Ystyried y lleoliad gweladwy wrth ddewis eich safle datblygu

Mae angen i ddatblygwyr ystyried sut bydd y strwythurau y maent yn bwriadu eu hadeiladu yn effeithio ar olygfeydd a gwelededd y dirwedd o’u hamgylch. 

Mae’n well dewis y safle cywir ar ddechrau’r broses gynllunio na lliniaru effeithiau gweledol ar ôl i chi ddewis safle.

Defnyddiwch ein mapiau isod i wirio’r golygfeydd a’r gwelededd mewn gwahanol dirweddau.

Mae ein gwaith mapio gwelededd yn helpu yn y camau cynllunio cynnar. Nid yw’n disodli’r angen am asesiadau tirwedd a’r effaith ar welededd. Ond y mae’n cynnig sylfaen dystiolaeth strategol i’w defnyddio wrth benderfynu pa safleoedd allai fod orau.

Lleoliadau gweladwy a golygfeydd allweddol mewn Tirweddau Dynodedig

Fe ddewison ni Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Fe wnaethon ni fapio’r lleoliad gweladwy o bob un, allan hyd at 35km:

  • Fe wnaethon ni fapio’r ardaloedd sy’n weladwy ar lwybr gwelededd uniongyrchol o bob tirwedd ddynodedig, hyd at 35km i ffwrdd. Dyma’r Parth Gwelededd Damcaniaethol (ZTV)
  • Fe wnaethon ni hefyd fapio ardaloedd nad oeddent ar lwybr gwelededd uniongyrchol. Ar gyfer yr ardaloedd hyn, fe wnaethon ni gyfrifo Uchder gwrthrych tal cyn iddo ddod yn weladwy (HOBV). Fe wnaethon ni ddefnyddio amrywiaeth o uchderau gwrthrychau tal yn ein gwaith mapio, i’w wneud yn fwy defnyddiol i chi

Fe wnaethon ni hefyd nodi 200 o olygfannau allweddol sy’n edrych i mewn neu allan o’n Parciau Cenedlaethol a’n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Fe wnaethon ni fapio’r rhain yn yr un ffordd:

  • Fe ddewison ni olygfannau o lefydd poblogaidd. Er enghraifft, copaon bryniau, meysydd parcio ymwelwyr neu olygfannau ar deithiau cerdded. Detholiad yn unig yw’r golygfeydd hyn. Nid ydynt yn dangos pob golygfa o fewn tirweddau dynodedig

Lleoliadau gweladwy ar gyfer Ardaloedd Gweledol a Synhwyraidd LANDMAP

Fe wnaethom fapio’r ZTV ar gyfer pob un o’n 1,991 o Ardaloedd Gweledol a Synhwyraidd LANDMAP, hyd at 35km. Mae’r rhain yn cwmpasu Cymru gyfan.

Gallwch hefyd: 

Mae yna hefyd ganllawiau i ddefnyddwyr ac adroddiad technegol yn dangos sut cyfrifwyd y data.

Lleoliad morlun gweladwy Cymru

Mae’r môr yn gefndir pwysig ac yn lleoliad morol pwysig i lawer o dirweddau arfordirol yng Nghymru.

Lawrlwythwch broffiliau disgrifiadol ar gyfer pob un o’n 29 o Ardaloedd Cymeriad Morol Cenedlaethol

Mae’r rhain yn cynnwys mapiau rhyng-welededd tir-môr ar ddiwedd pob proffil ardal cymeriad. 

Cymerwch olwg ar fap rhyngweithiol. Mae hwn yn dangos set ddata rhyng-welededd tir-môr sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr gyfan: 

  • cliciwch ar y pin ar y map i agor blwch deialog
  • dewiswch ‘Ychwanegu at y map’
  • chwyddwch i mewn ac aros i’r map lwytho

Cymerwch olwg ar ddelweddau map yn dangos y rhyng-welededd tir-môr cyfan ar gyfer Cymru. Mae’r map hwn i’w gael yn yr adroddiad dull ar gyfer ein Hardaloedd Cymeriad Morol Cenedlaethol.

  • Mae Ffigur 5.2 yn yr adroddiad yn dangos delwedd map Cymru gyfan o dir gyda golygfeydd o’r môr
  • Mae Ffigur 5.3 yn dangos gwelededd cymharol wyneb y môr o’r tir.

Lawrlwythwch ffeiliau GIS yn dangos y rhyng-welededd tir-môr cyfan ar gyfer Cymru a Lloegr gan Sefydliad Rheoli Morol Lloegr

Canllawiau cysylltiedig

Mae gan y Landscape Institute Ganllawiau ar gyfer Asesu Tirwedd a’r Effaith ar Welededd

Cysylltu

tirwedd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf