Cynlluniau Sicrwydd Moch a Dofednod
Cynllun Sicrwydd Moch a Dofednod
Gall cynhyrchwyr moch a dofednod sy’n cyflawni safon uchel o safbwynt cydymffurfio â’u trwydded amgylcheddol ymuno â'r Cynllun Sicrwydd Moch a Dofednod.
Bydd pob fferm yn arbed oddeutu £1,476 y flwyddyn oddi ar y taliadau blynyddol a godir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru ond yn ymweld â’r fferm unwaith bob tair blynedd.
Bydd ffermydd yn cael eu harchwilio gan y cyrff ardystio ar gyfer cynlluniau eraill (fel Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch neu God Ymarfer y Llew) wrth gynnal eu harchwiliadau blynyddol.
Gall ffermydd ddewis pwy fydd eu corff ardystio. Bydd y corff ardystio yn codi ei dâl ei hun.
Pwy all ymuno â’r cynllun?
I fod yn gymwys i ymuno â’r cynllun, mae’n rhaid i fferm:
- fod wedi cael o leiaf ddau archwiliad ers cael trwydded
- cael ei rheoli’n dda, gan ddangos cydymffurfiaeth ag amod 1.1 y drwydded
- bod yn gweithredu holl amodau gwella’r drwydded, yn unol ag amserlen gymeradwy
I fod yn gymwys i ymuno â’r cynllun, mae’n rhaid i fferm beidio â: - bod yn destun amod gwella sy’n gysylltiedig ag allyriadau ammonia
- bod yn destun unrhyw gamau gorfodi sydd heb eu cymryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru
- cael ei gweithredu gan rywun sydd wedi cael ei ddyfarnu’n euog yn ystod y tair blynedd diwethaf, a hynny mewn perthynas â’r fferm honno, mewn achos a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu sydd wedi derbyn rhybuddiad ffurfiol mewn perthynas â throsedd o’r fath yn y ddwy flynedd diwethaf
- bod â mwy na deg pwynt yn y Cynllun Dosbarthu Cydymffurfiaeth yn y flwyddyn galendr ddiwethaf
- bod ag unrhyw faterion yn ymwneud ag amwynder nad ydynt wedi’u datrys neu fod yn Safle o Ddiddordeb Mawr i’r Cyhoedd
- bod ag ôl-ddyledion o safbwynt taliadau’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
Sut mae’r cynllun yn gweithio
Unwaith y bydd fferm wedi ymuno â’r cynllun, byddwn yn rhoi copi o'r drwydded ac unrhyw amrywiadau, camau gorfodi a hysbysiadau ffurfiol sy'n berthnasol o safbwynt sicrhau cydymffurfiaeth y drwydded i’w chorff ardystio enwebedig.
Bydd y corff ardystio yn cynnal un ymweliad am bob blwyddyn y bydd y fferm yn parhau’n rhan o’r cynllun. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld unwaith bob tair blynedd.
Caiff ffermydd nad ydynt yn rhan o’r cynllun eu harchwilio gennym o leiaf unwaith y flwyddyn.
Rydym yn parhau’n gyfrifol am reoleiddio ond bydd yr wybodaeth y bydd y corff ardystio yn ei chasglu ar ein rhan yn ein helpu i asesu a yw fferm yn cydymffurfio â’i thrwydded. Yn syth ar ôl yr archwiliad, bydd y corff ardystio yn cyflwyno’r wybodaeth y mae wedi’i chasglu i Cyfoeth Naturiol Cymru ac i chi.
Bydd eich Swyddog yr Amgylchedd neu bwynt cyswllt eich ardal yn anfon Adroddiad Asesu Cydymffurfiaeth atoch sy'n manylu ar ein hasesiad o'r canfyddiadau.
Gallwch barhau i gysylltu â’ch Swyddog yr Amgylchedd lleol ar unrhyw adeg i gael cyngor, yn arbennig os ydych yn ystyried cyflwyno unrhyw newidiadau ar eich fferm.
Sut y gallwch ymuno â’r cynllun
Rydym yn asesu ffermydd â thrwyddedau nad ydynt yn aelodau o’r cynllun ym mis Ionawr bob blwyddyn er mwyn gweld a ydynt yn gymwys i ymuno. Rydym yn ysgrifennu at weithredwyr ffermydd cymwys ym mis Chwefror/Mawrth er mwyn eu gwahodd i ymuno â’r cynllun o fis Ebrill. Os ydych eisiau ymuno â’r cynllun, bydd angen i chi gysylltu ag un o’r cyrff ardystio cymeradwy a enwir yn y llythyr gwahoddiad. Bydd y cyrff ardystio yn rhoi rhagor o fanylion i chi ynghylch eu gweithdrefnau a’r taliadau a fydd yn berthnasol.
Nid oes angen i chi fod yn aelod o gynllun sicrwydd fferm arall i ymuno â’r cynllun hwn.
Gallwch ddewis gadael y cynllun rhan o'r ffordd drwy’r flwyddyn. Byddwch yn dal i fod yn atebol i dalu’r tâl cynhaliaeth heb ei achredu, sy’n dâl uwch, i Cyfoeth Naturiol Cymru ar sail pro rata o’r dyddiad y byddwch yn gadael y cynllun.
Nid oes angen i chi adnewyddu eich aelodaeth o’r cynllun bob blwyddyn – bydd eich fferm yn parhau’n aelod o'r cynllun cyn belled nad yw’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf ar gyfer ei diarddel, neu byddwch yn ein hysbysu ni neu eich corff ardystio o’ch bwriad i adael y cynllun.
Oni bai eich bod yn dymuno newid eich corff ardystio, nid oes yn rhaid i chi gysylltu â’ch corff ardystio cyn blwyddyn nesaf y cynllun. Bydd y corff yn cysylltu â chi i ofyn am ei daliad blynyddol.
Os yw eich fferm wedi’i throsglwyddo i chi, gall barhau’n aelod o’r cynllun cyn belled â bod y ddau ymweliad nesaf yn cael sgôr o 10 pwynt neu lai yn y Cynllun Dosbarthu Cydymffurfiaeth. Bydd eich fferm yn parhau’n aelod o’r cynllun os byddwch yn amrywio eich trwydded.
Os yw eich fferm yn wag
Os nad oes gan eich fferm unrhyw dda byw a’i bod yn wag, nid oes angen ymweld â hi. Risg amgylcheddol fach iawn sydd ynghlwm wrth fferm wag ac felly gall barhau’n aelod o’r cynllun, gan dalu’r tâl cynhaliaeth, ond ni fydd unrhyw un yn ymweld â hi. Mae’n rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith os byddwch yn ailstocio fel y gall archwiliadau ailddechrau.
Canlyniadau ymweliadau â ffermydd
Byddwn yn ysgrifennu atoch er mwyn eich hysbysu ynghylch canlyniadau’r ymweliad. Os yw fferm yn cydymffurfio â’i thrwydded, ni chaiff unrhyw gamau pellach eu cymryd hyd yr archwiliad nesaf (oni bai yr adroddir ynghylch cwyn neu ddigwyddiad a fydd yn golygu bod angen trefnu ymweliad).
Os nad yw’r fferm yn cydymffurfio â rhai agweddau ar y cynllun, ond eich bod eisoes wedi cytuno ar gynllun cywiro â’ch Swyddog yr Amgylchedd, ni fydd angen i chi gymryd unrhyw gamau yn sgil ymweliad y corff ardystio. Byddwn yn ysgrifennu atoch er mwyn cadarnhau hyn.
Os nad oes cynllun cywiro sydd eisoes yn ymdrin ag unrhyw ddiffyg cydymffurfiaeth, byddwn yn ysgrifennu atoch gan nodi’n benodol yr wybodaeth sydd ei hangen. Ar ôl asesu’r wybodaeth a gaiff ei chasglu gan y corff ardystio, efallai y byddwn yn penderfynu bod angen ymweld â’r fferm – er enghraifft, er mwyn mynd i’r afael â materion brys yn ymwneud â diffyg cydymffurfiaeth a digwyddiadau posibl/gwirioneddol.
Caiff canlyniadau pob archwiliad eu nodi ar y gofrestr gyhoeddus.
Cael eich diarddel o’r cynllun
Gall eich fferm gael ei diarddel o’r cynllun rhan o'r ffordd drwy’r flwyddyn. Gall hyn ddigwydd os:
- na fyddwch yn cydymffurfio â hysbysiad gorfodi neu unrhyw hysbysiad a gyflwynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys Adroddiadau i'r Rhestr Allyriadau
- ydych yn cael eich erlyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru
- ydych yn derbyn rhybuddiad ffurfiol am dorri amodau eich trwydded
- ydych yn methu talu’r taliadau sydd ynghlwm wrth y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
- na fydd ymweliad blynyddol gan gorff ardystio neu na fyddwch yn cydweithredu’n rhesymol â’r corff ardystio, er enghraifft, er mwyn trefnu ymweliadau, rhoi mynediad at ardaloedd neu gofnodion perthnasol, neu os bydd yn gwrthod talu am ymweliad y corff ardystio
- na fyddwch yn gwneud gwelliannau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth o fewn amserlenni y cytunir arnynt (gall Cyfoeth Naturiol Cymru arfer disgresiwn o dan amgylchiadau eithriadol), neu wrthod cytuno ar amserlenni rhesymol
- yw eich fferm yn cael sgôr o fwy na 30 o bwyntiau o dan y Cynllun Dosbarthu Cydymffurfiaeth yn ystod archwiliad gan gorff ardystio neu Swyddog yr Amgylchedd, neu’n torri’r drwydded fwy na 10 o weithiau mewn un archwiliad, neu os oes methiant difrifol mewn perthynas ag amod 1.1 y drwydded
- yw eich fferm yn cael ei dynodi’n Safle o Ddiddordeb Mawr i’r Cyhoedd
- yw eich fferm yn sgorio mwy na 10 pwynt am ddiffyg cydymffurfiaeth fesul ymweliad yn ystod y ddau ymweliad (un gan y corff ardystio, un gan Swyddog yr Amgylchedd) ar ôl i’r drwydded gael ei throsglwyddo o un gweithredwr i weithredwr arall
Os caiff fferm ei diarddel o’r cynllun rhan o'r ffordd drwy’r flwyddyn, byddwn yn codi’r tâl cynhaliaeth heb ei achredu, sy’n ffi uwch, am weddill y flwyddyn.
Ni fydd modd i’r fferm ailymuno â’r cynllun hyd nes y bydd Swyddog yr Amgylchedd wedi cynnal dau ymweliad arall a’i fod yn fodlon bod y fferm yn gymwys i ailymuno unwaith yn rhagor.
Beth yw camau gorfodi heb eu cymryd
Camau gorfodi heb eu cymryd yw:
- unrhyw rybuddiadau ffurfiol sydd wedi’u cynnig ond heb eu derbyn
- unrhyw erlyniadau sydd yn yr arfaeth neu sydd wedi dechrau ond un ai heb fynd i’r llys eto neu sydd wedi mynd i’r llys ond mae apêl ynghylch y dyfarniad
- unrhyw hysbysiadau sydd wedi’u cyflwyno ac nad oes cydymffurfiaeth lwyr â hwy eto
- gweithredoedd a arweiniodd at dderbyn llythyr rhybudd, gan gynnwys aros am benderfyniad ynghylch camau gorfodi
- cymryd ymateb gorfodi
- gweithredu cynllun ar ôl collfarn
Nid yw’r canlynol yn gamau gorfodi sydd heb eu cymryd:
- unrhyw erlyniad sydd wedi’i ddwyn gerbron y llys ac unrhyw ddirwyon a chostau sydd wedi’u derbyn ac nid yw’r dyfarniad yn destun apêl
- unrhyw rybuddiad ffurfiol sydd wedi’i gynnig a’i dderbyn
- unrhyw hysbysiadau sydd wedi’u cyhoeddi a bu cydymffurfiaeth lwyr â’r amodau ynddynt
Rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â’ch Swyddog yr Amgylchedd i wybod rhagor am ymuno â’r cynllun.