Cynllun Busnes 2025-2026
Cyflwyniad
Mae ein cynllun corfforaethol, Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd, yn nodi ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n hamcanion llesiant hyd at 2030 a thu hwnt. Mae’r cynllun busnes hwn yn nodi’r hyn y byddwn yn ei wneud yn benodol yn 2025-26 i gyflenwi yn erbyn yr amcanion llesiant hynny a gwireddu ein gweledigaeth. Mae’r cynllun wedi’i baratoi yn unol â Dogfen Fframwaith Llywodraeth Cymru a’r llythyr cylch gwaith ar gyfer tymor y llywodraeth.
Ein cyllid ar gyfer 2025-26
Mae dyraniad blynyddol Gweinidogion Cymru o’r gyllideb, a nodir yn y datganiad o ddarpariaeth gyllidebol, wedi pennu’r adnoddau ariannol sydd ar gael inni drwy gymorth grant uniongyrchol gan y llywodraeth. Mae hyn yn debygol o ddod i gyfanswm o £141.4 miliwn yn 2025-26, ac mae’n cymharu â’r £124.4 miliwn a ddyrannwyd i ni’n wreiddiol ar ddechrau 2024/25. Cyfanswm ein cyllid yw £298.3 miliwn.
Daw’r rhan fwyaf o’n cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy gymorth grant gyda chyfran wedi’i dyrannu i refeniw a chyfalaf. Mae gweithgareddau masnachol, gwerthu coed yn bennaf, yn cynhyrchu incwm masnachol o £54.5 miliwn, tra bod taliadau a gynhyrchir drwy weithgareddau rheoleiddiedig yn dod i £49.5 miliwn. Rydym hefyd yn derbyn grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru o £41.1 miliwn, a grantiau gan gyrff ariannu allanol megis Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chronfeydd yr UE a sicrhawyd o dan raglen LIFE, sef cyfanswm o £9.8 miliwn.
Eleni mae ein cyllideb cymorth grant wedi cynyddu £17 miliwn, wedi’i rannu’n refeniw o £14.9 miliwn a chyfalaf o £2.1 miliwn. Mae’r elfen refeniw yn gynnydd parhaol mewn cyllid, gyda chadeirydd CNC a’r Dirprwy Brif Weinidog yn cytuno bod £4 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer buddsoddi mewn meysydd wedi’u targedu i wireddu eu huchelgais gyffredin ar gyfer ansawdd dŵr, bioamrywiaeth, monitro tystiolaeth a rheoli perygl llifogydd. Bydd y buddsoddiad yn cefnogi cyflawniad integredig y pethau hynny a fydd yn cyflymu cynnydd camau penodol i’w cymryd yn y cynllun corfforaethol, yn ogystal â phrofi ffyrdd newydd o weithio ar draws timau a chyda phartneriaid. Bydd yr hyn sydd yn weddill yn ein helpu i dalu costau’r cynnydd ym mhensiwn y gwasanaeth sifil, yswiriant gwladol a chostau cyflogau. Mae hefyd yn cynnwys dyraniad tuag at y Bil Seilwaith newydd. Mae gweinidogion wedi dyrannu £2.7 miliwn (cyfalaf) pellach i ddatblygu a phrofi platfform digidol newydd ar gyfer trwyddedu morol.
Ochr yn ochr â’r cynnydd hwn mewn cymorth grant, mae lefel y cyllid a ddyrannwyd i CNC gan Weinidogion Cymru drwy lythyrau dyfarnu grant penodol wedi cynyddu: mae hyn yn adlewyrchu cyfuniad o ddyfarniadau grant newydd a chynnydd i ddyfarniadau grant presennol megis y Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd.
Croesawir y cynnydd hwn mewn cyllid, ond mae’n cyflwyno ei heriau a’i risgiau ei hun ar adeg pan ydym yn dechrau symud allan o raglen newid ar draws y sefydliad, sy’n cynnwys rheolaethau recriwtio a chael gwared ar oddeutu 200 o swyddi o’r strwythur. Gyda’r galw o ran recriwtio yn cronni, gyda dros 400 o swyddi gwag ar draws y sefydliad, ochr yn ochr â’r angen i gynyddu’r ddarpariaeth yn y meysydd hynny a nodwyd ar gyfer buddsoddiad, mae ein Tîm Gweithredol yn canolbwyntio ar gynnal yr hyblygrwydd mwyaf, er mwyn osgoi’r angen am raglenni newid yn y dyfodol, ac fel y gallwn addasu i newidiadau yn ein hamgylchedd gweithredu. Rydym yn canolbwyntio ar gyflawni gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fecanweithiau, gan gynnwys caffael yn allanol, grantiau, partneriaethau, lleoliadau, prentisiaethau a staff dros dro yn ogystal ag ychydig o staff parhaol. Bydd y dull hwn yn cael ei gymhwyso i’r cyllid cymorth grant ychwanegol a’r cyllid llythyr dyfarnu grant.
Mae gweinidogion wedi cytuno i osod trothwy incwm pren o £33 miliwn ar gyfer 2025-26, a fydd yn ein hamddiffyn rhag yr amrywiadau mewn incwm pren. Os bydd yr incwm yn gostwng o dan y trothwy hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gwahaniaeth drwy gymorth grant.
Yr hyn y byddwn yn ei gyflenwi yn 2025-26
O dan bob amcan llesiant, rydym wedi nodi cyfres o gamau i’w cymryd sy’n diffinio’r canlyniadau neu’r newid rydym am eu gweld erbyn 2030.
Gwyddom na fyddwn yn gallu gwireddu canlyniadau pob amcan llesiant neu gam i’w gymryd ar unwaith. Yn y blynyddoedd cynnar hyn, mae angen inni osod y sylfeini drwy wneud y gwaith paratoi, megis cwestiynu’r sylfaen dystiolaeth neu ddatblygu a phrofi gwahanol offer a dulliau gweithredu a fydd yn ein galluogi i gyflymu’r gwaith cyflenwi yn y blynyddoedd i ddod.
Wrth baratoi’r cynllun, rydym wedi defnyddio’r mewnwelediad o ymarfer blaenoriaethu’r achos dros newid ochr yn ochr â’r llythyr cylch gwaith ar gyfer tymor y llywodraeth, llythyrau dyfarnu grant Llywodraeth Cymru, a dyraniad cyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad y cytunwyd arnynt gan y Dirprwy Brif Weinidog a chadeirydd CNC, sef ansawdd dŵr, bioamrywiaeth, monitro tystiolaeth a rheoli perygl llifogydd, wedi’u hamlygu yn y cynllun busnes hwn. Caiff y meysydd hyn eu rhoi o dan y “chwyddwydr” i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn cyflymu camau penodol i’w cymryd yn ogystal â chryfhau gwasanaethau cynghori rheoleiddiol a statudol sylfaenol.
Rydym wedi diffinio ymrwymiadau blynyddol a mesurau allweddol i’w cyflenwi ar gyfer cyfres o gamau i’w cymryd o dan bob amcan llesiant. Mae’r ymrwymiadau blynyddol hyn yn gosod yr uchelgais ar gyfer yr hyn y byddwn yn ei wneud yn 2025-26 i symud ymlaen tuag at y canlyniad camau i’w cymryd erbyn 2030. Bydd y mesurau allweddol i’w cyflenwi yn ein galluogi i olrhain cynnydd ac asesu a yw’r ymrwymiadau’n cael eu cyflawni.
Gydol 2024/25, cafodd yr achos dros newid effaith ar y cyflawniad, gyda datblygiad llawer o ymrwymiadau a chyflawniadau allweddol yn arafach nag a ragwelwyd. Nododd adroddiad perfformiad Chwarter 3 gynnydd yn nifer yr achosion ‘oren’ a ‘choch’ a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, gyda’r llwybr tuag at wyrdd yn dibynnu ar y rheolaethau recriwtio yn cael eu llacio. Mae’n debygol na fydd yr ymrwymiadau hyn yn dychwelyd i wyrdd tan o leiaf Chwarter 3 2025-26. Oherwydd hyn, bydd yr ymrwymiadau a chyflawniadau hyn yn rhan o Gynllun Busnes Blynyddol 2025-26.
Mae manylion yr ymrwymiadau blynyddol a’r metrigau cyflawni allweddol cysylltiedig wedi’u hamlinellu yn Atodiad 1. Bydd y metrigau diffiniedig yn cael eu tracio gydag adroddiadau chwarterol.
Mae ein tri amcan llesiant yn canolbwyntio ar ganlyniadau, gan osod uchelgais a chyfeiriad ar gyfer y newid yr ydym am ei weld yng Nghymru ar gyfer natur, hinsawdd a llygredd erbyn 2030 a thu hwnt. Er mwyn gwireddu’r uchelgeisiau hyn yn llawn, mae angen i ni newid sut rydym yn gweithio, gan esblygu arferion sefydledig a manteisio ar bob cyfle i arloesi a gwella. Adlewyrchir y naratif hwn yn adrannau olaf y cynllun corfforaethol.
Er mwyn darparu mwy o gywirdeb a thryloywder ar gyfer cydweithwyr a phartneriaid, rydym yn paratoi amcan llesiant ychwanegol sy’n canolbwyntio ar ein huchelgais ar gyfer y math o sefydliad yr hoffem fod erbyn 2030, gan gydnabod bod rhaid i’r sefydliad rymuso ein pobl ac esblygu’r ffyrdd o weithio sydd gennym. Bydd yr amcan llesiant ychwanegol yn canolbwyntio ar bedwar maes buddsoddi lle byddwn yn rhoi’r arweinyddiaeth, yr offer a’r adnoddau sydd eu hangen ar ein timau i addasu, tyfu a ffynnu. Bydd y buddsoddiadau hyn yn cryfhau gallu ein sefydliad i lywio’r heriau sydd o’n blaenau gyda chyfres o gamau i’w cymryd sy’n cyd-fynd â’n harweinyddiaeth a’n diwylliant, y ffordd yr ydym yn cyfathrebu a chydweithio, ein heiriolaeth, ein gwasanaethau a’n tystiolaeth. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn cryfhau ein sylfeini ac yn cyflymu’r broses o gyflawni’r canlyniadau ar gyfer natur, hinsawdd a llygredd erbyn 2030 a thu hwnt.
Byddwn yn ymgysylltu â chydweithwyr a phartneriaid dethol yn ystod y gwanwyn a’r haf, a bydd y bwrdd yn eu cymeradwyo yn ei gyfarfod ym mis Hydref. Er mwyn cymryd y camau ychwanegol hyn, rydym yn bwriadu cynnwys detholiad fel ymrwymiadau a chyflawniadau blynyddol yn ein proses adrodd chwarterol yn Chwarter 3. Bydd y rhain yn adlewyrchu’r gwaith rydym yn ei wneud mewn meysydd megis cyflwyno cyfleoedd dysgu a datblygu a gwelliannau i brosesau recriwtio, gan gynnwys y gronfa adnoddau hyblyg. Yn dilyn cyhoeddiad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar ei newydd wedd ym mis Tachwedd 2024, rydym yn datblygu ac ymgorffori gwaith yn y maes hwn ymhellach. Er mwyn mesur a dangos ein cynnydd, byddwn yn cynnwys ymrwymiad penodol gyda chyflawniadau a fydd yn adlewyrchu’r gwaith o gyflwyno pecyn hyfforddi gwrth-hiliaeth cynhwysfawr i bob cydweithiwr trwy ddatblygu a gweithredu modiwl system rheoli dysgu newydd; sefydlu amcanion gwrth-hiliol ar gyfer holl aelodau’r bwrdd, y weithrediaeth a’r tîm arwain; a chwblhau Matrics Aeddfedrwydd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol trwy bennu statws presennol a sefydlu rhwydwaith staff newydd trwy ddarparu fforwm pwrpasol ar gyfer trafodaethau am y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
ATODIAD 1: Yr hyn y byddwn yn ei gyflenwi yn 2025-26
Amcan Llesiant 1: Mae natur yn gwella
Y newid rydym am ei weld erbyn 2030: y dirywiad mewn bioamrywiaeth yn cael ei atal; rheoleiddio effeithiol, adfer cynefinoedd ac atebion ar sail natur yn cyfrannu at ecosystemau cynyddol wydn, gan alluogi addasu i newid a bod o fudd i lesiant pobl (Datganiad Effaith 1)
Mae ymrwymiadau blynyddol 2025-26 yn adlewyrchu ein cyfraniad at y ddeddfwriaeth newydd arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethiant a thargedau bioamrywiaeth, y cynlluniau peilot arfaethedig ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ogystal â chyflawni’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur a’r broses ar gyfer dynodi Parc Cenedlaethol newydd. Mae’r rhain yn gosod y sylfeini ar gyfer cyrraedd targedau byd-eang 2030 ar gyfer byd natur ar y tir, yn y môr ac mewn dyfroedd croyw. Er nad ydym wedi cynnwys ymrwymiadau penodol sy’n gysylltiedig â chefnogi Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth), bydd hyn yn rhan fawr o gynllun gwaith ein harbenigwyr gydol y flwyddyn. Nid ydym wedi cynnwys yr holl gamau i’w cymryd yng nghynllun busnes eleni na’r gwaith sylfaenol hanfodol yr ydym yn ei wneud i ddiogelu byd natur. Byddwn yn parhau, er enghraifft, i wneud gwaith monitro ac adrodd amgylcheddol, ymateb i geisiadau cynllunio, rhoi trwyddedau, cynnal ymweliadau cydymffurfio, a, lle bo angen, cymryd camau gorfodi.
Maes ffocws: Natur yn cael ei diogelu
Cam i’w gymryd: Gwella cyflwr nodweddion ar safleoedd daearol, morol a dŵr croyw gwarchodedig trwy ddefnyddio ein hofferynnau cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol, a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd.
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Gwerthuso Rhaglen Rhwydweithiau Natur CNC i lywio buddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer safleoedd gwarchodedig.
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Gwell dealltwriaeth o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gweithgarwch a ddarperir ar draws Rhaglen Rhwydweithiau Natur CNC trwy werthuso 70% o weithgarwch presennol a blaenorol erbyn diwedd Ch2 i sefydlu’r llinell sylfaen
- Gweithgarwch Rhwydweithiau Natur CNC sy’n fwy effeithiol yn y dyfodol drwy nodi blaenoriaethau a datblygu dulliau cyflenwi erbyn diwedd Ch3 (yn seiliedig ar ganlyniadau Mesur Allweddol i’w Gyflenwi 1)
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Blaenoriaethu camau gweithredu sy’n cael yr effaith fwyaf ar gyflwr nodweddion SoDdGA.
Maes ffocws: Natur yn cael ei diogelu
Cam i’w gymryd: Ymestyn y gwaith o warchod a rheoli o leiaf 30 y cant o dir, dŵr croyw a’r môr ar gyfer natur trwy nodi cyfleoedd i ehangu a chysylltu’r gyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn well.
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Cyfuno tystiolaeth i nodi blaenoriaethau ar gyfer hysbysu ac ail-hysbysu safleoedd sy’n cyfrannu at y targed 30:30
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Gwella dealltwriaeth o faint a chysylltedd y gyfres SoDdGA bresennol trwy gwblhau asesiad o bob safle erbyn diwedd Ch2
- Mwy o gyngor i gyflymu hysbysu ac ail-hysbysu trwy gyhoeddi’r Llawlyfr Hysbysu SoDdGA erbyn diwedd Ch4
- Cynyddu effeithiolrwydd y dyraniad o fuddsoddiad ar gyfer cyflwyno rhaglen hysbysu well trwy nodi, dewis a chostio safleoedd blaenoriaeth i gyfrannu at 30x30 erbyn diwedd Ch3
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Blaenoriaethu cyfleoedd i hysbysu SoDdGAau a defnyddio mesurau eraill y tu allan i’r gyfres SoDdGA.
Maes ffocws: Natur yn cael ei diogelu
Cam i’w gymryd: Diogelu rhywogaethau sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddiflannu drwy ddefnyddio ein hofferynnau cynghori a rheoleiddio, gweithio mewn partneriaeth, a monitro i werthuso effeithiolrwydd.
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Adolygu cynllun cyflawni pedair blynedd rhaglen bartneriaeth Natur am Byth i werthuso a mireinio, yn ôl yr angen, y camau gweithredu ar gyfer y rhywogaethau sydd yn y perygl mwyaf o ddiflannu yn ystod dwy flynedd olaf y rhaglen.
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cynyddu dealltwriaeth o statws rhywogaethau targed drwy gwblhau 90% o asesiadau adfer rhywogaethau interim erbyn diwedd Ch3
- Cyflawni rhaglen Natur am Byth yn barhaus trwy werthuso’r cynnydd yn erbyn pum nod y rhaglen, gan lywio adolygiad interim cyllidwyr allanol erbyn diwedd Ch3
- Gwella cynlluniau gweithgarwch ar gyfer y deg partner drwy weithredu argymhellion yr adolygiad interim o Adolygiad Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Cydgrynhoi cynllun etifeddiaeth Natur am Byth ‘2.0’ i sicrhau momentwm ar gyfer adferiad rhywogaethau yng Nghymru ar ôl i’r cyllid ddod i ben ym mis Awst 2027.
Maes ffocws: Natur yn cael ei hadfer
Cam i’w gymryd: Cyflymu gwelliannau i gyflwr y Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig trwy waith monitro ac ymchwiliadau cadarn, tystiolaeth, cyngor, a gweithio gydag eraill ar gyflenwi prosiectau.
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Cyfathrebu a meithrin dealltwriaeth o gyflwr y Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig i lywio camau gweithredu a gwelliannau wedi’u targedu.
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Targedu prosiectau a rhaglenni’n well tuag at faterion â blaenoriaeth ar draws y Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig trwy gyfathrebu asesiadau cyflwr newydd yn effeithiol ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig morol sydd yng Nghymru yn unig erbyn diwedd Ch2
- Gwaith sydd eisoes ar waith i ddatblygu asesiadau cyflwr ar gyfer safleoedd trawsffiniol trwy weithio gyda Natural England ar nodwedd beilot erbyn diwedd Ch4
- Gwell dealltwriaeth o ddirywiad mewn rhywogaethau a chynefinoedd penodol trwy gynnal ymchwiliadau o dan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur Morol, gan nodi canfyddiadau ac argymhellion mewn cyfres o adroddiadau erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Ymrwymo i ddatblygu pob nodwedd o ACA Môr Hafren er mwyn cyflawni asesiadau cyflwr wedi’u cwblhau a chyngor cadwraeth.
Maes ffocws: Natur yn cael ei hadfer
Cam i’w gymryd: Cyflymu gweithredu i adfer byd natur ar raddfa tirwedd drwy rannu ein tystiolaeth a’n harbenigedd gyda Pharciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a phartneriaid eraill
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Integreiddio tystiolaeth adfer natur i broses y Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig a rheolaeth yr AHNEau a Pharciau Cenedlaethol presennol i wella’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer natur
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Sefydlu’r achos dros Barc Cenedlaethol newydd drwy gwblhau adroddiadau tystiolaeth ac ymarfer ymgynghori i lywio penderfyniad bwrdd CNC ar gam statudol y broses dynodi Parc Cenedlaethol erbyn diwedd Ch4
- Integreiddio gweithredu dros natur a hinsawdd yn well i gynlluniau rheoli Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol trwy adnewyddu Canllawiau Cynllun Rheoli Tirweddau Dynodedig a chymorth grant CNC erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Chwarae ein rhan yn y gwaith o ddynodi Parc Cenedlaethol
Maes ffocws: Mae natur yn cael ei pharchu a’i gwerthfawrogi wrth wneud penderfyniadau
Cam i’w gymryd: Sicrhau manteision a chyfleoedd lluosog i natur, pobl a’r economi wledig drwy gefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Datblygu’r capasiti a’r gallu o fewn CNC i sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei weithredu’n llwyddiannus, gan ddarparu aml-fanteision a chyfleoedd amryfal ar gyfer natur a phobl
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Sefydlu cynllun rhaglen parodrwydd gweithredol a strategaeth gyfathrebu drwy gynllunio, datblygu a lledaenu gwybodaeth yn fewnol yn fanwl i hwyluso ymwybyddiaeth o’r cynllun erbyn diwedd Ch2
- Cefnogi datblygiad canllawiau technegol a llysgenhadon cynllun Llywodraeth Cymru yn barhaus trwy drosi Cynllun Cynefin Cymru yn amserlenni gwaith parod ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i gefnogi camau gweithredu ffermwyr erbyn diwedd Ch3
- Cynnal capasiti o fewn CNC i gefnogi gweithrediad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy drosglwyddo’r ddarpariaeth o’r tîm rhaglenni i’r adran weithredol erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Cynnal cefnogaeth barhaus i gynlluniau rheoli safleoedd dynodedig a phrosesau gwirio coetiroedd er mwyn sicrhau bod canlyniadau’n parhau i gael eu cyflawni ar gyfer natur a phobl
Maes ffocws: CNC fel sefydliad natur-bositif enghreifftiol
Cam i’w gymryd: Sicrhau bod amddiffyniad ac adferiad byd natur yn cael ei integreiddio ym mhenderfyniadau ariannol a busnes CNC trwy gymhwyso’r gwersi a ddysgwyd gan eraill ar offer a fframweithiau effeithiol
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Rhoi Mai Di-dor ar waith, treialu dulliau newydd o weithio gyda byd natur ar y tir a’r asedau rydym yn eu rheoli, a nodi argymhellion wedi’u blaenoriaethu
Mesur allweddol i’w gyflenwi:
- Lleihau torri gwair ar asedau rheoli perygl llifogydd CNC erbyn diwedd Ch4 drwy
(a) gadael 70% o asedau heb eu torri yn ystod mis Mai Di-dor, a
(b) nodi dulliau amgen o leihau torri gwair a gweithio gyda byd natur, gan gychwyn cynlluniau peilot ar asedau rheoli perygl llifogydd allweddol (nifer i’w pennu)
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Gweithredu rhaglen ddiwygiedig
Maes ffocws: CNC fel sefydliad natur-bositif enghreifftiol
Cam i’w gymryd: Sicrhau bod amddiffyniad ac adferiad byd natur yn cael ei integreiddio ym mhenderfyniadau ariannol a busnes CNC trwy gymhwyso’r gwersi a ddysgwyd gan eraill ar offer a fframweithiau effeithiol
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am gyfleoedd i ysgogi camau gweithredu dros natur a’r hinsawdd ac i leihau llygredd trwy ein cyflenwyr a’n partneriaid a gyflwynir trwy ein Strategaeth Caffael a Chontractau
Mesur allweddol i’w gyflenwi:
- Sefydlu Strategaeth Caffael a Chontractau CNC trwy ei chyhoeddi erbyn diwedd Ch3
- Cwblhau’r adolygiad o arferion da o ran cyfleoedd i integreiddio natur, hinsawdd a lleihau llygredd i’n cadwyn gyflenwi a’n partneriaid trwy nodi argymhellion allweddol i lywio ein Cynllun Gweithredu Caffael a Chontractau erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Cyflawni yn unol â’n Cynllun Gweithredu Caffael a Chontractau
Amcan Llesiant 2: Cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
Y newid rydym am ei weld erbyn 2030: mae gweithredu parhaus ar achosion, risgiau ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu bod natur a phobl yn cael eu galluogi a’u grymuso i addasu, gan liniaru’r effeithiau ar lesiant pobl (Datganiad Effaith 2)
Mae ein hymrwymiadau blynyddol ar gyfer 2025-26 yn adlewyrchu ein cyfraniad parhaus at ddatgarboneiddio prosesau diwydiannol a datblygu ffynonellau ynni carbon isel amgen, a’n gwaith ymgysylltu â datblygwyr ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr i archwilio a datblygu cynlluniau newydd, gan gynnwys ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd ffocws parhaus ar gyflawni’r Rhaglen Genedlaethol ar Fawndiroedd yn ogystal â chyflawni camau blaenoriaeth yn ein cynllun sero net, yn enwedig drwy ein gwasanaeth caffael a rheoli contractau. Eleni byddwn yn ymgorffori gwelliannau i’r system rhybuddion llifogydd newydd ar gyfer cymunedau ledled Cymru.
Nid ydym wedi cynnwys yr holl gamau i’w cymryd yng nghynllun busnes eleni. Byddwn yn parhau i reoli’r tir yn ein gofal, gan gynhyrchu pren a chreu coetiroedd newydd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, adfer mawndiroedd, ac addasu i newid yn yr hinsawdd ar draws ein holl safleoedd. Bydd ein rhaglen Adfywio yn parhau i ganolbwyntio ar leihau ein defnydd o garbon yn y fflyd ac mewn cyfleusterau, a byddwn yn parhau i gyflwyno hyfforddiant llythrennedd carbon ar draws y sefydliad.
Maes ffocws: Bod atebion ar sail natur yn cael eu mabwysiadu’n eang
Cam i’w gymryd: Ar y cyd â phartneriaid cyflenwi, adfer mawndiroedd drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, gan gynnwys ar y tir yn ein gofal, gan ddefnyddio ystod o offerynnau cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol, a gwneud gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Buddsoddi mewn meithrin gallu er mwyn galluogi cyflenwi yn 2025-26 ac ehangu’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn y dyfodol
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cynyddu nifer yr hectarau o fawndir sydd wedi bod yn lleoliad i weithgareddau adfer trwy gwblhau gweithgarwch adfer ar 600 hectar erbyn diwedd Ch4
- Cynyddu effeithiolrwydd ein mewnbwn i’r system cynllunio defnydd tir, wrth leihau effaith negyddol datblygiad ar fawndir, trwy gynhyrchu safbwynt polisi CNC ar Bolisi Cynllunio Cymru Argraffiad 12 i achosi newid yn 2026-27 erbyn diwedd Ch4
- Cryfhau’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd drwy werthuso cyflawniad y rhaglen i lywio blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf erbyn diwedd Ch2
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Ehangu’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd drwy gydweithio â phartneriaid ledled Cymru i gynyddu’r hectarau o fawndir a adferwyd
Maes ffocws: Bod atebion ar sail natur yn cael eu mabwysiadu’n eang
Cam i’w gymryd: Ysgogi’r gwaith o adfer cynefinoedd morol ac arfordirol fel morfa heli, twyni tywod, morwellt a riffau wystrys brodorol drwy weithio gyda phartneriaid cyflawni, defnyddio ystod o offer cynghori a rheoleiddio a chymhellion ariannol, a gwneud gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Cryfhau gallu a thystiolaeth i lywio blaenoriaethu gofodol er mwyn galluogi adferiad effeithiol yn y dyfodol o fewn cynefinoedd morol ac arfordirol
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cynyddu llwyddiant ac effeithlonrwydd gwaith adfer morol ac arfordirol yn nyfroedd Cymru drwy ymgynghori a chyhoeddi canllawiau ar brosiectau adfer morol ac arfordirol erbyn diwedd Ch3
- Cynyddu targedu gofodol prosiectau adfer morol ac arfordirol drwy fireinio mapiau cyfle presennol ar gyfer adfer morwellt ac wystrys brodorol erbyn diwedd Ch4
- Sefydlu partneriaeth a rhaglen adfer morfeydd heli ledled Cymru drwy ymgynnull â phartneriaid a hyrwyddo tystiolaeth allweddol erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Gweithio gydag eraill i alluogi adferiad effeithiol yn y lleoliadau cynefin morol ac arfordirol mwyaf addas
Maes ffocws: Bod atebion ar sail natur yn cael eu mabwysiadu’n eang
Cam i’w gymryd: Lliniaru effeithiau llifogydd a sychder a gwella ansawdd dŵr drwy nodi cyfleoedd ar gyfer rheoli tir a dŵr yn integredig ar raddfa’r dalgylch
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Datblygu dull dalgylch integredig yn afon Taf, gan ddefnyddio ‘Cynllun Rheoli Llifogydd Strategol Dalgylch Afon Taf’ i hwyluso gweithredu ar y cyd i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Sefydlu dull prosiect cydweithredol gydag awdurdodau rheoli risg drwy nodi cyfleoedd i wella ffyrdd o gydweithio erbyn diwedd Ch4
- Gwella cefnogaeth i’r Cynllun Rheoli Strategol drwy ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid erbyn diwedd Ch3
- Sefydlu dealltwriaeth gyffredin o’r cyfleoedd yn nalgylch afon Taf drwy gyhoeddi crynodeb lefel uchel o’r camau nesaf y cytunwyd arnynt erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Gweithredu’r dull cydweithredol ar gyfer afon Taf i ddatblygu’r prosiect ac uchelgeisiau cyffredin cymunedau
Maes ffocws: Rheoli ac addasu i risgiau’r newid yn yr hinsawdd
Cam i’w gymryd: Lleihau’r perygl i fywyd ar gyfer pobl a chymunedau o lifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr, trwy gyflwyno cynlluniau lliniaru llifogydd
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Cyflenwi prosiectau cyfalaf a chynnal lefelau amddiffyn eiddo i leihau’r perygl o lifogydd
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Lleihau perygl llifogydd i gymunedau drwy ddatblygu cynlluniau llifogydd newydd eleni yn Aberteifi, Pwllheli, Porthmadog a Dinbych-y-pysgod – bydd y rhain yn lleihau perygl llifogydd i 1,344 o eiddo yn y cymunedau hyn yn y blynyddoedd i ddod erbyn diwedd Ch4
- Diogelu dros 800 eiddo rhag llifogydd yn barhaus trwy gynnal a chadw cyfalaf anarferol ar asedau/amddiffynfeydd presennol erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Cyflenwi gwaith cyfalaf â blaenoriaeth i leihau perygl llifogydd yn unol â blaenoriaethau’r rhaglen, gan leihau’r risg a chynnal amddiffyniad rhag llifogydd i gymunedau yng Nghymru
Maes ffocws: Rheoli ac addasu i risgiau’r newid yn yr hinsawdd
Cam i’w gymryd: Lleihau’r perygl i fywyd o lifogydd drwy gyhoeddi rhybuddion llifogydd sy’n diwallu anghenion newidiol cymunedau a chynnal a gwella’r gwasanaeth rhybuddion llifogydd 24/7
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Gwella’r gwasanaeth rhybuddion llifogydd a’r system telemetreg i sicrhau arbedion effeithlonrwydd a chynnal parhad gwasanaeth i gwsmeriaid
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Darparu data telemetreg yn barhaus i bob cwsmer trwy symud i’r system telemetreg newydd, gan sicrhau ein bod yn darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi ein gwasanaethau allweddol erbyn diwedd Ch3
- Gwella’r System Gwybodaeth Rhybudd am Lifogydd newydd ar gyfer Cymru drwy ddatblygu cynllun gwella â blaenoriaeth erbyn diwedd Ch3
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Esblygu’r gwasanaeth rhybuddion llifogydd, gan ddarparu gwelliannau, gan gynnwys i gwsmeriaid, a mwy o effeithlonrwydd
Maes ffocws: Rheoli ac addasu i risgiau’r newid yn yr hinsawdd
Cam i’w gymryd: Lleihau’r perygl o lifogydd i fywyd drwy reoli ein hasedau llifogydd a’n seilwaith ar gyfer perygl llifogydd yn awr ac yn y dyfodol a chynllunio ar gyfer newid drwy gynnal ac addasu’r asedau llifogydd a’r seilwaith yr ydym yn atebol amdanynt
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Adolygu’r dull blaenoriaethu ar gyfer cynnal a rheoli asedau llifogydd i sicrhau bod ein buddsoddiad yn seiliedig ar risg
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cynyddu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y dyraniad o refeniw cynnal a chadw llifogydd arferol trwy weithredu’r Model Dyrannu Refeniw Seiliedig ar Risg, gan sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y cymunedau sydd â’r angen mwyaf erbyn diwedd Ch4
- Cynyddu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y dyraniad o fuddsoddiad asedau llifogydd trwy gyflenwi’r Prosiect Asedau sy’n Wynebu Newid, a fydd yn cefnogi ein dealltwriaeth o anghenion addasu yn y dyfodol, erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Datblygu’r strategaethau a’r offer sydd eu hangen i lywio’r ymateb hirdymor i’r angen i addasu asedau llifogydd
Maes ffocws: Bod allyriadau carbon yn cael eu lleihau
Cam i’w gymryd: Ysgogi mabwysiadu technolegau carbon isel a dal carbon amgen mewn diwydiant drwy ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol i lywio ceisiadau am ganiatâd cynllunio a/neu drwyddedau
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Datblygu cyngor, canllawiau ac offer ar gyfer technegau a seilwaith carbon isel, gan gynnwys dal carbon a hydrogen, er mwyn gwella ansawdd ceisiadau a gyflwynir gan y diwydiant a lleihau’r amser sydd ei angen i wneud penderfyniadau ar geisiadau am drwyddedau unigol
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cymeradwyo 80% o benderfyniadau trwydded neu benderfyniadau drafft yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt gyda datblygwyr trwy ymgysylltu â phob prosiect hysbys ar lwybr Penderfyniad Buddsoddi Terfynol erbyn diwedd Ch2
- Integreiddio technolegau carbon isel a systemau rheoli amgylcheddol yn well drwy gwblhau adroddiad sy’n nodi cyfleoedd i newid polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru erbyn diwedd Ch4
- Gostwng y swm o nwy tirlenwi a ryddheir yn uniongyrchol o safleoedd tirlenwi trwy gyflawni blaenoriaethau allweddol y prosiect Lleihau Allyriadau Tirlenwi erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Gweithredu newidiadau i brosesau cynllunio a thrwyddedu mewn perthynas â thechnolegau carbon isel a dal carbon amgen
Maes ffocws: Bod allyriadau carbon yn cael eu lleihau
Cam i’w gymryd: Cefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy cynaliadwy ar y môr ac ar y tir drwy ein tystiolaeth, ein cyngor a’n rheoliadau, gan feithrin dealltwriaeth gyffredin o’r safonau sy’n ofynnol yn y prosesau cynllunio a thrwyddedu statudol
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Gwella tystiolaeth, canllawiau a chyngor cyn ymgeisio i wella ansawdd cyflwyniadau ar gyfer caniatâd cynllunio a cheisiadau am drwyddedau
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cynyddu canllawiau a thystiolaeth ynni morol adnewyddadwy drwy gyflawni camau cychwynnol 40% o brosiectau canllawiau a thystiolaeth â blaenoriaeth uchel erbyn diwedd Ch4
- Gwella’r gwasanaeth morol i wella profiad y defnyddiwr drwy gyflawni 70% o’r camau gweithredu â blaenoriaeth sy’n deillio o’r Adolygiad o’r Broses Trwyddedu Morol o’r Dechrau i’r Diwedd (rhaglen tair blynedd) a datblygu beta cyhoeddus trwyddedu morol (platfform cwsmeriaid) erbyn diwedd Ch4
- Cynnal lefel gwasanaeth o 95% ar gyfer gwneud penderfyniadau am geisiadau trwyddedau ynni morol adnewyddadwy erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Cyflawni’r camau gweithredu â blaenoriaeth sy’n weddill sy’n deillio o’r Adolygiad o’r Broses Trwyddedu Morol o’r Dechrau i’r Diwedd
Maes ffocws: CNC yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer sector cyhoeddus carbon bositif
Cam i’w gymryd: Cryfhau ein hymagwedd strategol at ddatgarboneiddio drwy ddatblygu a chyflawni cynllun sero net ar gyfer y sefydliad cyfan, gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd gan bartneriaid
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Blaenoriaethu camau gweithredu sydd â’r budd cost mwyaf ar gyfer carbon deuocsid a’i gyfatebol (CO2e) / nwyon tŷ gwydr i gyflawni ein blaenoriaethu blynyddol o fewn y Cynllun Sero Net
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Asesu effaith carbon oes gyfan pob opsiwn dylunio yn ystod y cyfnod dylunio amlinellol a manwl ar gyfer pob prosiect adeiladu cyfalaf, gan ddefnyddio Offeryn Modelu Carbon ERIC Asiantaeth yr Amgylchedd i lywio dewis y dyluniad terfynol a lleihau’r ôl troed carbon, erbyn diwedd Ch3
- Asesu effaith carbon yr opsiynau o ran deunydd a’r opsiynau gweithredol yn ystod y cam adeiladu ar gyfer pob prosiect adeiladu cyfalaf sydd â gwerth contract o dros £750,000 (heb gynnwys TAW), gan ddefnyddio cyfrifiannell carbon ERIC Asiantaeth yr Amgylchedd i leihau ôl troed carbon y cynllun, erbyn diwedd Ch3
- Cynyddu canran y staff sy’n cyflawni hyfforddiant llythrennedd hinsawdd i fwy na 50% o holl staff CNC, trwy ddarparu’r Rhaglen Hyfforddiant Llythrennedd Hinsawdd a dod yn Sefydliad Carbon Llythrennog achrededig – safon Arian
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Ehangu ar gyflenwi camau blaenoriaeth o fewn y Cynllun Sero Net
Maes ffocws: CNC yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer sector cyhoeddus carbon bositif
Cam i’w gymryd: Sicrhau bod camau gweithredu ar gyfer yr hinsawdd yn cael eu gweithredu ym mhob rhan o’n cadwyni cyflenwi, ein rhaglenni grant a’n cytundebau rheoli tir drwy eu cynnwys yn ein fframweithiau caffael a chyllid
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Gweithredu Cynllun Cyflawni Sero Net Cyfoeth Naturiol Cymru 2025-30 i gyflawni camau gweithredu wedi’u blaenoriaethu y cytunwyd arnynt (sy’n ymwneud ag allyriadau Cwmpas 3 yn ein cadwyn gyflenwi)
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- 100% o ddogfennau tendro a dyfynbris caffael ffurfiol i gynnwys gofynion sy’n gysylltiedig â charbon gan gyflenwyr erbyn diwedd Ch3
- Cynnydd o 50% yn nifer y cynlluniau lleihau carbon a dderbynnir ar gyfer contractau caffael a fframweithiau CNC dros £5 miliwn neu ddatganiad allyriadau sefydliadol cyfatebol erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Gweithredu camau gweithredu â blaenoriaeth yng Nghynllun Cyflawni Sero Net CNC 2025-30 (sy’n ymwneud ag allyriadau Cwmpas 3 yn ein cadwyn gyflenwi)
Amcan Llesiant 3: Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf
Y newid rydym am ei weld erbyn 2030: llygredd yn cael ei leihau drwy reoleiddio effeithiol a diwygio deddfwriaethol, gan leihau niwed i fioamrywiaeth a llesiant pobl, a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy a defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol (Datganiad Effaith 3)
Mae ein hymrwymiadau blynyddol ar gyfer 2025-26 yn adlewyrchu ein gwaith parhaus i ymgorffori’r ddeddfwriaeth ailgylchu newydd yn y gweithle a monitro cyflawniad y rhaglen fuddsoddi newydd mewn gwelliannau amgylcheddol gan gwmnïau dŵr yn dilyn y penderfyniad terfynol o ran pris ym mis Rhagfyr 2024. Byddwn yn canolbwyntio ar ymgorffori’r newidiadau i’n dull o reoli digwyddiadau, er mwyn ein galluogi i integreiddio camau ataliol i’r ymateb i ddigwyddiadau. Ochr yn ochr â’r dulliau rheoleiddio traddodiadol hyn, byddwn yn parhau i gyflawni camau gweithredu wedi’u blaenoriaethu ar raddfa’r dalgylch ac archwilio cyfleoedd i arloesi a chydweithio â phartneriaid, drwy, er enghraifft, Brosiect Arddangos Afon Teifi. Nid ydym wedi cynnwys yr holl gamau i’w cymryd yng nghynllun busnes eleni. Er enghraifft, byddwn yn parhau i roi trwyddedau, cynnal ymweliadau cydymffurfio, ymateb i ddigwyddiadau, a, lle bo angen, cymryd camau gorfodi.
Maes ffocws: Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio
Cam i’w gymryd: Sicrhau bod y sectorau rydym yn eu rheoleiddio, gan gynnwys gweithgareddau anghyfreithlon nas caniateir, yn cymryd camau effeithiol i reoli a lleihau llygredd a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau trwy ddarparu cyngor a chanllawiau sy’n nodi’n effeithiol y safonau sy’n ofynnol i sicrhau cydymffurfedd
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Cynnal archwiliadau fferm o dan y Rheoliadau Llygredd Amaethyddol, yn unol â’r polisi cosbau gorfodi, i leihau llygredd
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cynnal lefel y gwasanaeth ar gyfer nifer yr archwiliadau cydymffurfio o dan y Rheoliadau Llygredd Amaethyddol trwy gwblhau 80% o’r 821 safle a drefnwyd (a nodir fel rhai â gweithgareddau risg uwch) erbyn diwedd Ch4
- Gwella effeithiolrwydd y dull rheoleiddio drwy gwblhau adroddiad rheoleiddio blynyddol sy’n dadansoddi’r arolygiadau a gynhaliwyd a’r camau dilynol erbyn diwedd Ch2
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd arolygiadau cydymffurfio o dan y Rheoliadau Llygredd Amaethyddol
Maes ffocws: Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio
Cam i’w gymryd: Sicrhau bod y sectorau rydym yn eu rheoleiddio, gan gynnwys gweithgareddau anghyfreithlon nas caniateir, yn cymryd camau effeithiol i reoli a lleihau llygredd a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau trwy ddarparu cyngor a chanllawiau sy’n nodi’n effeithiol y safonau sy’n ofynnol i sicrhau cydymffurfedd
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Cynnal ymweliadau cydymffurfio â safleoedd a reoleiddir â blaenoriaeth i leihau llygredd
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cyflawni 95% o doriadau cydymffurfio Categori 1 a Chategori 2 yn barhaus, yn amodol ar ymdrech gydymffurfio bellach (cam gweithredu neu adolygiad) o fewn chwe mis, erbyn diwedd Ch4
- Gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwaith cydymffurfio drwy gynhyrchu adroddiad rheoleiddio blynyddol gydag argymhellion ar gyfer gwella erbyn diwedd Ch2
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ymweliadau cydymffurfio
Maes ffocws: Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio
Cam i’w gymryd: Lleihau llygredd a gwastraff trwy weithio ar y cyd â diwydiant ac eraill i nodi sut mae angen i ddeddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru newid
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Gweithredu gweithgareddau rheoleiddio wedi’u targedu ar gyfer sectorau busnes allweddol a darparwyr gwasanaethau gwastraff i wella cydymffurfedd â’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Ymgorffori’r model cyflawni busnes fel arfer ar gyfer ailgylchu yn y gweithle trwy ddatblygu a gweithredu’r cynllun gwaith rheoleiddio erbyn diwedd Ch2
- Cynnal canran y busnesau sydd o fewn sectorau blaenoriaeth sy’n cydymffurfio â’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle drwy werthuso data arolygiadau chwarterol erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Integreiddio darpariaeth ailgylchu yn y gweithle i ddarpariaeth reoleiddiol i alinio’n effeithiol ag uchelgais Llywodraeth Cymru a’r cyllid sydd ar gael
Maes ffocws: Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio
Cam i’w gymryd: Gwarchod yr amgylchedd a gwella perfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr trwy herio eu rhaglenni buddsoddi yn effeithiol i sicrhau camau i wella
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Darparu her a chyngor i gwmnïau dŵr i sicrhau bod eu rhaglenni buddsoddi yn lleihau risgiau ac effeithiau eu gweithrediadau ar yr amgylchedd
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Monitro buddsoddiad arfaethedig cwmnïau dŵr yng Nghynllun Rheoli Asedau 8 drwy olrhain cyflawniad Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol y cwmnïau dŵr a dechrau gweithio gyda’r sector dŵr i sefydlu blaenoriaethau ar gyfer Adolygiad Pris 29 erbyn diwedd Ch4
- Cynyddu effeithiolrwydd cynlluniau sychder y tri chwmni dŵr drwy roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar ddigonolrwydd eu Datganiad o Ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus erbyn diwedd Ch3
- Asesu ansawdd a dibynadwyedd gweithdrefnau hunanfonitro cwmnïau dŵr a nodi meysydd i’w gwella trwy gyflwyno archwiliad monitro gweithredwyr erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Parhau â’r gwaith parhaus i olrhain datblygiad y ddarpariaeth gan gwmnïau dŵr a ddisgwylir erbyn 2026-27
Maes ffocws: Defnydd effeithiol o offer a dulliau rheoleiddio
Cam i’w gymryd: Lleihau llygredd mewn dyfroedd gwarchodedig iawn a dynodedig trwy nodi’r camau gweithredu sy’n ofynnol gan ystod o sectorau
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Gosod yr uchelgais ar gyfer gwella ansawdd dŵr ar raddfa dalgylch er mwyn meithrin cydweithrediad a chyflenwi camau gweithredu â blaenoriaeth
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cynyddu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o achosion o fethiant cyrff dŵr (Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)), trwy gwblhau 35 o ymchwiliadau i fethiannau ansawdd dŵr yn ACAau Gwyrfai, Eden, Dyfrdwy ac Irfon, a 75 o ymchwiliadau i fethiannau ansawdd dŵr yng nghyrff dŵr y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn unig, erbyn diwedd Ch4
- Cryfhau gwydnwch dyfroedd gwarchodedig iawn a dyfroedd dynodedig i bwysau, gan gynnwys pwysau o ran ansawdd dŵr, trwy wella/adfer 150 km o afonydd fel rhan o brosiectau partneriaeth CNC (LIFE Afon Dyfrdwy, 4 Afon LIFE, a phrosiectau a ariennir gan y Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd) erbyn diwedd Ch4
- Gweithredu’n well ar faterion yn ymwneud â maethynnau mewn ACAau morol drwy gwblhau cynllun gweithredu â blaenoriaeth erbyn diwedd Ch3
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Cynnal ymchwiliadau pellach i ffactorau sy’n achosi methiannau mewn cyrff dŵr er mwyn llywio camau gweithredu yn y dyfodol
Maes ffocws: Ymateb i ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar risg
Cam i’w gymryd: Lleihau niwed o ddigwyddiadau llygredd amgylcheddol trwy baratoi ar gyfer ac ymateb i ddigwyddiadau blaenoriaeth fel ymatebwr Categori 1
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Ymgorffori newidiadau i’r dull rheoli digwyddiadau a ffyrdd o weithio i alluogi ymateb â blaenoriaeth i ddigwyddiadau, gan ganolbwyntio adnoddau ar y rhai sy’n achosi’r niwed mwyaf
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Sefydlu dealltwriaeth o ail-gydbwyso adnoddau, o ymateb i ddigwyddiadau effaith isel i gamau gweithredu wedi’u cynllunio mewn cynlluniau gwasanaeth perthnasol (dŵr, tir a bioamrywiaeth, er enghraifft), trwy olrhain cynnydd ac adolygu gweithdrefnau
- Cynnal lefel y gwasanaeth ar gyfer adolygu a chofnodi ymateb i ddigwyddiadau a gategoreiddiwyd fel rhai o ‘frys mawr’ gan y Ganolfan Cyfathrebu Digwyddiadau o fewn pedair awr ar 95%
- Cynyddu’r broses o gau adroddiadau digwyddiadau o fewn 30 diwrnod drwy ddefnyddio gwybodaeth reoli yn fwy effeithiol
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Gwneud gwelliannau i’r gwasanaeth rheoli digwyddiadau
Maes ffocws: Ymateb i ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar risg
Cam i’w gymryd: Lleihau’r niwed o sectorau penodol ac o fewn ardaloedd daearyddol penodol trwy ddefnyddio tystiolaeth i gymryd camau i wella cydymffurfedd
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Gwella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n sbarduno digwyddiadau llygredd ledled Cymru er mwyn llywio’r camau gweithredu sydd eu hangen i leihau llygredd a sicrhau bod ein hymateb i ddigwyddiadau wedi’i dargedu ac yn effeithiol i gefnogi’r nod hwnnw
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cynyddu ein gwybodaeth am achosion o lygredd (niferoedd digwyddiadau, mathau, lleoliadau, effeithiau a dyrannu adnoddau) drwy gynhyrchu adroddiad dadansoddi manwl (erbyn diwedd Ch2) a llywio meysydd ffocws, strategaethau a chamau gweithredu erbyn diwedd Ch4
- Mwy o gyfleoedd i integreiddio camau ataliol i’r strategaeth rheoli digwyddiadau drwy:
(a) datblygu papur opsiynau a
(b) gwneud penderfyniadau yng ngrwpiau busnes CNC ar flaenoriaethau - Gwella ein hymateb i wahanol fathau o ddigwyddiadau amgylcheddol drwy gwblhau gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer materion amgylcheddol allweddol
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Gwella’r ymateb i reoli digwyddiadau yn barhaus drwy gwblhau camau gweithredu â blaenoriaeth o’r strategaeth rheoli digwyddiadau
Maes ffocws: Ymateb i ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar risg
Cam i’w gymryd: Lleihau’r niwed o droseddau amgylcheddol difrifol trwy ymchwilio i ddigwyddiadau a chymryd camau cryf a phendant
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Cynnal ymchwiliadau a chamau gorfodi i leihau niwed amgylcheddol
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cynnal lefel y gwasanaeth ar y penderfyniad ar ymatebion gorfodi priodol o fewn tri mis ar 95% erbyn diwedd Ch4
- Gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaeth drwy gyflwyno’r Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol (erbyn diwedd Ch2) ac adroddiadau chwarterol ar drechu troseddau gwastraff (pob chwarter)
- Gwell effeithlonrwydd a ffocws ar ymatebion gorfodi drwy weithredu camau gweithredu â blaenoriaeth yn y strategaeth gorfodi ac archwiliad gorfodi mewnol erbyn diwedd Ch2 a Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Gwneud gwelliannau i’r gwasanaeth drwy gyflawni camau gweithredu â blaenoriaeth o’r strategaeth gorfodi ac archwiliad gorfodi mewnol
Maes ffocws: Ymateb i ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar risg
Cam i’w gymryd: Lleihau’r niwed o wastraff anghyfreithlon drwy gymryd camau gydag awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector i atal tipio anghyfreithlon
Commitment for 2025-26: Cryfhau ffyrdd o weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector i wneud y mwyaf o weithredu ar y cyd ar dipio anghyfreithlon
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Gwell ffyrdd o weithio ar dipio anghyfreithlon rhwng CNC ac asiantaethau partner drwy gyhoeddi protocol tipio anghyfreithlon wedi’i ddiweddaru (erbyn diwedd Ch3) a threialu un cytundeb lleol (erbyn diwedd Ch4)
- Ymyriadau cydweithredol parhaus i leihau achosion o dipio anghyfreithlon drwy sefydlu tri grŵp gwaith partneriaeth rhanbarthol newydd erbyn diwedd Ch3
- Gwell tystiolaeth o dipio anghyfreithlon a’i fonitro a’i werthuso’n fwy effeithiol drwy ddefnyddio offer a systemau a rennir (e.e. Power BI, WasteDataFlow, FlyMapper); mwy o ymwybyddiaeth am dipio anghyfreithlon a gwell ataliaeth ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru drwy gymryd camau gorfodi
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Cynnal prosiectau partneriaeth ac ymyriadau lleol effeithiol i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, gan fanteisio ar ffyrdd gwell o weithio rhwng rhanddeiliaid o dan y protocol tipio anghyfreithlon wedi’i ddiweddaru a gweithgorau rhanbarthol
Trawsbynciol
Camau i’w cymryd:
- Nodi cyfleoedd i wneud y gorau o weithredu ac effaith gyfunol y sector cyhoeddus drwy ddefnyddio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal i weithio gyda’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol
- Cynnwys gwahanol gymunedau a sectorau yn ein gwaith, trwy gymhwyso mewnwelediadau ymddygiadol i lywio ein dulliau gweithredu
- Sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu dros fyd natur drwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad
Ymrwymiad ar gyfer 2025-26: Dadlau dros a chefnogi’r defnydd o’r dystiolaeth ddiweddaraf am hinsawdd, natur a llygredd (gan gynnwys yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol interim ar gyfer 2025) wrth wneud penderfyniadau ymhlith ein partneriaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector er mwyn hwyluso dull cydweithredol o gyflawni
Mesurau allweddol i’w cyflenwi:
- Cynyddu’r wybodaeth ymhlith cyrff sector a rhanddeiliaid ehangach ynghylch sut i wneud y gorau o weithredu ar y cyd ar natur, hinsawdd a llygredd drwy gyhoeddi fersiwn olaf o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 erbyn diwedd Ch3
- Ymgysylltu a chydweithio mwy â phartneriaid drwy greu offer ymgysylltu a chefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gan ddefnyddio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal yn eu gwaith cynllunio ac wrth wneud penderfyniadau erbyn diwedd Ch4
Cam nesaf ar gyfer 2026-27: Cyflymu’r broses ac ehangu graddfa ymateb y sector cyhoeddus i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur