Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi ei fod yn bwriadu gwneud gwaith gwella ym mwynglawdd metel segur Abbey Consol, Pontrhydfendigaid, Ceredigion (NGR: SN 7431 6612).

Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys y canlynol:

Adeiladu gollyngfa newydd (c.0.05 ha) i Afon Teifi (SN 7433 6596) a gwaith i ddal y dŵr sy’n gollwng ym mynedfa’r mwynglawdd (c.0.08 ha) (SN 7436 6618).

Bydd hwn yn waith lleoledig ac yn cynnwys seilwaith ar raddfa fechan (<0.2 ha). Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried nad yw’r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol ar ei gyfer.

Ni fydd unrhyw effaith andwyol ar ACA Afon Teifi. Mae’r gwaith ar lan Afon Teifi yn lleoledig iawn a bydd yn cael ei amseru er mwyn osgoi’r cyfnod sensitif pan fydd pysgod yn silio a bydd yn osgoi aflonyddu ar ddyfrgwn. Bydd mesurau ar waith i rwystro metelau rhag siltio a chael eu cario gan y dŵr o fynedfa’r mwynglawdd.

Er na fydd Datganiad Amgylcheddol yn cael ei lunio, mae Cynllun Gweithredu Amgylcheddol ar gael, sy’n dogfennu sut y bydd yr amgylchedd yn cael ei reoli’n briodol wrth gyflawni’r gwaith gwella. Gellir cael copi o’r Cynllun Gweithredu Amgylcheddol gan y Rheolwr Prosiect yn y cyfeiriad isod.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny drwy anfon neges ysgrifenedig, i’r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad hwn.

Tom Williams
Cyfoeth Naturiol Cymru
Llawr 2, Adeilad Faraday
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP