Cynllun llifogydd personol
Neu defnyddiwch y rhestr wirio hon i ysgrifennu eich cynllun eich hun:
Gofalwch eich bod yn gwybod â phwy y dylid cysylltu a sut:
- cytunwch ar ble y byddwch yn mynd a sut i gysylltu â’ch gilydd
- gwiriwch gyda’ch awdurdod lleol a yw anifeiliaid anwes yn cael eu caniatáu mewn canolfannau argyfwng
- gofalwch fod gennych restr o’ch holl gysylltiadau pwysig wrth law
Cadwch eitemau personol, fel albymau lluniau a chofroddion ydych yn eu trysori mewn lle diogel:
- peidiwch â disgwyl nes bydd llifogydd i’w symud oherwydd gallai hynny fod yn rhy hwyr ac yn beryglus
Meddyliwch beth fyddai angen i chi symud i ddiogelwch yn ystod llifogydd:
- eich anifeiliaid anwes
- ceir
- dodrefn
- offer trydanol
Meddyliwch i bwy y gallech chi ofyn am gymorth, neu a allech chi gynnig cymorth i gyfeillion, i aelodau o’ch teulu neu i gymdogion bregus.
Archwilio mwy
Diweddarwyd ddiwethaf