Canllawiau ar ddefnyddio ein map perygl llifogydd

Gallwch ddefnyddio ein map perygl lilfogydd i weld y gwahanol gronfeydd gwybodaeth sy’n cynnwys manylion:

  • perygl llifogydd

  • amddiffynfeydd Llifogydd

  • cynllun rheoli traethlin

  • ardaloedd y cyflwynir rhybuddion a rhybuddion brys llifogydd ar eu cyfer.

1      Canllawiau ar gyfer defnyddio’r map perygl llifogydd

1.1      Mynediad at y map

Bydd defnyddwyr yn cyrraedd tudalen lanio sydd â’r map wedi’i osod arni wrth fynd at y map perygl llifogydd.   

Diagram 1 – Tudalen lanio’r map perygl llifogydd

undefined

Bydd map o Gymru'n cael ei gyflwyno a fydd yn dangos y prif afonydd yn ddiofyn.   Ni fydd yn dangos unrhyw offer na chronfeydd gwybodaeth y gellir eu defnyddio pan fyddwch yn ei agor, mae'r adrannau canlynol yn egluro sut y gellir eu cael.

1.2      Offer a swyddogaethau’r map

Mae’r labeli ar y diagram hwn yn dangos y prif offer a’r swyddogaethau sydd ar y map.

Diagram 2 – labeli’r prif offer ar y map

undefined 

1.2.1     Llithrydd Cronfeydd Gwybodaeth

Drwy glicio ar y symbol >, bydd y llithrydd cronfeydd gwybodaeth yn agor ac yn dangos y cronfeydd data sydd ar gael ar y map, fel y dangosir isod.

Diagram 3 – Llithrydd cronfeydd data

undefined

Bydd pob un o’r cronfeydd data'n dangos un ai bolygon, linell neu bwynt yr ardal y maen nhw'n cyfeirio ati.   Cliciwch ar gronfa ddata a bydd polygon, llinell neu bwynt yn ymddangos ar y map.   Cofiwch y bydd yn rhaid i chi chwyddo i ryw lefel (1:300,000) i weld y ffurfiau.

Mae’r map yn gallu dangos un neu nifer o gronfeydd data'r un pryd. Mae pob cronfa ddata'n cael ei dangos ar y map mewn lliw gwahanol.   Defnyddiwch y botwm allwedd (fel sy’n cael ei ddangos ar y diagram) i weld lliwiau’r gwahanol gronfeydd data.

Mae arwydd + neu – ger ambell gronfa ddata. Mae hyn yn dangos fod yna gronfeydd data eraill ynddyn nhw y gellir eu dangos neu eu cuddio drwy ddefnyddio’r arwydd + neu -.   Cofiwch bod yn rhaid ticio’r cronfeydd data lefel uwch ac is cyn y gellir eu gweld ar y map, fel y dangosir yn y diagram uchod.

1.2.2     Gweld rhagor o wybodaeth drwy'r polygonau, llinellau a phwyntiau

Mae’r polygonau, llinellau a phwyntiau’n gweithredu fel hyperddolenni i gael rhagor o wybodaeth.  Pan fyddwch yn clicio ar bolygon, llinell neu bwynt, bydd blwch yn ymddangos gyda gwybodaeth sylfaenol ynghylch y pwynt sydd o ddiddordeb (e.e. enw afon neu gronfa ddŵr).  Os oes mwy nag un set ddata ar gael ac i'w gweld ar y darn o fap lle cliciwyd, bydd dewis o wybodaeth ar gael yn y blwch.   Defnyddiwch un ai'r blwch neu'r saethau cwymp i ddewis cronfa ddata, fel sy'n cael ei ddangos isod.

Diagram 4 – Cael rhagor o wybodaeth

undefined

Ar ôl dewis, cliciwch yr hyperddolen ‘Rhagor o wybodaeth’ i agor gwe-dudalen arall ar gyfer gwybodaeth ychwanegol.   

1.2.3     Dewislen Offer (Rydw i eisiau...)

Mae’r dewis ‘Rydw i eisiau...’ yn cynnig nifer o offer a dewisiadau i ddefnyddwyr. Y rhain yw: 

  • Canfod gwybodaeth ar fap

  • Gweld yr wybodaeth

  • Newid yr haenau sydd i’w gweld ar fap

  • Nod tudalen i dangos ystod y map presennol

2.2.3.1    Rydw i eisiau ...  Gweld yr wybodaeth

Mae hyn yn dangos yr wybodaeth ynghylch y cronfeydd data sydd wedi’u dewis a lliwiau’r polygonau neu’r mathau o linellau sy’n cael eu dangos ar y map. Mae enghraifft o ganlyniad chwilio am wybodaeth isod: 

Diagram 5 – gweld yr wybodaeth

undefined

1.2.3.2    Rydw i eisiau ... Newid yr haenau sydd i’w gweld ar y map

Mae hyn yn ffordd hawdd o ddychwelyd i’r sgrȋn cronfa wybodaeth sy’n dangos rhestr o’r cronfeydd data. 

1.2.3.3    Rydw i eisiau... Gosod nod llyfr ar ystod y map presennol

Mae hyn yn arbed y map sydd i’w weld ar hyn o bryd fel nod llyfr (ffefryn) yn y map er mwyn gallu mynd yn ôl ato’n hawdd yn nes ymlaen yn yr un sesiwn.

Drwy ei ddewis o  'Rydw i eisiau...’ bydd blwch yn ymddangos lle gellir enwi’r nod llyfr.

Diagram 6 – Enwi nod llyfr

undefined 

Gellir ei enwi gydag unrhyw enw, rhif neu nod.   

Ar ôl ei ychwanegu, bydd symbol nod llyfr yn ymddangos o dan yr offer chwyddo i mewn ac allan.  Dyma lle gellir adfer nodau llyfr sydd wedi’u harbed: 

Diagram 7 – Adfer nodau llyfrau wedi'i harbed

undefined

Cofiwch mai dim ond yn ystod y sesiwn bresennol y bydd yn nodau llyfr yn cael eu harbed, bydd pob un yn diflannu unwaith y daw'r sesiwn i ben neu os yw’r ffeiliau rhyngrwyd dros dro (cwcis) yn cael eu clirio.

1.2.4     Canfod Lleoliad

Drwy glicio i ganfod lleoliad, gallwch weld lleoliad y ddyfais a ddefnyddir ar hyn o bryd a gosod pwynt ar y map ar gyfer y lleoliad hwnnw. Bydd hyn yn gweithio ar unrhyw gyfrifiadur desg, tabled neu ddyfais symudol (efallai y bydd gofyn galluogi’r nodwedd ‘navigation’ ar ddyfeisiadau symudol) 

Diagram 8 - lleoliad ar y map 

undefined

1.2.5     Nodwedd chwyddo i mewn / Chwyddo allan

Offer yw hwn i alluogi’r defnyddiwr i newid graddfa'r map sydd i’w weld a hefyd i weld nodweddion yn fwy neu’n llai. 

1.2.6     Nodwedd y map sylfaenol

Ceir y mapiau sylfaenol oddi wrth Arolwg Ordnans.  Mae yna ddewis o dri map sylfaenol, pob un â golygfa a phersbectifau gwahanol.   Y tri map sylfaenol yw:

  • Map cefndir agored Arolwg Ordnans

  • Map carto Arolwg Ordnans

  • Map premiwm rasters Arolwg Ordnan

Y map a fydd yn agor yn ddifofyn bob tro yw map cefndir agored Arolwg Ordnans ond gellir dewis y mapiau sylfaenol eraill sydd ar gael drwy’r nodwedd hwn.

1.2.7     Dewis cyfesurynnau

Y cyfesuryn diofyn ar gyfer y map yw lledred / hydred. Gellir ei newid i x/y drwy ddefnyddio'r offer hwn.

1.2.8     Ystod graddfa

Gellir defnyddio hyn i fesur pellter ar y map. Mae'r ystod yn cynyddu / gostwng i gyd-fynd â'r nodwedd chwyddo mewn / allan. 

Diweddarwyd ddiwethaf