Egwyddorion Ymchwil Cydweithredol Bioamrywiaeth Forol
Yn ddiweddar nododd Cyfoeth Naturiol Cymru anghenion tystiolaeth flaenoriaethol i rywfaint o’n gwaith bioamrywiaeth forol. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu prosiectau yr ydym yn eu hystyried yn rhai blaenoriaeth uchel, lle byddem yn hoffi archwilio cyfleoedd i gydweithio.
Mae’r rhestr o brosiectau blaenoriaeth uchel wedi ei rhannu i’r grwpiau canlynol:
- Gwaith ymchwilio posibl ar y cyd
- Gwaith cydweithio posibl arall a allai fod yn llai addas i waith y Prifysgolion a Sefydliadau Ymchwil ond a allai er hynny gynnig cyfleoedd i gydweithio; er enghraifft, â rhan, ond nid pob rhan o’r prosiect
- Prosiectau sydd wedi cychwyn ar hyn o bryd ond a allai barhau i fod â rhywfaint o sgôp ar gyfer cydweithio pellach
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwaith ymchwil ar unrhyw un o’r prosiectau sy’n cael eu rhestru, cysylltwch â tystiolaethbioamrywiaethmorol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk