Beth mae’r canllawiau drafft hyn yn ei drafod?

Canllawiau ymarfer yw'r rhain i gefnogi Pecyn Cymorth Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllunwyr. Mae'r brif ddogfen yn nodi sut y gall Awdurdodau Cynllunio Lleol bennu cwmpas, comisiynu, defnyddio a diweddaru asesiad sensitifrwydd a chapasiti tirweddau. Mae’r ddogfen Atodiad 1 yn darparu mwy o fanylion technegol i gynorthwyo ymarferwyr asesu tirweddau sy'n cynnal asesiadau o'r fath.

Mae'r ymarfer cyfredol o asesu sensitifrwydd a chapasiti tirweddau yn amrywio, ac mae canllawiau sy’n bodoli eisoes wedi dyddio rywfaint. Mae'r dogfennau ymgynghori yn adeiladu ar yr ymarfer cyfredol gorau, gan ei osod yng nghyd-destun deddfwriaethol a pholisi newydd Cymru sy'n ymwneud â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, llesiant a chreu lleoedd. Mae'r cyd-destun hwn yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru 2017, a Pholisi Cynllunio Cymru.

Mae nifer o faterion technegol yn cael eu datrys a'u nodi er mwyn rhoi arweiniad, ynghyd â chydbwysedd o’r angen i beidio â bod yn orgyfarwyddol.

Er bod y canllawiau hyn yn canolbwyntio ar ddatblygiadau ynni gwynt ar y tir a datblygiadau ffotofoltaidd, mae'n bosibl y bydd nifer o'r egwyddorion asesu yn berthnasol hefyd i fathau eraill o ddatblygiadau.

Ar beth yr ydym yn ymgynghori?

Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw sylwadau sy'n ein helpu i egluro ymhellach a mireinio’r ymarfer o asesu sensitifrwydd a chapasiti tirweddau. Rydym yn croesawu sylwadau o wahanol safbwyntiau, boed hynny gan y rhai sy'n comisiynu ac yn defnyddio asesiad o'r fath neu gan ymarferwyr asesu.

Fodd bynnag, nid ydym yn ymgynghori ar yr egwyddor a ddylid rhoi ystyriaeth i dirwedd, gan fod y mater hwnnw eisoes wedi'i sefydlu mewn nifer o gyd-destunau cynllunio ac amgylcheddol.

Sylwer hefyd:

Mae asesiad capasiti a sensitifrwydd tirweddau yn ddull a ddefnyddir ym maes cynllunio gofodol lle nad yw manylion cynigion datblygu a safleoedd penodol yn hysbys. Nid ydym yn ymgynghori ar y broses gysylltiedig o asesu effeithiau ar dirweddau sydd bellach wedi’i hen sefydlu ac effeithiau gweledol. Dangosir y gwahaniaeth hwn yn Ffigur 1 y brif ddogfen. 

Sut i ymateb

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn am 12 wythnos. E-bostiwch eich sylwadau i landscape@cyfoethnaturiol.cymru erbyn 4 Mawrth 2019, neu ysgrifennwch atom. 

Ar ôl hyn, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion yn ofalus ac yn gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'n canllawiau drafft. Rydym yn rhagweld y bydd y canllawiau terfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai 2019. Ar ôl hyn, byddwn yn adolygu ac yn diweddaru'r canllawiau yn achlysurol wrth i'r cyd-destun a'r ymarfer ddatblygu.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ymgynghoriad - Canllawiau drafft (Saesneg yn unig) PDF [592.9 KB]