Gwneud eich gwaith eich hun mewn rhanbarth draenio

Rheoli a goruchwylio lefel y dŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cyflawni rôl oruchwylio mewn cysylltiad â phob mater sy’n debygol o gael effaith ar reoli lefel y dŵr a draeniad mewn rhanbarthau draenio. Rydyn ni hefyd yn rheoli gwaith a gweithgareddau sy’n cael eu gwneud gan eraill os yw’n bosibl iddyn nhw gael effaith ar ein cyrsiau dŵr.

Caniatâd Draenio Tir

Os ydych chi eisiau gwneud gwaith mewn rhanbarth draenio, neu os ydych chi eisiau gwneud eich gwaith cynnal a chadw eich hun ar gwrs dŵr, bydd angen i chi gysylltu â ni i wneud cais am Ganiatâd Draenio Tir.

Prif afonydd

Os yw eich gwaith yn ymwneud â phrif afonydd, gallwch gael rhagor o wybodaeth am Drwyddedau Gweithgaredd Perygl Llifogydd yma: Gweld a oes arnoch angen trwydded gweithgaredd perygl llifogydd

Dysgwch fwy am wneud cais am ganiatâd draenio tir.

Diweddarwyd ddiwethaf