Monitro 'afon fynegai' ar gyfer eogiaid a brithyll y môr ar Afon Dyfrdwy yng Nghymru
Mae eog a siwin (brithyll môr) yn rhywogaethau pysgod eiconig yng Nghymru - yn symbol o afonydd glân ac yn cael eu gwerthfawrogi gan bysgotwyr.
Ers rhai blynyddoedd, mae niferoedd eogiaid yn arbennig wedi dirywio'n gyffredinol ar draws rhannau deheuol eu cynefin yng ngogledd yr Iwerydd - yn bennaf, mae'n ymddangos, oherwydd newidiadau yn yr amgylchedd morol nad ydym yn eu deall yn llawn. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu, ar lawer o afonydd, bod nifer y pysgod sy'n dychwelyd i silio bellach yn is na lefelau diogel - sy'n achosi pryder sylweddol.
Er mwyn gwarchod y rhywogaethau pysgod pwysig hyn a'r amgylchedd maen nhw'n dibynnu arno yn well, mae angen gwell dealltwriaeth o'r ffactorau cymhleth sy'n achosi newid. I'r perwyl hwn, mae Rhaglen Asesu Stoc Dyfrdwy (DSAP) wedi bod yn monitro nifer a chyfansoddiad poblogaethau eogiaid a brithyllod môr yn rhannau Cymreig Afon Dyfrdwy dros y 25+ mlynedd ddiwethaf. Mae rhaglenni dwys a thymor hir o'r fath ('mynegai') yn brin ledled Ewrop a Gogledd America, ond mae'r wybodaeth fiolegol maen nhw'n ei chasglu yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu ein dealltwriaeth o sut a pham mae poblogaethau'n newid ac yn llywio ein hymateb wrth geisio rheoli a lliniaru newidiadau andwyol.
Mae rhaglenni Afon Dyfrdwy yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau monitro sy'n targedu pob cam o gylchoedd bywyd eog a siwin:
- Samplo/tagio eogiaid/sewin môr sy'n dychwelyd i drap pysgod Cored Caer - i amcangyfrif maint yr haig bob blwyddyn a darparu gwybodaeth fiolegol (ee cyfansoddiad oedran a maint; rhyw; cyflwr cyffredinol)
- Cynllun llyfr log pysgota (~400 o enweirwyr) - i gasglu gwybodaeth fanwl am ymdrech dal a physgota a meithrin cefnogaeth ar gyfer y rhaglen (ee darparu rhifau tag at ddibenion nodi ac dal eto)
- Samplo/tagio gleisiaid mudol gan ddefnyddio Trapiau Sgriw Rotari yn is i lawr yr afon i werthuso nifer y gleisiaid sy'n deor a'r nifer sy'n goroesi yn y môr (angen sgrinio pysgod aeddfed sy'n dychwelyd yng Nghaer)
- Arolygon electrobysgota silod a gleisiaid (80+ o safleoedd; techneg arolwg 5-munud wedi'i amseru) - i olrhain newidiadau mewn helaethrwydd a dosbarthiad a llywio rheolaeth is-ddalgylchoedd
Mae'r adroddiadau blynyddol isod yn nodi rhai o fanylion rhaglen Dyfrdwy a'i chanfyddiadau. Defnyddir allbynnau mewn amrywiaeth eang o ffyrdd i asesu a rheoli stociau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol - mae hyn yn cynnwys datblygu a chymhwyso Terfynau Cadwraeth, dehongli ystadegau pysgodfeydd; modelu a deall prosesau poblogaeth ac amrywiad yn hanes bywyd; ac ymchwil newid hinsawdd.