Crynodeb gweithredol

Croeso i’n Hadroddiad Blynyddol ar y Gymraeg ar gyfer 2024-2025 sy’n amlinellu sut rydym wedi cydymffurfio â’n Safonau’r Gymraeg, gwella a hyrwyddo ein gwasanaethau iaith Gymraeg.

Yn ystod y flwyddyn adrodd, rydym wedi cryfhau rhai o'n gwasanaethau Cymraeg, wedi gwella prosesau mewnol, ac wedi ehangu cyfleoedd i'r cyhoedd a chydweithwyr ddefnyddio'r iaith gyda ni. Cefnogwyd y cynnydd hwn drwy ein hymgysylltiad â Chomisiynydd y Gymraeg wrth weithredu systemau newydd a'n cefnogaeth barhaus i'n cydweithwyr sy'n datblygu eu sgiliau iaith ar bob lefel.

Mae ein cydymffurfiaeth gyffredinol wedi parhau i fod yn uchel, gyda 3 maes wedi'u nodi yn yr adroddiad fel meysydd o ddiffyg cydymffurfio sydd angen eu gwella er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lawn. Mae camau gweithredu wedi'u nodi yn ein Cynllun Gweithredu’r Gymraeg i fynd i'r afael â'r rhain.

Mae ein gwaith yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg yn dechrau dangos cynnydd o ran y defnydd o'n gwasanaethau, yn enwedig ein gwasanaethau digidol a gwasanaethau hwb cwsmeriaid.

Rydym yn parhau i gefnogi nodau Cymraeg 2050 i gynyddu cyfleoedd i'r cyhoedd a chydweithwyr ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd ar eu bywydau yn fewnol ac yn allanol.

Uchafbwyntiau Allweddol yr adroddiad:

  • Mwy o ddefnydd o wasanaethau Cymraeg:
    Cynyddodd galwadau Cymraeg i'r Hwb Cwsmeriaid 80%, ac ymweliadau â thudalennau gwe Cymraeg gan fwy nag 81,000 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

  • Systemau digidol a recriwtio wedi’u cryfhau:
    Cyflwynwyd system e-recriwtio newydd, cwbl ddwyieithog, ochr yn ochr â mabwysiadu Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd (CEFR) yn gynnar, gan wella cysondeb wrth asesu sgiliau iaith Gymraeg.

  • Mwy o allbwn cyfieithu:
    Cyfieithwyd 3.4 miliwn o eiriau, cynnydd o 1 filiwn o'r flwyddyn flaenorol, gyda'r Tîm Cyfieithu yn cefnogi cydymffurfiaeth a chreu cynnwys gwreiddiol Cymraeg.

  • Gwell dewis iaith mewn gwasanaethau allweddol:
    Gwelodd ein Gwasanaeth Rhybuddio Llifogydd gynnydd yn nifer y cwsmeriaid sy'n dewis derbyn cyfathrebu yn Gymraeg, 163 o'i gymharu â 23 ar gyfer y gwasanaeth blaenorol.

  • Cynyddu gallu iaith a defnydd mewnol o'r Gymraeg:
    Mae 139 o gydweithwyr wedi cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau iaith, mae 76% o'n gweithlu wedi cwblhau ein hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg, ac mae menter newydd Clwb Clebran yn cefnogi defnydd bob dydd o'r Gymraeg yn ein gweithle.

Cyflwyniad

Daeth Safonau’r Gymraeg i rym ar gyfer CNC ar 25 Ionawr 2017, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac fe’u rheoleiddir gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.

Mae’r safonau sy’n ofynnol inni gydymffurfio â nhw mewn pedwar categori:

  • Safonau Gwasanaeth - y gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu darparu ar gyfer y cyhoedd.
  • Safonau Polisi - sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o’r broses benderfynu trwy gynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau bod y penderfyniad yn cael effaith gadarnhaol yn hytrach nag effaith niweidiol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg neu ei fod yn cynyddu’r cyfleoedd i’w defnyddio.
  • Safonau Gweithredol - hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg yn ein prosesau gweinyddol mewnol.
  • Safonau Cadw Cofnodion - cadw cofnodion ar gyfer cydymffurfio â gofynion y safonau mewn meysydd megis sgiliau iaith Gymraeg cydweithwyr, hyfforddiant, cwynion a recriwtio.

Mae ein Safonau’r Gymraeg yn gofyn i ni gynhyrchu Adroddiad Blynyddol sy’n dangos sut rydym wedi cydymffurfio â’r safonau a’r gwaith rydym wedi’i gynnal i wella ein gwasanaethau Cymraeg yn ystod pob blwyddyn adrodd.

Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol

Mae gennym ddyletswydd statudol hefyd i ymgynghori â’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol ac ymgynghori ac ychwanegu at y Rhestr hon. Mae Rhestr yn adnodd sy'n cynnwys cannoedd ar filoedd o enwau lleoedd a gasglwyd o fapiau hanesyddol a ffynonellau eraill ac yn darparu cipolwg ar ddefnydd tir, archaeoleg a hanes Cymru. Fel rhan o'r ddyletswydd hon, mae'n ofynnol i ni gyflwyno adroddiad gweithgarwch ar ein gweithrediad o’r ddyletswydd ar gyfer pob blwyddyn adrodd.

Y broses lywodraethu ar gyfer cymeradwyo ein hadroddiad gweithgarwch blynyddol yw cyflwyno'r adroddiad llawn i'r Pennaeth Pobl sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, ynghyd â chynnwys crynodeb o'r adroddiad gweithgarwch yn ein Hadroddiad Blynyddol Iaith Gymraeg. Bydd y Grŵp Busnes Gwasanaethau Corfforaethol a'r Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid yn cefnogi ac yn cymeradwyo'r adroddiad cyn ei gyflwyno i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a'i gyhoeddi ar ein gwefan.

Trefniadau Goruchwylio Cydymffurfiaeth â Safonau

Caiff cydymffurfiaeth â’n Safonau ei monitro gan Gynghorydd Arbenigol Arweiniol y Gymraeg, a thynnir sylw ein Pennaeth Pobl, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Cyfleusterau a’r Fflyd at unrhyw risgiau fel y gellir eu trafod gyda Rheolwyr a’u hegluro yng nghyfarfodydd y Grŵp Pencampwyr.

Y Pennaeth Pobl sydd â chyfrifoldeb cyffredinol ac mae’n goruchwylio gweithrediad y polisi ar draws y sefydliad.

Dros y flwyddyn adrodd hon roedd Grŵp Pencampwyr yr Iaith Gymraeg yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'n Cyfarwyddiaethau gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol, Pennaeth Pobl, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru a Phrif Gynghorydd Prosiectau Strategol. Bydd y Pencampwyr yn codi unrhyw faterion o ddiffyg cydymffurfio gyda Chynghorydd Arbenigol Arweiniol y Gymraeg yn y cyfarfodydd chwarterol.

Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar y Gymraeg yn dilyn ein proses Lywodraethu Fewnol o gymeradwyaeth gan ein Grŵp Busnes Gwasanaethau Corfforaethol a chymeradwyaeth gan ein Pwyllgor Pobl cyn ei gyhoeddi.

Materion a Gododd yn ystod y Flwyddyn Adrodd

Cynllun Hyrwyddo Cydymffurfiaeth Comisiynydd y Gymraeg 2025-2026

Fel rhan o Gynllun Hyrwyddo Cydymffurfiaeth y Comisiynydd, rydym wedi derbyn canllawiau a chefnogaeth i helpu i wella cydymffurfiaeth a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i'r cyhoedd. Dros y flwyddyn adrodd hon, rydym wedi:

  • Cwblhau arolygon monitro chwarterol
  • Cyflwyno holiadur hunanasesu ar ein cydymffurfiaeth â'r safonau
  • Cymryd rhan mewn astudiaethau thematig
  • Ymateb i linell ymholiad allweddol ar drin cwynion
  • Mynychu digwyddiadau a drefnwyd gan y Comisiynydd drwy gydol y flwyddyn

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, cawsom wahoddiad i roi cyflwyniad mewn 3 digwyddiad a gynhaliwyd gan y Comisiynydd, lle gwnaethom rannu arfer da ar ein polisi a'n proses wrth drin cwynion Cymraeg a'n dull o hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg gyda'r nod o gynyddu’r defnydd ohonynt.

Oherwydd ein bod wedi mabwysiadu fframwaith CEFR yn rhagweithiol, gwahoddwyd ein Rheolwr Adnoddau Strategol i gymryd rhan mewn grŵp trafod yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyflwyno'r fframwaith. Rhannodd ein profiad o ddefnyddio'r fframwaith i gefnogi dull mwy eglur a chyson o asesu sgiliau Cymraeg wrth recriwtio.

Hunanasesiad o gydymffurfiaeth â’n safonau a risgiau o beidio â chydymffurfio

Fel rhan o Gynllun Hyrwyddo Cydymffurfiaeth Comisiynydd y Gymraeg 2025-2026, gwnaethom gwblhau hunanasesiad o'n cydymffurfiaeth â'r safonau gyda thystiolaeth i gefnogi ein hasesiad erbyn Ionawr 2026.

Mae'r broses yn ein galluogi i adolygu ein cydymffurfiaeth yn fanwl a datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â meysydd i'w gwella neu eu monitro'n agosach. Rhannwyd y camau gweithredu yr ydym yn bwriadu eu cymryd gyda'r Comisiynydd fel rhan o'n hymateb.

Fel rhan o'r broses hon nodwyd bod wyth maes heb fod yn cydymffurfio'n llawn, sy'n gofyn am weithredu pellach i wella ein cydymffurfiaeth. Nodwyd dau faes o ddiffyg cydymffurfio hefyd fel a ganlyn:

Diffyg cydymffurfio â Safon 146


Mae Safon 146 yn mynnu ein bod yn cofnodi nifer a chanran y cydweithwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau a restrwyd o dan Safon 124 yn y Gymraeg. Er bod cyrsiau ar gael yn Gymraeg ar ein System Rheoli Dysgu (LMS), oherwydd swyddogaeth ddwyieithog y system, gall cydweithwyr newid eu dewis iaith ar unrhyw adeg o fewn y cwrs. Oherwydd y swyddogaeth hon, nid ydym yn gallu cofnodi nifer y cydweithwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau yn Gymraeg fel y mae Safon 146 yn mynnu.

Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae ein Tîm Dysgu a Datblygu, ar hyn o bryd, yn edrych ar opsiynau o ran sut y gallai cydweithwyr gadarnhau ym mha iaith y cwblhawyd y cwrs. Os bydd hyn yn llwyddiannus, caiff ei weithredu yn ystod y flwyddyn adrodd nesaf. Bydd hyn yn ein galluogi i adrodd ar Safon 146 a chydymffurfio â hi.

Diffyg cydymffurfio â Safon 56


Mae DEFRA yn gweinyddu'r Gwasanaeth Pysgota â Gwialen ar ein rhan. Mae’r gwasanaeth ei hun yn darparu dewis iaith i gwsmeriaid ar Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), ond mae'r tudalennau glanio ar gyfer y gwasanaeth, sy'n ffurfio rhan o brofiad y defnyddiwr pysgotwyr cyn cyrchu'r gwasanaeth, yn parhau i fod yn Saesneg yn unig. Rheolir y tudalennau hyn gan GDS yn uniongyrchol. Mae DEFRA wedi cefnogi'r achos defnyddiwr i GDS ddarparu'r cynnwys yn ddwyieithog, ac wedi helpu i gydlynu darpariaeth y cyfieithiadau Cymraeg. Rydym yn dibynnu ar GDS i ddiweddaru'r tudalennau hyn, ac wedi cael sicrwydd bod eu gwaith ar amser.

Rydym yn parhau i gael cyfarfodydd chwarterol gyda DEFRA i drafod gallu'r gwasanaeth yn Gymraeg.

Mae'r holl feysydd a nodwyd fel rhai sy'n gofyn am weithredu pellach i wella cydymffurfiaeth, neu ddiffyg chydymffurfio, wedi'u hychwanegu at Gynllun Gweithredu'r Iaith Gymraeg.

Diffyg cydymffurfio â Safon 56 - Uwchraddio Parcio Ceir


Yn ogystal â chanfyddiadau'r hunanasesiad, yn dilyn gweithredu'r system parcio newydd a uwchraddiwyd yn ddiweddar mewn rhai o'n safleoedd, nodwyd bod y cymorth y mae'r cyflenwr yn ei ddarparu i gwsmeriaid ar-lein, a dros y ffôn, os bydd ymholiadau yn Saesneg yn unig.

Mae ein cydweithwyr yn yr Hwb Cwsmeriaid wedi bod yn cefnogi aelodau o'r cyhoedd gyda materion yn eu dewis iaith. Mae ein gwefan hefyd wedi'i diweddaru i gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i gefnogi cwsmeriaid wrth ddefnyddio'r system.

Gellir defnyddio'r peiriannau talu a'r ap Ring Go yn Gymraeg, ynghyd â'r holl arwyddion. Mae'r holl ohebiaeth, neu allbynnau o'r systemau ar gyfer y cyhoedd, yn ddwyieithog. Cynhelir cyfarfod ym mis Mehefin lle bydd y mater hwn yn cael ei drafod a pha mesurau lliniaru pellach y gallwn eu rhoi ar waith mewn perthynas â'r mater hwn o ddiffyg cydymffurfio.

Gweithredu ein Safonau Cyflenwi Gwasanaethau a’u gwella

Gwasanaethau’r Tîm cyfieithu

Mae'r Tîm Cyfieithu yn parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i'r sefydliad, gan gefnogi cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg a galluogi mwy o ddefnydd mewnol o'r Gymraeg.

Dros y flwyddyn adrodd mae’r tîm wedi cyfieithu:

  • 1.6 miliwn o eiriau yn fewnol (gostyngiad o 102,237 gair ers y flwyddyn adrodd ddiwethaf)
  • 1.8 miliwn o eiriau yn allanol (cynnydd o 818,718 gair ers y flwyddyn adrodd ddiwethaf)
  • Cyfieithwyd cyfanswm o 3.4 miliwn o eiriau dros y flwyddyn adrodd hon (716,481 yn fwy na'r flwyddyn adrodd diwethaf)
  • Bellach mae 5 miliwn o eiriau wedi'u cynnwys yn ein system cof cyfieithu (cynnydd o 2 filiwn o eiriau ers y flwyddyn adrodd ddiwethaf)

Mae gwaith y tîm wedi cynyddu ac mae cefnogaeth y system cof cyfieithu, bellach yn ei drydedd flwyddyn, yn helpu i sicrhau effeithlonrwydd a chysondeb cynyddol.

Am hanner y flwyddyn adrodd hon roedd y tîm yn gweithio gyda 25% yn llai o gapasiti. Mae newidiadau yng nghapasiti'r tîm wedi digwydd yn ystod rhan olaf y flwyddyn adrodd hon, gyda dau Gyfieithydd rhan-amser wedi’u recriwtio yn ddiweddar i lenwi swyddi gwag hirsefydlog, ac Uwch Gyfieithydd newydd a fydd yn dechrau ym mis Mehefin. Mae'r tîm wedi cynnal lefelau uchel o gefnogaeth ar gyfer anghenion Cymraeg cydweithwyr wrth weithio ar draws y sefydliad hefyd i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hymgorffori, ac yn cael yr amlygrwydd dyladwy ym mhob un o weithgareddau CNC. Bydd cael gallu cyfieithu ychwanegol yn fewnol yn darparu mwy o wydnwch o fewn y tîm, a llai o ddibyniaeth ar gyfieithwyr allanol.

Mae'r gwaith cyfieithu yn canolbwyntio'n bennaf ar gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, a rhywfaint o Gymraeg i'r Saesneg. Mae'r Tîm Cyfieithu yn parhau i weithio'n rhagweithiol gyda thimau ar draws y sefydliad i greu cynnwys gwreiddiol Cymraeg a darparu cyngor ar integreiddio'r Gymraeg mewn prosiectau. Mae hyn wedi cefnogi cynhyrchu ystod eang o allbynnau Cymraeg, gan gynnwys podlediadau, blogiau, fideos, barddoniaeth a rhyddiaith.

Cais am wasanaeth cyfieithu ar y pryd

Dros y flwyddyn adrodd hon gwnaed 33 o geisiadau, gyda rhai o’r ceisiadau hyn am fwy nag un digwyddiad.

Roedd yr ystadegau fel a ganlyn:

  • 13 cais am gyfieithu ar y pryd ar y lleoliad (o'i gymharu â 15 y llynedd)
  • 20 cais am gyfieithu ar y pryd dros Teams (o'i gymharu â 10 y llynedd)

Mae'r ffigurau uchod yn adlewyrchu'r cynnydd mewn cyfarfodydd a gynhelir ar Timau. Mae'r newid hwn wedi arwain at lawer mwy o alw ar gyfleusterau cyfieithu ar y pryd, a gall cyflawni rhai cyfarfodydd mewn ardaloedd gwledig fod yn heriol, gyda chyfieithwyr ar y pryd llawrydd yn fwy abl i ddewis a dethol eu gwaith. Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol dros ben ar y cyfan. Bydd y tîm yn parhau i fonitro datblygiadau yn y sector ac addasu yn unol â hynny.

Ochr yn ochr â chyfieithu, mae'r tîm yn hyrwyddo gwasanaethau gwirio iaith, gan annog cydweithwyr i ddefnyddio’u sgiliau iaith Gymraeg a’u datblygu. Nid yw'r ffigurau a adroddwyd yn cofnodi nifer uchel y tasgau cyfieithu byr sy'n cael eu trin yn ddyddiol, na'r gwaith ychwanegol helaeth a wneir, gan gynnwys prawfddarllen, sicrhau ansawdd a chymorth ymgynghorol. Mae'r tîm hefyd wedi cyfrannu at enwi llwybrau a safleoedd, ac at brawfddarllen a chymeradwyo arwyddion a deunyddiau sy'n wynebu cyhoedd. Mae llawer o’r rhain yn cael ei gyflwyno drwy lwyfannau digidol.

Mae'r tîm hefyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau i bartneriaid allanol, gan gynnwys gwaith ar brosiectau penodol sy'n cynnwys sefydliadau fel Awdurdod Adfer Mwyngloddio ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr.

Mae rhagor o fanylion am waith y Tîm Cyfieithu yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn.

System e-recriwtio

Lansiwyd system e-recriwtio newydd ym mis Medi 2025. Cael system a oedd yn gweithredu'n ddwyieithog oedd un o'r prif ystyriaethau yn y broses gaffael er mwyn bodloni gofynion Safonau'r Gymraeg yn ymwneud â recriwtio. Mae'r system yn galluogi ymgeiswyr i gwblhau pob cam o'r broses recriwtio yn eu dewis iaith, gan ddarparu profiad iaith cyson a chynhwysol.

Gyda gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 a chynlluniau i gyflwyno'r defnydd o fframwaith CEFR ar gyfer asesu a disgrifio gallu o ran y Gymraeg ar draws sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Rydym wedi dilyn dull ragweithiol wrth gyflwyno'r fframwaith yn ein system recriwtio newydd. Bydd y fframwaith hwn yn dod â chysondeb i'r modd y caiff sgiliau Cymraeg eu hasesu a'u disgrifio ledled y sector cyhoeddus maes o law.

Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddiweddaru MyNRW gyda fframwaith CEFR er mwyn galluogi cydweithwyr i ailasesu a chofnodi eu sgiliau iaith. Bydd hyn yn cefnogi cydymffurfiaeth â Safon y Gymraeg 123 ac yn rhoi data mwy cywir i ni am sgiliau Cymraeg y sefydliad at ddibenion cynllunio, adrodd ac archwilio'r gweithlu. Rydym yn bwriadu gofyn i bob cydweithiwr ddiweddaru eu sgiliau yn ystod haf/hydref 2026 a monitro cwblhau'r gofyniad gorfodol hwn.

Canllawiau a hyfforddiant caffael

Datblygwyd hyfforddiant ar ein prosesau caffael ar gyfer cydweithwyr sy'n cynnwys gofynion Safonau'r Gymraeg. Bydd hyn yn helpu i ymgorffori ystyriaethau iaith Gymraeg yn ein prosesau wrth gaffael gwasanaethau gan drydydd parti.

Darperir canllawiau ar Ystyriaethau’r Gymraeg yn ein proses gaffael i gefnogi cydweithwyr i bennu'r gwasanaethau Cymraeg y mae'n rhaid i gyflenwyr eu darparu a sut y dylid darparu'r rhain. Mae hyn yn cefnogi cydymffurfiaeth drwy sicrhau bod gwasanaethau perthnasol trydydd parti yn bodloni Safonau'r Gymraeg.

Prynu Trwydded Pysgota â Gwialen

Mae'r gwasanaeth Trwydded Pysgota â Gwialen yn cael ei weinyddu ar ein rhan gan DEFRA gyda chefnogaeth ein Tîm Cyfieithu i sicrhau cydymffurfiaeth â'n Safonau'r Gymraeg.

Ym mis Hydref 2025, y gwasanaeth trwydded pysgota â gwialen oedd gwasanaeth cyntaf y llywodraeth i gynnig adnewyddu blynyddol awtomatig trwy optio-i-mewn trwy daliadau sy’n ailadrodd Gov pay. Mae'r gwasanaeth yn integreiddio i'r prif wasanaeth ac ar gael yn Gymraeg o'r cychwyn. Mae'r holl gyfathrebu ysgrifenedig a dderbynnir gan bysgotwyr yn ddwyieithog i bysgotwyr sydd â chyfeiriad post yng Nghymru.

Dros y flwyddyn adrodd hon gwnaed newidiadau bach rheolaidd i gynnwys presennol er mwyn gwella eglurder i gwsmeriaid yn dilyn adborth, gyda phob newid i’r cynnwys wedi'i ddiweddaru'n ddwyieithog. Mae enghreifftiau o welliannau wedi cynnwys:

  • Cymhwysedd ar gyfer trwyddedau i bobl anabl
  • Datganiad ychwanegol yn gofyn i gwsmeriaid gadarnhau bod y wybodaeth y maent wedi'i chyflwyno yn gywir a sicrhau eu bod yn deall y bydd darparu gwybodaeth anghywir yn fwriadol yn golygu nad yw eu trwydded yn ddilys.
  • Diweddaru cynnwys ar gyfer pobl iau, gan egluro sut y byddant yn derbyn nodiadau atgoffa dyddiad daw trwydded i ben
  • Cyfieithu telerau ac amodau Arolwg Ordnans sydd ar gael o ddolen yn y troedyn
  • Cynnwys i egluro mai llythyr yw trwydded bost bellach, yn hytrach na'r cerdyn hen-arddull wedi'i orchuddio â phlastig

Hyrwyddo tudalennau Cymraeg ein gwefan

Mae'r mwyafrif o'r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gael ar ein gwefan. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ar-lein yn Gymraeg, ac annog defnydd ohonynt, mae ein gwefan yn cynnig dewis iaith rhagweithiol a go iawn i gwsmeriaid ar ddechrau eu taith fel y dangosir isod:

Mae pob tudalen yn cynnwys togl Cymraeg ar y brig fel bod defnyddwyr yn gallu newid eu dewis iaith drwy gydol eu taith ar ein gwefan.

Data ar ddefnydd ein gwasanaethau Cymraeg

Dymuniad Comisiynydd y Gymraeg yw gweld cynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg, yn cael ei gefnogi gan ddata i fonitro tueddiadau, helpu i nodi unrhyw rwystrau a thargedu ymyriadau. Ochr yn ochr â hyn, mae’n bwysig canolbwyntio ar bwysigrwydd hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau Cymraeg ac annog mwy o ddefnydd ohonynt.

Er mwyn ein helpu i ddeall mwy am y defnydd o'n gwasanaethau Cymraeg, rydym wedi dechrau edrych yn fwy manwl ar ddata ar gyfer ein gwasanaethau a ddefnyddir fwyaf, a monitro hyn wrth symud ymlaen:

Hwb cwsmeriaid

Mae’r Hwb Cwsmeriaid yn delio â phob ymholiad cyffredinol ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm.

Yn ystod y flwyddyn adrodd ymdriniodd yr hwb â:

  • Chyfanswm o 16,328 o alwadau
  • Ymdriniwyd â 1,646 (10%) o alwadau yn Gymraeg
  • Ymdriniwyd â 14,682 (90%) o alwadau yn Saesneg
  • Roedd cynnydd o 730 (80%) mewn galwadau Cymraeg o'i gymharu â'r flwyddyn adrodd ddiwethaf

Gwelodd yr hwb gynnydd sylweddol mewn galwadau sy'n gysylltiedig â'n gwarchodfeydd natur a dyddiau allan, gan gynnwys cau ein canolfannau ymwelwyr yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru sy'n cyfrif am y cynnydd mewn galwadau Cymraeg yn ystod y flwyddyn adrodd hon, yn ein barn ni.

Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau

Mae ein Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau (ICC) yn wasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd i roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ac mae ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau yn rhoi dewis iaith rhagweithiol i bob galwr.

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon:

  • Ymdriniwyd â chyfanswm o 13389 o alwadau gan y ganolfan
  • Ymdriniwyd â 359 (3%) o alwadau yn Gymraeg, sef yr un nifer â'r flwyddyn flaenorol.
  • Ymdriniwyd â 13030 (97%) o alwadau yn Saesneg

Mae’r ICC hefyd yn darparu’r gwasanaeth Cymraeg ar gyfer Floodline UK, a drosglwyddwyd i ni yn 2024. Ymdriniwyd â 91 o alwadau ar y llinell hon.

Mae'r gwasanaeth Cymraeg y mae ein Hwb Cwsmeriaid ac ICC yn ei ddarparu yn cael ei hyrwyddo ar ein gwefan gyda'r nod o gynyddu’r defnydd ohonynt. Mae tystiolaeth o flynyddoedd adrodd blaenorol yn dangos defnydd cynyddol o'n llinellau ymholiadau Cymraeg pan fo'n gwaith neu ymgyrchoedd yn canolbwyntio ar y sector amaethyddol neu o fewn cymunedau Cymraeg yn bennaf.

Rydym yn cynnig gwasanaeth Cymraeg yn rhagweithiol fel yr opsiwn cyntaf i gwsmeriaid gyda siaradwyr Cymraeg rhugl yn ymdrin â’r galwadau. Fodd bynnag, mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn dewis ein gwasanaeth Saesneg i ddechrau, a bydd llawer o alwadau yn newid i alwadau cyfrwng Cymraeg pan fydd y sawl sy’n galw yn deall bod y sawl sy’n ymdrin â galwadau yn siarad Cymraeg. Mae'r galwadau hyn a ymdrinnir yn Gymraeg yn cael eu cofnodi'n awtomatig fel galwadau Saesneg yn ein system oherwydd dewis iaith cychwynnol y cwsmer. Rydym yn gweithio gyda'n tîm Hwb Cwsmeriaid i ddeall pam mae rhai siaradwyr Cymraeg yn dewis yr opsiwn Saesneg, a nodi ffyrdd o annog defnydd o'r opsiwn Cymraeg, gan sicrhau bod ein cofnodion yn adlewyrchu'r defnydd o'n gwasanaeth Cymraeg yn fwy cywir.

Gwefan

Gyda'r mwyafrif o'n gwasanaethau bellach ar gael yn ddigidol rydym yn gweld cynnydd yn y defnydd o'n gwefan gan gwsmeriaid. Rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, fe wnaethon ni gofnodi cyfanswm o 3,067,164 ymweliad â’n gwefan, gyda 1,187,388 o ddefnyddwyr newydd.

Mae ein hystadegau o 2025-2026 yn dangos, dros y flwyddyn adrodd hon:

  • Roedd 201,310 (6.56%) ymweliad â’n tudalennau Cymraeg, cynnydd o 81,266 o ymweliadau o'r llynedd.
  • Cyfanswm cynnydd 2.24% yn yr ymweliadau â’n tudalennau Cymraeg o'r llynedd
  • 2,865,854 (93.4%) ymweliad â’n tudalennau Saesneg. 
  • Y dudalen a gafodd y mwyaf o ymweliadau yn Gymraeg, ar ôl yr hafan, oedd ein tudalen Llifogydd, a gafodd 2,477 o ymweliadau. Y dudalen hon hefyd oedd ein tudalen a gafodd y nifer fwyaf o ymweliadau yn ystod y flwyddyn adrodd ddiwethaf.

Tudalennau gwe

Y tudalennau mwyaf poblogaidd yr ymwelwyd â hwy dros y flwyddyn adrodd oedd:

Teitl y Dudalen Cyfanswm ymweliadau Cymraeg 25-26 Cyfanswm ymweliadau Saesneg 25-26 Defnyddwyr newydd Cymraeg 25-26 Defnyddwyr newydd Saesneg 25-26 Ffigur Cymraeg 24-25 Cynnydd canrannol (24-25)
Hafan 22,300 522,034 7,540 172,531 89,240 −66,940 (−75.01%)
Llifogydd 2,477 58,482 1,392 38,923 1,750 +600 o ymweliadau (+31.6%)
Gwirio beth yw eu perygl llifogydd yn ôl cod post 1,713 80,296 680 50,786 779 +934 o ymweliadau
(+119.9%)
Chwilio am swydd 1,211 56,582 507 26,524 560 +651 o ymweliadau (+116.25%)
Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd 1,129 15,259 479 9,258 1,658 -529 o ymweliadau
(−31.91%)
Stori newyddion mwyaf poblogaidd 2799 3,088 704 865 Ddim yn berthnasol Ddim yn berthnasol


Mae'r ffigurau uchod yn dangos gostyngiad yn yr ymweliadau â’n tudalennau hafan a chofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd yn Gymraeg. Fodd bynnag, bu cynnydd o ran yr ymweliadau uniongyrchol â’n tudalennau Llifogydd, Gweld perygl llifogydd eich cod post a Chwilio am Swydd yn Gymraeg.

Credwn fod y cynnydd yn yr ymweliadau â’r tudalennau Cymraeg o ganlyniad i'r dull rhagweithiol rydym wedi'i ddilyn wrth hyrwyddo'r gwasanaethau hyn drwy amrywiol sianeli a nodi'r gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu cynnig fel rhan o'r gwaith hwn. Cafodd ein hymgyrch #Byddwch yn Barod am Lifogydd/Be Flood ready, a hyrwyddo ein tudalennau Chwilio am Swydd a adolygwyd fel rhan o gyflwyniad y gwasanaeth e-recriwtio newydd, eu cefnogi gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a hyrwyddwyd argaeledd y gwasanaethau yn Gymraeg.

Mae ymchwil wedi dangos pan fydd gwasanaethau'n cael eu hyrwyddo'n dda mae cynnydd yn eu defnydd. Gyda gwasanaethau Cymraeg, mae'n rhaid i ni gymryd y cam ychwanegol hwnnw a bod yn eglur a nodi eu bod ar gael i helpu i gynyddu eu defnydd oherwydd, yn hanesyddol, nid oedd gwasanaethau bob amser ar gael yn Gymraeg ac ymddygiadau arferol.

Sylwer, mae data defnydd ein gwefan yn seiliedig ar ddata dadansoddeg ac yn rhoi amcangyfrif o weithgaredd defnyddwyr yn hytrach na data cywir, oherwydd bod olrhain yn dibynnu ar osodiadau caniatâd defnyddiwr.

Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd

Lansiwyd ein Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd newydd ym mis Gorffennaf 2024. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu dewis iaith gwell o lawer i siaradwyr Cymraeg o ran sut maent yn derbyn gohebiaeth gan y gwasanaeth, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Gwyddom y gall hyn fod yn amrywiol, fel y dengys ein hystadegau isod.

Cyfrifon y Gwasanaeth Rhybuddio Llifogydd wedi'u creu 01/04/2025 - 31/03/2026:

  • Crëwyd cyfanswm o 2,857 cyfrif
  • 57 i dderbyn negeseuon ysgrifenedig a llafar Cymraeg
  • 14 i dderbyn negeseuon ysgrifenedig yn Saesneg a negeseuon llafar yn Gymraeg
  • 7 i dderbyn negeseuon ysgrifenedig yn Gymraeg a negeseuon llafar yn Saesneg

Mae'r ystadegau uchod yn dangos bod 78 (2.73%) o ddefnyddwyr yn ystod y flwyddyn adrodd hon wedi dewis derbyn rhywfaint o gyfathrebu, neu’n holl gyfathrebu, yn Gymraeg, gan gynnwys gwahanol gyfuniadau o ddewisiadau ysgrifenedig a llafar.

Cyfanswm cyfrifon y Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd a grëwyd ers lansio ym mis Gorffennaf 2024:

  • Crëwyd cyfanswm o 5,998 cyfrif
  • 115 i dderbyn negeseuon ysgrifenedig a llafar Cymraeg
  • 13 i dderbyn negeseuon ysgrifenedig yn Gymraeg a negeseuon llafar yn Saesneg
  • 35 i dderbyn negeseuon ysgrifenedig yn Saesneg a negeseuon llafar yn Gymraeg
  • 5,835 i dderbyn negeseuon ysgrifenedig a llafar Saesneg

Y Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd blaenorol:

  • 23 wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Cymraeg

Ers lansio'r gwasanaeth newydd yn 2024, mae cyfanswm o 163 (2.73%) o ddefnyddwyr wedi dewis derbyn cyfathrebu gan y gwasanaeth yn Gymraeg, yn llawn neu'n rhannol, o'i gymharu â 23 o dan y gwasanaeth blaenorol. Er bod y niferoedd yn parhau i fod yn isel, mae'r data'n awgrymu bod cynnig dewis iaith dilys yn annog mwy o ddefnydd o wasanaethau Cymraeg.

Mae cyfrifon newydd yn tueddu i gynyddu mewn ymateb i negeseuon rhagolygon, yn enwedig pan fo llifogydd yn debygol. Fel rhan o'n gwaith i hyrwyddo'r gwasanaeth hanfodol hwn, byddwn yn parhau i ddatgan bod y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg er mwyn annog mwy o ddefnydd o'r gwasanaeth.

Ffurflenni Digidol

Dyma'r flwyddyn gyntaf i ni edrych ar yr ystadegau mewn perthynas â'n ffurflenni digidol, sy'n rhoi dewis clir i ddefnyddwyr gwblhau ffurflenni yn Gymraeg neu Saesneg o’r cychwyn cyntaf:

Mae ein hystadegau’n dangos mai'r ffurflenni a ddefnyddir fwyaf yn y Gymraeg yw:

  • Ffurflen rhoi gwybod am ddigwyddiad: Cyfanswm o 6115 ymateb ar draws ieithoedd, 64 (1%) ohonynt yn Gymraeg a 6,051 (99%) yn Saesneg
  • Ffurflen cysylltwch â ni: Cyfanswm o 936 ymateb, 23 (2.5%) ohonynt yn Gymraeg a 913 yn Saesneg
  • Ffurflen gwneud cais i ddefnyddio tir rydyn ni'n ei reoli: Cyfanswm o 622 ymateb, 8 (1%) ohonynt yn Gymraeg a 614 (99%) yn Saesneg
  • Ffurflen gwneud cwyn: Cyfanswm o 346 ymateb, 13 (4%) ohonynt yn Gymraeg a 333 (96%) yn Saesneg

Mae'r data'n dangos bod y defnydd o'n ffurflenni Cymraeg yn isel ar hyn o bryd, yn amrywio rhwng 1% a 4%. Byddwn yn parhau i fonitro eu defnydd a hyrwyddo argaeledd y ffurflenni yn Gymraeg er mwyn annog cynnydd yn eu defnydd.

Recriwtio

Gyda gweithredu ein system e-recriwtio newydd ym mis Medi 2025 rydym bellach yn gallu darparu gwybodaeth ac adroddiadau amserol a manylach.

Ers gweithredu'r system:

  • Cafodd 89% o'r rolau a hysbysebwyd yn ystod blwyddyn adrodd 25-26 eu hasesu yn A1.
  • Roedd gan 17% o ymgeiswyr sgiliau Cymraeg canolradd i rugl.
  • Derbyniwyd 5097 o geisiadau
  • Gofynnodd 188 (3.7%) am gyfweliadau yn Gymraeg
  • Gofynnodd 4909 (96.3%) am gyfweliadau yn Saesneg

Mae ffurflen hunanasesu’r Gymraeg wedi cael ei diweddaru ar y system e-recriwtio. Er bod y newid hwn wedi gweld cynnydd yn nifer y rolau sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg, mae'r ganran uwch o rolau ar ôl i’w hasesu yn Lefel A1. Byddwn yn adolygu'r broses ymhellach er mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd â'n rhwymedigaethau â’r Gymraeg.

Gweithredu ein Safonau Llunio Polisi

Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae ein Hasesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EQIA) yn ystyried yr effaith y gallai ein polisïau ac arferion ei chael ar y defnydd o'r Gymraeg a sicrhau na fydd yr iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, cafodd 89 o gynigion eu sgrinio i benderfynu a oedd angen EQIA, a chwblhawyd 31 EQIA.

Fel rhan o'r broses adolygu, rydym yn sicrhau bod:

  • Mae ein gwaith, ein polisïau a'n gwasanaethau'n cydymffurfio â'n Safonau'r Gymraeg
  • Mae gwasanaethau Cymraeg yn cael eu hyrwyddo'n rhagweithiol ac ar gael yn rhwydd
  • Byddwn yn ymgysylltu â siaradwyr Cymraeg yn ystod ymgynghoriadau i helpu i lywio penderfyniadau
  • Ystyrir anghenion siaradwyr Cymraeg, a'u gallu i ddefnyddio'r iaith gyda ni wrth iddynt ryngweithio â ni

Asesiadau o’r Effaith ar y Gymraeg

Pan nodwyd bod mwy o effaith ar y Gymraeg, cynhelir Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg (WLIA) ar wahân, i sicrhau bod yr iaith yn cael ystyriaeth briodol.

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, ni chwblhawyd unrhyw WLIA newydd, diweddarwyd dau yn dilyn penderfyniadau gan Fwrdd CNC:

  • Dynodiad ar gyfer Parc Cenedlaethol Glyndŵr
  • Yr Achos dros Newid

Hyfforddiant Asesu Effaith ar Gydraddoldeb

Mae cwrs hyfforddi EQIA newydd wedi'i ddatblygu ac, ar hyn o bryd, mae'n cael ei ddatblygu i fod yn stori ar ein LMS yn barod i'w gyhoeddi. Bydd y cwrs yn helpu cydweithwyr i gael gwell dealltwriaeth o ran pryd i gwblhau asesiad, y broses dan sylw a pha ystyriaethau sydd angen eu rhoi i'r iaith a phryd i ystyried WLIA ar wahân a’i gwblhau.

Mae'r cwrs yn pwysleisio pwysigrwydd casglu tystiolaeth ac ymgysylltu i'n helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a darparu gwasanaethau gwell. Ein nod yw y bydd yr hyfforddiant yn mynd yn fyw ar ein LMS erbyn mis Rhagfyr 2026.

Polisi Grant

Yn ôl Safon 90 mae’n ofynnol ein bod yn llunio polisi ar ddyfarnu grantiau ac yn ei gyhoeddi. Yn ystod y flwyddyn adrodd hon cafodd ein polisi ei ddiweddaru i fodloni gofynion Safon 90.

Mae'r polisi wedi'i ddiweddaru yn sicrhau bod yr holl brosesau grant yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog, gan gynnwys ceisiadau, canllawiau, gweminarau, a llythyrau dyfarnu. Ymdrinnir ag ymholiadau a gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg. Mae amodau grant hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau, wrth ymgymryd â gwaith ymgysylltu, bod eu deunyddiau ac unrhyw gyfleoedd a ddarperir yn ddwyieithog gan gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg.

Yn ogystal â gofynion Safon 90, mae canllawiau ar waith i gefnogi ymgeiswyr i ddefnyddio ac ystyried y Gymraeg o fewn eu prosiectau, a chefnogi cydweithwyr wrth asesu ceisiadau er mwyn sicrhau yr ystyriwyd sut y caiff prosiectau eu rheoli'n ddwyieithog ac amodau Cymraeg ein polisi grant.

Gweithredu ein Safonau Gweithredol

Polisi iaith mewnol - cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnol

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi cynllun strategol 5 mlynedd sy'n canolbwyntio ar gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn sefydliadau cyhoeddus, ochr yn ochr â sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar gael. Mae'r Comisiynydd wedi cyhoeddi 3 model polisi y gall sefydliadau eu defnyddio i gefnogi'r gwaith hwn.

Yn ôl Safon 94 mae’n ofynnol i ni gael polisi ar ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnol at ddiben hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r iaith. Mae ein polisi iaith mewnol presennol wedi bod ar waith ers 2017, ac mae adolygiad wedi'i gynllunio.

Yn dilyn yr Achos dros Newid ac ail-strwythuro Swyddogaeth Pobl, gyda Phennaeth Pobl newydd wedi ei recriwtio yn ddiweddar  bydd Rheolwr Polisi Pobl, Gwobrwyo a Chynhwysiant yn cael ei recriwtio, y ddau gyda chyfrifoldebau yn ymwneud â'r Gymraeg, dros y flwyddyn nesaf byddwn yn adolygu'r polisi hwn gan ddefnyddio'r modelau a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd i gefnogi'r gwaith hwn.

Rydym wedi parhau i gynyddu cyfleoedd i gydweithwyr ddefnyddio eu sgiliau iaith yn fewnol, ac ymhlith yr enghreifftiau o'r hyn yr ydym wedi'i wneud dros y flwyddyn adrodd hon mae:

  • Mae'r holl wahoddiadau cyfarfod calendr Microsoft Teams awtomatig electronig bellach yn cael eu hanfon yn ddwyieithog
  • Datblygwyd 6 ffurflen MS Teams ar-lein yn ddwyieithog, yn gysylltiedig â Pholisi Pobl, ar gyfer symudiadau mewnol
  • Cynhaliodd Pennaeth Pobl gwis Cymraeg anffurfiol ym mis Ionawr
  • Sefydlwyd Clwb Clebran i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl sgwrsio a rhannu
  • Mae'r Tîm Cyfieithu yn cefnogi darpariaeth deunyddiau dwyieithog, gan gynnwys cyflwyniadau ar gyfer cyfarfodydd grŵp mawr yn ôl yr angen

Cyhoeddi polisïau a gweithdrefnau mewnol yn Gymraeg

Yn ôl Safonau 101 - 107 mae’n ofynnol bod ein Polisïau Pobl ar gael i gydweithwyr yn y Gymraeg. Mae ein Polisi Iaith Mewnol yn nodi bod ein holl bolisïau ar gael yn Gymraeg.

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon cyhoeddwyd 15 o bolisïau newydd neu ddiwygiedig yn Gymraeg, sy'n mynd y tu hwnt i ofynion ein Safonau, ac sy'n rhoi mwy o gyfleoedd i'n cydweithwyr ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u gwaith o ddydd i ddydd.

Datblygu hyfforddiant pwrpasol CNC

Mae gweithredu System Rheoli Dysgu (LMS) ddwyieithog wedi galluogi cydweithwyr i gael hyfforddiant yn Gymraeg neu Saesneg. Fodd bynnag, mae capasiti dwyieithog cyfyngedig o fewn y tîm LMS yn effeithio ar amser datblygu a chysondeb y cynnwys Cymraeg. Byddai datblygu gallu dwyieithog pellach yn gwella effeithlonrwydd, ac yn cefnogi profiad dysgu mwy cyson a chyfartal i ddefnyddwyr iaith Gymraeg.

Hyfforddiant Gorfodol Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg

Yn ystod y flwyddyn adrodd ddiwethaf, lansiwyd ein Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Mae'r cwrs yn esbonio’r rôl y mae’r iaith wedi'i chwarae yn hanes a diwylliant Cymru a sut y gall ein helpu i gyflawni ein diben ochr yn ochr ag egwyddorion allweddol Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011.

  • Mae 1873 (76%) o gydweithwyr wedi cwblhau'r hyfforddiant e-ddysgu gorfodol hwn sy'n cynnwys ein dyletswydd i gydymffurfio â'n Safonau'r Gymraeg. Caiff cyfraddau cwblhau eu monitro gyda nodiadau atgoffa’n cael eu hanfon at Reolwyr drwy gydol y flwyddyn.

Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn ceisio gweithio tuag at gyfradd cwblhau 100% ar gyfer y cwrs hwn.

Hyfforddiant Safonau’r Gymraeg

Yn ddiweddar, lansiwyd cwrs hyfforddi Safonau'r Gymraeg newydd ar ein LMS i gefnogi cydweithwyr i ddeall eu cyfrifoldebau i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg fel rhan o'u gwaith o ddydd i ddydd. Mae’r cwrs hwn yn ategu ein Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg.

Mae’r cwrs yn darparu canllawiau, gydag enghreifftiau gweledol o dempledi papur pennawd, ffurflenni, agendâu ac ati yn cael eu rhannu ar y sgrin yn ogystal ag arferion da wrth weithio’n ddwyieithog. Mae’r hyfforddiant hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd gennym ar waith i helpu pawb i allu gweithio’n ddwyieithog.

Hyd yma, mae 27 (1.1%) o gydweithwyr wedi cwblhau'r hyfforddiant hwn.

Caiff y cwrs hwn ei hyrwyddo yn ystod y flwyddyn adrodd nesaf.

Hyfforddiant arall a ddatblygwyd yn Gymraeg

  • Cynhaliwyd cwrs hyfforddiant y cyfryngau ar gyfer ein Tîm Gweithredol, Arwain a Rheoli a’r Tîm Arwain yn ystod mis Mawrth 2026. Cwblhaodd 9 (17.3%) yr hyfforddiant yn y Gymraeg gyda 52 yn cwblhau'r hyfforddiant i gyd.
  • Hyfforddiant e-ddysgu Systemau Rheoli Amgylcheddol, cwblhaodd 4 (0.7%) yr hyfforddiant yn y Gymraeg gyda 586 yn cwblhau'r hyfforddiant i gyd.

Dros y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i ddatblygu mwy o gyrsiau hyfforddi CNC pwrpasol yn y Gymraeg ac yn gwneud mwy i hyrwyddo eu hargaeledd drwy amrywiol sianeli cyfathrebu mewnol.

Rhaglen Hyfforddiant Cymraeg

Eleni, mae 139 o gydweithwyr wedi cofrestru i ddatblygu eu sgiliau iaith ar wahanol lefelau. Mae'r ffigur hwn i lawr 4 o’i gymharu â’r flwyddyn adrodd ddiwethaf. Mae yna hefyd 8 cydweithiwr ychwanegol sydd wedi mynegi diddordeb mewn cofrestru ar gwrs.

Mae cydweithwyr yn datblygu eu sgiliau iaith fel a ganlyn:

  • 47 (34%) ar lefel mynediad
  • 43 (31%) ar lefel sylfaen
  • 27 (20%) ar lefel ganolradd
  • 18 (13%) ar lefel uwch
  • 4 (2%) ar lefel hyfedredd

Mae'r 22 sy'n datblygu eu sgiliau iaith ar lefel uwch, a hyfedredd yn bennaf yn gydweithwyr sy'n rhugl ond sydd heb yr hyder i siarad Cymraeg.

Mae ein dysgwyr wedi’u lleoli ledled Cymru gyda’r mwyafrif yn dysgu fel a ganlyn:

  • 32 (23%) – Ceredigion/Powys
  • 29 (21%) – Gwent
  • 27 (19%) – Gogledd-orllewin Cymru
  • 18 (13%) – Gogledd-ddwyrain Cymru

Mae Nant Gwrtheyrn yn darparu cyrsiau preswyl dwys ar bob lefel ac yn parhau i fod yn boblogaidd iawn, gyda 13 o gydweithwyr yn mynychu dros y flwyddyn adrodd hon. Cafodd rhai o’r rhain eu hariannu’n llawn drwy’r cynllun Cymraeg Gwaith a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cydweithwyr yn parhau i roi adborth cadarnhaol iawn ar gyfer y cyrsiau hyn, gyda diddordeb eisoes yn cael ei ddangos a rhai cydweithwyr eisoes ar restr aros am gyrsiau.

Mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglen hyfforddiant yn y Gymraeg ar gael yn Atodiad 2 i’r adroddiad hwn.

Clwb Clebran

Lansiwyd Clwb Clebran ym mis Chwefror 2026 i annog defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle drwy ddull hamddenol, anffurfiol. Er bod y rhan fwyaf o ddysgu Cymraeg yn cael ei gynnal yn draddodiadol mewn lleoliadau ffurfiol yn yr ystafell ddosbarth, mae Clwb Clebran yn cynnig sesiynau byr, cyfeillgar sydd wedi'u cynllunio i fagu hyder a normaleiddio Cymraeg bob dydd yn y gwaith.

Mae'r sesiynau'n para 30-45 munud ar Microsoft Teams ac maent yn cynnwys cwisiau, trafodaethau, a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar hanes y Gymraeg, geirfa yn y gweithle, ac ymadroddion bob dydd sy'n berthnasol i'n gwaith. Hyd yma, mae tua 100 o gydweithwyr naill ai wedi mynychu sesiynau, wedi mynegi diddordeb, neu wedi ymuno â'r sgwrs grŵp.

Mae'r gweithgareddau ysgafn, atyniadol hyn wedi'u cynllunio i gefnogi dysgwyr ar bob lefel. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mentrau byr, ymarferol i annog Cymraeg bob dydd
  • Adnoddau swyddfa y gellir eu hargraffu, fel croeseiriau ar thema
  • Arolygon byr i helpu i nodi rhwystrau a chymhellion i ddysgwyr
  • Sesiynau byw yn archwilio idiomau, Cymraeg yn y cartref, a defnyddio'r Gymraeg yn y gymuned (ymadroddion, cyfarwyddiadau, enwau lleoedd)

Nod cyffredinol Clwb Clebran yw cynyddu gwelededd, brwdfrydedd, a hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol yn y gweithle. Ar ddiwedd y sesiwn, byddwn yn gofyn am adborth gan fynychwyr ac yn gwerthuso ei effeithiolrwydd.

Safonau Cadw Cofnodion

Nifer y cyflogeion sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â safon 145.

Dros y flwyddyn adrodd hon, mae nifer ein gweithwyr wedi cynyddu gan 109, gyda'r data diweddaraf yn dangos bod canran y siaradwyr Cymraeg rhugl ar Lefelau 4 a 5 wedi aros ar 23% (564), er gwaethaf ein data’n dangos gostyngiad o 1% ers y llynedd, oherwydd y cynnydd yn nifer ein gweithwyr mae nifer y siaradwyr Cymraeg ar y lefel hon wedi cynyddu ychydig gan 8 (7%) o'r nifer uwch o weithwyr.

Mae’r ganran uchaf o’n siaradwyr Cymraeg yn parhau i fod yn rhugl mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar ar Lefel 5 14% (352). Mae’r rhan fwyaf o’n siaradwyr Cymraeg rhugl (353) yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Yn gyffredinol, gall 766 (31%) o'n cydweithwyr drafod materion yn Gymraeg ar Lefelau, 3, 4 a 5, mae hyn yn gynnydd o 18 ers y flwyddyn adrodd ddiwethaf. Gall 94% o'n staff ddangos cwrteisi ieithyddol wrth gyfarfod a chyfarch eraill. Mae'r ganran hon wedi aros yr un fath â'r flwyddyn adrodd flaenorol.

Gofynnir i gydweithwyr hunanasesu eu sgiliau iaith a’u cofnodi yn MyNRW. Gellir gweld sgiliau iaith Gymraeg ein cydweithwyr ym mis Mawrth 2025 isod:

  • Lefel 5 = 352 (14%)
  • Lefel 4 = 212 (9%)
  • Lefel 3 = 202 (8%)
  • Lefel 2 = 503 (20%)
  • Lefel 1 = 1052 (43%)
  • Dim sgiliau = 98 (4%)
  • Mae 47 (2%) heb hunanasesu eu sgiliau iaith hyd yma.

Mae dadansoddiad o’n siaradwyr Cymraeg rhugl yn dangos y canlynol: 

  • Mae’r mwyafrif rhwng 36 a 45 oed (164) 
  • Mae 138 rhwng 46 a 55 oed
  • Mae 119 yn 56+ oed 
  • Mae 314 yn wrywod a 249 yn fenywod 
  • Mae 89 yn gweithio’n rhan-amser
  • Mae’r niferoedd uchaf yng Ngraddau 5 a 6 (279), gyda’r niferoedd isaf (26) yn ein Graddau uwch o 9 ac uwch
  • Mae 149 o staff newydd yn siaradwyr Cymraeg rhugl
  • Mae 38 o siaradwyr Cymraeg rhugl wedi gadael y sefydliad yn ystod y flwyddyn adrodd hon

Er bod 23% (564) o'n cydweithwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl, nid yw pob un ohonynt mewn rolau sy'n gofyn am sgiliau Cymraeg fel rhai hanfodol i gyflawni eu dyletswyddau. Er mwyn cefnogi cynllunio yn y dyfodol, gwydnwch a chydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol, mae angen cynnal asesiad o’r bwlch sgiliau i nodi bylchau yng nghapasiti o ran y Gymraeg ar draws timau a chyfarwyddiaethau, gyda chynllun i fynd i'r afael â'r bylchau hyn a sicrhau digon o gapasiti a gallu ar draws y sefydliad.

Atgoffwyd ein cydweithwyr sydd wedi cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau iaith ac sydd wedi llwyddo i symud i lefel iaith uwch yn ystod y flwyddyn adrodd i ddiweddaru eu cofnod sgiliau iaith Cymraeg yn MyNRW. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu ffigurau mwy cywir ar lefelau iaith yn y sefydliad wrth adrodd.

Rydym wrthi'n diweddaru MyNRW i ymgorffori fframwaith CEFR, bydd hyn yn sicrhau bod ein cofnodion mewnol yn unol â'n cofnodion recriwtio sydd eisoes wedi mabwysiadu'r fframwaith. Yn dilyn y diweddariad hwn, gofynnir i gydweithwyr ail-asesu eu sgiliau iaith a’u cofnodi yn MyNRW. Bydd y cais hwn yn cael ei fonitro ac mae'n un o ofynion safon 123.

Mae rhagor o wybodaeth am sgiliau Cymraeg cydweithwyr i’w gweld yn Atodiad 3 i’r adroddiad hwn.

Nifer y cydweithwyr a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd drwy’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn, ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â safon 146. Os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn ystod y flwyddyn, canran cyfanswm y cydweithwyr a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg, ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â safon 124.

Mae ein system LMS yn caniatáu newid iaith ar unrhyw adeg o fewn cwrs, oherwydd yr ymarferoldeb hwn, ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu cofnodi nifer y cydweithwyr sydd wedi cwblhau’r cyrsiau yn Gymraeg, sy’n golygu nad ydym yn cydymffurfio â Safon 146. I geisio mynd i'r afael â'r mater hwn rydym yn archwilio ymarferoldeb y system er mwyn cynnwys cwestiwn i gydweithwyr gadarnhau'r iaith a ddefnyddir, a fyddai'n ein galluogi i gydymffurfio â Safon 146.

Mae cyrsiau yn unol â Safon 124 ar gael i gydweithwyr eu cwblhau yn y Gymraeg/Saesneg neu newid iaith yn ôl dewis:

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon:

  • recriwtio a chyfweld – cwblhaodd 57 y cwrs e-ddysgu
  • rheoli perfformiad — cwblhaodd 134 y cwrs e-ddysgu
  • cwynion a gweithdrefnau disgyblu — cwblhaodd 6 y cwrs e-ddysgu
  • delio â'r cyhoedd — cwblhaodd 0 y cyrsiau e-ddysgu sydd ar gael
  • iechyd a diogelwch — cwblhaodd 37 cwrs e-ddysgu codi a chario gyda 407 yn cwblhau cyrsiau Cymorth Cyntaf.

Mae mwyafrif ein cyrsiau iechyd a diogelwch yn gyrsiau technegol ac yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac yn Saesneg. Rydym yn hysbysebu bod ein cwrs cymorth cyntaf wyneb yn wyneb ar gael yn y Gymraeg; hyd yn hyn, nid ydym wedi derbyn archeb ar gyfer y cwrs cyfrwng Cymraeg.

Cynefino

 Mae ein hyfforddiant Cynefino yn cynnwys nifer o sesiynau rhithwir a byw dros gyfnod o 9 mis fel a ganlyn:

Gweithdai a Gweminarau

 Sesiwn groeso Cynefino rhithwir fyw, gyda mewnbwn gan ein Prif Weithredwr ac aelodau amrywiol o Tîm Gweithredol. Cyflwynir y sesiwn hon drwy gyfrwng Saesneg gyda'r Gymraeg yn cael ei defnyddio drwyddi draw yn atodol.

e-Ddysgu

 Lles, Iechyd a Diogelwch - modiwl e-ddysgu ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Chi, Fi a Dyfodol Cymru — modiwl e-ddysgu ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Sesiynau Byw

 Cyfraith Gyhoeddus - Cynhaliwyd 2 sesiwn fyw yn Gymraeg: 10 wedi mynychu (4%), 234 wedi mynychu sesiwn Saesneg.
Sgwrs (rheoli perfformiad) - Cynhaliwyd 1 sesiwn fyw yn Gymraeg: 9 wedi mynychu (6%), 124 wedi mynychu sesiynau Saesneg.
Ymwybyddiaeth Brand - Cynhaliwyd 1 sesiwn fyw yn Gymraeg: 13 wedi mynychu (6%), 207 wedi mynychu sesiynau Saesneg.

Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn a ail-gategoreiddiwyd gennym o ran y sgiliau Cymraeg sy’n ofynnol – boed yn hanfodol, dymunol, y mae angen eu dysgu ar ôl penodi i’r swydd, neu ddim yn angenrheidiol – ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â safon 148.

Dros y flwyddyn adrodd hon, cynyddodd gweithgarwch recriwtio yn sylweddol ers y llynedd yn dilyn saib recriwtio. Hysbysebwyd cyfanswm o 1,145 o swyddi gwag yn ystod y cyfnod o gymharu â 40 y llynedd.

Mae rhai swyddi gwag yn cael eu hysbysebu’n fewnol ac yn allanol ar yr un pryd: penodwyd 401 o ymgeiswyr mewnol, 376 o ymgeiswyr allanol - 777 i gyd.

Mae pob swydd yn cael ei hysbysebu yn gofyn am o leiaf Lefel 1 yn yr iaith; rhoddir hyfforddiant i gydweithwyr sydd angen cyrraedd y lefel hon o ddealltwriaeth i ddangos cwrteisi ieithyddol.

Dyma nifer y swyddi a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn adrodd hon:

Lefel ieithyddol Hanfodol Dymunol Angen dysgu Cymraeg
C2 - rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig 37 0 0
C1 - rhuglder mewn Cymraeg llafar 52 0 4
B2 - Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith 29 0 4
B1 13 - -
A2 8 - -
A1 – Y gallu i ynganu enwau, ymadroddion a chyfarchion Cymraeg sylfaenol 998 0 0

 

Dyma ddadansoddiad o’r ystadegau a galluoedd iaith uchod ar gyfer cydweithwyr sydd wedi sicrhau rolau drwy ein proses recriwtio, yn fewnol ac yn allanol, yn ystod y flwyddyn adrodd hon:

  • Mae 80 unigolyn (10.5%) yn siaradwyr Cymraeg C2
  • Mae 69 unigolyn (9%) yn siaradwyr Cymraeg C1
  • Mae 25 unigolyn (3%) yn siaradwyr Cymraeg B2
  • Mae 49 unigolyn (6.5%) yn siaradwyr Cymraeg B1
  • Mae 110 unigolyn (14%) yn siaradwyr Cymraeg A2
  • Mae 412 unigolyn (53%) yn siaradwyr Cymraeg A1
  • Nid oedd gan 32 unigolyn (4%) unrhyw sgiliau iaith Gymraeg

Disgwylir i’r 32 unigolyn nad ydynt yn cyrraedd y lefel iaith ofynnol (Lefel 1) gwblhau’r cwrs ar-lein deg awr a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd angen cwblhau’r cwrs hwn o fewn y cyfnod prawf i helpu i gyflawni’r lefel hon.

Nifer y cwynion a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn a oedd mewn perthynas â chydymffurfio â safonau 152, 156, 162 a 164, sef safonau y mae gennym ddyletswydd i gydymffurfio â nhw.

Derbyniwyd 8 cwyn, 5 gan aelodau'r cyhoedd a ddaeth yn uniongyrchol atom ni a 3 gan gydweithwyr yn ymwneud â chydymffurfio â'n Safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn gynnydd o 4 ers y llynedd:

Cwyn 1 (allanol)

Ym mis Mai cawsom gŵyn gan aelod o'r cyhoedd a oedd yn anhapus bod ein tudalen Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ar ein gwefan yn cynnwys cyfeiriad mewn cromfachau at Gors Fochno (a elwir yn lleol yn Borth Bog). Roedd yr achwynydd yn ystyried bod defnyddio'r datganiad mewn cromfachau yn amharchus i bobl leol a gofynnodd iddo gael ei ddileu. Cysylltodd aelod o'n Tîm Digidol â'r achwynydd yn uniongyrchol drwy e-bost a chytunodd i ddileu'r datganiad gan mai'r enw safonol cywir yw Cors Fochno.

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r achwynydd am y camau roeddem wedi'u cymryd, ac nid oedd angen unrhyw gamau pellach.

Cwyn 2 (mewnol)

Ym mis Mehefin cwynodd cydweithiwr am arwyddion dros dro Saesneg yn unig yn cael eu harddangos yn ein Swyddfa ym Mwcle. Codwyd y mater gyda'n Tîm Cyfleusterau a sicrhaodd y byddai pob arwydd dros dro yn y dyfodol yn cael eu harddangos yn Gymraeg a Saesneg yn unol â gofynion ein Safonau'r Gymraeg. Manteisiodd Rheolwr y Tîm Cyfleusterau ar y cyfle hwn i atgoffa'r tîm i gyd am y gofyniad hwn.

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r achwynydd am y camau roeddem wedi'u cymryd, ac nid oedd angen unrhyw gamau pellach.

Cwyn 3 (mewnol)

Ym mis Gorffennaf cwynodd cydweithiwr nad oedd taflen Ardystio UKAS, yr ydym yn ei dosbarthu i gontractwyr sy'n ffurfio rhan o'n Cytundebau Ymddygiad Mynediad, yn arddangos y Gymraeg yn gywir yn unol â gofynion ein Safonau'r Gymraeg sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r testun Cymraeg gael ei arddangos uwchben neu i'r chwith o'r testun Saesneg. Trafodwyd y mater gyda'r tîm oedd yn gyfrifol, a diwygiwyd y daflen i arddangos y testun yn gywir.

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r achwynydd am y camau roeddem wedi'u cymryd, ac nid oedd angen unrhyw gamau pellach.

Cwyn 4 (allanol)

Ym mis Gorffennaf cawsom gŵyn gan aelod o'r cyhoedd a ddefnyddiodd enw cyntaf yn unig heb unrhyw fanylion cyswllt ynghylch cydweithiwr a enwyd yn mynnu defnyddio'r Gymraeg fel unig iaith cyfathrebu wrth ymgysylltu â'r achwynydd. Roedd y gŵyn yn dweud bod y cydweithiwr dan sylw wedi gwrthod cyfathrebu yn Saesneg a bod hyn wedi arwain at rwystr cyfathrebu.

Ymchwiliwyd i'r mater gan yr Arweinydd Tîm perthnasol a drafododd y mater gyda'r cydweithiwr dan sylw. Nid oedd gan y cydweithiwr unrhyw atgofion am ryngweithio o'r fath, na phryderon a godwyd mewn perthynas â defnyddio'r Gymraeg, na chofnod o gyfarfod gyda'r achwynydd. O ystyried na ddarparodd yr achwynydd unrhyw dystiolaeth ac nad oedd unrhyw fanylion cyswllt wedi'u cynnwys yn y gŵyn, cafodd y mater ei gau ac ni chafodd ei gadarnhau, ac ni chymerwyd unrhyw gamau pellach.

Cwyn 5 (mewnol)

Ym mis Awst cwynodd cydweithiwr am safon y Gymraeg mewn hysbysiadau mewnol a roddwyd i gydweithwyr. Wrth drafod gyda'r Tîm perthnasol, canfuwyd bod yr hysbysiadau dan sylw yn cael eu hanfon allan ar frys, ac ar y dyddiau penodol hynny nid oedd aelod o'r tîm ar gael i wirio'r cyfieithiad nac amser i ofyn am gefnogaeth y Tîm Cyfieithu oherwydd natur brys cyhoeddi’r hysbysiadau yn amserol.

Roedd y Tîm yn ymwybodol o hyn ac wedi dod o hyd i ffyrdd gwell o gyflawni'r Cyfieithu gan ddefnyddio offer TGCh sydd ar gael i wirio'r gwaith, gan hefyd estyn allan at y Tîm Cyfieithu am gymorth ac arweiniad ynghylch y maes gwaith hwn.

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r achwynydd am y camau roeddem wedi'u cymryd, ac nid oedd angen unrhyw gamau pellach.

Cwyn 6 a 7 (allanol)

Ym mis Hydref cawsom ddwy gŵyn gan aelodau'r cyhoedd ar y defnydd o Coed Braich Melyn ar gyfer coetir ym Methesda, yr oedd yr achwynwyr yn datgan ei fod yn cael ei adnabod yn lleol fel Coed Pen Braich.

Yn hanesyddol roedd y coetir hwn wedi cael ei adnabod fel Braichmelyn ar fapiau a chofnodion Comisiwn Coedwigaeth Cymru. Wedi gwirio mapiau hanesyddol, cofnodwyd Braich Melyn fel enw ar y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol ac roedd Coed wedi cael ei ychwanegu at yr enw ar gyfer y safle i wahanu'r enw ar gyfer y coetir a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth. Cyfeiriwyd at hynny hefyd yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig Bethesda ac Abergwyngregyn yn 2021, a gafodd lefel uchel o ymgysylltiad â'r cyhoedd ac ni chodwyd unrhyw bryderon. Eglurwyd hyn i'r achwynwyr.

Gwnaethom ymateb i'r gŵyn gan nodi'r ffeithiau uchod, ac ni dderbyniwyd unrhyw gyfathrebu pellach.

Cwyn 8 (allanol)

Ym mis Chwefror cawsom gŵyn gan aelod o'r cyhoedd ar ddefnyddio Brecon Beacons National Park yn lle Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ein mapiau llifogydd. Diolchwyd i'r achwynydd am yr ohebiaeth, a gwnaethom esbonio ein bod yn ymwybodol o'r mater hwn ac yn gweithio gyda'n darparwyr mapiau trydydd parti i geisio ateb, gan egluro bod y mapiau a ddefnyddiwn yn cael eu cyflenwi o dan drwydded ac nad ydym yn gallu

Mae trafodaethau ar y gweill gyda'n cyflenwyr mapiau trydydd parti i ddiweddaru'r mapiau a ddefnyddir o dan drwydded.

Canmoliaeth

Cawsom 2 ddarn o ganmoliaeth hefyd:

Canmoliaeth 1

Ym mis Hydref 2025 cawsom ganmoliaeth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddiolch i ni am ein brwdfrydedd a'n cyfraniad wrth helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r defnydd o'r iaith yn y sector amgylcheddol a chymunedau ledled Cymru. Roedd y ganmoliaeth hon i bawb sy'n ymwneud â'r maes gwaith hwn ond hefyd i'n dysgwyr sydd wedi cymryd y her i ddysgu, datblygu a defnyddio'r iaith yn y gweithle a thu hwnt.

Mae CNC yn cael ei gydnabod yn adroddiad arolygu Estyn ar Adroddiad Arolygiad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol The National Centre for Learning Welsh (2025) sy'n tynnu sylw at gyfraniad Cyfoeth Naturiol Cymru.

Canmoliaeth 2

Ym mis Ionawr 2026 cawsom sylwadau canmoliaethus gan Lywodraeth Cymru ar ansawdd ac ehangder yr Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg i gefnogi gwaith dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr.

Hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru

Rydym wedi dathlu a hyrwyddo sawl digwyddiad Cymraeg rhithwir ar ein mewnrwyd, sianeli viva engage ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg a diwylliant yn fewnol ac yn allanol: Dyma restr o ddigwyddiadau rydyn ni wedi’u dathlu yn ystod yr wythnos adrodd hon:

  • Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr - Mai
  • Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam - Awst
  • Rhaglen Hyfforddiant Iaith Gymraeg - Awst-Medi
  • Diwrnod Owain Glyndŵr - 16 Medi
  • Diwrnod Shwmaw/Su'mae Day - 15 Hydref
  • Defnyddiddiwch eich Cymraeg - ymgyrch flynyddol Comisiynydd y Gymraeg - 24 Tachwedd-5 Rhagfyr
  • Ionawr - Diwrnod Santes Dwynwen
  • Dydd Miwsig Cymru - 13 Chwefror
  • Dydd Gŵyl Dewi - 1 Mawrth

Viva Engage

Mae diweddariadau a gwybodaeth am ein cyfleoedd hyfforddiant Cymraeg, erthyglau diddorol mewn perthynas â'r iaith yn ogystal â dathlu diwrnodau diwylliant Cymraeg wedi cael eu rhannu ar ein sianeli Viva Engage mewnol. Mae'r sianeli hyn yn cyrraedd cynulleidfa eang ac yn ffordd dda o gyfathrebu'n anffurfiol gyda chydweithwyr sy’n rhannu eu straeon a'u profiadau.

Canllaw Misol i Reolwyr

Defnyddir cylchlythyr Rheolwyr Misol i godi ymwybyddiaeth o ganllawiau, prosesau a gweithdrefnau newydd mewn perthynas â’r Gymraeg. Dros y flwyddyn adrodd hon, rydym wedi:

  • Gofynnwyd i'r rhai sy'n ymwneud ag unrhyw weithgaredd enwau lleoedd gofnodi'r gweithgaredd yn barod ar gyfer ein hadroddiad gweithgaredd Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol
  • Gofynnwyd i gydweithwyr wirio bod unrhyw dempled a ddefnyddir ar gyfer llythyrau, ffurflenni neu gytundebau ar ein templed brand cyfredol CNC ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg
  • Codi ymwybyddiaeth o’n Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg gorfodol

Crynodeb o’n Hadroddiad Gweithgarwch Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol 2025 i 2026

Mae gennym ddyletswydd statudol i ymgynghori ar y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol ac ychwanegu ati. Fe wnaethon ni weithio ochr yn ochr â Phanel Safoni Enwau Lleoedd Cymru Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddatblygu canllawiau mewnol Nodyn Cyfarwyddyd Gweithredol 124 yn ymwneud â’n dyletswyddau statudol.

Rydym yn cysylltu’n rheolaidd â Phanel Safoni Enwau Lleoedd Cymru Comisiynydd y Gymraeg i gael cyngor am y rhesymau canlynol:

  • gweithgareddau enwi, er enghraifft coetiroedd, safleoedd dynodedig, enwau lleoedd ardaloedd, ardaloedd cymeriad
  • ymgynghori â’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol er gwybodaeth neu gyfeirio 
  • caffael enwau lleoedd nad ydynt efallai ar y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, er enghraifft prynu tir newydd ag enwau caeau hanesyddol

Dros y flwyddyn adrodd hon, rydym wedi:

Cofnodi penderfyniadau ar enwau lleoedd

  • Tynygwndwn a Waunmacwydd
  • Blaentrothy Meadows (Caeau Blaentroddi)
  • Meadows
  • Enwau arfaethedig ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru
  • Enw arfaethedig ar gyfer SoDdGA yn Ffos-Fudr/Hafan/Carn Owen
  • Hen Dre'r Mynydd
  • Ystrad-ffernol
  • Tŵr/Tower
  • Beili-glâs
  • Craig y Llyn
  • Ynys-feio 
  • Keeper's Lodge
  • Cors y Hendre
  • Enwau Ardaloedd Morweddau
  • Enwau caeau, hen fapiau OS 1:2500 Ynys Môn a Llŷn
  • Dolau'r Rheithordy, Rogiet/Rheithordy Dolydd, Rogiet
  • Wern Ddu Uchaf - enw SoDdGA arfaethedig
  • Enw hysbysiad SoDdGA newydd (ar y gweill - Cors cae gwaenydd/Caeau dros lon/ Esgobaeth Bran)
  • Cefn Rhôs-Gwawr 
  • Pen-Rhys  
  • Coed Pen-y-Parc
  • Gelli-wion
  • Coedwig Mynydd Maendy
  • Maes-y-Coed
  • Ynys Owen 
  • Coed Forest-isaf 
  • Coed Nant-Dyrys
  • Blaen Garw
  • Bro'r Sgydau | Gwlad y Rhaeadrau: gwirio enw pob rhaeadr, ar y gweill
  • Craig y Dinas (‘Craig y Ddinas' yn flaenorol) (ar y gweill)

Gwaith pellach sy’n gysylltiedig ag enwau lleoedd

Sefydlwyd trefniadau Llywodraethu a Chylch Gorchwyl ar gyfer Grŵp Enwi Safleoedd a Lleoedd a Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol CNC.

  • Parc Cenedlaethol Arfaethedig i Gymru. Mae'r enw a gynigiwyd, Parc Cenedlaethol - Glyndŵr - National Park, wedi’i gymeradwyo gan Fwrdd CNC ac wedi’i ddefnyddio yn y gorchymyn dynodi.
  • Enwau Ardaloedd Morweddau wedi’u rhannu gyda CBHC. 200+ o ardaloedd cymeriad morlun ar raddfa leol a nodwyd ac a enwyd yn flaenorol, daw llawer o enwaud o Siartiau'r Morlys ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd yr enwau’n cael eu penderfynu’n derfynol cyn eu hychwanegu at MapDataCymru mewn trafodaeth gyda CBHC.
  • Darganfod Enwau Caeau wedi’u rhannu gyda CBHC. Hen fapiau Arolwg Ordnans ar raddfa 1:2500 yn cynnwys enwau caeau Cymraeg wedi'u hysgrifennu â llaw mewn pensil. Mae’n debygol bod nifer o gannoedd o gaeau wedi’u henwi, gan gynnwys rhannau o Ynys Môn a Llŷn. Adroddodd CBHC nad oes llawer wedi’i gofnodi ar yr amserlenni degwm ar gyfer Ynyr Môn.
  • Cyngor ar enwau lleoedd hanesyddol yn dilyn cyfathrebiad Canllaw Misol i Reolwyr CNC. Gofynnwyd am gyngor mewn perthynas â chronfa ddata WISKI sy'n cadw enwau safleoedd samplu ar gyfer pob safle ansawdd dŵr a nifer o safleoedd samplu ecoleg ledled Cymru. Roedd yr argymhelliad ar gyfer enwau safleoedd samplu presennol sydd wedi bod yn cael eu defnyddio, dim angen gweithredu.  Wrth enwi safleoedd samplu newydd, neu ail-enwi safleoedd presennol, yna byddai ymgynghori â'r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn helpu i gynnig enw newydd addas. Arweiniodd at sgyrsiau da yn y tîm ac os enwir safleoedd perthnasol yn y dyfodol byddant yn ymwybodol o OGN124.
  • Set ddata Tirweddau Hanesyddol LANDMAP. Yn sgil y diweddariadau i'r cwestiynau methodoleg ym mis Chwefror 2026, bu modd cynnwys cwestiwn 48 newydd 'Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol'. Ar gyfer pob arolwg yn y set ddata, mae'r maes testun ar gyfer cwestiwn 48 yn cynnwys y ddolen https://rcahmw.gov.uk/discover/list-of-historic-place-names/ sy’n ysgogi ei ddefnyddio a mynediad rhwydd at yr adnodd.
  • Ymchwiliad i gwmpas hanesyddol dolydd gorlifdir mewn tri dalgylch yng Nghymru: Dyfrdwy, Wysg a Teifi, wedi’i gyhoeddi
  • Gwybodaeth am dreftadaeth ac iaith y mawndiroedd yn ardal Coedwig Tywi

Ymgynghori â’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol

  • Sefydlodd CNC Wasanaeth Mapio Gwe i’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol ym mis Medi 2023, i gysylltu gyda’n system GIS mewnol, sy’n parhau i fod ar waith.  Mae hyn yn ychwanegol at adnodd ar-lein CBHC.

Ychwanegu at y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol

  • Dim cofnodion newydd i adrodd arnynt

Ymgysylltu’n ymwneud â’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol

  • Mae CNC wedi gohebu â CBHC yn ôl y gofyn.
  • Cynhaliodd CNC bedwar cyfarfod mewnol ar y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn ystod y cyfnod hwn, Mehefin, Medi a Rhagfyr 2025, a Chwefror 2026.

Cyflwynwyd yr adroddiad gweithgaredd llawn i'n Pennaeth Pobl yn unol â'n proses lywodraethu y cytunwyd arni.

Edrych Tuag at Ddyfodol y Gymraeg 2026-2027

I gefnogi Cymraeg 2050, nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a strategaeth 5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, rydym yn bwriadu:

  • Ymholiad dilynol ar y camau gweithredu a nodwyd fel diffyg cydymffurfio, neu a nodwyd bod angen gwaith ychwanegol, yn yr holiadur hunanasesu ar ein cydymffurfiaeth â'r safonau
  • Adolygu ein polisi iaith mewnol i adlewyrchu strategaeth 5 mlynedd a pholisïau enghreifftiol Comisiynydd y Gymraeg
  • Adolygu ein canllawiau Cymraeg mewnol i ddarparu rhagor o enghreifftiau
  • Adolygu ein proses asesu sgiliau Iaith Gymraeg at ddibenion recriwtio
  • Parhau i godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau Cymraeg a’u hyrwyddo

Casgliad

Rydym yn falch o ganfyddiadau'r adroddiad, sy'n dangos ein bod yn bodloni ein dyletswyddau cyfreithiol mewn perthynas â'n Safonau'r Gymraeg. Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, rydym wedi cryfhau rhai o'n gwasanaethau, wedi gwella systemau a phrosesau a chynyddu cyfleoedd i eraill ymgysylltu â ni yn y Gymraeg. Mae tystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn dangos bod cynnydd cyffredinol wedi bod yn y defnydd o'n gwasanaethau Cymraeg, gan adlewyrchu'r effaith gadarnhaol y gall hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg ei chael ar ddewis defnyddwyr.

Er ein bod, ar y cyfan, wedi cynnal ein lefel uchel o gydymffurfiaeth, mae yna feysydd lle mae angen gwella pellach sy'n cael sylw yn ein Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg, sy'n cefnogi ein hymrwymiad i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol ac edrych yn barhaus am ffyrdd arloesol o wella a chynyddu'r defnydd o'n gwasanaethau.

Mae ein menter Clwb Clebran, a'n cefnogaeth barhaus i gydweithwyr sy'n datblygu eu sgiliau iaith, yn helpu i fagu hyder yn y defnydd o'r Gymraeg a normaleiddio ei defnyddio yn y gweithle. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, bydd ein system recriwtio newydd a chyflwyno fframweithiau sgiliau CEFR yn cryfhau ein gallu i gynllunio ar gyfer capasiti Cymraeg yn y dyfodol ar draws y sefydliad.

Dros y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau gyda'n gwaith wrth sicrhau cydymffurfiaeth, cryfhau ein polisi iaith mewnol, ac yn parhau i hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg yn weithredol er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ymhellach yn unol â Cymraeg 2050. Mae ein hiaith yn rhan o'n “Cyfoeth Naturiol” yn rhan naturiol ac annatod o'n treftadaeth ddiwylliannol yma yng Nghymru ac yn un bwysig lle mae angen i ni fynd y tu hwnt i gydymffurfio cyfreithiol os ydym am gyflawni ein diben fel sefydliad ac yn ein rhyngweithio ag eraill.

Atodiad 1 - Gwasanaeth y Tîm Cyfieithu

Mae wedi bod yn gyfnod o newid i'r Tîm Cyfieithu eleni, sydd wedi parhau i gefnogi cydweithwyr gyda'u hanghenion Cymraeg, tra hefyd yn cydweithio ar brosiectau, a chydlynu a chyfathrebu ar draws y sefydliad i sicrhau bod y sylw a'r pwys dyledus yn cael eu rhoi i'r iaith Gymraeg ym mhob un o weithgareddau CNC.

Mae’r tîm wedi gweld newid personél eleni – erbyn mis Mehefin eleni bydd Uwch Gyfieithydd newydd a dau Gyfieithydd rhan-amser newydd yn eu lle, gan lenwi swydd a oedd yn wag o’r blaen a hefyd yn cymryd lle cydweithiwr gwerthfawr a symudodd ymlaen. O fis Mehefin 2026 ymlaen, bydd y tîm fel a ganlyn:

  • Arweinydd Tîm – amser llawn
  • Uwch Gyfieithydd – 0.8 swydd
  • Cyfieithydd – amser llawn
  • Cyfieithydd – 0.8 swydd
  • Cyfieithydd – 0.6 swydd
  • Cyfieithydd – 0.6 swydd
  • Cyfieithydd – 0.6 swydd
  • Swyddog Gweinyddol – amser llawn

Bydd y newidiadau’n golygu bod y tîm yn cynnwys 4.4 o gyfieithwyr cyfwerth ag amser llawn - sy’n gynnydd o 1.2 ar y sefyllfa flaenorol, a fydd yn helpu i barhau i fod yn hyblyg ac arloesol yn eu ffyrdd o weithio a mynd y tu hwnt i gyfieithu yn unig i ychwanegu gwerth at dimau eraill sydd angen ein cymorth a’n harbenigedd.

O ran y flwyddyn ddiwethaf, mae’r newidiadau wedi cael effaith ar gynhyrchiant y tîm, yn amlwg – mewn tîm bach, mae ymadawiad cydweithiwr yn cael effaith fawr. O ran ystadegau yn unig, gwnaethant dreulio hanner y flwyddyn gyda 25% yn llai o gapasiti. Roedd hyn yn golygu mwy o ddibyniaeth ar drefniadau cyfieithu allanol – trefniadau sy'n parhau i weithio'n dda iawn.

 

Serch hynny, nid welwyd llawer o ostyngiad o ran allbwn y tîm mewnol. Eleni, cyfieithwyd cyfanswm o 1.6m o eiriau yn fewnol (o'i gymharu ag 1.7m y llynedd), ac 1.8m yn allanol (o'i gymharu ag 1m y llynedd). Rydym wedi defnyddio'n cof cyfieithu ers 3 blynedd, ac mae ein cof bellach yn cynnwys bron i 5 miliwn o eiriau – ac mae manteision yr adnodd hwnnw'n cael eu profi fwyfwy. Mae'r mwyafrif helaeth o'r gwaith cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, ond gyda rhywfaint o gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg hefyd – gydag ymdrechion yn cael eu gwneud i hyrwyddo’r gwasanaeth gwirio ac i annog staff i ddefnyddio eu Cymraeg a gwasanaeth y Tîm Cyfieithu. Mae gan bob blwyddyn ei heriau penodol, ac roedd y cyfansymiau cynyddol ar gyfer y flwyddyn hon yn bennaf oherwydd cyhoeddi'r Adroddiad ar Sefyllfa Naturiol ac Adroddiad Rheoliad Cynefinoedd 9A ar gyfer Cymru, yn ogystal â gwaith bob yn dipyn yn gysylltiedig â Gorchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr.

Nid yw'r ystadegau uchod yn cynnwys y doreth o dasgau bach, brawddeg neu ddwy o hyd, a dderbynnir yn ddyddiol, nac - yn amlwg - unrhyw waith y tu hwnt i gyfieithu, fel prawfddarllen, gwirio neu gynghori. Mae’r tîm wedi parhau â llawer o waith arall o’r fath, gan gynnwys cyfrannu at enwi llwybrau a safleoedd, a phrawfddarllen a chymeradwyo arwyddion a thaflenni safleoedd. Gwneir llawer o'r gwaith hwn ar wahanol lwyfannau digidol er hwylustod i’n cwsmeriaid. Mae'r tîm hefyd wedi parhau i fanteisio ar bob cyfle i weithio gyda gwahanol dimau i greu testunau gwreiddiol yn y Gymraeg, a chynghori cydweithwyr ar bosibiliadau o ran cynnwys y Gymraeg fel rhan annatod o brosiectau - mae hyn wedi arwain at bodlediadau, blogiau, fideos, barddoniaeth a rhyddiaith gan dimau ar draws y sefydliad.

Mae'r tîm hefyd wedi parhau i wasanaethu cyrff allanol eto eleni. Er enghraifft, mae gwaith yn cael ei wneud ar brosiectau penodol y mae CNC yn rhan ohonynt ar gyfer yr Awdurdod Adfer Mwyngloddiau ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, ymhlith eraill.

Rhan arall o’u gwaith yw cyfrannu at safoni terminoleg ym maes yr amgylchedd a’r byd naturiol. I'r perwyl hwn, mae Arweinydd y Tîm wedi cysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru i sefydlu a chydlynu Panel Safoni Enwau Rhywogaethau, er mwyn cyfrannu at barhad gwaith ysgolheigion i safoni termau ar gyfer y Porth Termau a'r Bywiadur. Credwn ei bod yn briodol i CNC gyfrannu’n amlwg at waith fel hyn.

Mae’r Tîm hefyd yn trefnu gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd yn ôl yr angen. Gwnaed 33 o geisiadau am y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda rhai o’r ceisiadau hyn am fwy nag un digwyddiad. Roedd yr ystadegau fel a ganlyn: 13 cais am gyfieithu ar y pryd ar leoliad (o'i gymharu â 15 y llynedd), 20 cais am gyfieithu ar y pryd dros Teams (o'i gymharu â 10 y llynedd). Mae'r ffigurau'n adlewyrchu newid yn y sector yn ehangach, gyda mwy a mwy o gyfarfodydd ar Teams. Mae'r newid hwn yn y sector wedi arwain at llawer mwy o alw ar gyfieithwyr, a gall cyflawni rhai cyfarfodydd mewn ardaloedd gwledig fod yn heriol, gyda chyfieithwyr llawrydd yn fwy abl i ddewis a dethol gwaith. Serch hynny, mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol dros ben ar y cyfan. Bydd y tîm yn parhau i fonitro datblygiadau yn y sector ac addasu yn unol â hynny.


 

Er y bu’n flwyddyn o newid i’r Tîm Cyfieithu, maent wedi parhau i ragori ar ddisgwyliadau, wedi parhau i fod yn arloesol wrth gynorthwyo cydweithwyr, ac wedi parhau i helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn falch o ddweud bod yr holl adborth am y tîm, gan gynnwys o'r Adolygiad o'r Gwasanaethau Galluogi, yn adlewyrchu hyn.

Atodiad 2 - Rhaglen hyfforddiant Cymraeg 2025-2026

Rhanbarth Dysgwyr 2024/25 Canran
Caerdydd 8 6%
Sir Gaerfyrddin 5 4%
Ceredigion/Powys 32 23%
Morgannwg 1 1%
Gwent 29 21%
Gogledd-ddwyrain 18 13%
Gogledd-orllewin 27 19%
Sir Benfro 6 4%
Bae Abertawe 5 3%
Y Fro 6 4%
Cymraeg Gwaith (opsiwn hunanddysgedig) 2 2%
Cyfanswm 139 100%

Nant Gwrtheyrn

Rydym wedi cefnogi 13 o gydweithwyr i fynychu cyrsiau preswyl dwys a ddarparwyd gan Nant Gwrtheyrn eleni. Nid yw’r rhain wedi’u cynnwys yn y ffigurau uchod.

Mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig cyrsiau dwys ar gyfer pob gallu ac mae rhai o’r rhain wedi’u hariannu’n llawn drwy’r cynllun Cymraeg Gwaith. Manteisiodd 15 o’n cydweithwyr ar y cynllun hwn a chafwyd adborth gwych.

Say Something in Welsh

Mae Say Something in Welsh (SSiW) yn danysgrifiad rydyn ni’n ei gynnig i’n holl gydweithwyr, boed ar gontractau parhaol neu dymor byr. Mae hefyd yn ddull dysgu a anogir gan Dysgu Cymraeg. Rydym hefyd yn cynnig hyn fel dewis dros dro i gydweithwyr sy’n aros i gofrestru ar gyfer cwrs Dysgu Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae gennym 15 o ddysgwyr wedi cofrestru ar Say Something in Welsh.

Atodiad 3 - Hunanasesiad cydweithwyr o’u sgiliau Cymraeg ym mis Mawrth 2026

Dyddiad Dim datganiad wedi’i gwblhau Dim sgiliau iaith Gallu ynganu ymadroddion a chyfarchion sylfaenol Gallu llunio brawddegau sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Siaradwr Cymraeg rhugl Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig
Mawrth 2026 47 (2%) 98 (4%) 1052 (43%) 503 (20%) 202 (8%) 212 (9%) 352 (14%)
Mawrth 2025 63 (2%) 88 (4%) 979 (42%) 478 (20%) 198 (8%) 211 (9%) 345 (15%)
Mawrth 2024 46 (2%) 97 (4%) 1034 (42%) 487 (20%) 204 (8%) 225 (9%) 355 (15%)
Mawrth 2023 49 (2.1%) 98 (4.2%) 980 (41.8%) 469 (20%) 179 (7.6%) 223 (9.5%) 348 (14.8%)
Mawrth 2022 43 (2%) 88 (3.9%) 942 (41.7%) 456 (20%) 175 (7.8%) 221 (9.8%) 334 (14.8%)
Chwefror 2021 109 (4.9%) 87 (3.9%) 915 (40.9%) 438 (19.6%) 153 (6.8%) 225 (10%) 310 (13.9%)
Mawrth 2020 134 (6.5%) 63 (3.1%) 820 (40.0%) 412 (20.1%) 136 (6.6%) 211 (10.3%) 275 (13.4%)

 

Nifer y staff ym mis Mawrth 2026 = 2465 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2026 = 564 (23%)

Nifer y staff ym mis Mawrth 2025 = 2356 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2025 = 556 (24%)

Nifer y staff ym mis Mawrth 2024 = 2448 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2024 = 580 (24%)

Nifer y staff ym mis Mawrth 2023 = 2346 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2023 = 571 (24.3%)

Nifer y staff ym mis Mawrth 2022 = 2259 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2022 = 555 (24.6%)

Nifer y staff ym mis Chwefror 2021 = 2237 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Chwefror 2021 = 535 (24%)

Nifer y staff ym mis Mawrth 2020 = 2051 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg rhugl ym mis Mawrth 2020 = 486 (23.7%)

Sgiliau Cymraeg yn ôl Cyfarwyddiaeth – Mawrth 2026

Cyfarwyddiaeth Dim datganiad wedi’i gwblhau Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhuglder mewn Cymraeg llafar Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig Cyfanswm
Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol 4 (3%) 2 (2%) 33 (26%) 23 (18%) 12 (10%) 13 (10%) 40 (31%) 127
Prif Weithredwr 12 (35%) 1 (3%) 12 (35%) 2 (6%) 2 (6%)   5 (15%) 34
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol 1 (0.5%) 17 (9%) 82 (42%) 38 (19%) 23 (12%) 14 (7%) 22 (11%) 197
Gweithrediadau Cenedlaethol 1 (0.3%) 22 (6%) 175 (46%) 73 (19%) 31 (8%) 25 (7%) 52 (14%) 379
Gwasanaeth Trwyddedu 2(2%) 32 (3%) 465 (43%) 211 (19%) 86 (8%) 112 (10%) 164 (15%) 1092
Pobl, Cyfleusterau a’r Fflyd 5 (4%) 5 (4%) 45 (36%) 24 (20%) 6 (5%) 13 (11%) 26 (21%) 124
Strategaeth, Polisi a Thystiolaeth 2 (0.4%) 19 (4%) 240 (47%) 132 (26%) 42 (8%) 35 (7%) 42 (8%) 512
Cyfanswm 47 98 1052 503 202 212 351 2465

Sgiliau Cymraeg yn ôl proffil oedran Mawrth 2026

Oedran Dim datganiad wedi’i gwblhau Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhuglder mewn Cymraeg llafar Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig Cyfanswm
<25 2 3 13 3 1 5 7 34
26 – 35 6 25 181 64 33 33 97 439
36 – 45 10 25 254 148 60 62 102 661
46 – 55 14 26 337 175 55 71 67 745
56 – 65 11 18 242 100 48 32 68 519
65 + 4 1 25 13 5 9 10 67
Cyfanswm 47 98 1052 503 202 212 351 2465

Sgiliau Cymraeg yn ôl rhywedd - gweithwyr llawn-amser/rhan-amser, Mawrth 2026

Rhywedd Dim datganiad wedi’i gwblhau Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhuglder mewn Cymraeg llafar Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig Cyfanswm
Benyw 18 48 475 267 99 90 159 1156
Amser llawn 15 38 377 203 76 67 119 895
Rhan amser 3 10 98 64 23 23 40 261
Gwryw 23 50 577 236 103 122 192 1309
Amser llawn 27 47 530 214 96 105 183 1202
Rhan amser 2 3 47 22 7 17 9 107
Cyfanswm 47 98 1052 503 202 212 352 2465

Sgiliau Cymraeg fesul gradd, Mawrth 2026

Gradd Dim datganiad wedi’i gwblhau Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhuglder mewn Cymraeg llafar Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig Cyfanswm
G2 3 7 29 11 5 4 17 76
G3 3 6 49 14 4 12 16 104
G4 11 9 146 50 20 41 63 340
G5 6 33 264 103 49 56 100 611
G6 6 20 265 177 61 47 76 652
G7 2 13 170 94 40 33 40 392
G8 1 4 81 34 16 12 20 168
G9 2 1 31 16 6 6 10 72
G10 - - - - - - 1 1
G11 1 3 12 4 - 1 7 28
Gweithredol - - 1 - - - - 1
SPOT 1 2 3 - 1 - 1 8
Cyfarwyddwr Anweithredol 11 - 1 - - - - 12
Cyfanswm 47 98 1052 503 202 212 351 2465

Sgiliau Cymraeg dechreuwyr newydd ac ymadawyr, Mawrth 2026

Math Dim datganiad wedi’i gwblhau Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus Rhuglder mewn Cymraeg llafar Rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig Cyfanswm
Staff newydd 28 32 121 30 24 16 24 275
Staff sy’n gadael 8 11 49 25 15 17 21 146
Diweddarwyd ddiwethaf