Cynllunio a defnyddio sgwriwr amonia

Ceir sawl techneg ar gyfer rheoli amonia, sy'n amrywio yn ôl y math o dda byw a thechnegau cynhyrchu. Mewn achosion lle cedwir da byw mewn siediau, a lle gellir sianelu allyriadau, gellir cyflawni gostyngiad mewn allyriadau o amonia drwy ddefnyddio sgwriwr. 

Mae dyluniad y sgwriwr yn hanfodol bwysig i'w effeithiolrwydd. 

Cynllun y sgwriwr

Mae cyfraddau awyru ar gyfer siediau da byw yn amrywio ar hyd y cylch twf, a byddant hefyd yn dibynnu ar yr amodau tywydd. Bydd angen cyfrifo'r hyn y gall sgwrwyr ei brosesu ar sail maint y llif aer y disgwylir y bydd angen ei gael i gynnal amgylchedd iach mewn sièd, a hynny ar hyd cyfnod tyfu cyfan y cnwd. Bydd angen ystyried ffactorau fel teneuo a hyd y cyfnod tyfu, ynghyd â chynllunio system awyru'r sièd er mwyn sicrhau bod y cyfarpar lleihau allyriadau o'r maint cywir. 

Er enghraifft, mae'r lefel awyru angenrheidiol ar gyfer ieir sy'n dodwy yn fwy gyson drwy gydol y cylch, ond bydd yn dal i ddibynnu ar amodau tywydd. Bydd angen i'r cynllun ar gyfer y system lleihau allyriadau ystyried a yw'r da byw yn cael eu cadw mewn siediau neu os ydynt yn rhydd i grwydro, ond bydd rhaid sicrhau bod y system awyru wedi'i rheoli fel bod aer yn llifo trwy'r cyfarpar lleihau allyriadau bob amser.

Er mwyn sichrau bod eich sgwriwr wedi ddylunio’n iawn, ddylech chi sichrhau ei fod wedi ardystio.

Dylai'r ardystiad fod o, neu o safon gyfatebol i’r safonau DLG (Cymdeithas Amaethyddol yr Almaen) neu VERA.

Cyfraddau awyru

Bydd y lefel awyru orau'n cynnal amgylchedd tyfu iach trwy reoli'r tymheredd yn y sièd a chyfyngu ar y lefelau o ronynnau llwch (1 mg fesul metr sgwâr yw'r lefel a ganiateir o dan y gyfraith), carbon deuocsid (3,000 rhan fesul miliwn), amonia (20 rhan fesul miliwn) a lleithder (70–84%, gan ddibynnu ar y tymheredd allanol). Os ydych yn tyfu cnwd ar gyfer marchnad benodol, e.e. cynllun RSPCA Assured, bydd angen i chi fodloni gofynion y cynllun hwnnw.   

Gan ddibynnu ar y farchnad yr ydych yn darparu cynnyrch ar ei chyfer, bydd brig cyfanswm pwysau’r cnwd yn amrywio. Unwaith y byddwch wedi pennu brig y pwysau, gallwch ddechrau cyfrifo'r gyfradd awyru briodol. Bydd angen ystyried y gyfradd awyru ar gyfer y math o dda byw yr ydych yn ei gadw. 

Cyfrifiad enghreifftiol o'r gyfradd awyru

Yn achos brwyliaid, cyfrifir y swm o aer y bydd angen i chi ei waredu fesul awr fel a ganlyn: 

(Nifer yr adar yn y sièd x brig y pwysau byw cyfartalog mewn cilogramau) x 4.5 x 0.7 = swm yr aer y bydd angen i'r system allu ei drin fesul awr, mewn metrau ciwbig. 

Y gyfradd awyru a argymhellir yn yr UE ar gyfer brwyliaid yw 4.5 metr ciwbig fesul awr fesul cilogram o bwysau byw. Mae uchafswm y llif aer a gyfrifir ond yn angenrheidiol yn ystod cyfran fach o'r cylch twf pan fo'r adar yn nesáu at yr uchafswm pwysau a phan fo'r tywydd yn gynnes. Rydym yn derbyn y gellir cyflawni'r gostyngiad gofynnol cyffredinol yn y lefelau o amonia trwy sgwrio 70% o uchafswm y llif aer a gyfrifir, ac felly rydym yn lluosi uchafswm y llif â 0.7. 

Ar gyfer uned brwyliaid arferol sy'n cynnwys 50,000 o adar, a lle tyfir adar hyd at bwysau o 2.0 kg:

50,000 x 2.0 x 4.5 x 0.7 = 315,000 metr ciwbig fesul awr

Os byddwch yn teneuo'r cnwd, bydd angen i chi gyfrifo'r hyn y gall y sgwriwr ei brosesu ar sail y lefel awyru sydd ei hangen ar yr adeg y mae pwysau'r cnwd ar eu huchaf.

Ar gyfer siediau lle cedwir brwyliaid a dodwyr, derbynnir y gall fod yn ofynnol cael system awyru argyfwng sy'n osgoi'r sgwriwr yn ystod cyfnodau o dymheredd allanol uchel, a dylai cynllun y sgwriwr ystyried amrywiadau tymhorol arferol y DU ynghyd â thymheredd y lleoliad.

Os dymunwch ddefnyddio cyrifiadau cyfradd awyru eraill, bydd monitor ac adrodd yr gyfraddau awyru’r yn ofyniad eich trwydded.

Storio hylif y sgwriwr

Bydd angen i chi gael tanc sy'n bodloni gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 er mwyn storio'r hylif sy'n draenio o'r sgwriwr. Dylai fod yn ddigon o faint i ddal yr uchafswm y gall fod angen i chi ei storio ar unrhyw adeg, gan ddibynnu ar b'un a ydych yn bwriadu defnyddio'r amoniwm sylffad ar ffurf hylif fel gwrtaith ar eich tir eich hun ynteu ei ddanfon oddi ar y safle. Bydd angen i chi ychwanegu'r cynnwys nitrogen i gynllun rheoli maethynnau eich fferm os ydych yn bwriadu ei ddefnyddio ar eich tir eich hun, a chadw cofnodion o ble mae'n cael ei ddefnyddio oddi ar y safle.

Gosod y sgwriwr a'i gynnal a'i gadw

Rhaid gosod y cyfarpar a'i gynnal a'i gadw yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr. Rhaid cyflawni gwaith cynnal a chadw rheolaidd er mwyn sicrhau bod dargludedd a pH yr hylif o'r sgwriwr yn parhau i fod o fewn y paramedrau cywir. Rhaid sicrhau bod y gweithdrefnau ar gyfer gweithredu a monitro'r cyfarpar, a'i gynnal a'i gadw, yn ffurfio rhan o system reoli'r safle, a rhaid i unrhyw un sydd ynghlwm wrth reoli'r fferm dderbyn hyfforddiant ar sut i sicrhau bod popeth yn gweithio'n gywir.

Dylid gwneud (a chadw) cofnodion o wiriadau a wnaed ar y cyfarpar fel eu bod ar gael i'w harchwilio gan CNC, swyddog y cynllun gwarant fferm, neu'r awdurdod cynllunio.

Gofynion gwaith monitro  

Mae angen gwneud gwaith monitro parhaus ar ddargludedd a pH yr hylif o'r sgwriwr, unrhyw gwymp yn y gwasgedd, tymheredd yr aer allanol, y llif aer, a ph'un a yw system awyru arall yn cael ei defnyddio.

Gallai gwaith monitro arall gynnwys swm, math a chrynodiad yr asid a brynir ac a ddefnyddir; swm y dŵr y mae'r system yn ei ddefnyddio a swm yr hylif gwastraff y mae'n ei gynhyrchu; cynlluniau goleuo, ynghyd â chasglu'r holl ddata amgylcheddol mewnol ac allanol safonol ar gyfer y siediau unigol. Mae system enghreifftiol yn cofnodi'r canlynol bob munud: 

  • Y gyfradd awyru (metrau ciwbig fesul awr) 
  • Y tymheredd o bedwar synhwyrydd mewnol 
  • Y lleithder cymharol mewnol
  • Y tymheredd allanol
  • Y lleithder cymharol allanol
  • Y gwasgedd mewn pascalau (Pa) bob munud
  • pH yr hylif o'r sgwriwr
  • Dargludedd yr hylif o'r sgwriwr

Gwybodaeth a argymhellir

Gellid defnyddio gwaith monitro mewnol ar gyfer amonia i ddangos lefel yr amonia a oedd yn bresennol cyn defnyddio'r cyfarpar lleihau allyriadau. 

Amodau'r drwydded

Efallai bod eich trwydded amgylcheddol yn cynnwys amodau sy'n cyfyngu ar y màs y gall yr uned ei ryddhau fesul blwyddyn. Caiff hwn ei gyfrifo fel gostyngiad canrannol o ffactor allyrru safonol y pennwyd ar gyfer math penodol yr uned. 

Gall eich trwydded hefyd gynnwys amodau cynweithredol i sicrhau bod y cyfarpar a osodir yn bodloni'r gofynion, a bod y bobl a fydd yn ei weithredu wedi derbyn hyfforddiant addas. Caiff y canlynol eu cynnwys yn y drwydded: 

  • amod cynweithredol i sicrhau bod y cynllun wedi'i gytuno cyn i'r gweithredwr archebu unrhyw gyfarpar 
  • amod cynweithredol i sicrhau y caiff CNC wybod pryd y caiff yr uned ei stocio 
  • amod cynweithredol i sicrhau bod gweithwyr wedi derbyn hyfforddiant
  • amod monitro sy'n cynnwys gofynion monitro'r broses
  • amod adrodd sy'n ei gwneud yn ofynnol adrodd canlyniadau gwaith monitro'r broses i CNC yn chwarterol
  • gwerthuso p'un a yw gofynion monitro allyriadau cyfredol yn ddichonadwy ar gyfer y mathau amrywiol o gyfarpar lleihau allyriadau

Terfynau priodol 

Cymerir y terfynau canlynol fel tystiolaeth o gydymffurfiaeth, a gallent ffurfio rhan o'ch trwydded yn y canlynol: 

  • dargludedd: llai na 150 microeiliad fesul centimetr (µs/cm) 
  • pH: llai na 3.5 
  • cyfraddau priodol o waredu hylif y sgwriwr

Darllenwch am lleihau allyriadau o amonia o amaethyddiaeth

Diweddarwyd ddiwethaf