Is-ddeddfau Eogiaid a Brithyllod y Môr Afon Hafren Corff Adnoddau Naturiol Cymru

Rydym am gael eich barn ar gynigion am reolaethau dal newydd ar Afon Hafren yng Nghymru.

Gobeithir y bydd y rheolaethau newydd ar waith ar gyfer tymor 2019.

Cefndir

Mae pryderon parhaus ynghylch niferoedd yr eogiaid sy'n dychwelyd i'n hafonydd. Mae stociau wedi cyrraedd eu niferoedd isaf erioed yn y blynyddoedd diweddar ac mae dyfodol llawer o bysgodfeydd dan fygythiad yn awr. Yn syml, nid oes digon o bysgod aeddfed yn silio i gynnal stociau ar eu lefelau presennol nac i atal dirywiad pellach.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n cynnig nifer o gamau gweithredu a fydd yn helpu i wrthdroi'r duedd a sicrhau bod y rhywogaeth eiconig hon yn gallu parhau i chwarae rhan bwysig yn ein hamgylchedd a'n diwylliant.

Ym mis Awst 2018, lansiwyd ein hymgynghoriad ar reolaethau dal, ond nid oedd hwn yn cynnwys yr afonydd trawsffiniol â Lloegr. Mae'r ymgynghoriad pellach hwn yn awr ar y rhannau trawsffiniol o Afon Hafren sydd yng Nghymru. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cynnal ymgynghoriad cyfatebol ar y rhannau o Afon Hafren sydd yn Lloegr. Trwy wneud hyn, gallwn geisio sicrhau bod datrysiadau integredig yn cael eu cyflwyno ar yr afon. Rydym yn cydnabod yr angen am ddull cwbl integredig o weithredu ar gyfer ein hafonydd ffiniol, ac rydym yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd ymarferol a synhwyrol.

Bydd yr is-ddeddfau yn berthnasol i ddalgylch Afon Hafren (yng Nghymru yn unig) ac yn nodi'r canlynol:

  • Gofyniad i ddychwelyd pob eog cyn 16 Mehefin
  • Gwahardd pysgota ag abwyd cyn 16 Mehefin
  • Gwahardd rhai bachau pysgota a bachau trebl wrth bysgota am eogiaid a brithyllod y môr

Nod yr is-ddeddfau yw gwarchod stociau sydd mewn perygl wrth gynnal llawer o'r manteision pwysig sy'n gysylltiedig â'r pysgodfeydd.

Byddai’r rheolaethau yn weithredol am ddeng mlynedd hyd nes 31 Rhagfyr 2028.

Hyd

Bydd yr ymgynghoriad statudol ar reolaethau dal â gwialen a llinyn yn dechrau ar 20 Mehefin ac fe'i cynhelir tan 12 Medi 2018

Sut i ymateb:

Is-ddeddfau

Dylid cyflwyno sylwadau ar ymgynghoriad Afon Hafren i Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn 12 Medi 2018, a gallwch gyflwyno eich sylwadau ar y ffurflen ymateb yn y ffyrdd canlynol:

Trwy e-bost at fisheries.wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Trwy'r post at:

David Mee
IS-DDEDDFAU EOGIAID A BRITHYLLOD Y MÔR AFON HAFREN (CYMRU)
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes Newydd
Llandarcy
Castell-nedd Port Talbot SA10 6JQ