Asesiad gwaelodlin safleoedd gwarchodedig 2020

Mae gan fioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau rôl hanfodol o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Yng Nghymru, mae safleoedd gwarchodedig a’r modd y cânt eu rheoli’n rhan annatod o iechyd ecosystemau o’r fath.  Mae’r rhain yn dibynnu ar ymyriadau wedi’u targedu’n briodol er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaethau ecosystem gan gynnwys bioamrywiaeth.

Mae monitro rhywogaethau a chynefinoedd allweddol ar safleoedd gwarchodedig yn ein helpu i gynllunio, rheoli a thargedu ein gwaith yn gywir ac mor effeithlon â phosibl.

Cefndir

Sefydlwyd prosiect Gwerthuso Gwaelodlin 2020  er mwyn asesu ansawdd sylfaen dystiolaeth y safleoedd gwarchodedig i’n helpu i ddeall, lle bo’n bosib, ‘iechyd’ cymharol y rhywogaethau a’r cynefinoedd allweddol ar draws yr ystod o nodweddion dŵr croyw a nodweddion daearol ar safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.

Canolbwyntiwyd yn bennaf ar fonitro nodweddion a ystyrir yn gymwysedig ar safleoedd gwarchodedig Cymru ar hyn o bryd.

Mathau o nodweddion daearol a dŵr croyw i’w monitro:

  • fflora – h.y planhigion
  • ffawna – h.y anifeiliaid
  • daeareg – h.y. creigiau
  • geomorffoleg – h.y. tirffurfiau
  • cymysgedd o’r nodweddion naturiol hyn

Dyma’r tro cyntaf i ymarfer o’r fath i bennu cyflwr nodweddion safleoedd gwarchodedig Cymru gael ei gynnal ar y raddfa hon ers 2003.

Prif ganfyddiadau a’r camau nesaf

Adolygwyd y dystiolaeth ar bob nodwedd ac, os oedd modd, rhoddwyd categori asesu cyflwr dangosol iddi. Roedd hyn er mwyn llywio ein dulliau rheoli wrth ymdrin â nodweddion mewn cyflwr gwael a'n dull o gasglu tystiolaeth o dan strategaeth monitro daearol newydd, fwy cynhwysfawr.

Dengys y canlyniadau nad oes gan CNC dystiolaeth ddigonol ar hyn o bryd i bennu cyflwr oddeutu hanner y nodweddion ar y safleoedd hyn (nodir bod cyflwr y nodweddion hyn yn anhysbys).

O’r nodweddion hynny y mae gennym asesiad ohonynt, rydym wedi dod i’r casgliad:

  • yr amcangyfrifir bod 20% yn cael eu hystyried yn ffafriol
  • bod tua 30% o'r nodweddion mewn cyflwr anffafriol
  • bod tua 50% nad ydynt mewn cyflwr dymunol

Mae’r canfyddiadau hyn yn rhoi gwaelodlin bwysig i ni i lywio ein dull o reoli a monitro ar draws y gyfres ehangach o safleoedd gwarchodedig (ACA, AGA a SoDdGA).

Adolygiad o gyflwr nodweddion naturiol gwarchodedig Cymru yn annog galwadau am dull partneriaeth i greu dyfodol lle mae natur yn ffynnu.

Camau Nesaf

Mae CNC am weithio mewn partneriaeth â’r sector amgylcheddol, tirfeddianwyr a chymunedau yng Nghymru i helpu i lunio a chyflawni cynllun gweithredu arloesol â’r bwriad o wella’r dulliau presennol o fonitro iechyd safleoedd gwarchodedig yn y dyfodol.

Bydd y wybodaeth a'r arbenigedd a ddarperir drwy'r bartneriaeth hon, ynghyd â chanlyniadau'r adolygiad hwn, yn llywio'r gwaith o ddatblygu strategaeth monitro daearol fwy cynhwysfawr ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r heriau o ran tystiolaeth ac ymyrraeth mewn safleoedd fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau bioamrywiaeth gadarn yng Nghymru.

Bydd adolygiad dŵr croyw hefyd yn cael ei roi ar waith i gynllunio'r gwaith o fonitro safleoedd dŵr croyw yn y dyfodol.

Dangosfwrdd asesiad gwaelodlin safleoedd gwarchodedig

Mae gan y dangosfwrdd isod 5 tudalen y gallwch lywio trwyddynt gan ddefnyddio’r tabiau ar y gwaelod.

Gellir hidlo’r gwybodaeth yn ôl maes gweithredol, parth, cynefin/rhywogaeth a math o ddynodiad.

Fersiwn amgen / testun yn unig

Llwytho data i lawr fel ffeil CSV

Cysylltwch â ni

I godi mater neu ofyn am eglurhad am y data, anfonwch e-bost i opendata@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Telerau defnyddio

  • Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol am unrhyw wallau neu hepgoriadau yn yr Wybodaeth ac ni fydd yn atebol am unrhyw golled, anaf neu ddifrod o unrhyw fath a achosir drwy ei defnyddio. Nid yw CNC yn gwarantu cyflenwad parhaus o’r Wybodaeth. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod yr wybodaeth yn addas ar gyfer y diben a fwriadwyd.
  • Mae'r data'n deillio o gyfuniad ac adolygiad o dystiolaeth sy'n ymwneud naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â chyflwr nodweddion daearol, dŵr croyw a gwyddorau'r daear ar safleoedd gwarchodedig statudol yng Nghymru. Mae'r rhestr o nodweddion a ystyriwyd yn seiliedig ar adolygiad cychwynnol gan arbenigwyr Cyfoeth Naturiol Cymru; mae'n ystyried newidiadau i'r meini prawf dethol ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac nid yw'n cynnwys rhywogaethau a chynefinoedd sydd â'r cysylltiad gorau â'r amgylchedd morol. Ni ddylid ystyried bod y rhestr nodweddion yn derfynol.
  • Mae'r asesiadau'n ganlyniad o gyfuniad o adolygiadau tystiolaeth a barn arbenigol ac felly maent yn adlewyrchu'r safbwyntiau ar adeg yr asesiad sy'n seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael a barn aseswyr o'r nodwedd. O ganlyniad, gall gwybodaeth ychwanegol neu eglurhad ynghylch tystiolaeth bresennol arwain at ddiweddariadau i'r asesiad dangosol neu ei gyfradd hyder yn y dyfodol.
  • Nid yw'r nodweddion yr oedd asesiad yn bosibl ar eu cyfer yn cynrychioli sampl ystadegol ddilys o'r ystod gyfan o nodweddion. O ystyried ehangder yr asesiadau ‘anhysbys’, dylai unrhyw ystadegau cryno gynnwys data sy’n dangos maint asesiadau anhysbys ochr yn ochr â ffigurau ar gyfran y nodweddion yr ystyrir eu bod mewn cyflwr ffafriol neu anffafriol.
  • Dylai cymwysiadau ar gyfer safle penodol y data ystyried yr asesiad hyder sy'n gysylltiedig â'r canlyniad unigol gan gydbwyso hyn â'r costau/risg posibl (cyfalafol ac amgylcheddol) rhag cymhwyso'r asesiad anghywir.
  • Fel rheol, bydd yn briodol i ddefnyddio'r ystod lawn o asesiadau ar draws pob lefel hyder wrth gyflwyno ystadegau cryno ar lefel ardal neu genedlaethol, ond hyd yn oed yn yr achosion hyn, dylid cadw data ar gydbwysedd cymharol asesiadau hyder uchel, canolig ac isel.
  • Mae disgrifio nodweddion fel rhai ‘wedi'u dinistrio’ yn golygu nad ydynt bellach yn cael eu hystyried fel nodweddion sy'n haeddu statws dynodiad ac ni ystyrir ei bod yn bosibl eu hadfer o fewn cyfnod rhesymol o amser. Nid yw o reidrwydd yn awgrymu bod y nodwedd wedi'i cholli o ganlyniad i weithredoedd anffafriol bwriadol. Dylid ystyried bod pob asesiad lle mae'r nodwedd wedi'i dosbarthu fel nodwedd wedi'i dinistrio yn un dros dro a dylid ei hadolygu cyn ei hystyried yn derfynol.
  • Nid yw dosbarthu nodwedd yn anhysbys yn awgrymu absenoldeb tystiolaeth, ond mae'n awgrymu nad oedd tystiolaeth ddigonol i ddod i gasgliad ar adeg yr asesiad.
Diweddarwyd ddiwethaf