Paratoi ar gyfer llifogydd: Ffermydd a thir amaethyddol

Gallai eich tir fod mewn perygl o lifogydd hyd yn oed os na fydd eich tŷ mewn perygl. Sicrhewch fod gennych gynllun llifogydd a rhannwch ef â'r holl staff fel eu bod yn gyfarwydd ag ef. Cadwch eich cynllun mewn man diogel a hawdd ei gyrraedd.

Dylai eich cynllun llifogydd gynnwys yr holl bwyntiau a dylai hefyd ystyried gwneud y canlynol:

  • nodi caeau ar dir uwch lle y gellir symud da byw i rywle diogel
  • nodi stoc/peiriannau/adnoddau y gellir eu symud yn hawdd oddi ar y fferm er mwyn atal colled neu ddifrod
  • nodi unrhyw gemegion/tanwyddau ar y fferm a allai halogi dŵr llifogydd a sut y gellid eu symud i rywle diogel yn ystod llifogydd
  • ystyried sut y byddwch yn rhoi gwybod i'r staff am lifogydd sydd ar ddod a sut y gallai'r staff eich helpu i baratoi
  • creu cynllun wrth gefn gyda chyflenwyr i sicrhau parhad y busnes er mwyn lleihau colledion ariannol
  • ystyried prynu stôr o ddeunyddiau defnyddiol y gellir eu defnyddio yn ystod llifogydd, h.y. pren haenog i ddiogelu ffenestri a gwelyau gwellt i godi'r stoc/offer uwchlaw lefel y dŵr llifogydd

Cyngor i leihau'r tebygolrwydd o lifogydd ar fferm:

  • ystyriwch greu pyllau o ddŵr ffo neu faglau gwaddod ar y fferm er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd
  • ceisiwch beidio â chyfeirio dŵr ffo tuag at ffyrdd a chyrsiau dŵr
  • gollyngwch ddŵr to i mewn i bantiau a/neu ffosydd cerrig o amgylch y fferm er mwyn arafu'r dŵr ac ail-lenwi dŵr daear
  • rhyddhewch y pridd i adael arwyneb garw ar ôl cynaeafu er mwyn galluogi mwy o ddŵr i dreiddio i mewn yn hytrach na ffoi o'r tir
  • symudwch eich stoc pan fydd y priddoedd yn wlyb mewn caeau uchel eu risg
  • defnyddiwch deiars pwysau tir isel er mwyn lleihau'r cywasgiad pridd.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf