Canolfannau hygyrch i ymwelwyr

Mae yna ystod o gyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ag anableddau yn ein canolfannau ymwelwyr.

Mae llwybr cerdded hygyrch sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ym mhob un o'n canolfannau ymwelwyr.

Mae ganddyn nhw hefyd fannau parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas, toiledau hygyrch a byrddau picnic hygyrch.

Mae cyfleusterau ychwanegol, sy’n cynnwys caffi ac ardal chwarae hygyrch i blant, mewn rhai canolfannau ymwelwyr.

Gellir llogi cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd oddi ar y ffordd mewn rhai canolfannau ymwelwyr (rhaid bwcio'r rhain ymlaen llaw).

Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o fanylion am bob canolfan ymwelwyr a'i chyfleusterau hygyrch.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf