Fforymau Mynediad Lleol
Gwnaeth Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 roi dyletswydd statudol ar bob awdurdod priffyrdd a Pharciau Cenedlaethol i sefydlu a chynnal fforwm mynediad lleol yn ei ardal. Mae rhyw bedwar ar hugain o Fforymau Mynediad Lleol (FfMLl) i’w cael yng Nghymru er mwyn rhoi cyngor ynghylch datblygiadau mewn mynediad i awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru .
Materion rheoli tir
Wrth roi'r cyngor hwn, mae Fforymau Mynediad Lleol yn ystyried materion pwysig sy'n ymwneud â rheoli tir - yn ogystal â'r angen gwirioneddol i warchod harddwch naturiol yr ardal benodol.
O dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, rhaid i fforwm gynnwys aelodau sy'n cynrychioli:
- defnyddwyr tir mynediad lleol a hawliau tramwy lleol
- perchnogion a meddianwyr tir mynediad a thir â hawliau tramwy
- buddiannau eraill sy'n arbennig o berthnasol i'r ardal
Etholiadau a chynrychiolwyr
Mae'r Fforymau Mynediad Lleol yng Nghymru yn cadw mewn cysylltiad â'i gilydd drwy Gyfarfodydd chwemisol y Cadeiryddion (fel arfer ym mis Chwefror a mis Hydref), a'r Gynhadledd Flynyddol, a gynhelir ym mis Mehefin fel arfer. Maent hefyd yn ethol Cynrychiolydd Cenedlaethol a Dirprwy Gynrychiolydd Cenedlaethol a'u gwaith yw cynrychioli'r Fforymau Mynediad Lleol mewn digwyddiadau, fforymau a chyfarfodydd priodol, fel y Fforwm Mynediad Cenedlaethol i Gymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu'r Cynrychiolydd Cenedlaethol i drefnu'r cyfarfodydd hyn ar lefel genedlaethol ac yn llunio nodiadau'r cyfarfodydd a'r gynhadledd.
Cyfarfodydd Cenedlaethol y Fforymau Mynediad Lleol
- Agenda ar gyfer 28 Mawrth 2018
- Agenda ar gyfer 7 Rhagfyr 2017
- Nodyn o'r cyfarfod ar gyfer 7 Rhagfyr 2017
- Agenda ar gyfer 26 Ebrill 2017
- Nodyn o'r cyfarfod ar gyfer 26 Ebrill 2017
- Rhestr presenoldeb ar gyfer 26 Ebrill 2017 (Saesneg yn unig)
- Agenda ar gyfer 19 Hydref 2016
- Nodyn o'r cyfarfod ar gyfer 19 Hydref 2016
- Rhestr presenoldeb ar gyfer 19 Hydref 2016 (Saesneg yn unig)
- Agenda ar gyfer 3 Mawrth 2016
- Nodyn o'r cyfarfod ar gyfer 3 Mawrth 2016
- Cyfraniadau ar gyfer 3 Mawrth 2016 (Saesneg yn unig)
- Rhestr presenoldeb ar gyfer 3 Mawrth 2016 (Saesneg yn unig)
- Agenda ar gyfer
- Nodyn o'r cyfarfod ar gyfer
- Agenda ar gyfer 3 Mawrth 2016
- Nodyn o'r cyfarfod ar gyfer 3 Mawrth 2016
- Cyfraniadau ar gyfer 3 Mawrth 2016