Cynllun llifogydd busnes
Neu defnyddiwch y rhestr wirio hon i ysgrifennu eich cynllun eich hun:
Gofalwch eich bod yn gwybod â phwy i gysylltu a sut:
- cytunwch ar ble y byddwch yn mynd a sut i gysylltu â’ch gilydd
- gofalwch fod gennych restr o’ch holl gysylltiadau pwysig wrth law
Cadwch stoc, offer, sylweddau peryglus ac unrhyw beth a allai halogi mewn man addas:
- peidiwch â disgwyl nes y bydd llifogydd i’w symud oherwydd gallai hynny fod yn rhy hwyr ac yn beryglus
Meddyliwch beth fyddai angen i chi ei symud i ddiogelwch yn ystod llifogydd:
- cerbydau
- dodrefn
- offer trydanol
- sylweddau peryglus
Archwilio mwy
Diweddarwyd ddiwethaf