Deall canlyniadau eich asesiad risg llifogydd

Canlyniadau eich asesiad perygl llifogydd

Bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddeall canlyniadau eich asesiad perygl llifogydd o fap Asesiad Risg Llifogydd Cymru a gwasanaeth Gweld eich risg llifogydd yn ôl côd post.

Mae'r ddau wasanaeth yn defnyddio'r un wybodaeth am risg llifogydd. Maen nhw'n dangos risg i ardal gyffredinol, dim i eiddo unigol. 

Dylech ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddeall am y risg llifogydd yn eich ardal a chymryd y camau priodol. Mae'r dudalen hon yn dangos sut y gallwch baratoi eich eiddio ar gyfer llifogydd. 

Ynghyd â risg llifogydd, mae'r map o Asesiad Perygl Llifogydd Cymru yn dangos gwybodaeth arall, gan gynnwys:

Mathau o risg llifogydd

Rydym yn dangos y perygl llifogydd ar gyfer tri math gwahanol o lifogydd, sef:

  • afonydd
  • y môr
  • dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Mae lefelau'r risg yn uchel, canolig, isel neu isel iawn.

Nid yw'r lefelau risg yn cymryd i ystyriaeth: 

  • methiant amddiffynfeydd rhag llifogydd
  • rhwystr i sianeli afonydd, strwythurau a sustemau draenio eraill
  • effaith tonnau mewn ardaloedd arfordirol (yn y rhan fwyaf o achosion)

Gallai hyn gynyddu'r risg ac ystod llifogydd mewn ardal.

Nid ydym yn darparu lefel risg ar gyfer llifogydd o gronfeydd dŵr. Rydym yn dangos y sefyllfa waethaf bosibl ar gyfer yr ardal a allai gael ei gorlifo pe bai cronfa ddŵr fawr yn methu ac yn rhyddhau’r dŵr sydd ganddi.

Darllenwch fwy am lifogydd o gronfeydd dŵr

Gall llifogydd gael eu hachosi gan ffynonellau eraill nad ydynt yn cael eu dangos ar fap Asesiad Perygl Llifogydd Cymru. Er enghraifft, o garthffosydd a draeniau sydd wedi'u gorlethu neu eu rhwystro, neu ddŵr daear o ddyfrhaenau tanddaearol.

Ni allwn ychwaith ddangos y perygl o lifogydd o systemau mwyngloddio tanddaearol. Mae bron yn amhosibl rhagweld lle gallai hyn ddigwydd oherwydd cymhlethdod gweithfeydd tanddaearol.

Diffiniad perygl llifogydd

Diffinnir perygl llifogydd fel y tebygolrwydd y bydd llifogydd yn digwydd. Rydym yn cyfrifo hyn fel y siawns y bydd llifogydd yn digwydd mewn lleoliad yn ystod unrhyw flwyddyn.

Os oes siawns o 1% y bydd llifogydd yn digwydd bob blwyddyn, mae siawns o un ymhob cant y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn.

Nid yw hyn yn golygu y bydd llifogydd mewn lleoliad yn ystod blwyddyn benodol yn golygu na fydd llifogydd yn digwydd yno am y 99 mlynedd nesaf. Nid yw ychwaith yn golygu y bydd llifogydd yn digwydd yno eleni os na fu llifogydd yno ers 99 mlynedd.

Yr isaf yw'r ganran, y lleiaf yw'r siawns y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn; yr uchaf yw'r ganran, y mwyaf yw'r siawns y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn.

Mae'r siawns yno bob amser – eleni, y flwyddyn nesaf, ac yn y dyfodol.

Creu ein gwybodaeth perygl llifogydd

Rydym yn defnyddio modelau cyfrifiadurol i helpu i ragweld y perygl o lifogydd o afonydd, y môr, ac o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. Rydym hefyd yn defnyddio modelau i fapio maint llifogydd ar fap Asesiad Perygl Llifogydd Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod ein gwybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol glir, ac nad yw'n oddrychol.

Mae’r asesiad risg yn defnyddio modelu ar raddfa genedlaethol neu, os yw ar gael, ddata model ‘lleol’ manylach, i sicrhau ein bod yn dangos y wybodaeth orau sydd ar gael.

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw ein gwaith modelu yn cynnwys y risg o effaith tonnau mewn ardaloedd arfordirol. Rydym yn gwella ein gwybodaeth fodelu yn barhaus a gallem gynnwys gweithredu tonnau i ddiweddaru ein hasesiad risg yn y dyfodol.

Mae'r modelau'n defnyddio gwybodaeth, methodoleg a chanllawiau sydd ar gael ar yr adeg y cânt eu creu. Mae hyn yn cynrychioli ‘ciplun’ mewn amser a gallai ein hasesiad risg newid yn y dyfodol wrth i bethau newid.

Oherwydd y cyfyngiadau a'r ansicrwydd wrth fodelu a mapio perygl llifogydd, ni allwn warantu cywirdeb ardal benodol.

Yn benodol, mae'n anodd rhagweld llifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach oherwydd ansicrwydd yn y lleoliad, topograffeg a chyfaint dŵr. Dylid ystyried y meintiau a fapiwyd yn ddangosydd bras o risg ardal.

Mae’n bosibl bod nodweddion topograffig nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn ein gwaith modelu a allai effeithio’n fawr ar ddifrifoldeb llifogydd mewn ardal. Fel arall, efallai y bydd nodweddion topograffig yn cael eu cynnwys yn ein modelu ar hyn o bryd ond yn newid dros amser a gallai hyn newid lefel y perygl llifogydd yn y dyfodol.

Cynrychioli adeiladau yn ein modelau llifogydd

Mae'r modelau cyfrifiadurol a ddefnyddiwn yn cynrychioli adeiladau mewn gwahanol ffyrdd. Mae ein modelu ar raddfa genedlaethol yn cynrychioli adeiladau drwy eu codi uwchlaw lefel y ddaear o'u cwmpas.

Mae hyn yn golygu y gallai maint llifogydd ar fap Asesiad Perygl Llifogydd Cymru gyrraedd ymyl amlinelliad adeilad ond nid yw’r adeilad ei hun yn cael ei ddangos fel un sydd dan ddŵr. Nid yw hyn yn golygu na fydd yr adeilad yn gorlifo a dylid ystyried y risg mewn unrhyw asesiad.

Amddiffynfeydd rhag llifogydd

Mae'r asesiad perygl llifogydd yn ystyried p'un a yw amddiffynfeydd rhag llifogydd yn bresennol ynteu beidio. Fodd bynnag, nid yw'r map dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach yn dangos y croniad dŵr y tu ôl i amddiffynfeydd llifogydd uwch os na all ddraenio i afon neu'r môr.

Mae'n bwysig cofio y gall amddiffynfeydd rhag llifogydd fethu neu gael eu gorlifo yn ystod amodau llifogydd eithafol. 

Rhagor o wybodaeth am amddiffynfeydd rhag llifogydd

Mae'r perygl llifogydd yn berthnasol i ardal nid adeiladau unigol

Rydym yn cyfrifo'r risg y bydd llifogydd yn digwydd dros ardaloedd o dir, nid adeiladau unigol.

Mae'r wybodaeth a ddarparwn yn ddangosydd o berygl llifogydd ardal. Nid yw'n addas ar gyfer nodi a fydd eiddo unigol, gan gynnwys unrhyw dir sy'n gysylltiedig â'r eiddo, megis gardd neu dramwyfa yn dioddef llifogydd.

Mae hyn oherwydd nad oes gennym wybodaeth am adeiladu eiddo unigol a allai effeithio ar ba un a allai llifogydd o ddyfnder penodol fynd i mewn ac achosi difrod.

Er enghraifft, efallai y bydd un eiddo wedi'i godi uwchben y ffordd gyda grisiau yn arwain at y drysau blaen a chefn, tra bod yr un drws nesaf islaw lefel y ffordd, gyda grisiau i lawr iddo. Nid oes gennym y lefel hon o fanylion.

Efallai na fydd pob eiddo a thir cysylltiedig a ddangosir mewn perygl o lifogydd ond dylech chi gymryd cyfrifoldeb i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd posibl.

Os ydych yn byw mewn fflat ail lawr, efallai na fydd llifogydd yn cyrraedd eich cartref. Ond gallai effeithio ar eich ardal gyfagos o hyd, er enghraifft:

  • efallai na fyddwch yn gallu mynd i mewn neu allan o'ch cartref
  • efallai y bydd eich car yn cael ei ddal yn y llifogydd (dim ond dwy droedfedd o ddŵr y mae'n ei gymryd i arnofio car)
  • efallai y bydd llifogydd yn eich gardd, dreif, man parcio
  • efallai y bydd eich cyflenwad pŵer, nwy neu ddŵr yn cael ei dorri

Canlyniadau llifogydd o fewn radiws o ddeg metr

Mae ein canlyniadau yn Gweld eich risg llifogydd yn ôl côd post o’r asesiad perygl llifogydd yn berthnasol i ardal sydd o fewn deg metr o'r cyfeiriad a ddewiswyd yn y bar chwilio ar gyfer codau post.

I wneud hyn, rydym yn tynnu llinell ddychmygol 10 metr i ffwrdd o amlinelliad y prif adeilad ac yn nodi'r lefel risg uchaf o fewn y radiws chwilio gan ddefnyddio gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar fap Asesiad Perygl Llifogydd Cymru. Nid yw adeiladau lluosog yn yr un cyfeiriad yn cael eu dewis.

Gallai'r radiws chwilio gynnwys gerddi, rhannau eraill o'r eiddo neu lle mae car wedi'i barcio ar stryd. Mae’n bosibl y bydd eiddo â gardd neu ffiniau mawr mewn perygl o lifogydd y tu hwnt i’r ardal chwilio 10 metr a gellir gweld hyn yn ein map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru.

Os yw adeilad ger afon, efallai y bydd llai o risg o lifogydd os oes amddiffynfa rhag llifogydd yn darparu rhywfaint o amddiffyniad. Fodd bynnag, y tu hwnt i hynny, gallai amddiffynfeydd llifogydd ac o fewn 10 metr i'r eiddo fod yn risg uchel o lifogydd ac mae hyn wedi'i arddangos yn y raddfa risg.

Gellir gweld y risg i adeiladau lluosog mewn cyfeiriad neu o fewn yr ardal ehangach ar ein map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru.

Cofnodion o lifogydd

Rydym yn cofnodi llifogydd hanesyddol o afonydd, y môr ac, mewn rhai lleoliadau, o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. Fodd bynnag, dim ond mewn lleoliadau lle'r ydym yn ymwybodol o lifogydd a lle mae gennym gryn hyder yn y cofnodion y mae hyn.

Mae ein hofferyn Gweld eich risg llifogydd yn rhoi gwybod i chi a oes gennym gofnod o lifogydd mewn ardal.

Gallwch hefyd weld llifogydd hanesyddol ar fap trwy dicio’r haen ‘Maint llifogydd a gofnodwyd’ ar fap FRAW. Mae'r map yn rhoi gwybodaeth ychwanegol ynghylch pryd y cofnodwyd y llifogydd.

Os dangosir bod ardal wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol:

  • nid yw’n golygu y bydd llifogydd yn digwydd yn yr un modd yn y dyfodol ag y gallai fod newidiadau wedi bod yn yr ardal sy’n effeithio ar batrwm llifogydd.
  • nid yw'n golygu bod eiddo yn yr ardal honno wedi dioddef llifogydd yn fewnol

Yn yr un modd, os nad yw ardal yn dangos unrhyw lifogydd wedi’u cofnodi:

  • nid yw'n golygu nad yw erioed wedi gorlifo (efallai nad oes cofnodion neu gofnodion annibynadwy)
  • nid yw'n golygu na fydd llifogydd yn y dyfodol

Wrth i fwy o ddata ar lifogydd hanesyddol ddod i’r amlwg, ac wrth i achosion o lifogydd ddigwydd, byddwn yn cofnodi hyn pan fydd gwybodaeth ddigonol ar gael.

Efallai y bydd gan sefydliadau eraill fel yr awdurdod lleol ragor o wybodaeth am berygl llifogydd a chofnodion llifogydd hanesyddol. Cysylltwch â’r awdurdod lleol am unrhyw wybodaeth llifogydd hanesyddol ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach.

Gall y perygl llifogydd newid dros amser

Mae'n bosibl bod eich cyfeiriad yn dangos ei fod mewn perygl o lifogydd, ond rydych wedi byw yno ers blynyddoedd lawer ac yn gwybod nad oes llifogydd wedi digwydd yno.

Mae hyn oherwydd nid yw'r perygl llifogydd yn golygu'r un peth â ph'un a yw llifogydd wedi digwydd mewn ardal o'r blaen. Gall y perygl llifogydd newid dros amser, a gall gynyddu neu leihau gyda newidiadau yn y defnydd o dir.

Gall y perygl llifogydd gynyddu o ganlyniad i'r canlynol:

  • cyfnodau o law drymach, neu gyfnodau hwy o law
  • arwynebau mwy anhreiddiadwy fel tarmac
  • llai o goed a llystyfiant
  • y newid yn yr hinsawdd

Gall y perygl llifogydd leihau o ganlyniad i'r canlynol:

  • amddiffynfeydd rhag llifogydd
  • rheoli'r amgylchedd er mwyn darparu amddiffyniad naturiol gwell rhag llifogydd

Mae'n hasesiad o'r perygl llifogydd ar gyfer ardal benodol yn ystyried pob un o'r ffactorau hyn.

Diweddaru'n gwybodaeth am berygl llifogydd

Mae canlyniad eich risg yn cynrychioli'r wybodaeth orau sydd ar gael i ni ar hyn o bryd a gall fod yn wahanol i'r wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill. Mae'n adlewyrchu ciplun mewn amser ac efallai na fydd yn ystyried newidiadau lleol, er enghraifft newid yn lefelau'r tir o ganlyniad i ddatblygiadau newydd.

Byddwn yn ystyried tystiolaeth gan eraill ar berygl llifogydd pan fyddwn yn diweddaru ein mapiau ac yn cynnwys y wybodaeth hon os yw'n bodloni safonau ansawdd y cytunwyd arnynt.

Ein nod yw diweddaru ein gwybodaeth perygl llifogydd ar gyfer afonydd a môr bob chwe mis, ym mis Mai a mis Tachwedd. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth newydd sydd ar gael i ni.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth newydd a allai newid eich perygl llifogydd, megis adeiladu amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd.

Rydym yn diweddaru’r perygl o lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach yn llai aml. Mae hyn oherwydd cymhlethdod y broses fodelu ac argaeledd gwybodaeth dopograffig newydd.

Rhagor o wybodaeth ynglŷn â'n rhaglen rheoli perygl llifogydd

Mae'r haen ‘Lefel risg yn cael ei hadolygu’ ar y map o Asesiad Perygl Llifogydd Cymru yn dangos lleoliadau lle gallai gwybodaeth newid o fewn y 6 mis nesaf, wrth i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd lefel y risg sy’n cael ei hadolygu yn cael ei dangos am fwy na 6 mis os nad yw’r wybodaeth ar gael yn ystod y cyfnod hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am yr haen ‘Lefel risg yn cael ei hadolygu’, cysylltwch â datadistribution@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yswiriant perygl llifogydd a morgeisi

Pan fyddant yn gosod eu prisiau, bydd yswirwyr a darparwyr morgeisi yn ystyried y perygl llifogydd i eiddo. Byddant bob amser yn ystyried y risg gyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys y risgiau o:

  • ymsuddiant
  • mwyngloddio hanesyddol
  • cyfraddau trosedd
  • hawliadau yswiriant blaenorol

Ni fyddant yn ystyried perygl llifogydd ar ei ben ei hun. Yn gyffredinol, mae pris polisïau yswiriant yn adlewyrchu risg hawlio ar y polisi.

Nid oes gennym ni rôl wrth benderfynu ar yswiriant neu osod premiymau. Bydd yswirwyr yn defnyddio:

  • mapiau llifogydd sydd ar gael i'r cyhoedd
  • mapiau llifogydd a brynwyd gan y sector preifat a all ddarparu gwybodaeth am berygl llifogydd i eiddo unigol
  • arolygon annibynnol

Mae yswirwyr yn rhydd i ddefnyddio ein data ond rydym yn eu cynghori:

  • nid yw'n eiddo-benodol
  • mae'n rhoi perygl llifogydd i ardal o dir yn unig

Os bydd yswirwyr yn defnyddio ein data, dim ond fel rhan o asesiad llawer ehangach o risg y gwneir hynny. Gall eu hasesiad risg gynnwys yr holl adeiladau a thir o fewn ffin yr eiddo.

Gall yr anhawster i sicrhau yswiriant ar gyfer cartref gael effaith negyddol ar gael morgais. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cael yswiriant eiddo a/neu gynnwys ar gyfer eich cartref, neu os yw'n anfforddiadwy, defnyddiwch Gyfeiriadur Yswiriant Llifogydd BIBA ac ABI. Crëwyd y Cyfeiriadur hwn gan Gymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA), Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) a Flood Re i helpu Cwsmeriaid i ddod o hyd i yswiriant cartref mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd. Mae FloodRe yn gynllun i wneud yswiriant yn fwy fforddiadwy ar gyfer cartrefi sydd mewn perygl o lifogydd.

Os ydych chi'n dal i gael problemau, cysylltwch â'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i gael cyngor yswiriant.

Gwelwch fwy o wybodaeth am baratoi ar gyfer llifogydd.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni:

  • os ydych o'r farn bod y perygl llifogydd ar gyfer eich cyfeiriad yn anghywir o safbwynt llifogydd sy'n deillio o afonydd neu'r môr. Efallai y gallwch herio'r perygl llifogydd a roddwn ar gyfer eich ardal
  • os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y wybodaeth risg ar fap Asesiad Perygl Llifogydd Cymru

Cysylltwch â'ch awdurdod lleol os ydych o'r farn bod y perygl llifogydd ar gyfer eich cyfeiriad yn anghywir ar gyfer llifogydd sy'n deillio o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach.

Ymwadiad

Darllenwch ein Hymwadiad ar gyfer ein gwasanaeth mapio perygl llifogydd ac erydiad arfordirol i ddysgu am ein hatebolrwydd am ddangos canlyniadau risg ar gyfer lleoliad. 

Diweddarwyd ddiwethaf