein trafodaethau, y dylai'r Datganiad Ardal sicrhau'r canlynol:

  • Bod mwy o ddealltwriaeth o'r mater yn lleol, a’i effeithiau ar Ogledd-ddwyrain Cymru

  • Bod ein cymunedau'n gynhwysol, wedi'u grymuso, yn wydn ac yn ddiogel mewn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd

  • Bod Gogledd-ddwyrain Cymru'n symud tuag at gymdeithas carbon isel

  • Bod ein cymunedau sydd fwyaf agored i niwed yn ymateb ac yn addasu i'r argyfwng yn yr hinsawdd

  • Bod economi Gogledd-ddwyrain Cymru'n dod yn gynhwysol, yn gynaliadwy, yn hyblyg, yn addasadwy ac yn ymatebol i'r newid yn yr hinsawdd

  • Bod amgylchedd naturiol Gogledd-ddwyrain Cymru'n cael ei werthfawrogi, ei fwynhau, ei ddiogelu a'i wella, a’i fod yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn well

  • Bod amgylchedd arfordirol a morol Gogledd-ddwyrain Cymru'n cael ei werthfawrogi, ei fwynhau, ei ddiogelu a'i wella, a’i fod yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn well

  • Y bydd datblygiadau amhriodol mewn ardaloedd lle ceir perygl uchel o lifogydd eu hatal

  • Y bydd ymagwedd gydgysylltiedig ar draws y tri awdurdod lleol yn cael ei hannog, gan fwyafu ar gyfleoedd ac osgoi dyblygu (er enghraifft, ynghylch y polisi cynllunio defnydd tir)

Yn ogystal, bydd y Datganiad Ardal yn mynd ar drywydd amrywiaeth o gyfleoedd, gan gynnwys:

a) Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n gweithio gyda phartneriaid yn y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ymchwilio i 'strwythur delfrydol' a’i baratoi ar gyfer rheoli ymagwedd ranbarthol at y newid yn yr hinsawdd ar draws gogledd Cymru.

b) O ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, gall Gogledd-ddwyrain Cymru ddisgwyl gweld mwy o law dwys ac, felly, mwy o lifogydd. Mae hynny'n golygu bod angen i Cyfoeth Naturiol Cymru a'n partneriaid wella'n dealltwriaeth gyffredin o reoli perygl llifogydd a chyfathrebu, paratoi a meithrin gwydnwch, blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sydd â’r risg fwyaf, atal mwy o bobl rhag cael eu datgelu i risg, a darparu ymateb effeithiol a chynaliadwy i ddigwyddiadau. Mae Asesiad Perygl Llifogydd Cychwynnol 2018 wedi nodi lleoedd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru sydd mewn perygl sylweddol o lifogydd. Mae cofrestr cymunedau mewn perygl yr asesiad perygl llifogydd cenedlaethol yng Nghymru'n darparu offeryn sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ni, ac awdurdodau rheoli risg eraill, gyflawni ymagwedd sy'n seiliedig ar risg at reoli perygl llifogydd.

c) Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n arwain drwy esiampl wrth ddangos sut y gall y sectorau cyhoeddus a phreifat leihau eu heffaith garbon drwy rannu eu Prosiect Carbon Bositif Cyfoeth Naturiol Cymru.

d) Annog Llywodraeth Cymru i ystyried sut y gall cysylltiadau rhwng ffermydd gwynt ar y môr a chymunedau gael eu gwella, er enghraifft drwy ddatblygu o bosib gynllun budd i’r gymuned ar gyfer ffermydd gwynt ar y môr sy'n debyg i’r rhai ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir.

e) Dylanwadu ar Gynlluniau Datblygu Lleol a’r Ardoll Seilwaith Cymunedol, fel eu bod yn cynnwys polisïau cadarnhaol ynghylch ynni adnewyddadwy (lle y bo'n briodol) a chyfleoedd eraill – er enghraifft, datblygiadau tai newydd â chynlluniau cynhesu rhanbarthol adnewyddadwy, a datblygiadau amaethyddol/diwydiannol newydd sydd â ffynhonnell ynni adnewyddadwy. Hyd yn hyn, dim ond nifer bach o awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru sydd wedi cyflwyno'r ardoll.

f) Gwella trafnidiaeth gyhoeddus a thrydaneiddio seilwaith cyhoeddus. Ar hyn o bryd, dominyddir teithio yng Nghymru gan geir preifat. Mae angen newid hyn. Gallai newid i system trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel, un sy'n hygyrch i bawb ac sy'n cyfrannu at gymunedau cynaliadwy y mae modd byw ynddynt, gael manteision iechyd cyhoeddus ac amgylcheddol sylweddol.

g) Mae ffigurau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn dangos bod dros 31 miliwn o geir yn y DU ar ddiwedd 2015. Mae'r car arferol yn cynhyrchu dros ddwy dunnell o CO2 y flwyddyn. Gyda hyn mewn golwg, gall hyrwyddo cynlluniau rhannu ceir a chlybiau ceir ond helpu i leihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd.

h) Mwy i derfynau cyflymder traffig is i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella ansawdd aer mewn mannau traffig prysur.

i) Hyrwyddo'r defnydd o geir trydan ac argaeledd pwyntiau gwefru. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn cytuno bod yn rhaid i ni symud i ffwrdd o'r defnydd o geir diesel a phetrol. Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae angen i ni ganolbwyntio ar y goblygiadau y bydd hyn yn eu cael ar ein seilwaith, sy'n amrywio o argaeledd pwyntiau gwefru i gynhyrchu digon o drydan.

j) Cefnogi busnesau, cwmnïau a sefydliadau wrth osod targedau i beidio ag anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi, ynghyd â chanfod gwerth drwy wneud defnydd gwell o adnoddau sydd ag arbedion cost uniongyrchol ac annog economi 'gylchol'.

k) Datblygu cynllun credyd/gwrthbwyso carbon rhanbarthol sy'n fanteisiol i gymunedau lleol wrth ddarparu manteision cyflogaeth, iechyd, llesiant a chymdeithasol, gan hefyd fynd ar drywydd cyfleoedd 'seilwaith gwyrdd' i helpu i liniaru ac addasu i heriau hinsawdd sy’n newid.

l) Cysylltu'r agendâu iechyd a llesiant â'r argyfwng yn yr hinsawdd. Nid anghyfleus yn unig yw colli bioamrywiaeth, llygredd a'r argyfwng yn yr hinsawdd. Dyma'r bygythiadau mwyaf i iechyd cyhoeddus mae ein cymunedau erioed wedi eu hwynebu. Pan fydd gan gymunedau fynediad i fannau gwyrdd, mae iechyd a llesiant yn dueddol o wella.

m) Datblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol (lle y bo'n briodol) yn debyg i baneli solar sydd wedi cael eu gosod ar dai cyngor yn Wrecsam, gan alluogi i refeniw gael ei greu sy'n gallu ariannu rhagor o brosiectau carbon bositif.

n) Annog pobl i ymgymryd â thaith maes i fforc fer drwy brynu'n lleol. Mae cefnogi ffermydd a busnesau lleol i gysylltu â'u marchnadoedd rhanbarthol yn lleihau milltiroedd a phecynnu bwyd, gan hefyd fod yn fanteisiol i'r gweithlu a gwaith rheoli tir lleol.

o) Creu offeryn Map Stori i ymgysylltu â’r cyhoedd i gofnodi ein cynnydd, ein tystiolaeth a'n llwyddiant yn erbyn y thema, â’r nod o greu newidiadau, dylanwadu ar farn a chynyddu ymwybyddiaeth. Bydd y mapiau hyn yn cael eu dylunio ar gyfer unrhyw gynulleidfa â mynediad i'r rhyngrwyd.


Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


I gyd, daeth 148 o bobl yn cynrychioli 68 o sefydliadau ar draws 28 o sectorau gwahanol (â chylchoedd gorchwyl eang) i bum digwyddiad ymgysylltu wedi'u trefnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod 2019. Gwnaeth pob un ond un ddigwydd mewn lleoliadau cymunedol lleol, ac eithrio lleoliad mwy, trefol, Neuadd Tref Dinbych ym mis Gorffennaf. Gwnaethom hefyd ymgysylltu ag uwch-reolwyr ac arweinwyr portffolio'r tri awdurdod lleol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Roedd Dafydd Thomas, ymgynghorydd llesiant allanol, yn bresennol ym mhob digwyddiad, a oedd yn cynnwys gweithdrefn arloesol o'r enw 'cylch cyfarfod' wedi'i dylunio i annog cyfranogwyr i rannu eu teimladau gwirioneddol, blaenoriaethu'r hyn oedd wir yn bwysig iddynt, a gweithio gyda'i gilydd i gael canlyniadau.

Cafodd thema’r argyfwng yn yr hinsawdd ei chefnogi'n dda gan lawer o'n rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, cynrychiolwyr o'r sector amaethyddol, diwydiant, coedwigaeth, partneriaethau llifogydd a chadwraeth. Anfonwyd gwahoddiadau at sefydliadau erail, fodd bynnag, yn anffodus nid oeddent yn gallu dod.

Er bod llawer o sectorau'n cael eu cynrychioli, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol fod angen ehangu apêl Datganiadau Ardal y tu hwnt i'r bobl rydym yn trafod gyda'n arfero'. Hoffem i gymunedau a'r sectorau nad yw'n ymwneud â'r amgylchedd gymryd rhan (hyd yn hyn, roedd cyfranogwyr o'r sector nad yw'n ymwneud â'r amgylchedd ond yn cyfri am 15% o'r sawl a gymerodd ran). Gan weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, anfonwyd gwahoddiadau at oddeutu 2,500 o fusnesau bach a chanolig, eto mae'r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn siomedig. Fodd bynnag, rydym wedi gweithio gyda'r sefydliad Cymru Ifanc, a gynhaliodd gyfres o weithdai ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru a fydd yn cyfrannu at y Datganiad Ardal ac, yn y broses, yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn eu grymuso.

Rydym bob tro wedi cydnabod pa mor bwysig yw ymgysylltu â chymunedau, ac rydym yn y broses o ystyried y ffordd orau o wneud hynny er mwyn mwyafu ar y cyfleoedd sydd wedi cael eu trafod hyd yn hyn. Gadewch i ni eich sicrhau y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog ac yn cefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ffurfio grwpiau sy'n rhannu nodau neu ddibenion cyffredin, gan eu helpu i lunio a chyflawni'r Datganiad Ardal fel ei fod o fudd i'w cymunedau lleol.

Beth yw'r camau nesaf?


Drwy gydol 2020, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid wrth i ni ddechrau cyflwyno'r cyfleoedd a nodwyd drwy'r Datganiad Ardal. Rydym yn disgwyl i fwy o gyfleoedd godi wrth i'r broses ymgysylltu fynd yn ei blaen.

Mae'r camau gweithredu i CNC a'n rhanddeiliaid yn cynnwys y canlynol:

  • Ceisio ehangu apêl proses y Datganiad Ardal, gan annog sefydliadau i ddeall bod hyn yn rhywbeth y gallant ei llunio, dylanwadu arni ac ymgysylltu â hi

  • Adolygu'r Datganiad Ardal yn gyson, gan ddatgelu syniadau a thystiolaeth newydd sy'n dod i'r amlwg, ynghyd â thrafodaethau sy'n cael eu cynnal

  • Parhau i fapio'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid yn ofalus, gan estyn allan i sectorau a sefydliadau nad ydyn ni wedi siarad â hwy hyd yn hyn

  • Ceisio cael gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae'r newid yn yr hinsawdd yn ei olygu i Ogledd-ddwyrain Cymru, a sut y bydd yn effeithio arnon ni

  • Cefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ffurfio grwpiau sy'n cyfrannu at y Datganiad Ardal a’r gwaith o’i gyflawni, a chael mwy o ymdeimlad yn y broses o ran ai'r cyfleoedd sy'n cael eu nodi yw'r rhai cywir

  • Annog amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddod ynghyd a ffurfio grŵp ffocws 'thema' i ddatblygu'r cyfleoedd a nodwyd ymhellach

  • Annog ffyrdd newydd o weithio, i berthnasau newydd gael eu meithrin, a pharhau i feithrin ymddiriedaeth gyda'n phartneriaid presennol

  • Cynnwys adborth o sesiynau ymgysylltu Cymru Ifanc yn y Datganiad Ardal

  • Cyfeirio partneriaid a chymunedau tuag at gyfleoedd am ariannu sy'n cefnogi cyflawniad y Datganiad Ardal, gan gynnwys rhaglen ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun

  • Codi pwyntiau a thrafodaethau penodol am bolisi sy'n ymwneud â Datganiadau Ardal yn ein rôl fel prif ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru

  • Gwella'n defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, wrth ystyried ffyrdd arloesol eraill o gynnwys pobl ym mhroses y Datganiad Ardal

Fferm gwynt© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae'r egwyddorion sy'n sail i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn hanfodol i broses y Datganiad Ardal. Wrth wraidd ei ddatblygiad y mae ein hymgysylltiad cydweithredol ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, rhai presennol a rhai newydd. Rydym wedi ceisio dechrau sgyrsiau sy'n bwysig, gan ofyn i bobl siarad â phobl nad ydynt yn eu hadnabod, neu na fyddent fel arall yn siarad â hwy. Wrth wneud hynny, daeth yn glir fod llawer yn rhannu gweledigaeth debyg o'r dyfodol, un a oedd yn y pen draw yn gosod y sylfeini ar gyfer ein pum thema. Er bod rhai o'r sgyrsiau hynny'n heriol, roeddent bob tro'n werth chweil ac yn gynhyrchiol.

Mae'r broses hon wedi'n helpu i ddiffinio'r broblem ar y cyd ac ennill dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r camau gweithredu posib, cyn penderfynu ar yr hyn sydd angen cael ei wneud i gyflawni'n 'gweledigaeth' a rennir. Mae hyn yn cynrychioli newid sylweddol o ran sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio. Yn y gorffennol, rydym wedi parhau gyda'n hopsiynau dewisol heb ymgysylltu na chwilio am unrhyw fath o gonsensws. Yr her nawr yw gweithio gyda'n partneriaid, ein rhanddeiliaid a'n cymunedau wrth lunio, ac yn y pen draw, gyflawni'r cyfleoedd hyn.

Bydd y Datganiad Ardal yn galluogi pob un ohonom i wneud penderfyniadau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan dynnu nid yn unig ar yr wybodaeth sydd gennym, ond tystiolaeth mae ein partneriaid yn ei darparu sy’n cael ei chadw’n lleol. Bydd llawer o'r data ar gael i bawb drwy borth data newydd Cyfoeth Naturiol Cymru (potential link to go here?). Rydym yn gwerthfawrogi bod bylchau yn ein tystiolaeth, ond rydym yn gweithio i'w llenwi. Rydym yn gwybod bod angen i ni wella'n dealltwriaeth o effaith y newid yn yr hinsawdd ar lefel gymunedol a chyfleu hynny mewn modd effeithiol.

Yn fwy na hynny, rydym yn gwybod bod angen i ni ddiogelu ein hecosystemau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu drwy feithrin gwydnwch. Mae perthynas gref rhwng yr argyfyngau yn yr hinsawdd a'r amgylchedd, ein pedair thema arall yn y Datganiad Ardal, a'r cyfle i gyflawni manteision lluosog sy'n rhyngysylltu. Mae'r holl themâu hyn wedi'u dylunio i wneud ein gwasanaethau ecosystemau’n fwy gwydn, i liniaru yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, ac i helpu'n cymunedau i addasu i hinsawdd sy'n newid. Unwaith eto, nid yw rhai o'r manylion am sut orau i ddatblygu'r cyfleoedd hyn wedi cael eu trafod. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod modd mwyhau llawer ohonynt naill ai trwy ddilyn y llwybr seiliedig ar Ogledd-ddwyrain Cymru a ddiffinnir yma, neu drwy ymgymryd ag ymagwedd fwy rhanbarthol ar y cyd â Gogledd-orllewin Cymru.

Sut all pobl gymryd rhan?


Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, rydym yn rhagweld y bydd pobl yn gallu cymryd rhan yn y ddadl ynghylch yr argyfwng yn yr hinsawdd drwy fwy o ymgysylltu. Caiff manylion eu cyhoeddi wrth i broses y Datganiad Ardal ddatblygu. Cadwch lygad allan felly. Os ydych am gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch  northeast.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf