Mae ACA bosibl Bristol Channel Approaches / Dynesfeydd Môr Hafren yn ymestyn ar draws dynesfeydd gorllewinol Môr Hafren, o Fae Caerfyrddin yn Ne Cymru tuag at arfordir gogleddol Dyfnaint a Chernyw. Yn gyffredinol mae ffin tua’r tir y safle yn dilyn y marc distyll cymedrig. Mae rhannau helaeth o’r safle yn gorwedd yn nyfroedd tiriogaethol Lloegr ac mewn dyfroedd alltraeth, felly mae’r Cydbwyllgor Gwarchod Natur hefyd yn cynnal ymgynghoriad ynghylch y safle yma. Oni bai bod eich diddordeb yn ymwneud yn benodol â rhan Gymreig y safle, efallai y dymunwch ymateb i Ymgynghoriad y JNCC yn hytrach nag i CNC. Nid oes angen i chi ymateb i CNC a’r JNCC.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Dogfen Asesu Safle PDF [1.0 MB]
Map PDF [2.0 MB]