Ceisiadau sy'n lleihau effaith llygredd neu'n lleihau'r perygl o achosi llygredd, GN 020

Mae deddfwriaeth, y technegau gorau sydd ar gael, ac arfer da yn esblygu drwy'r amser. Er mwyn gwireddu buddion amgylcheddol y broses esblygu hon, gellir cyflwyno'r gofyniad i wneud newidiadau i arferion a seilwaith y gall fod angen cael caniatâd cynllunio neu drwydded amgylcheddol i'w cyflawni. Gall effeithiau'r newidiadau fod yn ddarostyngedig i ofynion deddfwriaethol niferus, ac felly bydd angen eu hasesu er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â fframweithiau deddfwriaeth perthnasol. 

Bydd y dudalen hon yn egluro sut y byddwn yn ymdrin â datblygiadau o'r fath a pha wybodaeth y bydd angen i CNC ei chael er mwyn cefnogi neu gymeradwyo datblygiadau sy'n ddarostyngedig i ddarnau niferus o ddeddfwriaeth.

Byddwn yn cefnogi, mewn egwyddor, unrhyw brosiect sy'n arwain at leihau effaith llygredd neu'n lleihau'r perygl o achosi llygredd, ac sy'n annhebygol o gael effaith andwyol ar safleoedd sensitif. 

Fodd bynnag, bydd hyn yn amodol ar amgylchiadau prosiect ac yn amodol ar b'un a oes digon o dystiolaeth ar gael i gynnal asesiad.

Enghreifftiau

Ceir enghreifftiau isod o brosiectau a allai arwain at leihau effaith llygredd neu leihau'r perygl o achosi llygredd:

  • adeiladu systemau tail organig newydd, neu wneud gwelliannau i'r dull o storio slyri o fewn systemau sydd eisoes yn bodoli
  • newid y math o dda byw
  • gwella'r seilwaith er mwyn lleihau'r perygl o achosi llygredd, er enghraifft trwy osod systemau draenio newydd neu drwy ddulliau rheoli tail organig 
  • gofynion deddfwriaethol ar gyfer seilwaith, fel Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 (a adnabyddir fel rheoliadau SSAFO) neu Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016

Lleihau effaith llygredd neu'r perygl o achosi llygredd

Anghenion tystiolaeth 

  • Y rheswm dros wneud y gwelliant (e.e. deddfwriaeth, Cod Ymarfer Amaethyddol Da, cyngor gan CNC) 
  • Tystiolaeth o nodi ac asesu amrediad o ddatrysiadau amgen o safbwynt eu hymarferoldeb a'u cost er mwyn dangos bod y dechneg fwyaf priodol wedi'i nodi, a bod yr arferion gorau wedi'u mabwysiadu 
  • Asesiad wedi'i gynnal o'r sefyllfa bresennol, o safbwynt aer, tir a dŵr, gan ddefnyddio offerynnau a chanllawiau priodol
  • Asesiad wedi'i gynnal o'r sefyllfa ar ôl y gwelliannau, o safbwynt aer, tir a dŵr, gan ddefnyddio offerynnau a chanllawiau priodol 
  • Adroddiad technegol ar seilwaith fferm sy'n cynnwys manylion am gynhyrchu tail organig, mesurau i sicrhau'r lefelau isaf posibl, a'r amrediad o dechnegau ar gyfer storio tail, a'i daenu yn ddiweddarach, y gellid eu cymhwyso i'r gwaith o leihau'r allyriadau cymaint â phosibl (i dir, aer a dŵr)
  • Ar gyfer cyfrifo maint storfa slyri gwellwch tudalen storio silwair a slyri . Argymhellir y Slurry Wizard gan AHDB ar gyfer cyfrifo maint storfa slyri  

Pethau pwysig i'w hystyried 

  • Nid yw'r safbwynt hwn yn osgoi gofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. 
  • Mae'r safbwynt hwn yn gymwys i allyriadau i aer, tir a dŵr ar y cyd. Ni all gostyngiad mewn un math o lygredd arwain at gynnydd mewn math arall o lygredd ar draul safleoedd sensitif. 
  • Bydd angen cynnwys y gweithgaredd cyfan, ynghyd â'r deunyddiau sydd â'r potensial i lygru sy'n deillio ohono, yn yr asesiad (gan gynnwys gweithgareddau trosglwyddo, storio, amseru a dulliau taenu mewn perthynas â thail, ynghyd â'r gofyniad maethynnau ar gyfer cnydau er mwyn dangos budd amaethyddol). 
  • Bydd angen gwerthuso'r effeithiau hirdymor. Pe byddai'r dull taenu'n achosi i fwy o lygredd ddigwydd dros gyfnod hwy o amser nag y byddai'n digwydd pe câi'r prosiect ei wrthod, bydd angen ystyried hyn. 
Diweddarwyd ddiwethaf