Gweld strwythurau amddiffyn llifogydd yn agos i chi (Basdata Asedau Llifogydd Cenedlaethol)

Gall cwlfertau fod yn beryglus. Dim ond pobl broffesiynol sydd wedi cael eu hyfforddi ddylai fynd i mewn i gwlfertau. Mae risg i chi gael niwed, boddi, anadlu nwyon gwenwynig, a methu dod allan os ydych yn mynd i mewn i gwlfert. 

Basdata Asedau Llifogydd Cenedlaethol

Mae'r Basdata Asedau Llifogydd Cenedlaethol yn cofnodi strwythurau llifogydd yng Nghymru, gan gynnwys banciau, waliau, gatiau llifogydd, cwlfertau, a sgrinau (sy'n dal gwastraff). 

Gallwch chwilio am y rhain ar y map isod. Mae'r basdata yn cynnwys: 

  • y math o strwythur
  • hyd
  • pwy sy'n ei gynnal (er enghraifft Cyfoeth Naturiol Cymru neu awdudodau lleol)
  • pwy sy'n ei berchen (er enghraifft Cyfoeth Naturiol Cymru neu awdudodau lleol)
  • rhif cyfeirnod y gallwch ddyfynnu wrth gysylltu â chyrff

Gweld os oes ased llifogydd ar eich tir 

Os ydy cwlfert neu strwythur yn rhedeg drwy eich eiddo, y chi sy'n ei biau o'r man mae'n cyrraedd eich tir i'r man mae'n gadael. 

Y chi sy'n gyfrifol am gynnal a thrwsio asedau llifogydd ar eich tir, ac am gyfnewid yr hen am newydd yn ôl yr angen. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn cynnal rhai asedau llifogydd, ar sail blaenoriaeth risg. 

Gweld pwy sydd biau a chynnal asedau llifogydd yn y map isod: 

  • chwiliwch am eich cyfeiriad
  • cliciwch fotwm chwith eich llygoden ar ased llifogydd ar y map
  • cliciwch ar eicon 'saeth i'r dde'
  • edrychwch ar wybodaeth yr 'OWNER' a 'MAINTAINED BY'

Os ydy'r 'OWNER' yn 'Private' neu 'Third Party Owner' ac mae'r ased ar eich tir, y chi sydd yn ei biau: 

Mae'r map yn cynnwys data Ordinance Survey © Hawlfraint y Goron a hawlfraint basdata 2021 100019741

Os oes gennych ased llifogydd ar eich tir 

Os ydy ein map yn dangos bod gennych ased llifogyd ar eich tir ond dydych chi ddim yn gwybod ble, neu os ydych chi'n poeni am eich cyflwr: 

  • gwiriwch bapurau perchnogaeth eich eiddo
  • gwiriwch unrhyw ddogfennau gan eich cyfreithiwr
  • gwiriwch bwy sy'n cynnal yr ased yn y map uchod a gofyn iddyn nhw am ei leoliad a chyflwr
  • chwiliwch am berson proffesiynol ym maes draenio a'u cael nhw i wneud arolwg draeniau neu gwlfertau os nad oes mwy o wybodaeth gan y corff sy'n cynnal yr ased
  • cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am fwy o wybodaeth am yr ased 

Gallwch hefyd weld eich risg llifogydd yn ôl côd post neu chwilio ar fap

Diweddariadau i fap asedau llifogydd

Byddwn yn diweddaru'r map uchod yn rheolaidd i wella cywirdeb y data. Mae lleoliad asedau llifogydd er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ar hyn o bryd: 

  • gall rhai o'r ddata fod yn anghywir neu hen
  • gall rhai o asedau dan ddaear fod yn anhysbys neu heb eu cofnodi'n gywir

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am leoliad, cyflwr, cofnodion neu waith cynnal a chadw asedau llifogydd, siaradwch â'r perchennog neu gynhaliwr. 

Rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno data i ni er mwyn i ni ychwanegu eu hasedau llifogydd newydd i Fasdata Asedau Llifogydd Cenedlaethol.

Diweddarwyd ddiwethaf