Diweddariad: 31/03/2023


Bydd ein ffioedd am drwyddedau yn aros ar gyfraddau 2022/23 hyd nes y bydd unrhyw gynllun codi tâl rheoleiddiol newydd yn cael ei gyflwyno.

Byddwn yn rhoi’r diweddaraf i’n cwsmeriaid ar yr amserlenni ar gyfer gweithredu’r ffioedd.

Ymateb i adborth yr ymgynghoriad

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, yn gofyn i bobl rannu eu barn a rhoi sylwadau ar ein cynlluniau i ddiweddaru ein ffioedd ar gyfer rhai o'n trwyddedau.

Yn dilyn adolygiad o adborth yr ymgynghoriad, rydym wedi cytuno ar sawl diwygiad i'r cynlluniau codi tâl arfaethedig, y gallwch eu gweld yn ein ymateb i'r ymgynghoriad ar Citizen Space.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud y gwaith sicrwydd angenrheidiol ar y cynigion. Yna bydd cyngor yn cael ei roi i'r Gweinidog a gwneir penderfyniad wedi hynny.

Cynnig i gyflwyno ffioedd newydd

Rydym yn cynnig cyflwyno ffioedd trwyddedu ar gyfer rhai trwyddedau rhywogaethau. 

Newidiadau arfaethedig i'n ffioedd

Roedd ein hymgynghoriad yn nodi cynigion i wneud newidiadau i faint rydym yn ei godi am geisiadau am drwyddedau newydd a diwygiedig, ar gyfer y cynlluniau codi tâl canlynol:

  • rheoleiddio diwydiant
  • gwastraff ar safleoedd
  • ansawdd dŵr
  • adnoddau dŵr
  • cydymffurfiaeth cronfeydd dŵr

Fel rhan o'n hymgynghoriad, gwnaethom hefyd gynnig newidiadau i rai o'n ffioedd cynhaliaeth blynyddol, sy'n cwmpasu'r ffioedd ar gyfer monitro cydymffurfiaeth yn bennaf, er mwyn sicrhau bod pwysau o ran chwyddiant yn y dyfodol yn cael ei reoli'n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Ffioedd cynhaliaeth Adnoddau Dŵr
  • Ffioedd cynhaliaeth Ansawdd Dŵr
  • Ffioedd cynhaliaeth Rheoliad Sylweddau Ymbelydrol Anniwclear
  • Ffioedd cynhaliaeth Cydymffurfiaeth Cronfeydd Dŵr
  • Cais am drwydded a ffioedd cynhaliaeth Gweithgarwch Perygl Llifogydd
  • Ffioedd cynhaliaeth Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU
  • Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)
  • Cyfleusterau Ailgylchu Deunyddiau

Dull gweithredu ar gyfer ein hadolygiad o ffioedd rheoleiddiol

Rydym am sicrhau ein bod yn codi'r ffioedd cywir yn y mannau cywir ac mewn ffordd deg a phriodol. Bydd hyn yn ein galluogi i gyflawni ein gwaith rheoleiddio gan hefyd gadw at ein hegwyddorion arweiniol ar gyfer Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a chyflawni ein cynllun corfforaethol.

Er mwyn sicrhau bod pawb sy'n cael eu heffeithio gan yr adolygiad yn cael lleisio eu barn, gwnaethom ymgysylltu â’r Grŵp Ymgynghorol Talwyr Taliadau, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o wahanol sectorau a allai gael eu heffeithio gan unrhyw newidiadau posibl i'n strwythur codi tâl.

Gwybodaeth bellach

Datganiad i'r wasg: Lansio ymgynghoriad ar gynllun mwy teg a syml i godi tâl am reoleiddio amgylcheddol

Blog: Pam mae angen i ni adolygu ein taliadau rheoleiddiol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom ar SROC@naturalresourceswales.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf