Mae afon yn gorlifo pan na fydd yn gallu delio â'r swm o ddŵr sy'n draenio iddi o'r tir o'i chwmpas.  Mae'r môr yn gorlifo o ganlyniad i lanwau uchel a thywydd stormus.

Beth y mae 'isel' yn ei olygu?

Mae ychydig yn golygu bod siawns yr ardal hon, bob blwyddyn, o ddioddef o lifogydd rhwng 1 ym mhob 1000 (0.1%) ac 1 ym mhob 100 (1%).

Mae hyn yn rhoi ystyriaeth i effaith unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd a allai fod yn yr ardal hon. Er bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn lleihau'r siawns o lifogydd, dydyn nhw ddim yn eu rhwystro'n llwyr. Gall y dŵr fynd drostynt neu gall yr amddiffynfeydd ollwng.

Mae llifogydd yn dinistrio - byddwch yn barod

Peidiwch ag aros nes y bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch yn barod ar gyfer llifogydd trwy ddilyn ychydig gamau syml i leihau eu heffaith ar eich cartref neu'ch busnes.

Cynllunio datblygiad

Nid yw'r wybodaeth hon yn addas ar gyfer ei defnyddio wrth gynllunio defnydd tir. Os ydych chi'n cynllunio datblygiad, mae angen i chi ddefnyddio Map Cyngor Datblygu Llywodraeth Cymru. Y rheswm am hyn yw bod angen i chi ddefnyddio gwybodaeth sy'n seiliedig ar lifogydd heb amddiffynfeydd i ddibenion cynllunio.

Rhagor o wybodaeth

Am rhagor o wybodaeth am yswiriant llifogydd, ymweld â’r isod:

Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth ym Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru i weld yr ardaloedd bras lle y byddai llifogydd.

Os oes gennych fwy o gwestiynau ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.

Gall yr ardal hon fod mewn perygl o fathau eraill o lifogydd.

Diweddarwyd ddiwethaf