Adroddiad ymchwilio i lifogydd - Llanelwy a chymunedau Elwy 2020
Mae'r Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd (FIR) wedi archwilio'r sefyllfa yn nalgylch Afon Elwy cyn y glaw trwm a gafwyd yn ystod stormydd mis Chwefror, maint a graddfa’r glawiad ac effeithiau dilynol y cynnydd yn lefel y dŵr a arweiniodd at lifogydd mewn nifer o eiddo preswyl a masnachol.
Daeth Storm Ciara â gwyntoedd uchel a glaw trwm yn ystod y mis Chwefror gwlypaf a gofnodwyd erioed, gan arwain at y llifoedd uchaf erioed yng nghofnodion gorsaf fesur Pont y Gwyddel, sy'n uwch na'r rhai a welwyd yn ystod digwyddiad llifogydd 2012.
O ystyried y lefelau eithafol hyn, mae canfyddiadau'r adroddiad yn dangos bod cynllun rheoli perygl llifogydd CNC yn Llanelwy, a gwblhawyd yn 2018, wedi perfformio'n dda ac wedi diogelu'r mwyafrif helaeth o gartrefi y bwriadwyd iddo eu diogelu.
Heb y cynllun, byddai hyd at 370 eiddo wedi bod mewn perygl o ddioddef llifogydd difrifol fel a ddigwyddodd yn 2012.
Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod bod nifer o eiddo preswyl, eiddo masnachol a pharciau carafannau wedi dioddef llifogydd, yn anffodus. Roedd llawer o'r rhain y tu allan i'r ardal a amddiffynnwyd gan gynllun Llanelwy.
Mae CNC wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau rheoli perygl llifogydd partner i ddysgu gwersi o'r digwyddiad, er mwyn deall yn well y perygl o lifogydd yn yr ardal, gyda'r nod o wella ei weithdrefnau perygl llifogydd ymhellach a'i arferion gwaith er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd i Gymunedau Llanelwy ac Elwy yn y dyfodol.
Bydd CNC nawr yn cymryd camau i weithio gyda'i bartneriaid proffesiynol ac Awdurdodau Rheoli Risg eraill yn ogystal â chymunedau lleol er mwyn deall a rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol yn well ar gyfer cymunedau yn yr ardal hon.
Pryderu am lifogydd yn eich ardal? Os ydych yn byw yng Nghymru a bod eich cartref neu fusnes mewn perygl o lifogydd, cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd dros y ffôn, drwy e-bost neu neges destun. Ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.