Rydym yn gwahodd adborth a sylwadau ar ein cynlluniau ar gyfer gwaith i wella diogelwch Cronfa Ddŵr Llyn Tegid. Mae'r cyfnod ymgynghori rhwng 27 Tachwedd 2019 a 10 Ionawr 2020.

Darllenwch fwy am fanylion y gwaith arfaethedig. 

Byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio, a fydd ar agor i bawb, Ddydd Mawrth 17 Rhagfyr 2019 rhwng 14:00 a 19:30 yng Nghanolfan Hamdden Penllyn.

Gellir lawrlwytho'r cais cynllunio drafft a'r dogfennau cymorth technegol isod. Bydd unrhyw sylwadau yn bwydo i mewn i’n cyflwyniad cais cynllunio a byddant yn cael eu cofnodi ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiad ymgynghori i'w gyflwyno gyda'r cais cynllunio.

I wneud sylwadau ar ddatblygiad arfaethedig Llyn Tegid, e-bostiwch:  Llyntegid@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Neu anfonwch eich sylwadau yn ysgrifenedig at:
Cyfoeth Naturiol Cymru (dan ofal Matt Jenkins) Chester Road Bwcle Sir y Fflint CH7 3AJ

1. Ffurflen Gais Cynllunio Drafft
2. Disgrifiad o'r Prosiect (dwyieithog)
3. Datganiad Dylunio a Mynediad
4. Cofnod Cyfyngiadau a Chyfleoedd Amgylcheddol (ECOR - crynodeb dwyieithog)
5. Cynllun Gweithredu Amgylcheddol
6. Cynllun Rheoli Rhywogaethau Goresgynnol
7. Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
8. Asesiad Effaith Coedyddiaeth
9. Datganiad Dull Coedyddiaeth
10. Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol
11. Arolwg o’r awyr, Cam 1 a Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (NVC)
12. Adroddiad Diweddaru a Dilysu Arolwg Cynefinoedd Cam 1 Awst 2019
13. Adroddiad Arolwg Clwydfannau Ystlumod Posibl
14. Gwerthusiad Tirwedd ac Effaith Weledol Rhagarweiniol
15. Ffotograff a Darluniau Golygfan
16. Archwiliad Mynediad
17. Cynllun Rheoli Coed
18. Lluniadau Cynllunio - Cynllun Lleoliad; Cynllun 1; Cynllun 2; Cynllun 3; Cynllun 4; Cynllun 5; Cynllun 6; Cynllun 7; Cynllun 8
19. Darluniau Peirianyddol - Taflen Adrannau 1; Taflen Adrannau 2; Taflen Adrannau 3; Cynllun Rheilffordd y Bala a Manylion Nodweddiadol
20. Cynlluniau Cyfyngiadau a Chyfleoedd Amgylcheddol - Cynllun 1; Cynllun 2; Cynllun 3; Cynllun 4
21. Cynlluniau Lliniaru a Gwella Amgylcheddol; Trosolwg; Canolfan Hamdden; Ardal Seddi Bandstand; Seddi ger Clwb Rygbi; Gorsaf Bwmpio; Y Bala Rhif 1 Seddi; Maes Parcio Blaendraeth; Trefniant Nodweddiadol plannu gwrychoedd
22. Asesiad Canlyniadau Llifogydd

 

Gellir gweld y cynlluniau hefyd yn Llyfrgell y Bala (Ar gau ddydd Mercher a dydd Sul)

 

Llyfrgell y Bala

Campws y Berwyn

Ffordd Ffrydan

Y Bala

LL23 7RU

 

Oriau agor ar gael ar y wefan Llyfrgell y Bala