Egwyddorion niwtraliaeth o ran maethynnau mewn perthynas â datblygiadau neu drwyddedau gollwng dŵr arfaethedig

Beth yw niwtraliaeth o ran maethynnau?

Mae niwtraliaeth o ran maethynnau yn ddull o reoli datblygiadau newydd a thrwyddedau gollwng dŵr arfaethedig er mwyn eu hatal rhag achosi unrhyw gynnydd net mewn maethynnau drwy gydol cyfnod yr awdurdodiad. Yng Nghymru, mae niwtraliaeth o ran maethynnau yn berthnasol i ddatblygiadau lle mae ffosfforws yn cael ei ollwng i afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).

Pryd mae ei angen?

Bydd angen i ymgeiswyr am ganiatadau cynllunio neu drwyddedau amgylcheddol ar gyfer gollwng dŵr ddangos bod eu cynigion yn niwtral o ran maethynnau lle mae’n bosibl y gallent gynyddu faint o ffosfforws sydd mewn afon ACA a lle mae lefelau ffosfforws eisoes yn uwch na thargedau ansawdd dŵr, neu lle nad yw targedau i lawr yr afon yn cael eu cyrraedd.

Mewn dalgylchoedd ACA lle bodlonir targedau ffosfforws, efallai na fydd angen sicrhau niwtraliaeth o ran maethynnau cyn belled nad yw datblygiadau newydd yn achosi i ACA ragori ar ei thargedau ansawdd dŵr nac yn ei hatal rhag eu cyflawni yn y dyfodol.

Ar gyfer cais am drwydded amgylcheddol i ollwng dŵr neu gais cynllunio, bydd effaith datblygiad o ran maethynnau yn cael ei hadolygu yn ystod cam yr Asesiad Priodol mewn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae dangos niwtraliaeth o ran maethynnau yn ddull cydnabyddedig o ddangos na fydd datblygiad yn cael effaith niweidiol.

Rhagor o wybodaeth ynglŷn â pham yr ydym yn pryderu am iechyd ein hafonydd a pha afonydd yr effeithir arnynt

Sut y gellir cyflawni niwtraliaeth o ran maethynnau?

Yr ystyriaeth gyntaf o safbwynt niwtraliaeth o ran maethynnau ddylai fod i leihau neu ddileu faint o faethynnau a gynhyrchir gan ddatblygiad. Yna dylid cyfrifo cydbwysedd y maethynnau er mwyn pennu faint o faethynnau allai fynd i mewn i amgylchedd yr afon yn sgil y datblygiad neu’r drwydded gollwng dŵr arfaethedig o’i gymharu â gweithrediad presennol y safle neu’r defnydd presennol o’r tir. Mae nifer o offerynnau ar gael yn gyhoeddus ar gyfer cyfrifo maethynnau er y dylid gwirio’u haddasrwydd cyn eu defnyddio.

I gyflawni niwtraliaeth bydd angen gweithredu mesurau lliniaru er mwyn cyflawni effaith net maethynnau yn sgil datblygiad neu drwydded gollwng dŵr. Rhaid i fesurau lliniaru sicrhau bod effeithiau ar amgylchedd yr afon yn cael eu hosgoi yn hytrach na’u bod yn gwneud yn iawn am effeithiau unwaith y byddant wedi digwydd. 

Beth yw egwyddorion niwtraliaeth o ran maethynnau?

Rhaid i geisiadau am ganiatâd datblygu neu geisiadau am drwydded gollwng dŵr ar gyfer datblygiadau niwtral o ran maethynnau ddangos bod pob un o’r egwyddorion canlynol wedi’u cymhwyso:

  • Rhaid i gyfrifiadau fod yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol a'r ymchwil orau sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys mewnbynnau a thybiaethau allweddol ar adeg cynnal yr Asesiad Priodol.
  • Mae mesurau yn effeithiol ac ar waith ar hyd oes datblygiad / ar gyfer effeithiau gweithgareddau a ganiateir. Mae hyn yn cynnwys dangos sut y bydd hyn yn cael ei sicrhau, megis drwy gytundebau cyfreithiol.
  • Tystiolaeth y bydd mesurau lliniaru ar waith pan ddaw datblygiad arfaethedig yn weithredol. Rhaid sicrhau bod y mesurau lliniaru ar gyfer sicrhau niwtraliaeth o ran maethynnau ar waith ac yn weithredol pan fydd gollyngiadau i'r afon yn dechrau (yn uniongyrchol neu drwy system garthffosiaeth) yn sgil datblygiad arfaethedig neu drwydded gollwng dŵr. Os caiff yr effaith ei chyflwyno fesul cam, efallai y bydd angen ystod o fesurau i fynd i'r afael ag effeithiau dros amser.
  • Rhaid i fesurau lliniaru beidio â pheryglu adferiad yr ACA. Mae hyn yn golygu peidio â chyfyngu ar y mesurau hynny sydd eisoes ar waith neu y gall fod eu hangen yn y dyfodol i gynnal neu adfer yr ACA. Ni ddylai gweithredu mesurau lliniaru drwy ddull niwtraliaeth o ran maethynnau danseilio'r amcanion yn y Rheoliadau Cynefin sy'n anelu at adfer y safle i gyflwr ffafriol. Er enghraifft, lle mae opsiynau lliniaru cyfyngedig ar gael, dylid eu defnyddio i gynnal neu wella'r safle yn hytrach na galluogi rhagor o ollyngiadau i'r afon ACA.
  • Ni ddylai mesurau a ddefnyddir i ddangos niwtraliaeth o ran maethynnau gael eu cyfrif ddwywaith. Mae'n debygol y bydd angen cadw cofrestr genedlaethol o gynlluniau er mwyn sicrhau na fydd unrhyw achosion o gyfrif dwywaith.
  • Lle bo modd, dylid gweithredu mesurau o fewn terfynau’r safle datblygu. Lle na chyflawnir hyn rhaid peidio ag achosi unrhyw niwed i'r ACA o hyd. Ni roddir caniatâd oni bai bod yr awdurdod cymwys yn fodlon na cheir effaith ar yr ACA. Bydd angen lliniaru effaith datblygiad neu drwydded gollwng dŵr arfaethedig sydd o fewn ffin afon mewn ACA naill ai ar y safle neu i fyny'r afon. Gellir gweithredu mesurau lliniaru ar gyfer datblygiad sy'n effeithio ar gwrs dŵr sy'n ymuno â ffin afon mewn ACA naill ai i fyny neu i lawr yr afon ar yr amod bod y gwrthbwyso'n digwydd cyn y pwynt y mae'r datblygiad yn cael effaith ar ffin yr ACA.
  • Rhaid sicrhau bod cyfrifiadau maethynnau yn seiliedig ar egwyddor ragofalus. Ymdrinnir â'r ansicrwydd yn y cyfrifiadau maethynnau drwy ddull rhagofalus sy’n defnyddio clustogfeydd. Bydd hyn yn golygu ychwanegu canran at y cyfrifiad wrth ddefnyddio offeryn cyfrifo maethynnau. Dylai hyn ddarparu'r lefel angenrheidiol o hyder i sicrhau na fydd datblygiadau newydd neu weithgareddau trwyddededig yn cynyddu'r llwyth maethynnau sy'n mynd i afonydd mewn ACAau.

Ble mae rhaid defnyddio niwtraliaeth o ran maethynnau?

Mae angen defnyddio niwtraliaeth o ran maethynnau ar gyfer ffosfforws yn achos datblygiadau newydd a thrwyddedau gollwng dŵr yn y dalgylchoedd a'r cyrff dŵr a restrir isod. Mae gan awdurdodau cynllunio ddisgresiwn i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau mewn dalgylchoedd ACA eraill sicrhau niwtraliaeth o ran maethynnau.

Dalgylch cyfan ACA Afon Gwy, gan effeithio ar Gyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Caerfyrddin ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dalgylch cyfan ACA Afon Wysg, gan effeithio ar Gynghorau Sir Fynwy a Chyngor Sir Powys; Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Rhan o ACA Afonydd Cleddau. Byddai angen sicrhau niwtraliaeth o ran maethynnau ar gyfer rhan afon Cleddau Wen dalgylch yr ACA ynghyd â dau gorff dŵr ar afon Cleddau Ddu (GB110061030690 a GB110061030660), gan effeithio ar Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dalgylch cyfan ACA Afon Teifi, gan effeithio ar Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys.

Dalgylch cyfan ACA Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid, ac eithrio corff dŵr yn GB111067057080 sydd ym mhen yr afon Dyfrdwy sydd i lawr yr afon, wrth i’r targed ffosffad basio ac nad oes rhagor o gyrff dŵr afon i lawr yr afon. Mae hyn yn effeithio ar Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

 

Diweddarwyd ddiwethaf