View of a valleyMae deall canlyniadau posibl cynlluniau a phrosiectau yn gynnar yn ein helpu i leihau a lliniaru effeithiau niweidiol - neu eu hosgoi yn llwyr. Yn gyffredinol, mae'n haws, yn fwy effeithiol ac yn rhatach newid prosiectau neu gynlluniau i osgoi niwed amgylcheddol pan fo hyn yn cael ei nodi, ei ystyried a phan weithredir yn eu cylch yn gynnar yn eu datblygiad.

Ein nod yw gwneud y gorau o effeithiau buddiol wrth annog datblygu cynaliadwy.

Mae yna dair o brif brosesau ar gyfer asesu amgylcheddol, sy'n cael eu hymgorffori yng nghyfraith Ewrop, y DU a Chymru, ac sydd angen eu hystyried:

  • Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA)
  • Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA)
  • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)

Mae'r tudalennau gwe hyn yn anelu at egluro'n fyr:

  • Beth yw AEA (EIA), AAS (SEA) ac ARhC (HRA)
  • Gwahanol swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y rhain

Darperir dolenni i wybodaeth bellach drwy'r ddogfen.

Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA)

Beth? Mae AEA (EIA) yn broses ar gyfer nodi effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol datblygiadau arfaethedig. Mae'n berthnasol i brosiectau sy'n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd oherwydd eu natur, maint neu leoliad. Mae'r datblygwr yn cyflwyno'r adroddiad AEA (EIA) ynghyd â'r cynnig i'r rhai fydd yn gwneud y penderfyniad (ee yr awdurdod cynllunio lleol os oes angen caniatâd cynllunio), ac mae'r rhai sy'n gwneud y penderfyniad yn ystyried yr AEA ynghyd â'r cynllun wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd ai peidio.

Pam?  Mae hyn yn caniatáu i'r datblygwr ystyried a datblygu dulliau i osgoi, lleihau neu unioni unrhyw effeithiau amgylcheddol andwyol. Mae hefyd yn gwneud y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn fwy ymwybodol o effeithiau rhagweladwy'r prosiect arfaethedig cyn rhoi caniatâd ar gyfer datblygu. 

Pwy sy'n gyfrifol am wneud AEA (EIA)? Y datblygwr neu gynigydd y prosiect. 

Ble i gael gwybod mwy am hyn?

I gael mwy o wybodaeth am AEA (EIA) yng Nghymru, gweler tudalen gwe Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol Llywodraeth Cymru.

Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA)

Beth? Mae Asesiad Amgylcheddol Strategol neu AAS yn ffordd o asesu a monitro effeithiau tebygol (cadarnhaol a negyddol) cynlluniau, rhaglenni a strategaethau sy'n ymwneud â'r amgylchedd. Mae'n debyg i AEA, ond yn berthnasol ar lefel y cynllun neu strategaeth (ee y Cynllun Datblygu Lleol, neu Strategaeth Trafnidiaeth) sy'n gosod y cyfeiriad ar gyfer prosiectau datblygu yn y dyfodol. Mae'n bosibl i AAS (SEA) gael ei ymgorffori mewn asesiad ehangach a elwir yn werthusiad Cynaliadwyedd

Pam? Mae asesiadau o'r fath yn helpu i alluogi pobl i wneud penderfyniadau gwybodus a thryloyw er budd gwneuthurwyr cynlluniau a'r gymuned ehangach yng Nghymru. 

Pwy sy'n gyfrifol am wneud AAS (SEA)? Pob corff cyhoeddus yng Nghymru, a busnesau sy'n gweithredu yn y sector cyhoeddus.

Ble i gael gwybod mwy am hyn?

Am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar Asesiadau Amgylcheddol Strategol yng Nghymru, gweler tudalen gwe Asesiad Amgylcheddol Strategol Llywodraeth Cymru. 

Am ganllawiau manwl am AAS (SEA) a sut i gynnal AAS (SEA), gweler Canllaw ymarferol i gyfarwyddeb yr AAS.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)

Beth? Asesiad o'r niwed posibl y gallai prosiect neu gynllun ei achosi i rai safleoedd dan warchodaeth arbennig. Ar draws Cymru a'i dyfroedd arfordirol, mae rhai safleoedd bywyd gwyllt arbennig a phwysig o ran cadwraeth yn cael eu gwarchod dan  gyfraith Ewropeaidd a rhyngwladol

Pam? Er mwyn sicrhau bod difrod sylweddol i safleoedd a ddiogelir yn cael ei osgoi. 

Pwy sy'n gyfrifol am yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)  Gwneuthurwyr cynlluniau a chynigwyr prosiectau, a chyrff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ganiatáu unrhyw fath o ganiatâd neu drwydded

Ble i gael gwybod mwy am hyn?

Dolen i wybodaeth bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru am  drwyddedu morol ac ARhC (HRA) 

Dolen i wybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru am ARhC (HRA) a chynllunio TAN 5 - Gwarchod Natur a Chynllunio 

Dolen i wybodaeth bellach gan yr Arolygiaeth Gynllunio am ARhC (HRA) (sy'n cynnwys gwybodaeth dda am ARhC (HRA) yn gyffredinol, nid yn unig mewn perthynas â Phrosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd).

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) Newydd 

Daeth rheoliadau AEA newydd i rym ar 16 Mai 2017 i adlewyrchu newidiadau i'r Gyfarwyddeb AEA. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar ein amryw rôl fel ymgynghorydd, rheolydd, rheolwr tir, a datblygwr. Ceir cysylltiadau i’r rheoliadau AEA newydd isod, ac mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynhyrchu fersiwn cyfunol answyddogol o’r Gyfarwyddeb newydd. 

Cysylltiadau i'r Rheoliadau AEA newydd 2017 ar gyfer Cymru:

Diweddarwyd ddiwethaf