Coetiroedd a chlychau'r gog

Ar y dudalen hon, byddwch yn canfod cynlluniau gweithgaredd o Gyfnod Sylfaen i Dysgu Gydol Oes sy’n cynnwys popeth o sut mae mesur uchder coeden i gyfrifo faint o garbon sydd wedi ei gloi mewn coeden unigol.

Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Pam mae coed yn bwysig?

Mae'r cynllun gweithgaredd hwn yn egluro'r manteision niferus y mae coed a choetiroedd yn eu darparu i bobl a'r amgylchedd.

Pam mae coed yn bwysig (cynllun gweithgaredd)
Pam mae coed yn bwysig (cardiau adnoddau)

Gwasgariad hadau 

O ddysgu ynghylch sut mae anifeiliaid yn helpu i wasgaru hadau i ddeall yr hyn sydd ei angen ar hedyn i egino’n llwyddiannus, mae pob un o’r gweithgareddau hyn yn rhyngweithiol ac wedi cael eu cynllunio i annog eich dysgwyr i symud.

Mae ein nodyn gwybodaeth yn esbonio sut a pham y mae planhigion yn gwasgaru eu hadau. O ‘ffrwydro’ i ‘hollti a rhowlio’ mae yna lawer o wahanol ddulliau o wasgaru hadau.

Mesur coed

O fesur uchder coeden i ddarganfod oed coeden, gall y gweithgareddau hyn helpu i ymgorffori dealltwriaeth o gysyniadau mathemategol niferus wrth wneud y gorau o'r ystafell ddosbarth y tu allan.

Gweithgareddau mesur coed (cynllun gweithgaredd)
Pecyn DIY mesur coed (templed)

Y cylch rheoli coetiroedd

Mae gweithgaredd hwn yn edrych ar gylchred bywyd coed a’r gylchred o reoli coetiroedd yn gynaliadwy.

Y cylch rheoli coetiroedd (cynllun gweithgaredd)
Y cylch rheoli coetiroedd (cardiau adnoddau)

 

Canolbwyntio ar dderw 

O’i werth ym myd natur i’r modd y  mae’r pren yn cael ei ddefnyddio, edrychwch ar ein cyflwyniad er mwyn gwybod popeth sydd angen ei wybod am goed derw. Mae’r nodiadau sy’n cyd-fynd â phob sleid yn rhoi gwybodaeth fanwl y gallwch ei rhannu â’ch cynulleidfa.

Canolbwyntio ar dderw (cyflwyniad PowerPoint)

Hoffech chi allu dweud y gwahaniaeth rhwng derwen mes digoes a derwen mes coesynnog?

Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn esbonio’r gwahaniaethau ffisegol rhwng y ddwy rywogaeth gynhenid  hon o goed derw Prydeinig.

Sut i adnabod y gwahaniaeth rhwng derwen digoes a derwen coesynnog (nodyn gwybodaeth)

Hoffech chi geisio tyfu mesen o hedyn i goeden dderw?

Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn esbonio beth i’w wneud a’r adnoddau y bydd eu hangen arnoch.

Sut mae tyfu mesen (nodyn gwybodaeth)

Tyfu coed o hadau – Ymgyrch Mes

Mae'r cyflwyniad hwn yn amlygu sut mae mes yn cael eu tyfu o hadau i goeden mewn meithrinfa goed. Mae mes yn ddarfodus iawn, felly gyda miloedd o fes i blannu, mae'n ras yn erbyn amser i'w cael yn y ddaear.  

Tyfu coed o hadau – Ymgyrch Mes (cyflwyniad PowerPoint) - dod yn fuan

Sut mae coeden yn gweithio

Datgelu bywyd cyfrinachol coeden. Bydd y cynllun gweithgaredd hwn yn annog eich dysgwyr i symud ac adeiladu coeden ddynol gan ddangos gwahanol swyddogaethau rhannau gwahanol o'r goeden.

Sut mae coeden yn gweithio (cynllun gweithgaredd)
Sut mae coeden yn gweithio (poster)

Defnyddiwch ein poster ‘Sut mae coeden yn gweithio’ fel cymorth ar gyfer gweithgaredd ‘Sut mae coeden yn gweithio’ ar gyfer dysgwyr.

Coed a charbon 

Mae’r gweithgareddau hyn yn tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan goed yn amsugno’r carbon deuocsid o’r amgylchedd drwy ffotosynthesis a’i storio ar ffurf coed. 

Ôl troed carbon (cynllun gweithgaredd)

Mae’r cynllun gweithgaredd hwn yn esbonio sut mae cyfrifo ôl traed carbon eich dysgwyr drwy ddefnyddio mesuriadau, cyfrifiadau a graff a sut mae mesur faint o garbon sy’n cael ei storio mewn coed.

Cyfrifydd storio carbon (cynllun gweithgaredd)

Mae’r gweithgaredd hwn yn esbonio sut mae mesur faint o garbon sy’n cael ei storio mewn coed, sut mae rhoi oedran a dynodi gwahanol fathau o goed a disgrifio sut mae coed yn gwrthsefyll newidiadau hinsawdd drwy storio carbon.

Coed sychedig! 

Gyda llawer o gyfleoedd ar gyfer rhifedd; mae'r cynllun gweithgaredd hwn yn caniatáu i ddysgwyr gyfrifo faint o ddŵr y bydd eu coeden ddewisedig n'ei yfed bob dydd. Mae'n esbonio sut mae coed yn colli ac yn cymryd dŵr o'r amgylchedd.

Coed sychedig (cynllun gweithgaredd)
Coed sychedig (taflen waith)

Plannu coed

Eisiau plannu coed? Mae'r cynllun gweithgaredd hwn yn esbonio popeth y mae angen i chi ei wybod - pryd a ble i blannu a sut i ddiogelu a gofalu am eich coed newydd.

Plannu coed (cynllun gweithgaredd)

 

Gwaith cwympo risg uchel - Gwaith Coed a Sefydlogi Llechwedd Bont Evans (BETWS)

Mae'r cyflwyniad hwn yn rhoi trosolwg o nodau a chanlyniadau gwaith cwympo risg uchel. Mae'n edrych ar yr holl ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried wrth gyflawni'r prosiect.

Prosiect Gwaith Coed Betws

 

Yn Fwytadwy neu'n Farwol?

Mae chwilota am fwyd gwyllt wedi dod yn boblogaidd iawn ond oni bai eich bod 100% yn sicr, gadewch y madarch, yr aeron a'r ffrwythau diddorol hyn lle maen nhw!

Mae'r gêm hon yn amlygu pwysigrwydd gwybod beth sy'n ddiogel i'w fwyta a beth ddylid ei adael yn y fan a’r lle.

Yn Fwytadwy neu’n Farwol (Cyfarwyddiadau ac atebion)

Yn Fwytadwy neu’n Farwol (Cardiau llun)

 

Canghennau a llyfrau yn llu!  

Mae llyfrau’n adnodd arbennig wrth gyflwyno a meithrin gwybodaeth disgyblion am goed, coedwigoedd, a’r creaduriaid sy’n byw ynddynt. 

Cymerwch gip ar ein rhestr o lyfrau sy’n ymwneud â choed ynghyd â’r pynciau a drafodir ganddynt.

Canghennau a llyfrau yn llu! (nodyn gwybodaeth)

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf