Pysgodfeydd sy’n Wydn o ran Hinsawdd: Strategaeth ar gyfer rheoli pysgod a physgodfeydd mudol a dŵr croyw Cymru yn gynaliadwy, 2026 i 2031
Gweledigaeth ar gyfer pysgodfeydd Cymru
Wrth lunio sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cyflawni ei ddyletswyddau yn ymwneud â physgodfeydd dŵr croyw a mudol, rydym yn cael ein harwain gan weledigaeth glir o ddyfodol cadwraeth pysgod a physgodfeydd yng Nghymru:
Mae gan Gymru ecosystemau dŵr croyw, aberol a morol iach a gwydn o ran hinsawdd sy’n cynnal poblogaethau pysgod ffyniannus ac amrywiol gyda physgodfeydd a reolir yn gynaliadwy. Bydd y pysgodfeydd hyn yn caniatáu i unigolion o bob cefndir gysylltu â byd natur, gan ddarparu cymhelliant pwerus i’w hadfer a’u cynnal ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Diben
Mae CNC yn gyfrifol am reoleiddio pysgodfeydd mewndirol yng Nghymru (gan gynnwys eogiaid, brithyllod môr, llyswennod, brwyniaid Conwy a llysywod hyd at chwe milltir forol o’r arfordir) ac mae gan y corff ddyletswydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i “gynnal, gwella a datblygu pysgodfeydd”.
Yn benodol, mae’r dyletswyddau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i CNC wneud y canlynol:
- sicrhau cadwraeth a chynnal amrywiaeth pysgod dŵr croyw, eogiaid, brithyllod môr a llyswennod a gwarchod eu hamgylchedd dyfrol
- gwella’r cyfraniad a wneir gan bysgodfeydd eog a dŵr croyw i’r economi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig anghysbell ac mewn ardaloedd â lefelau isel o incwm
- cynyddu gwerth cymdeithasol pysgota fel gweithgaredd hamdden hygyrch ac iach
Mae’r rhain yn ddyletswyddau parhaol, ond mae angen diffinio’r ffordd y cânt eu cyflawni a’r amcanion yr ydym yn ceisio eu cyflawni i adlewyrchu strategaethau sefydliadol sy’n newid (megis cynllun corfforaethol CNC), pwysau amgylcheddol (yn enwedig newid hinsawdd), pwysau ariannu ac adnoddau, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ehangach. Mae hefyd angen disgrifio sut mae pysgodfeydd yn cael eu rheoli yng nghyd-destun rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru).
Mae’r strategaeth hon yn nodi set o amcanion strategol a fydd yn helpu i arwain a blaenoriaethu sut rydym yn cyflawni’r dyletswyddau hyn dros y pum mlynedd nesaf.
Yr her
Mae ecosystemau dyfrol Cymru yn wynebu amrywiaeth o bwysau, yn enwedig newid hinsawdd, llygredd, a dirywiad cynefinoedd. Mae tystiolaeth gynyddol bod llawer o boblogaethau pysgod dŵr croyw a mudol yn cael eu heffeithio mewn ffordd anffafriol gan y pwysau hyn.
Mae poblogaethau a stociau pysgod sy’n gostwng yn effeithio ar gymdeithas, gan erydu’r cysylltiadau dwfn sydd gan lawer o unigolion â byd natur trwy bysgodfeydd hamdden, treftadaeth a masnachol.
Fodd bynnag, mae’r cysylltiad pwerus hwn â byd natur hefyd yn cynnig neges o obaith, gan fod y pysgod a’r pysgodfeydd eiconig hyn yn sbardun pwerus ar gyfer gweithredu.
Mynd i’r afael â’r her hon
Mae cynllun corfforaethol CNC yn nodi sut rydym yn bwriadu mynd i’r afael â’n heriau cyffredin o ran yr argyfyngau newid hinsawdd a byd natur, yn ogystal ag effeithiau llygredd.
Drwy gynyddu gwydnwch i effeithiau newid hinsawdd a lleihau llygredd, gall CNC helpu i gynnal poblogaethau pysgod a physgodfeydd Cymru ynghyd â’r buddion y maent yn eu cynnig i genedlaethau presennol a’r dyfodol yng Nghymru.
Yr her i bysgodfeydd dŵr croyw yw nodi sut, mewn hinsawdd sy’n newid yn gyflym, y gallwn weithio’n effeithiol o fewn CNC, a chyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid, i sicrhau bod pysgodfeydd a reolir yn gynaliadwy yn wydn o ran yr hinsawdd, yn cyfrannu at adferiad byd natur, ac yn cefnogi cymunedau lleol.
Yn hollbwysig, mae gwaith CNC i reoli pysgodfeydd Cymru yn gynaliadwy yn cael ei gefnogi’n uniongyrchol gan incwm ar gyfer trwyddedau pysgota â gwialen ac â rhwydi, gydag incwm ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a thaliadau eraill, megis adnoddau dŵr. Felly, mae’n hanfodol bod CNC yn gallu dangos sut mae’r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i fynd i’r afael â’r heriau cyffredin y mae pysgodfeydd dŵr croyw Cymru yn eu hwynebu.
Ein hamcanion strategol
Rydym wedi nodi tri amcan strategol allweddol a fydd yn llunio ein blaenoriaethau ar gyfer dyrannu cyllid ac adnoddau o 2025 hyd at 2030. Bydd hyn yn golygu y bydd CNC yn gwneud rhai pethau’n wahanol.
Mae pysgodfeydd Cymru yn wydn i newid hinsawdd
Bydd hinsawdd sy’n newid yn anochel yn effeithio ar feintiau dŵr, ansawdd dŵr a chyfundrefnau thermol yn ein hafonydd a’n llynnoedd, gydag effeithiau canlyniadol ar boblogaethau pysgod mewn systemau dŵr croyw.
Ein nod yw deall yr effeithiau a helpu ecosystemau dŵr croyw i wrthsefyll y pwysau cynyddol, a sicrhau bod gan reolwyr pysgodfeydd bras a hela Cymru yr offer a’r canllawiau sydd eu hangen arnynt i addasu ac ymateb i newid hinsawdd.
I wneud hyn, byddwn yn wneud y canlynol:
a) Cefnogi a hyrwyddo mesurau i wella gwydnwch afonydd, aberoedd a dyfroedd llonydd o ran hinsawdd, gan ganolbwyntio ar yr elfennau allweddol sy’n cynnal poblogaethau pysgod.
i. Ansawdd dŵr – Gweithredu ar lygredd a gwella ansawdd dŵr ein hafonydd.
ii. Meintiau dŵr – Sicrhau bod adnoddau dŵr yn cael eu rheoli i leihau effeithiau sychder neu lifogydd.
iii. Cynefin afonol – Cynnal ansawdd cynefinoedd ffisegol, trwy adfer afonydd sydd wedi diraddio a chael gwared ar rwystrau o waith dyn i fudo i fyny’r afon ac i lawr yr afon.
iv. Tymheredd – Mae tymereddau cynyddol cynhesach yn yr haf a’r gaeaf yn effeithio ar symudiad, goroesiad a llwyddiant bridio pysgod. Bydd creu llochesi thermol, gwell treiddiad dŵr daear a phridd, ac, yn hollbwysig, cysgodi ar gyfer afonydd yn allweddol i addasu i’r hinsawdd yn llwyddiannus.
b) Yn y tymor hwy, gall newid hinsawdd olygu bod rhai o’n hafonydd a’n llynnoedd yn dod yn anaddas ar gyfer rhai rhywogaethau dŵr oer. Mae angen i ni archwilio sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar stociau a rhagweld sut y mae angen i bysgodfeydd addasu.
c) Canllawiau ac offer – Byddwn yn sicrhau bod gan bysgodfeydd dŵr croyw (dŵr llonydd ac afonol) fynediad at gyngor a chyfarwyddyd i helpu i gynnal eu pysgodfeydd mewn hinsawdd sy’n newid. Byddwn yn sicrhau bod cyfran o incwm trwyddedau pysgota â gwialen ar gael i gefnogi rheolwyr pysgodfeydd i roi mesurau ar waith.
d) Rydym yn ceisio dylanwadu ar raglenni buddsoddi amgylcheddol cyhoeddus a phreifat i wneud y mwyaf o’r buddion ar gyfer cadwraeth pysgod a physgodfeydd.
e) Byddwn yn parhau i fuddsoddi’n uniongyrchol mewn gwelliannau i lwybrau a chynefinoedd pysgod a chyfrannu atynt er mwyn cynyddu cysylltedd cynefinoedd i’r eithaf.
f) Byddwn yn parhau i sicrhau bod y gwaith o gyflwyno a symud pysgod yn cael ei reoli’n broffesiynol ac yn ddiogel a byddwn yn cefnogi gwaith Arolygiaeth Iechyd Pysgod a Llywodraeth Cymru wrth ymateb i achosion o glefydau pysgod y mae’n rhaid eu hadrodd amdanynt.
g) Byddwn yn gwneud penderfyniadau rheoleiddio a thrwyddedu sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
h) Byddwn yn atal ac yn lleihau effeithiau digwyddiadau drwy flaenoriaethu’r rhai mwyaf difrifol, yn seiliedig ar y risg i’r amgylchedd, pobl a bywyd gwyllt. Drwy weithio gyda chwmnïau ac unigolion i wneud y peth iawn, byddwn yn atal digwyddiadau rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Mae stociau sy’n prinhau ac sydd dan fygythiad yn cael eu hamddiffyn a, lle bo modd, maent ar y trywydd iawn i’w hadfer
Mae niferoedd rhai rhywogaethau eiconig, megis eogiaid, brithyllod môr a llyswennod, yn dirywio’n gyflym yn wyneb ystod eang o bwysau (Nunn ac eraill, 2023 a Milner & De Leaniz 2023). Ein nod yw defnyddio egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy i arafu ac atal eu dirywiad a chefnogi adferiad pob rhywogaeth dan fygythiad yng Nghymru. Rydym hefyd yn cael ein harwain gan yr egwyddor ragofalus, a hyrwyddir gan Sefydliad Cadwraeth Eogiaid Gogledd yr Iwerydd (NASCO).
I wneud hyn, byddwn yn wneud y canlynol:
a) Byddwn yn monitro ac yn adrodd am statws stociau eogiaid, brithyllod môr a llyswennod fel bod gan CNC a phartneriaid dystiolaeth i gefnogi ein proses o wneud penderfyniadau. Bydd monitro’r rhain a rhywogaethau pysgod eraill yn cefnogi dosbarthiad ecolegol cyrff dŵr ar gyfer y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a statws cadwraeth safleoedd gwarchodedig.
b) Pan fo stociau gwyllt yn ddarostyngedig i bysgodfeydd masnachol neu hamdden, byddwn yn sicrhau bod y broses o’u defnyddio yn cael ei rheoli a’i chynnal yn gynaliadwy. Byddwn yn parhau i ddilyn cyngor gan Gyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr a NASCO wrth osod terfynau ar ddefnyddio stociau.
c) Byddwn yn sicrhau bod rheolaethau rheoleiddiol ar gyfer pysgodfeydd masnachol a hamdden yn cael eu hadolygu a’u hadnewyddu, gyda diwygiadau pan fo angen, er mwyn amddiffyn stociau.
d) Byddwn yn parhau i gymryd camau effeithiol i atal, ac ymateb, pan fydd stociau gwarchodedig mewn dyfroedd croyw ac arfordirol yn cael eu defnyddio mewn ffordd anghyfreithlon. Bydd hyn yn cynnwys gweithio mwy gyda phartneriaid i wneud y defnydd gorau o’r cymorth y gallant ei ddarparu.
e) Byddwn yn eirioli dros gamau gweithredu i ddeall ac atal unrhyw risg y caiff rhywogaethau mudol eu hecsbloetio a’u sgil-ddal ar y môr mawr.
f) Rydym yn ceisio deall y pwysau ar stociau sydd dan fygythiad a sicrhau bod cynlluniau adfer ar waith i fynd i’r afael â’r rhain.
g) Sicrhau bod asedau pysgodfeydd sy’n eiddo i ac yn cael eu gweithredu gan CNC yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, yn gweithio’n effeithiol, ac yn ddiogel.
h) Bydd CNC yn parhau i ddefnyddio dynodiadau, polisïau a deddfwriaeth cadwraeth yn yr amgylchedd morol, dŵr croyw a daearol i sicrhau bod safleoedd gwarchodedig yn cael eu rheoli’n dda er budd stociau pysgod ac er mwyn amddiffyn rhywogaethau sydd dan fygythiad.
Mae mwy o bobl yn gysylltiedig â byd natur trwy bysgota
Mae pysgodfeydd dŵr croyw yn darparu cysylltiadau pwerus â byd natur, yn ogystal â nifer o fuddion economaidd-gymdeithasol i gymunedau Cymru.
Ein hamcan yw sicrhau bod pysgota yn rhoi cyfle hygyrch i fwy o unigolion gysylltu â byd natur, gan wella llesiant a’r amgylchedd. Rydym hefyd eisiau gweld pysgota yn parhau i ddarparu buddion diwylliannol ac economaidd, yn enwedig i gymunedau gwledig.
I wneud hyn, byddwn yn wneud y canlynol:
a) Codi ymwybyddiaeth, drwy weithio gydag eraill i hyrwyddo pysgota yng Nghymru, fel cyrchfan i enweirwyr sy’n ymweld ac i gynyddu cyfranogiad yng Nghymru.
b) Rhoi cyfle i fwy o unigolion roi cynnig ar bysgota, a byddwn yn gweithio drwy eraill i gefnogi mentrau sydd â’r nod o gynyddu nifer yr unigolion sy’n genweirio.
c) Byddwn yn ceisio defnyddio incwm trwyddedau pysgota â gwialen a chyllid arall i gefnogi mynediad gwell at bysgodfeydd o ansawdd da, yn enwedig pan fo buddion clir i lesiant cymunedol.
d) Byddwn yn parhau i weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i wella’r profiad trwyddedu ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr, a sicrhau bod Cymru’n cael cyfran deg o incwm trwyddedau pysgota â gwialen. Bydd hyn yn cynnwys gwelliant parhaus i ddarpariaethau’r Gymraeg yn ystod y daith drwyddedu.
e) Rydym yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid pysgodfeydd yng Nghymru i’w cadw’n wybodus ac i geisio eu barn.
Yn ogystal â’r tri amcan strategol hyn ar gyfer pysgodfeydd Cymru, rydym hefyd wedi nodi amcanion trawsbynciol a fydd yn helpu i arwain CNC wrth gyflawni ei ddyletswyddau sy’n ymwneud â physgodfeydd:
- Manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i ddathlu, cefnogi a hyrwyddo pysgodfeydd fel agwedd bwysig ar y Gymraeg a diwylliant Cymru
- Eglurder o ran cyllid a darparu gwerth am arian, fel y gallwn ddangos yn glir sut mae incwm pysgodfeydd yn cael ei wario. Bydd deiliaid trwydded pysgota â gwialen yng Nghymru yn gweld eu bod yn cael lefelau gwasanaeth cymharol neu well na’r rhai yn Lloegr
- Cynllunio busnes clir, gan sicrhau bod gweithgareddau pysgodfeydd yn cael eu cynllunio a’u holrhain yn dda
- Cyfathrebu rheolaidd a chlir â rhanddeiliaid pysgodfeydd fel bod genweirwyr a rhanddeiliaid eraill yn cael eu hysbysu’n dda
- Cyflawni mwy trwy eraill. Pan fo’r sgiliau i gyflawni’r amcanion hyn y tu allan i CNC, byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio’r adnoddau hynny’n ddoeth.
Gwneud iddo ddigwydd
Bydd ein hymrwymiad i gyflawni’r strategaeth yn cael ei ddangos mewn rhaglen pysgodfeydd pum mlynedd a fydd yn nodi cyfres o amcanion CAMPUS i’w cyflawni rhwng 2026 a 2031. Bydd y rhaglen hon yn cael ei goruchwylio gan aelodau o’n tîm arwain, a fydd yn rhannu atebolrwydd am rannau o’i chyflawniad.
Byddwn yn adrodd am gynnydd blynyddol i Lywodraeth Cymru, Bwrdd Busnes Rheoli Adnoddau Naturiol, a Fforwm Pysgodfeydd Cymru.
Atodiad 1 Dyletswyddau a Phwerau Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am reoli a rheoleiddio pysgodfeydd dŵr croyw a mudol yng Nghymru. Mae’r prif ddyletswyddau statudol ynghylch y pysgodfeydd hyn yn deillio o’r canlynol:
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016: Mae’r ddeddfwriaeth hon yn nodi’r fframwaith cyffredinol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol yng Nghymru. Mae gan CNC ddyletswydd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, sy’n cynnwys ecosystemau dŵr croyw a physgodfeydd.
ac
Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 hefyd yn rhoi’r ddyletswydd i CNC “gynnal, gwella a datblygu pysgodfeydd…” Asiantaeth yr Amgylchedd 1995
Rhoddir y dyletswyddau a’r pwerau rheoleiddio pellach sy’n ofynnol i weithredu’r dyletswyddau hyn trwy amrywiol ddeddfwriaethau, gan gynnwys:
Deddf Adnoddau Dŵr 1991: Mae’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi’r pŵer i CNC reoleiddio a rheoli adnoddau dŵr, gan gynnwys cynefinoedd dŵr croyw a physgodfeydd. Mae CNC yn gyfrifol am roi trwyddedau ar gyfer gweithgareddau pysgota ac am sicrhau cydymffurfedd â rheoliadau i amddiffyn poblogaethau pysgod a’u cynefinoedd.
Mae Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2013 yn rhoi dyletswyddau penodol ar CNC ynghylch cadw a chyflwyno pysgod yng Nghymru. Mae’r rheoliadau hyn yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoli rhywogaethau pysgod, gan gynnwys y rhai sy’n frodorol i Gymru a’r rhai sy’n cael eu cyflwyno.
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981: Mae’r Ddeddf hon yn darparu amddiffyniad i rywogaethau pysgod dŵr croyw a mudol a’u cynefinoedd. Mae gan CNC ddyletswyddau i warchod ac amddiffyn cynefinoedd a rhywogaethau dynodedig, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â physgodfeydd dŵr croyw a mudol.
Y Rheoliadau Cynefinoedd: O dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE (wedi’i throsi’n gyfraith y DU), mae gan CNC ddyletswyddau i ddynodi a rheoli Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) sy’n cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw pwysig, gan gynnwys pysgod mudol fel eogiaid a brithyllod môr.
Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009: Er ei bod yn canolbwyntio’n bennaf ar amgylcheddau morol, mae gan y Ddeddf hon oblygiadau hefyd i rywogaethau pysgod mudol sy’n mudo rhwng cynefinoedd dŵr croyw a morol. Mae gan CNC gyfrifoldebau am reoli’r ardaloedd rhyngbarthol hyn a sicrhau cadwraeth poblogaethau pysgod mudol.
Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru) 2017: Mae’r rheoliadau hyn yn trosi Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE yn gyfraith Cymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i CNC reoli ecosystemau dŵr croyw a physgodfeydd mewn modd sy’n cyflawni statws neu botensial ecolegol da.
Rheoliadau Llyswennod (Cymru a Lloegr) 2009: Mae’r rheoliadau hyn yn rhoi pwerau i CNC weithredu mesurau ar gyfer adfer stociau llyswennod Ewropeaidd ac mae ganddynt oblygiadau pwysig i weithredwyr tyniadau a gollyngiadau dŵr. Mae CNC yn gyfrifol am reoli a rheoleiddio stociau a physgodfeydd llyswennod yng Nghymru.
Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Cymru a Lloegr) 2009: Mae’r rheoliadau hyn yn amddiffyn pysgod a physgod cregyn rhag clefydau difrifol. Maent yn ymwneud â ffermio ond maent hefyd yn darparu rhywfaint o amddiffyniad i bysgod addurniadol a gwyllt a’r rhai ar gyfer pysgota. Maent yn cyflwyno system awdurdodi ar gyfer busnesau dan sylw a mesurau a ddefnyddir os bydd achosion o glefyd difrifol.
At ei gilydd, mae dyletswyddau statudol CNC yn cynnwys rheolaeth gynaliadwy, cadwraeth, a rheoleiddio pysgodfeydd dŵr croyw a mudol yng Nghymru, gan sicrhau bod yr adnoddau gwerthfawr hyn yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol wrth hefyd gefnogi defnydd a mwynhad cynaliadwy gan y cyhoedd.
Atodiad 2 Gwerth Economaidd-gymdeithasol Pysgodfeydd
Dylai strategaeth pysgodfeydd i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gydnabod a cheisio gwella pwysigrwydd cymdeithasol, economaidd a threftadaeth pysgodfeydd dŵr croyw a mudol i Gymru:
Gwerth economaidd pysgota hamdden a thwristiaeth:
Mae pysgota hamdden yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru trwy wariant uniongyrchol ar offer pysgota, a mynediad at bysgota, ond hefyd yn anuniongyrchol trwy lety, cludiant, a gwasanaethau cysylltiedig eraill. Yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan CNC (Mawle, 2018), mae pysgota hamdden mewn afonydd yng Nghymru yn cynhyrchu gwerth ychwanegol gros (mesur o werth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir mewn sector o economi) o tua £20 miliwn y flwyddyn ac yn cefnogi mwy na 700 o swyddi sy’n gyfwerth ag amser llawn. Mae tollau trwyddedau pysgota â gwialen o enweirio hamdden yn codi dros £1 miliwn bob blwyddyn, a ddefnyddir i gefnogi cyflawni dyletswyddau pysgodfeydd CNC.
Amcangyfrifir bod genweirio dŵr croyw a môr yn dod â gwerth o tua £150 miliwn i economi Cymru gyda’i gilydd (Radford ac eraill, 2007), gyda thua 450,000 o ddiwrnodau pysgota ymwelwyr (dŵr croyw i gyd) wedi’u cofnodi yng Nghymru yn 2005.
Manteision cymdeithasol a llesiant: Mae genweirio yn chwarae rhan werthfawr wrth wella llesiant cymdeithasol yng Nghymru drwy hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol a meithrin cysylltiadau yn y gymuned (Wilson ac eraill, 2023). Mae’r cynnydd diweddar mewn gwerthiant trwyddedau pysgota â gwialen ers Covid hefyd yn dangos y gallai fwy o bobl fod yn cymryd rhan er mwyn mwynhau’r manteision llesiant hyn.
Pysgodfeydd rhwyd masnachol: Er nad ydynt mor amlwg â physgota hamdden, mae pysgodfeydd masnachol yng Nghymru wedi cyfrannu at yr economi yn hanesyddol trwy ddal a gwerthu pysgod. Roedd hyn yn cynnwys dal rhywogaethau fel eogiaid, brithyllod môr a llyswennod. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae cymryd eogiaid a llyswennod yng Nghymru wedi’i wahardd, felly’r unig bysgota masnachol am rywogaethau dŵr croyw yw am frithyllod môr, ac yma hefyd mae gostyngiadau yn y stoc wedi golygu bod angen rheolaeth reoleiddiol.
Gwasanaethau ecosystemau: Mae ecosystemau dŵr croyw a phoblogaethau pysgod iach yn darparu amrywiol wasanaethau ecosystemau sy’n fuddiol i gymdeithas, megis puro dŵr, rheoleiddio llifogydd, cylchu maethynnau, a chadwraeth bioamrywiaeth. Mae gan y gwasanaethau hyn werth economaidd o ran costau a osgoir a manteision i lesiant dynol.
Atodiad 3 Heriau a Bygythiadau Amgylcheddol
Mae pysgodfeydd mudol a dŵr croyw yng Nghymru yn wynebu sawl her a bygythiad allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys dirywiad cynefinoedd, llygredd, newid hinsawdd, gorbysgota, a rhywogaethau goresgynnol. Ar ben hynny, mae gostyngiad mewn gwerthiant trwyddedau pysgota â gwialen yn dangos y gallai llai o bobl fod yn cymryd rhan yn y gamp, gan leihau’r incwm i fuddsoddi mewn cefnogi cadwraeth a rheoli pysgodfeydd.
- Newid hinsawdd: Mae newid hinsawdd yn achosi newidiadau dramatig mewn patrymau tymheredd a gwlybaniaeth, gan arwain at newidiadau yn llif afonydd a thymheredd dŵr. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar boblogaethau pysgod yng Nghymru, gan effeithio ar eu silio, eu mudo a’u goroesiad. Yn ogystal, mae newid hinsawdd yn effeithio ar yr amgylchedd morol, gan achosi newidiadau mewn maethynnau morol ac ar yr ysglyfaeth sydd ar gael ac felly’n effeithio ar y rhywogaethau hynny sy’n cwblhau eu cylchoedd bywyd mewn cynefinoedd morol.
- Dirywiad cynefinoedd: Mae hyn yn parhau i fod yn un o’r bygythiadau mwyaf cyffredin i bysgodfeydd mudol a dŵr croyw yng Nghymru. Gall amaethyddiaeth ddwys, datblygu tir, a phrosiectau seilwaith arwain at ddinistrio a darnio cynefinoedd pysgod hanfodol. Mae colli coetir torlannol, a chael gwared ar glogfeini a deunyddiau pren o afonydd, yn lleihau eu gallu i silio a bridio’n llwyddiannus ac yn lleihau gallu’r afon i gynnal rhywogaethau.
- Rhwystrau i fudo: Yn bennaf yn etifeddiaeth o’n gorffennol diwydiannol, mae rhwystrau i symudiadau pysgod, i fyny ac i lawr yr afon, yn parhau i roi pwysau ar stociau pysgod.
- Llygredd: Mae llygredd o wahanol ffynonellau, gan gynnwys gollyngiadau diwydiannol a domestig, arferion amaethyddol, datblygu trefol, a dŵr ffo o’r ffyrdd, yn effeithio’n uniongyrchol ar ansawdd dŵr ac yn fygythiad parhaus i bysgodfeydd dŵr croyw yng Nghymru. Mae cemegau a chyfansoddion peryglus newydd sy’n dod i’r amlwg, megis cynhyrchion fferyllol a microblastigion, yn peri bygythiad difrifol i fiota dŵr croyw, a all gynnwys effeithiau is-angheuol sy’n diraddio hyfywedd y boblogaeth.
- Cam-fanteisio: Mae pysgota cyfreithlon, gyda gwialenni neu rwydi, wedi’i reoli’n gymharol dda yn nyfroedd Cymru, ac felly nid yw’n cael ei ystyried yn fygythiad mawr ar hyn o bryd. Mae is-ddeddfau CNC yn gorchymyn bod pob eog yn cael ei ddychwelyd i’r dŵr yn fyw, a bod hyn yn cael ei ategu gan ymarfer dal a rhyddhau da gan bysgotwyr a rhwydi. Rydym hefyd yn dilyn canllawiau Cyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr wrth gau pysgodfeydd llyswennod nes bydd stociau yn adfer. Fodd bynnag, mae’r risg o gam-fanteisio a sgil-ddalfeydd anghyfreithlon neu heb eu hadrodd yn parhau i fod yn bryder i lawer o bysgodfeydd mudol yng Nghymru, yn enwedig ar y moroedd mawr ac mewn dyfroedd arfordirol, lle mae sicrhau cydymffurfiaeth a gwaith gorfodi yn her.
- Rhywogaethau estron goresgynnol a chlefydau pysgod: Gall rhywogaethau goresgynnol, megis cimwch afon America a rhywogaethau pysgod anfrodorol, fod yn fygythiad difrifol i boblogaethau pysgod brodorol yng Nghymru. Gall y rhywogaethau hyn trechddisodli pysgod brodorol am fwyd a chynefin, cyflwyno clefydau, a tharfu ar gydbwysedd naturiol yr ecosystem. Mae rheoli a chynnal rhywogaethau goresgynnol yn dasg hanfodol ar gyfer amddiffyn bioamrywiaeth pysgodfeydd dŵr croyw. Mae’r posibilrwydd o gyflwyno’r parasit Gyrodactylus salaris o Lychlyn a chyfandir Ewrop yn parhau i fod yn fygythiad gwirioneddol.
- Ysglyfaethu: Mae ysglyfaethu, yn y cyfnodau dŵr croyw a morol, yn ffenomen naturiol a bydd fel arfer yn hunanreoleiddiol. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gall ysglyfaethu roi pwysau ychwanegol a all rwystro adfer stociau dan fygythiad. Gall cymhlethdod cynyddol mewn cynefinoedd, darparu mwy o orchudd i bysgod, a chael gwared ar rwystrau i fudo helpu i leddfu’r pwysau hyn. Mae CNC hefyd wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i adolygu effaith adar sy’n bwyta pysgod a’u heffaith bosibl ar stociau pysgod dan fygythiad. Rydym hefyd wedi adolygu’r gofynion trwyddedu ac wedi gweithredu dull trwyddedu newydd sy’n seiliedig ar ddalgylchoedd sy’n cydbwyso anghenion cadwraeth pysgod ac adar.
- Gall datblygiadau seilwaith morol, megis cynlluniau ynni, gyflwyno risg i stociau pysgod mudol, effeithio ar lwybrau mudo neu effeithio ar gynefinoedd lleol, gan effeithio ar y bwyd a’r lloches sydd ar gael i bysgod mudol. Mae difrod gan dyrbinau hefyd yn bryder sylweddol i rywogaethau pysgod mudol mewn prosiectau ynni’r llanw.
Atodiad 4 Cyfleoedd ac Atebion
Er gwaethaf yr heriau hyn, mae cyfleoedd i wella statws pysgodfeydd mudol a dŵr croyw yng Nghymru drwy arferion rheoli cynaliadwy, ymdrechion i adfer cynefinoedd, ymgysylltu â’r gymuned, rhaglenni addysg ac allgymorth, mentrau ymchwil a monitro, a phartneriaethau cydweithredol rhwng asiantaethau’r llywodraeth, cyrff anllywodraethol, pysgotwyr, a chymunedau lleol.
Mae mynd i’r afael â’r heriau a’r bygythiadau hyn yn gofyn am ymdrechion cydlynol gan bob sefydliad sy’n ymwneud â rheoli a chadwraeth pysgodfeydd. Mae rhai amcanion allweddol i liniaru’r heriau hyn yn cynnwys fel a ganlyn:
- Codi ymwybyddiaeth: Y tu hwnt i weithredu mesurau ffisegol neu reoleiddiol penodol i fynd i’r afael â risgiau a bygythiadau amgylcheddol, efallai mai’r mesur mwyaf effeithiol yw ymgysylltu â chymunedau Cymru a chodi ymwybyddiaeth o’r camau y gallant eu cymryd. Dylai cynyddu cyfranogiad cynaliadwy mewn pysgota fod yn rhan annatod o’r neges hon.
- Partneriaeth ar sail dalgylchoedd i adfer cynefinoedd afonydd: Gall gweithredu prosiectau adfer afonydd i wella ansawdd a chysylltedd cynefinoedd dŵr croyw ar gyfer rhywogaethau pysgod dŵr croyw gynnwys adfer sianeli afonydd naturiol, cael gwared ar rwystrau, gosod llwybrau pysgod ac addasiadau i lywio rhwystrau, ac amddiffyn ardaloedd silio hanfodol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eisoes yn cyflawni neu’n cefnogi rhaglen helaeth o fentrau adfer afonydd, gyda chymorth Cronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru a phrosiectau LIFE (offeryn ariannu’r UE ar gyfer yr amgylchedd a gweithredu ar newid hinsawdd). Mae parhau â’r cynlluniau hyn yn hanfodol. Mae angen inni hefyd barhau i gydweithio â phartneriaid yn y trydydd sector, fel yr ymddiriedolaethau afonydd a bywyd gwyllt, i weithredu’r cynlluniau hyn a sicrhau cyllid gan drydydd partïon. Mae mentrau cyllid preifat yn edrych fwyfwy i fuddsoddi mewn prosiectau ar raddfa tirwedd i wella ansawdd dŵr a rheoli llif.
- Plannu coed a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Gallai ymgorffori mesurau diogelu ansawdd dŵr, afonydd a’r dirwedd yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fynd i’r afael â phwysau lluosog sy’n deillio o ddefnydd tir sy’n effeithio ar ein systemau afonydd. Ar ben hynny, gall targedu creu coetiroedd ar lannau afonydd â llystyfiant wedi diraddio wella gwydnwch hinsawdd yn sylweddol, gan wella dŵr ffo pridd, cynnal a chymedroli llif afonydd, ac yn hollbwysig cysgodi ac oeri tymereddau afonydd. Mae menter Cadw Afonydd yn Oer i Gymru sy’n blaenoriaethu, yn cymell ac yn hwyluso cynnydd dramatig mewn plannu coed ar lannau afonydd yn cynnig yr un mesur mwyaf effeithiol ar gyfer cynnal ecosystemau afonydd mewn hinsawdd sy’n newid.
- Gwella a diogelu ansawdd dŵr: Mae CNC, Llywodraeth Cymru a’n partneriaid eisoes yn canolbwyntio’n helaeth ar wella ansawdd dŵr yng Nghymru. Drwy hyrwyddo arferion rheoli tir yn gynaliadwy i leihau dŵr ffo maethynnau a gwaddodion, yn ogystal â gorfodi rheoliadau i reoli llygredd o ffynonellau amaethyddol a diwydiannol, gellir gwella ecosystemau afonydd yn sylweddol.
- Rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy: Mae CNC eisoes yn rheoleiddio pysgodfeydd gan ddefnyddio egwyddorion rhagofalus i sicrhau nad yw stociau dan fygythiad yn cael eu hecsbloetio. Dylem barhau â’r dull hwn, gan geisio sicrhau bod gennym hyder yn ein hasesiadau stoc a bod ein mesurau rheoleiddio yn effeithlon, yn ogystal â hyrwyddo a chefnogi mesurau gwirfoddol pysgodfeydd.
- Cefnogi pysgodfeydd dŵr llonydd a bras: Mae pysgodfeydd dŵr llonydd sydd ar gael yn fasnachol ac i’r cyhoedd yn rhan bwysig o’r dirwedd pysgodfeydd yng Nghymru ac yn parhau i ddarparu cyfleoedd i gymunedau gysylltu â natur. Dylai CNC barhau i gynghori’r pysgodfeydd hyn ar gynaliadwyedd a gwydnwch hinsawdd, gan ddefnyddio arian o’r incwm gan drwyddedau pysgota â gwialen i gefnogi mynediad cyhoeddus ehangach.
- Ysglyfaethu: Mae CNC wedi ceisio arweiniad gan grŵp cynghori annibynnol ar adar sy’n bwyta pysgod ac mae’n gweithredu rhaglen o fesurau i helpu i amddiffyn stociau dan fygythiad, yn enwedig i amddiffyn gleisiaid sy’n mudo mewn mannau cul allweddol pan fyddant yn mudo i lawr yr afon. Gwnaethom adolygu’r gofynion trwyddedu a gweithredu dull trwyddedu newydd sy’n seiliedig ar ddalgylchoedd.
- Rheoli rhywogaethau goresgynnol: Gweithredu mesurau i reoli rhywogaethau goresgynnol, megis cynnal ymdrechion dileu wedi’u targedu, datblygu protocolau canfod cynnar ac ymateb cyflym, a chodi ymwybyddiaeth am y risgiau sy’n gysylltiedig â chyflwyno a lledaenu rhywogaethau goresgynnol.
- Cynllunio morol: Gellir lliniaru effeithiau prosiectau ynni morol drwy gynllunio gofalus, asesiadau amgylcheddol, a gweithredu technolegau sy’n gyfeillgar i bysgod. Er enghraifft, gellir defnyddio tagio ac olrhain hydroacwstig i fonitro symudiadau pysgod a llywio cynllunio prosiectau ynni’r llanw i leihau eu heffaith.
- Gweithio gydag eraill a thrwyddynt: Gall cyrff cynrychioliadol pysgodfeydd a genweirio a chyrff anllywodraethol, fel Afonydd Cymru ac ymddiriedolaethau afonydd, fod yn hynod effeithiol ac effeithlon wrth gyflawni mesurau ymarferol i fynd i’r afael â phwysau ar gynefinoedd ac ansawdd dŵr. Byddwn hefyd yn ceisio argymell gweithredu ar sail ryngwladol, megis lleisio ein pryderon ynglŷn â cholledion yn y moroedd mawr gyda NASCO.
Atodiad 5 Cyfraniadau Pysgodfeydd i Amcanion Llesiant ein Cynllun Corfforaethol
Drwy fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ecosystemau o reoli’r pysgodfeydd hyn, mae rheoli pysgodfeydd dŵr croyw a mudol yn cyd-fynd yn uniongyrchol â phob un o dri amcan llesiant y cynllun corfforaethol.
Amcan Llesiant 1 - Byd natur wrthi’n gwella
Adfer cynefinoedd: Mae’r rhan fwyaf o rywogaethau pysgod dŵr croyw yn sensitif i’w hamgylchedd ac mae cynnal neu adfer cynefinoedd dyfrol iach yn hanfodol ar gyfer eu goroesiad. Drwy weithio i wella a diogelu ansawdd afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd, gall rheoli pysgodfeydd gyfrannu at adferiad ecosystemau naturiol a’u bioamrywiaeth.
Cadwraeth rhywogaethau: Gall pysgodfeydd dŵr croyw gefnogi cadwraeth rhywogaethau pysgod brodorol yn uniongyrchol. Gall ymdrechion i adfer neu amddiffyn rhywogaethau dan fygythiad helpu i adfer y cydbwysedd ecolegol a chyfrannu at adferiad ecosystemau naturiol.
Eiriolaeth ac ymwybyddiaeth: Drwy godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â chymunedau ynghylch statws a thrafferthion stociau pysgod, gallwn helpu i ysgogi newid ymddygiad a pholisi i helpu i adfer natur.
Amcan llesiant 2 - Cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
Lliniaru effeithiau newid hinsawdd: Drwy ddefnyddio atebion ar sail natur, fel adfer mawndiroedd a phlannu coed torlannol, gall mesurau i adfer ac amddiffyn ecosystemau dŵr croyw gyfrannu at liniaru effeithiau newid hinsawdd.
Addasu i newid hinsawdd: Gallwn integreiddio rhagolygon hinsawdd i gynllunio pysgodfeydd i ddiogelu rhywogaethau dan fygythiad yn sgil cynhesu a newid mewn cyfundrefnau llif. Gall CNC hefyd hyrwyddo polisïau pysgodfeydd addasol sy’n cefnogi genweirio cynaliadwy a monitro poblogaethau pysgod o dan amodau amgylcheddol newidiol.
Cyfleoedd economaidd: Gall pysgodfeydd dŵr croyw cynaliadwy ddarparu cyfleoedd economaidd i gymunedau lleol, gan gynnwys swyddi, twristiaeth, a gweithgareddau hamdden.
Rheoli adnoddau dŵr: Gall rheoli pysgodfeydd dŵr croyw yn briodol hefyd gynnwys rheoli adnoddau dŵr, sy’n hanfodol ar gyfer sicrhau ansawdd dŵr a’i fod ar gael wrth wynebu amodau hinsawdd sy’n newid.
Amcan llesiant 3 - Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf
Ansawdd dŵr: Mae rheoli pysgodfeydd dŵr croyw yn effeithiol yn aml yn cynnwys monitro a gwella ansawdd dŵr. Mae lleihau llygredd, fel dŵr ffo amaethyddol neu ollyngiadau diwydiannol, yn hanfodol ar gyfer iechyd ecosystemau dyfrol a’r poblogaethau pysgod ynddynt.
Addysg ac eiriolaeth: Gall rheoli pysgodfeydd hefyd addysgu’r cyhoedd a rhanddeiliaid am bwysigrwydd dŵr glân a pheryglon llygredd, gan arwain at fwy o eiriolaeth a chefnogaeth i fesurau rheoli llygredd.