Mae Cymru'n dibynnu ar adnoddau naturiol y Ddaear ar gyfer ein lles.

Adnoddau naturiol yw sail ein heconomi. Mae popeth sy'n cael ei werthu, ei brynu neu ei ddefnyddio yn deillio o adnoddau naturiol.

Mae adnoddau naturiol yn cynnwys popeth o'n cwmpas gan gynnwys yr aer rydym yn ei anadlu, y dŵr rydym yn ei yfed, y creigiau a'r mwynau a'r holl bethau byw ar ein planed gan gynnwys ni ein hunain. Maent yn sail i ecosystemau iach a gwydn.

Pe bai pawb ar y ddaear yn defnyddio'r un faint o adnoddau naturiol â Chymru, yna byddai angen dwy Ddaear a hanner i'n cefnogi.

Pwysau

Mae cofrestrau adnoddau naturiol SoNaRR yn crynhoi'r pwysau a'r effeithiau presennol ar yr adnoddau naturiol hyn, yng Nghymru a'r tu allan i Gymru.

Wrth i'n defnydd dyfu, bydd adnoddau adnewyddadwy fel dŵr ac aer yn parhau i ddod o dan bwysau.

Mae newid yn yr hinsawdd, llygredd a sut rydym yn defnyddio'r tir yn effeithio ar faint o ddŵr sydd ar gael ac ansawdd y dŵr sydd ei angen i gefnogi bywyd.

Erys ansawdd aer yn broblem i bob peth byw oherwydd yr allyriadau sy'n deillio'n bennaf o drafnidiaeth ac amaethyddiaeth.

Mae mawndiroedd yn bwysig gan eu bod yn storio carbon ond wrth iddynt ddirywio maent yn rhyddhau hyn i'r atmosffer sy'n ychwanegu ymhellach at broblem y newid yn ein hinsawdd. Maent yn sychu ac yn erydu o ganlyniad uniongyrchol i newid yn yr hinsawdd.

Mae Cymru'n defnyddio adnoddau naturiol ar gyfradd anghynaliadwy ac nid yw wedi cyflawni'r nod o wella a diogelu adnoddau naturiol.

Cyfleoedd i weithredu

Er mwyn cyflawni'r nod SMNR o ddiogelu a gwella adnoddau naturiol, mae angen i Gymru symud tuag at economi atgynhyrchiol. Rydym wedi nodi pedwar cyfle blaenoriaethol ar gyfer gweithredu:

Datgarboneiddio

Sicrhau bod Cymru'n rhyddhau llai o nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer drwy losgi llai o danwyddau ffosil a chadw, gwella ac ehangu cynefinoedd sy'n helpu i ddal a storio carbon.

Gwella'r modd y rheolir tir

Defnyddio tir yn fwy cynaliadwy drwy newid y modd y rheolir amaethyddiaeth, coedwigaeth a datblygu.

Cydnabod bioamrywiaeth fel ased

Cydnabod bod bioamrywiaeth yn rhan o gyfoeth Cymru ac y dylid ei diogelu fel asedau eraill.

Ymdrin â'r defnydd o adnoddau a'i effeithiau

Sicrhau lefelau cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy drwy wella effeithlonrwydd a lefel y defnydd o adnoddau.

Lawrlwythwch bennod lawn SoNaRR rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy - nod 1, diogelu a gwella stociau adnoddau naturiol

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf