Datblygiadau ynni adnewyddadwy morol
Prosiectau ynni adnewyddadwy morol
Mae ynni adnewyddadwy morol yn cynnwys y canlynol:
- Tonnau
- Llif llanw
- Amrediad llanw
Gall ynni adnewyddadwy morol gael effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys ar adar, mamaliaid morol, ecoleg fenthig, pysgod a phrosesau ffisegol.
Rhaid i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy morol asesu sut allai eu prosiect gael effaith ar yr amgylchedd.
Canllawiau, tystiolaeth a data
Dewch o hyd i gyngor, data a thystiolaeth ar gyfer eich datblygiad ynni adnewyddadwy morol:
- Gwybodaeth am drwyddedau morol a chanllawiau am wneud cais gan ein Gwasanaeth Trwyddedu
- Canllawiau morol ac arfordirol
- Adroddiadau tystiolaeth morol ac arfordirol
- Cyflwyno cais am drwydded forol ar gyfer prosiectau sy’n defnyddio rheoli addasol neu gyflwyno’r prosiect yn raddol
- Defnyddio dull rheoli addasol ar gyfer datblygiadau morol
- Canllawiau ar gynnal ymarfer cwmpasu ar gyfer asesiad o’r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol
- Canllawiau ar ein data ar gynefinoedd a rhywogaethau morol a'u defnyddiau mewn datblygiadau
- Canllawiau ar sut i gwblhau asesiadau ar gynefinoedd benthig
- Canllawiau ar unedau rheoli mamaliaid morol mewn asesiadau rheoliadau cynefinoedd
- Canllawiau ar arolygon adar ar y môr ar gyfer datblygiadau morol: pryd y mae angen i chi gynnal arolwg
- Canllawiau ar brosesau ffisegol morol, arfordirol ac aberol a gofynion monitro ar gyfer prosiectau datblygu mawr
- Adroddiad tystiolaeth ar nodweddu safleoedd mamaliaid morol ar gyfer ynni adnewyddadwy morol
- Adroddiad tystiolaeth sy'n adolygu amlenni prosiectau ynni llanwol a mamaliaid morol
- Cyfoeth Naturiol Cymru ac asesiadau amgylcheddol
Ffynonellau gwybodaeth eraill
- Gwaith cynllunio morol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
- Mae Ynni Morol Cymru yn dod â rhanddeiliaid ynni adnewyddadwy morol ynghyd
- Mae Ystad y Goron yn rheoli'r rhan fwyaf o wely'r môr ac yn dyfarnu prydlesi ar gyfer datblygiadau
- Tethys, lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac ymchwil am ynni adnewyddadwy morol o bob cwr o'r byd
Mae adnoddau naturiol Cymru'n cynnig cyfle gwych i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o'r gwynt, y tonnau a'r llanw. Drwy reoli'r adnoddau hyn yn gynaliadwy, gallwn sicrhau bod y datblygiad cywir yn y lle cywir yn helpu i fodloni targedau datgarboneiddio a galluogi twf glas yng Nghymru.
Cysylltwch â ni
Os ydych yn ystyried prosiect ynni adnewyddadwy morol yn nyfroedd Cymru, ysylltwch â ni yn gynnar yn eich cynlluniau drwy e-bost: marine.area.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk