SoNaRR2020: Ymylon arfordirol
Mae'r bennod hon yn asesu'r cynnydd tuag at reoli...
Mae coetiroedd yn cyflawni ystod o wasanaethau ecosystem sy’n bwysig ar gyfer lles.
Mae’r rhain yn cynnwys darparu pren, cynnal bioamrywiaeth, storio carbon, gwella ansawdd aer a dŵr, lleihau’r risg o lifogydd a sychder, gwella ein hiechyd corfforol a meddyliol a darparu cyfleoedd ar gyfer addysg a dysgu.
Mae mathau o goetiroedd yng Nghymru yn amrywio o rai hynafol i rai diweddar, rhai lled-naturiol i blanhigfeydd (conifferau, llydanddail a chymysg). Mae coetiroedd Cymru’n cynnwys mathau a rhywogaethau arwyddocaol o bwysig yng nghynefin y coetiroedd lled-naturiol.
Mae nodweddion coetiroedd yng Nghymru wedi eu dylanwadu gan ddefnydd hanesyddol o’r tir a pholisi llywodraethol blaenorol. Mae coetir bellach yn gorchuddio tua 15% o dir Cymru. Yn y 1900au cynnar, roedd cyn lleied â 5% wedi ei orchuddio ond cynyddodd hwn yn sylweddol yng nghanol y 1900au wrth i goedwigoedd a berchnogir gan ystadau gael eu sefydlu. Fodd bynnag, mae Cymru’n parhau yn un o’r gwledydd â’r lleiaf o goetir yn Ewrop ac mae pwysau mawr ar gynyddu’r gyfradd y mae coetiroedd newydd yn cael eu creu.
Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod Coetiroedd (Saesneg PDF)
Mae'r bennod hon yn nodi'r ffactorau sy'n arwain at newid mewn coetiroedd gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, plâu a chlefydau, llygredd aer, diffyg rheolaeth briodol a newid o ran defnydd tir, ac mae'n asesu gwydnwch ecosystem y coetiroedd.
Mae'n nodi sut y gall camau i wella gwydnwch ein coetiroedd presennol, ochr yn ochr â chreu coetiroedd newydd, helpu i fynd i'r afael â her argyfyngau'r hinsawdd a natur, yn ogystal â darparu pren a gwasanaethau ecosystemau eraill i sicrhau manteision lles i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Mae anghenion tystiolaeth y bennod Coetiroedd wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.