Perygl isel o lifogydd o'r môr
Mae llifogydd o'r môr yn digwydd pan fo penllanw ac amodau stormus.
Beth y mae 'isel' yn ei olygu?
Mae isel yn golygu bod, bob blwyddyn, mae gan yr ardal hon siawns o lifogydd o rhwng 1 mewn 1000 (0.1%) ac 1 mewn 200 (0.5%)
Mae hyn yn rhoi ystyriaeth i effaith unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd a allai fod yn yr ardal hon. Er bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn lleihau'r siawns o lifogydd, dydyn nhw ddim yn eu rhwystro'n llwyr. Gall y dŵr fynd drostynt neu gall yr amddiffynfeydd ollwng.
Mae llifogydd yn dinistrio - byddwch yn barod
Peidiwch ag aros nes y bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch yn barod ar gyfer llifogydd trwy ddilyn ychydig gamau syml i leihau eu heffaith ar eich cartref neu'ch busnes.
- Beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd
- Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim
- Gweld y rhybuddion llifogydd sydd mewn grym ar hyn o bryd
Cynllunio datblygiad
Nid yw'r wybodaeth hon yn addas ar gyfer ei defnyddio wrth gynllunio defnydd tir. Os ydych chi'n cynllunio datblygiad, mae angen i chi ddefnyddio Map Cyngor Datblygu Llywodraeth Cymru. Y rheswm am hyn yw bod angen i chi ddefnyddio gwybodaeth sy'n seiliedig ar lifogydd heb amddiffynfeydd i ddibenion cynllunio.
Rhagor o wybodaeth
Am rhagor o wybodaeth am yswiriant llifogydd, ymweld â’r isod:
Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth ym Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru i weld yr ardaloedd bras lle y byddai llifogydd.
Os oes gennych fwy o gwestiynau ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.
Gall yr ardal hon fod mewn perygl o fathau eraill o lifogydd.