Diffiniad o goed a choetir ar gyfer rheoliadau coedwig

1. Diben

Mae’n amlinellu dehongliad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o’r geiriau “coeden” a “choetir”. Mae’r rhain yn dermau pwysig i’w deall er mwyn helpu egluro ein ymagwedd at:

  • Beth sy’n gyfystyr â gweithgareddau cwympo coed o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 (“y Ddeddf”) ac sydd felly’n amodol i’r gofyniad am drwydded cwympo coed a roddir gan CNC.
  • Beth sy’n gyfystyr â choedwigo, datgoedwigo a gwaith arall sy’n ymwneud â choedwigaeth at ddibenion Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999 (“Rheoliadau (Coedwigaeth) ”), y mai ni yw’r corff coedwigaeth priodol yng Nghymru ar gyfer gwneud penderfyniadau oddi tanynt.

Mae’r ddogfen hon wedi’i haddasu o ddiffiniad y Comisiwn Coedwigaeth o goed a choetir (2023) yn Definition of trees and woodland – GOV.UK (www.gov.uk).

Rydym wedi ystyried amrywiaeth o ddiffiniadau a dehongliadau o wahanol ffynonellau, gan gynnwys deddfwriaeth arall yn y Deyrnas Unedig (DU), rheoliadau Ewropeaidd, cyfraith achosion yn llysoedd Cymru a Lloegr, a chyhoeddiadau coedwigaeth awdurdodol. Nid yw’r dehongliad a fabwysiadwn yn y ddogfen hon yn tanseilio unrhyw un o’r diffiniadau a fabwysiadwyd mewn mannau eraill. Yn wir, rydym yn cyfeirio at lawer o’r ffynonellau hyn yn y ddogfen hon. Bwriedir i’n dehongliad o “goeden” a “choetir” fod yn berthnasol i’r Ddeddf Coedwigaeth a Rheoliadau (Coedwigaeth) 1999 yn unig.

Ni fwriedir i’r ddogfen hon fod yn berthnasol i unrhyw gyfundrefnau, cynlluniau neu reoliadau eraill. Mae hyn yn cynnwys rheoliadau a chynlluniau grant eraill a weinyddir gan Lywodraeth Cymru ac CNC, cyfundrefnau cynllunio a datblygu, a deddfwriaeth.

Defnyddiwn y termau “coetir” a “choedwig” yn gyfnewidiol yn y ddogfen hon.

2. Cefndir

Nid oes diffiniad statudol o “goed” neu “goetir” (neu goedwig) yn “y Ddeddf” nac yn “Rheoliadau (Coedwigaeth) 1999”. Fodd bynnag, mae’r ddwy gyfundrefn gyfreithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth o beth yw coed a choetir. Mae cyfraith achosion yn bodoli ar y diffiniad o goeden y tu allan i “y Ddeddf” – gweler Atodiad 3.

Coed

Mae’n bwysig deall y term “coeden” mewn perthynas ag “y Ddeddf”, a phryd mae angen trwydded cwympo coed. Mae’r gair yn penderfynu cwmpas cyffredinol y gyfundrefn trwyddedu cwympo coed, sy’n berthnasol i bob “coeden sy’n tyfu” oni bai fod esemptiad yn berthnasol: gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch.

Coetiroedd

Mae’n bwysig deall y termau “coetir” a “choedwig” mewn perthynas ag ystyr coedwigo a datgoedwigo o dan “Reoliadau (Coedwigaeth) 1999” – gweler yr enghreifftiau yn atodiadau 1 a 2.

Mae “Rheoliadau (Coedwigaeth) 1999” yn rhoi’r esboniad canlynol o goedwigo a datgoedwigo:

  • Mae coedwigo yn golygu troi tir nad yw’n goetir o dan ei ddefnydd presennol, er enghraifft amaethyddiaeth, yn goetir neu’n goedwig trwy blannu, neu hwyluso cytrefu naturiol (hunanhau) coed i ffurfio gorchudd coetir.
  • Mae datgoedwigo yn golygu cael gwared ar orchudd coetir er mwyn newid i ddefnydd tir arall. Gall hyn gynnwys cynigion i gael gwared ar goedwigaeth cylchdro byr, coedlan cylchdro byr, planhigfeydd coed Nadolig a chnydau ynni.

Dyma’r diffiniadau cyfreithiol yn “Rheoliadau (Coedwigaeth)1999 a Chyfarwyddeb y Cyngor 85/337 Atodiad II (2d)."

Mae’r termau “coetir” a “choedwig” felly yn bwysig pan fyddwn yn asesu cynigion y mae “Rheoliadau (Coedwigaeth) 1999” yn berthnasol iddynt.

Mae detholiad o ddiffiniadau presennol yn y tabl yn Atodiad 5. Mae’r tabl hwn felly yn ganllaw i ddehongli’r termau, yn hytrach na diffiniad cynhwysfawr ac unigryw.

Gwyddom na fydd yr un dehongliad unigol o “goeden” neu “goetir” (neu “goedwig”) yn gallu cynnwys pob rhywogaeth o goed neu bob enghraifft o gynefinoedd coetir. Rhaid inni ystyried y cyd-destun a gwneud penderfyniadau fesul achos. Fodd bynnag, rydym wedi dod â diffiniadau presennol ynghyd i ganiatáu inni fod yn gyson yn ein penderfyniadau.

3. Beth yw coeden?

3.1  Dehongliad

Yng Nghymru, mae tyfu coed yn amodol ar reolaethau cwympo coed o dan “y Ddeddf”. Mae’n drosedd i gwympo coed sy’n tyfu heb drwydded cwympo coed lle mae angen un.

Ystyriwn fod y term “tyfu” yn gyfystyr â’r gair “byw”. Er enghraifft, er nad yw coed hynafol a hynod yn dechnegol yng nghyfnod “twf” eu cylchoedd bywyd, maent yn dal i fod yn organebau byw sy’n darparu swyddogaethau ecolegol a diwylliannol penodol.

Ar ei swyddogaeth fiolegol fwyaf sylfaenol, gall “twf” yn syml awgrymu cellraniad. Cyn belled â bod cellraniadau newydd yn digwydd, gall dail newydd flaguro yn y gwanwyn, gall egin newydd ddatblygu, gall briwiau newydd wella, a gall blodau newydd a/neu hadau dyfu. Rydym yn cymryd y rhain fel rhestr anghyflawn o ddangosyddion coeden “sy’n tyfu”.

Nid oes angen i goeden fod yn iach i dyfu. Nid yw’r gair “tyfu” yn awgrymu creu pren ychwanegol y gellir ei ddefnyddio i brif goesyn y goeden.

O dan ddeddfwriaeth gorchmynion cadw coed, mae’r llysoedd wedi ystyried y diffiniad o “goeden” (gweler Atodiad 3). Fodd bynnag, nid yw “y Ddeddf” yn diffinio beth yw coeden mewn perthynas â thrwyddedau cwympo coed. Rydym wedi ystyried y statud hon a chyfraith achosion a byddwn fel arfer yn cymhwyso’r dehongliad canlynol:

Rhaid i’r planhigyn fod ag o leiaf un coesyn coediog a disgwylir iddo gyrraedd uchder o bum metr o leiaf i’w ystyried yn goeden.

Os nad yw sbesimen unigol wedi cyrraedd 5 metr yn ei leoliad presennol, ond bod y rhywogaeth o’r planhigyn fel arfer yn bodloni’r diffiniad hwn, byddwn yn dal i’w ystyried yn goeden.

Gallai’r rhesymau dros beidio â chyrraedd pum metr gynnwys fel a ganlyn:

  • oed ifanc
  • rheoli safleoedd
  • ataliad oherwydd amodau tyfu anodd

Gallai amodau tyfu anodd gynnwys fel a ganlyn:

  • lleoliadau gwyntog neu agored (ar ben clogwyni, twyni tywod, neu ucheldiroedd)
  • safleoedd gyda lefel trwythiad uchel (er enghraifft, gyda phroblemau a berir gan briddoedd dwrlawn)
  • safleoedd dan bwysau pori sylweddol

Os yw rhywogaeth o blanhigyn yn bodloni’r diffiniad hwn ac nad yw’n rhywogaeth “esempt” (gweler Adran 3.2), byddwn yn debygol o’i hystyried yn goeden. Mae ein dehongliad o “goeden” yn berthnasol i bob coeden, gan gynnwys coed coetir, coed gwrychoedd a choed y tu allan i goetir. Oni bai fod esemptiad yn berthnasol, bydd angen trwydded cwympo coed arnoch chi i gwympo (torri, prysgoedio neu ddinistrio) coeden. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch.

3.2  Esemptiadau ymhlith rhywogaethau nad ydynt yn goed

Mae rhai rhywogaethau o lwyni a all arddangos rhinweddau tebyg i goed mewn amodau tyfu penodol ac a all gyrraedd uchder o 5 metr, ond nid ydym yn eu hystyried yn goed, hyd yn oed os ydynt yn bodloni’r dehongliad uchod.

Nid oes angen trwydded cwympo coed arnoch i dorri’r rhywogaethau canlynol:

  • Eithin (Ulex europeaus)
  • Rhododendron (Rhododendron spp.)
  • Rhafnwydden y môr (Hippophae rhamnoides)
  • Coed llawryf (pob aelod o’r teulu Lauraceae)
  • Coeden lawrgeirios (Prunus laurocerasus)
  • Miscanthus (Miscanthus spp.)
  • Helygen wiail (Salix viminalis)

4. Beth yw coetir?

4.1 Dehongliad

Mae’r rhan fwyaf o ddiffiniadau yn dosbarthu “coetir” yn y termau canlynol:

  • isafswm arwynebedd
  • isafswm lled neu gyfartaledd lled
  • gorchudd canopi (posibl)
  • uchder y coed
  • isafswm dwysedd stocio coed
  • cyfran a chyfansoddiad mannau agored

Fel arfer, byddwn yn defnyddio’r dehongliad canlynol. Er mwyn cael ei ystyried yn “goetir”, rhaid i’r safle fodloni pob un o’r canlynol:

  • isafswm arwynebedd o 0.5 hectar
  • isafswm lled o 20 metr
  • gorchudd canopi coed posibl o o leiaf 20%
  • canopi sy’n cynnwys sbesimenau sy’n bodloni’r diffiniad o goed (Adran 3)

Byddwn yn ystyried pob math o dir a/neu ddefnydd, gan gynnwys, er enghraifft, coed pori a thir parc, fel “coetir” lle mae’n bodloni’r diffiniad hwn ac ystyrir ei fod yn barhaol.

4.2  Gorchudd canopi

“Gorchudd canopi” yw’r ardal sydd wedi’i gorchuddio gan ganghennau a dail coeden wrth edrych arni o’r awyr. Mae coetir nodweddiadol yn darparu rhwng 20% a 100% o orchudd canopi.

Er mwyn bodloni ein dehongliad o “goetir”, rhaid i goed ddarparu, neu fod â’r potensial i ddarparu (er enghraifft, mewn senario coetir newydd ei blannu), o leiaf 20% o orchudd canopi. Er mwyn cyflawni o leiaf 20% o orchudd canopi, fel arfer bydd angen dwysedd stocio o 100 coesyn yr hectar, wedi’u gwahanu’n gyfartal. Gall y ffigur hwn newid yn dibynnu ar gyfansoddiad y rhywogaethau, ond rydym yn cymryd 100 coesyn yr hectar fel rhagdybiaeth gychwynnol.

Er enghraifft, gellir disgwyl i’r amrywogaeth helyg gwyn Salix alba var. caerulea gyflawni 20% o orchudd canopi pan gaiff ei phlannu ar ddwysedd o 100 coesyn yr hectar (er enghraifft, mewn patrwm grid 10 metr wrth 10 metr ar wahân). Fodd bynnag, bydd rhywogaethau eraill yn cyflawni gorchudd canopi o 20% ar ddwysedd plannu is neu uwch. Mae Atodiad 1 yn dangos enghreifftiau rheoli coetir a’n cyngor ar orchudd canopi mewn perthynas â dwysedd coed mewn lleoliadau coetir.

Os ydych yn ansicr a fydd y coed ar eich tir yn cyflawni 20% o orchudd canopi ac yn ansicr a oes angen barn coedwigo mewn perthynas ag asesu effeithiau amgylcheddol arnoch, cysylltwch â forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

4.3  Rhestrau coedwigoedd a choetiroedd

Mae rhestrau coetir yn helpu i gadarnhau presenoldeb a maint coetir a phresenoldeb hirdymor gorchudd coetir. Rydym yn eu defnyddio fel canllaw, ar y cyd â thystiolaeth arall megis cofnodion cynefinoedd â blaenoriaeth, i helpu i benderfynu a ddylai safle gael ei ystyried yn goetir at ddibenion rheoleiddio.

Mae’r Rhestr Goedwigoedd Genedlaethol (NFI) yn cofnodi maint, dosbarthiad, cyfansoddiad a chyflwr ein gorchudd coedwig a choetir presennol. Mae’n cynnwys sawl is-adran. Mae’r rhain yn cynnwys y categori coetir, a’r categori “coetir tybiedig” y gellir ei ddefnyddio i nodi coetir newydd ei blannu gyda’r potensial i gyflawni gorchudd canopi o 20%. Fe’i cynhelir gan Forest Research. Gweler Atodiad 4 am wybodaeth ychwanegol am y Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol.

Mae’r Rhestr Coetiroedd Hynafol (AWI) yn cofnodi presenoldeb coetiroedd hynafol, coed pori hynafol a thir parc.

Mae’r ddwy restr wedi sefydlu methodolegau ar gyfer adolygu a phenderfynu a yw tir yn cael ei ddisgrifio orau fel coetir. Fodd bynnag, nid yw’r rhestrau hyn yn darparu prawf pendant o bresenoldeb neu absenoldeb coetir ar y safle ar unrhyw adeg benodol oherwydd y cylchoedd naturiol a/neu gylchoedd rheoli sy’n digwydd mewn coetir. Gallai ardal ymddangos fel coetir ar restr nad yw wedi’i gorchuddio gan goed ar hyn o bryd.

Ni fydd coed ar rai ardaloedd am gyfnodau byr o amser. Mae’n bosibl bod gweithgarwch cwympo coed a/neu ailstocio wedi digwydd yn ddiweddar. Gall fod ‘llystyfiant prysgiog’, lle mae tyfiant coediog isel yn dominyddu safle coetir tebygol (er enghraifft, coetir llydanddail ifanc). Mae’n bosibl, yn hanesyddol, bod gorchudd coed wedi bod ar lefel uwch nag ydyw heddiw.

Yn yr un modd, gall tir nad oedd yn goetir o’r blaen fod wedi datblygu’n goetir trwy brosesau naturiol neu ddynol. Yn ogystal, mae oedi rhwng newidiadau ar lawr gwlad a’r hyn a adlewyrchir yn iteriad diweddaraf y rhestr coetiroedd.

Gall fod eithriadau hefyd. Gallai rhestr ddangos safle fel coetir lle na fyddem yn ei ystyried yn un. Felly, rydym yn defnyddio rhestrau fel canllaw. Maent yn cynnig rhagdybiaeth gychwynnol ddefnyddiol bod coetir yn bodoli (neu ddim yn bodoli) ar safle penodol. Byddwn yn rhagdybio bod tir a restrir fel coetir ar restr yn goetir oni bai fod digon o dystiolaeth i’r gwrthwyneb. Ni fwriedir i’r dehongliadau a fabwysiadwn danseilio nac erydu’r diffiniadau a fabwysiadwyd mewn rhestrau mewn unrhyw ffordd.

Rydym hefyd yn defnyddio ffotograffau o’r awyr a lloerennau i’n helpu ni i benderfynu ar a yw’r tir yn goetir. Mae delweddaeth yn arbennig o ddefnyddiol gan ei bod yn cynnig golygfa ddiweddar o’r dirwedd oddi uchod a chyfres o olygfeydd hanesyddol dros amser er mwyn cymharu.

4.4  Mannau agored mewn coetir

Mae mannau agored yn rhan hanfodol o strwythur mewnol coetir a reolir yn dda. Gall toriadau mewn gorchudd canopi gynnwys fel a ganlyn:

  • rhodfeydd, llennyrch, traciau a ffyrdd, fforddfreintiau cyfleustodau, a hawliau tramwy
  • parthau glan afon a chyrff dŵr bach
  • clustogau o amgylch nodweddion amgylchedd hanesyddol
  • nodweddion terfyn (ffensys a waliau)
  • man agored o amgylch coed hynafol a/neu hynod
  • ardaloedd sy’n bwysig ar gyfer cynefinoedd nad ydynt yn goetir neu briddoedd cyfoethog organig (mawn)

Mae mannau agored yn galluogi golau i dreiddio drwyddo, sy’n cynnal fflora’r ddaear a ffawna’r coetir ac yn helpu isdyfiant y coetir i ddatblygu. Yn ei dro, bydd hyn yn:

  • gwella amrywiaeth strwythurol mewnol y coetir
  • creu cynefinoedd coetir mewnol ychwanegol
  • gwella cyflwr cyffredinol y coetir

Mae’r Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol yn diffinio man agored fel “unrhyw ardal agored sydd yn [hyd at] 20 metr o led a 0.5 hectar o ran maint ac sydd wedi’i hamgylchynu’n llwyr gan goetir”. Er mwyn i goetiroedd fod mewn cyflwr ffafriol, mae’r Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol yn caniatáu rhwng 10% a 25% o fannau agored mewn ardaloedd coetir dros 10 hectar, a hyd at 10% o fannau agored mewn ardaloedd coetir hyd at 10 hectar.

Methodoleg Sgorio Cyflwr Ecolegol Coetir y Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol (forestresearch.gov.uk) (tudalen 40).

Gan adeiladu ar y diffiniadau uchod, ein dehongliad ni yw, mewn ardaloedd coetir mwy (dros 10 hectar), y gall ardaloedd unigol o fannau agored dros 0.5 hectar fod yn dderbyniol pan fydd pwrpas penodol, er enghraifft fel lawnt rheoli ceirw. Mae ardaloedd o fannau agored yn cyfrannu’n sylweddol at anghenion rheoli a swyddogaeth ecolegol y coetir a chânt eu derbyn felly, ar yr amod eu bod yn amlwg yn cael eu defnyddio a’u rheoli mewn ffordd sy’n cefnogi amcanion rheoli’r coetir a swyddogaethau ehangach y coetir. Fodd bynnag, dylai’r ardal gronnus o fannau agored o fewn coetir mawr aros yn gymesur (10% i 25%) ag arwynebedd cyffredinol y coetir.

Mewn coetiroedd llai (llai na 10 hectar), ni ddylai ardaloedd unigol o fannau agored fod yn fwy na 0.5 hectar o ran maint. Byddwn yn rhagdybio bod ardaloedd o fannau agored mewn coetir sy’n bodloni’r meini prawf uchod yn rhan o’r coetir oni bai fod tystiolaeth ddigonol i’r gwrthwyneb.

Dylai mannau agored fod o fewn y ffiniau (tu fewn) y coetir. Gall rhai mathau o fannau agored, megis llennyrch, rhodfeydd a llwybrau, ddarparu llwybr mynediad i’r coetir o’i ffin. Fodd bynnag, heblaw am y pwyntiau mynediad hyn, fel arfer dylai nodweddion mannau agored gael eu hamgáu gan goetir.

Dylai mannau agored gefnogi swyddogaeth cynefin eu rhiant-goetir. Rhaid i’r mannau agored weithio i ategu a gwella’r cynefin coetir – er enghraifft, trwy ddarparu cynefin ymyl coetir, mynediad llinol, neu glustogau o amgylch nodweddion pwysig megis nodweddion amgylchedd hanesyddol.

4.5  Mannau agored swyddogaethol ac anweithredol

Mannau agored swyddogaethol

Mae rhai nodweddion rhyngol yn creu mannau agored lle gall adfywio naturiol a/neu blannu coed fod yn bosibl. Gan fod yr ardaloedd hyn yn cefnogi swyddogaeth a rheolaeth y coetir, rydym yn ystyried y nodweddion canlynol yn rhan o’r ardal goetir:

  • llwybrau a traciau heb wyneb
  • nodweddion dros dro fel cilfannau heb wyneb, a mannau pentyrru pren
  • rhodfeydd a llennyrch a reolir
  • ardaloedd o lwyrgwympo

Mae mathau eraill o nodweddion rhyngol yn creu mannau agored lle nad yw aildyfiant a/neu blannu coed yn debygol. Fodd bynnag, oherwydd eu bod yn rhyngweithio â swyddogaeth y coetir, a/neu’n elfen naturiol o’r dirwedd, gallwn ystyried y nodweddion hyn yn rhan o’r ardal goetir, yn amodol ar eu graddfa a’u cyfrannedd mewn perthynas â’r ardal goetir:

  • brigiadau creigiog
  • cyrff dŵr bach
  • cynefinoedd agored a reolir ar gyfer cadwraeth a gwella bioamrywiaeth
  • nodweddion yr amgylchedd hanesyddol
  • nodweddion ffin

Mannau agored anweithredol

Nid yw rhai nodweddion rhyngol sy’n creu mannau agored yn cyfrannu at swyddogaeth na rheolaeth y coetir, ac nid ydym yn ystyried y nodweddion hyn yn rhan o’r ardal goetir. Er enghraifft:

  • priffyrdd cyhoeddus
  • rheilffyrdd
  • afonydd (lle mae’r bwlch yn y coetir yn 20 metr neu fwy) a llynnoedd
  • adeiladau
  • fforddfreintiau cyfleustodau (lle mae’r bwlch yn y coetir yn 20 metr neu fwy)


5. Coetir a “Rheoliadau (Coedwigaeth) 1999”

Yng Nghymru, mae coedwigo a datgoedwigo yn cael eu llywodraethu gan “Reoliadau (Coedwigaeth) 1999”. Os yw prosiect (naill ai coedwigo neu ddatgoedwigo) yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, dylech ofyn am farn CNC cyn gwneud unrhyw waith. Os ydych yn ansicr a oes angen barn asesu effeithiau amgylcheddol arnoch, ewch i canllaw cyflym i broses AEA. Os oes gennych gwestiynau pellach, e-bostiwchforestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Yn yr adrannau canlynol, rydym yn trafod rhai lleoliadau nodedig yr ydym yn eu hystyried yn goetir.

Bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o pryd y bydd “Rheoliadau (Coedwigaeth) 1999” yn berthnasol.

5.1  Coedwigaeth cylchdro byr

Mae coedwigaeth cylchdro byr yn defnyddio amrywiaeth o rywogaethau coed sy’n tyfu’n gyflym i gynhyrchu biomas neu bren.  Gall y rhain gynnwys poplys, masarn, ffawydd, ewcalyptws, a’r amrywogaeth helyg wen Salix alba var. caerulea). Os cânt eu gadael i aeddfedu, bydd llawer o’r rhywogaethau hyn yn cyflawni 20% o orchudd canopi. Bydd Salix alba var. caerulea, er enghraifft, yn cyflawni 20% o orchudd canopi mewn patrwm grid gyda bylchau 10 metr wrth 10 metr.

Ar gyfer “Rheoliadau (Coedwigaeth) 1999”, rydym yn ystyried planhigfeydd coedwigaeth cylchdro byr fel coetir. Cymerir y safbwynt hwn gan Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig (UKFS). Bydd angen trwydded cwympo coed arnoch i gynaeafu coed coedwigaeth cylchdro byr unwaith y byddant yn cyrraedd 8 cm mewn diamedr o’u mesur 1.3 metr oddi ar y ddaear (oni bai fod esemptiad yn berthnasol).

5.2  Coedlan cylchdro byr

Mae coedlan cylchdro byr yn cynnwys cnydau coediog, lluosflwydd y mae eu gwreiddgyff neu eu boncyffion yn aros yn y ddaear ar ôl eu cynaeafu, gydag egin newydd yn dod i’r amlwg y tymor canlynol. Mae’r rhain, ochr yn ochr â phlanhigfeydd cnydau ynni eraill, yn tueddu i gynnwys rhywogaethau fel helyg, cyll, castanwydd, masarn, a phoplys hybrid. Fel arfer, bydd y rhywogaethau hyn yn cyrraedd 5 metr o uchder ac 20% o orchudd canopi os cânt eu gadael i aeddfedu.

Ar gyfer Rheoliadau (Coedwigaeth) 1999, rydym yn ystyried coedlan cylchdro byr a chnydau ynni eraill fel coetir. Mae’n annhebygol y bydd angen trwydded cwympo coed arnoch ar gyfer y rhan fwyaf o goedlannau cylchdro byr a chnydau ynni a reolir yn dda. Mae hyn oherwydd y byddant yn cael eu cynaeafu cyn iddynt gyrraedd maint sylweddol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen un arnoch i gwympo cnwd gor-aeddfed (oni bai fod esemptiad yn berthnasol).

5.3  Coed Nadolig

Mae planhigfeydd coed Nadolig yn cynhyrchu ystod fechan o rywogaethau conwydd cydnabyddedig. Byddai’r coed hyn fel arfer yn cyrraedd 5 metr o uchder (ac 20% o orchudd canopi) pe byddent yn cael eu gadael i aeddfedu. Ar gyfer “Rheoliadau (Coedwigaeth) 1999”, rydym yn ystyried planhigfeydd coed Nadolig fel coetir. Cymerir y safbwynt hwn hefyd yn Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig.

Fel arfer, nid oes angen trwydded cwympo coed ar gyfer coed Nadolig a reolir yn dda. Mae hyn oherwydd bod y rhan fwyaf o goed Nadolig yn cael eu cynaeafu cyn iddynt gyrraedd 8 cm mewn diamedr o’u mesur 1.3 metr oddi ar y ddaear. Fodd bynnag, bydd angen trwydded cwympo coed os gadewir rhai coed Nadolig, neu blanhigfeydd cyfan, i dyfu fel sbesimenau mawr (oni bai fod esemptiad yn berthnasol).

5.4  Amaeth-goedwigaeth

Mae amaeth-goedwigaeth yn ddull rheoli tir sy’n cyfuno coed a llwyni gyda systemau ffermio cnydau a da byw. Mae dau brif gategori o amaeth-goedwigaeth, sef amaeth-goedwigaeth yn ardal o dir cnydau ac amaeth-goedwigaeth lle ceir ffermio bugeiliol (silvo-arable a silvo-pastoral). Mae angen i chi wybod pryd mae prosiect amaeth-goedwigaeth yn cyfrif fel “coetir” at ddiben Rheoliadau (Coedwigaeth) 1999 – gweler Atodiad 1 am enghreifftiau.

Hyd yn oed os nad ydym yn ystyried prosiect amaeth-goedwigaeth fel coetir, efallai y byddai dal angen trwydded arnoch i dorri’r coed sy’n tyfu (oni bai fod esemptiad yn berthnasol). Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

5.5  Adfer cynefin

Diffinnir cynefinoedd â blaenoriaeth yng Nghymru yn adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (cyfeirir atynt hefyd fel rhestrau bioamrywiaeth o dan y Ddeddf hon Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru – Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (biodiversitywales.org.uk). Efallai y bydd achosion lle mae coetir yn cael ei dynnu i adfer ardal yn gynefinoedd â blaenoriaeth neu fawn dwfn. Fodd bynnag, ni fyddwn yn ystyried y safle fel coetir oni bai ei fod yn bodloni ein dehongliad yn adran 4. Dangosir tair enghraifft o leihau gorchudd coed ar gyfer adfer cynefinoedd yn Atodiad 2.

5.6  Perllannau

Mae perllannau’n cynnwys coed sy’n cynhyrchu ffrwythau a chnau. Gall gwahanol setiau o reolau lywodraethu eu rheolaeth oherwydd ei fod yn weithgaredd amaethyddol.

Plannu

Os ydych yn plannu perllan gyda rhywogaethau sy’n debygol o gyrraedd 5 metr o uchder ac 20% o orchudd canopi, byddwn yn ystyried y planhigion fel coed. Os yw’r safle’n fwy na 0.5 hectar o ran maint, byddwn yn ei ystyried yn goetir. Os ydych yn ansicr a oes angen barn coedwigo o dan Reoliadau (Coedwigaeth) 1999 arnoch, ewch i canllaw cyflym i broses AEA. Os oes gennych gwestiynau pellach, e-bostiwch >forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Os yw’r planhigion yn annhebygol o gyrraedd 5 metr o uchder (er enghraifft, corblanhigion), ni fyddwn yn eu hystyried fel coed, ac felly ni fyddwn yn ystyried y safle fel coetir. Ond, fel gweithgaredd amaethyddol, efallai y bydd angen i chi ymgynghori â Llywodraeth Cymru am farn o dan Reoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007.

Gwaredu

O dan y Ddeddf, mae coed ffrwythau neu goed sy’n sefyll mewn perllan yn esempt o’r angen am drwydded cwympo coed.

Dehonglir perllannau sy’n fwy na 0.5 hectar o ran maint (gyda choed sydd â’r potensial i gyrraedd 5 metr ac 20% o orchudd canopi) i fod yn goetir at ddibenion Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth). Os ydych yn bwriadu cael gwared ar berllan o’r maint hwn, efallai y byddwch am ymgynghori â ni i gael barn ar y rheoliadau o dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) sy’n ymwneud â datgoedwigo i sicrhau nad oes unrhyw effaith sylweddol ar yr amgylchedd.forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Atodiad 1 - Senarios rheoli coetir a’r cyngor a roddwn: Amaeth-goedwigaeth a gorchudd coetir

Mae amaeth-goedwigaeth yn dod yn ddewis poblogaidd i reolwyr tir. Mae’r pum enghraifft hyn yn diffinio “coetir” mewn perthynas ag ystyr “coedwigo” a “datgoedwigo” o dan “Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth)”.

Enghraifft 1 - Llain conwydd cymysg a choed llydanddail

Yr enghraifft yw clwstwr o goed conwydd cymysg a choed llydanddail sydd â chyfanswm arwynebedd o fwy na 0.5 hectar gyda lled yn fwy nag 20 metr. Disgwylir i’r coed gyrraedd 5 metr o uchder (gweler Adran 3 – Diffiniad o Goeden). Mae’r llain wedi cyflawni mwy nag 20% o orchudd canopi.

Coetir yw hwn, hyd yn oed os caiff ei bori neu ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd.

Enghraifft 2 - Amaeth-goedwigaeth (ar dir cnydau)

Mewn systemau amaeth-goedwigaeth ar dir cnydau, mae coed yn cael eu plannu ar draws safle mewn rhesi. Mae hyn yn creu lonydd cnydio. Yr enghraifft yw dwy res o goed yn rhedeg yn gyfochrog ar draws cae âr gyda lled tractor mawr rhwng y ddwy res. Mae pob rhes yn lled coeden sengl. 

Er y gall niferoedd uchel o goed gael eu plannu, mae’n annhebygol y byddant yn cyflawni 20% o orchudd canopi ar y safle. Mae’r rhesi o goed yn gul, wedi’u gwasgaru’n eang oddi wrth ei gilydd, ac felly’n annhebygol o gyrraedd lleiafswm lled o 20 metr. Nid yw hyn yn cael ei ystyried yn goetir.

Enghraifft 3 - Lleiniau cysgodi amaeth-goedwigaeth (ar dir cnydau): bugeiliol a thir âr

Yr enghraifft yw naill ai glaswelltir gyda da byw neu dir âr gyda sawl rhes o goed ar un ochr. 

Mae lleiniau cysgodi ar dir âr neu dir pori sydd o leiaf 20 metr o led yn debygol o fodloni ein dehongliad o goetir. Mae hyn oherwydd bod y coed hyn fel arfer yn ddigon o ran maint, lled (ar y pwynt culaf) a dwysedd plannu i fodloni ein meini prawf.

Fodd bynnag, mae “lleiniau” sy’n cynnwys un rhes o goed yn annhebygol o gael eu dehongli fel coetir.

Enghraifft 4 - Amaeth-goedwigaeth lle ceir ffermio bugeiliol: dwysedd isel

Yr enghraifft yw cae yn cynnwys da byw a choed unigol gwasgaredig.

Mae coed pori dwysedd isel a/neu orchudd coed tir parc yn lleoliad amaeth-goedwigaeth nodweddiadol lle ceir ffermio bugeiliol. Os bydd y coed yn tyfu ar ddwysedd isel, maent yn annhebygol o gyflawni gorchudd canopi o 20%.

Nid yw hyn yn cael ei ystyried yn goetir.

Enghraifft 5 - Amaeth-goedwigaeth (ffermio bugeiliol: dwysedd uwch)

Yr enghraifft yw cae sy’n cynnwys da byw, coed unigol a grwpiau o goed. Mae rhai rhannau o’r cae gyda grwpiau mwy o goed.

Mae coed pori dwysedd canolig yn lleoliad amaeth-goedwigaeth nodweddiadol lle ceir ffermio bugeiliol. Mae’r coed yn tyfu mewn bylchau amrywiol a gall rhai grwpiau fod yn ddigon trwchus i gyflawni 20% o orchudd canopi, naill ai ar draws y safle neu mewn ardaloedd penodol.

Os yw ardal ddwys yn fwy na 0.5 hectar o ran maint ac 20 metr o led, byddwn yn ystyried mai coetir fydd hwn.

Atodiad 2 - Senarios rheoli coetir a’r cyngor a roddwn: Lleihau gorchudd coed ar gyfer adfer cynefin 

Os oes gennych chi safle coetir ac eisiau lleihau’r gorchudd coed at ddibenion adfer cynefinoedd, gallai’r coed sy’n weddill gael eu hystyried yn goetir o hyd. Mae’r tair enghraifft hyn yn diffinio “coetir” mewn perthynas ag ystyr “datgoedwigo” o dan “Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth)”. Mae’r safle cychwynnol (cyn cwympo) yn glwstwr trwchus o goed conwydd. Mae coetir yn gorchuddio’r safle cyfan heb fawr o le rhwng y coed. Mae’r enghreifftiau canlynol yn nodi beth fyddai (a beth na fyddai) yn cael ei ystyried yn goetir ar ôl i goed gael eu tynnu i adfer cynefin ‘agored’.

Enghraifft 1 - Adfer (neu greu) coetir pori a chynefin agored

Yn yr enghraifft hon, byddai clwstwr o goed yn cael eu gadael gyda choed gwasgaredig hefyd yn cael eu cadw. Ar ôl cwympo coed, mae digon o goed wedi’u cadw ar draws y safle i gynnal gorchudd canopi o 20%.

Coetir yw hwn.

Nid oes angen asesiad o’r effaith amgylcheddol ar gyfer coedwigaeth gan nad yw’r prosiect yn gyfystyr â datgoedwigo. Mae’n debygol y bydd angen trwydded cwympo coed i gael gwared ar y coed.

Enghraifft 2 - Creu cynefin agored ac ardal(oedd) o goed a gedwir

Yn yr enghraifft hon, byddai un clwstwr trwchus o goed yn aros mewn un cornel o’r cae.

Ar ôl torri, mae’r mwyafrif o goed wedi eu clirio ond mae digon o goed yn cael eu cadw mewn ardal o’r safle â maint o dros 0.5 hectar. Mae gan yr ardal a gedwir ddwysedd stocio i gyflawni gorchudd canopi o 20%. Bydd yr ardal a gedwir yn cyfrif fel coetir. Fodd bynnag, ni fydd yr ardal a gliriwyd yn cyfrif fel coetir.

Efallai y bydd angen cydsyniad asesiad o’r effaith amgylcheddol yn yr ardal sydd wedi’i chlirio os yw’r prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Fel arall, bydd yn destun camau gorfodi os nad oedd cydsyniad ar waith lle’r oedd ei angen. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Canllaw cyflym i broses AEA. Os oes gennych gwestiynau pellach, e-bostiwchforestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Mae’n debygol y bydd angen trwydded cwympo coed i gael gwared ar y coed.

Enghraifft 3 - Creu cynefin agored gyda choed yn cael eu cadw o bryd i’w gilydd

Yn yr enghraifft hon, byddai cae yn cynnwys coed unigol gwasgaredig yn aros. Ar ôl cwympo coed, mae rhai coed gwasgaredig wedi’u cadw ond dim digon i sicrhau 20% o orchudd canopi ar draws y safle. Nid yw’r safle cyfan bellach yn goetir.

Efallai y bydd angen cydsyniad asesiad o’r effaith amgylcheddol os yw’r prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd neu fod yn destun camau gorfodi os nad oedd cydsyniad ar waith lle roedd ei angen. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Canllaw cyflym i broses AEA. Os oes gennych gwestiynau pellach, e-bostiwch forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Mae’n debygol y bydd angen trwydded cwympo coed i gael gwared ar y coed.

Atodiad 3 - Diffiniadau o ffynonellau: Cyfraith achosion - coed

O dan ddeddfwriaeth gorchmynion cadw coed, mae’r llysoedd wedi ystyried y diffiniad o “goeden”.

Yn Bullock v yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd ac un arall [1980] (1EGLR 140 am 142), dyfarnodd yr Uchel Lys fel a ganlyn:

‘Am wn i, ni fyddai neb yn disgrifio llwyn a phrysgwydd yn “goed”, nac yn wir yn llwyni, ond mae’n ymddangos i mi fod unrhyw beth y byddai rhywun yn ei alw’n goeden fel arfer yn “goeden”.’

ac

‘yn gyffredinol yr hyn sy’n tyfu mewn prysgoed byddai coed.’

Yn fwy diweddar, yn Distinctive Properties (Ascot) Limited v yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol ac un arall [2015] EWCA Civ 1250 ym mharagraff 42, dyfarnodd y Llys Apêl fel a ganlyn:

‘…nid wyf yn siŵr o gwbl a yw’n ofynnol i’r llys hwn wneud datganiad diffiniol a yw hadblanhigyn yn goeden. Nid oes dadl nad yw hedyn ond bod glasbren yn…’

‘…Byddaf yn derbyn y dull a fabwysiadwyd gan Cranston J yn Palm Developments, sef bod coeden i’w hystyried felly ar bob cam o’i bywyd, yn amodol wrth eithrio hedyn syml. Byddai hadblanhigyn felly yn dod o fewn y term statudol, yn sicr unwaith y byddai modd ei adnabod fel rhywogaeth sydd fel arfer ar ffurf coeden…’

‘…Os yw’r “planhigyn” o rywogaeth coeden, ni allaf weld unrhyw reswm pam y dylid ei eithrio o ystyr y gair “coeden”

Er bod CNC yn cydnabod nad yw’r cyfraith achosion hon yn gosod cynsail cyfreithiol mewn perthynas â’r “Ddeddf” na “Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth)”, mae wedi’i hystyried ochr yn ochr â ffynonellau eraill wrth lunio’r dehongliadau a nodir yn y ddogfen hon.

Diffiniad Geiriadur Saesneg Rhydychen o goeden yw:

Rydym wedi ystyried y ffynonellau awdurdod hyn ac wedi ceisio eu gweithredu mewn modd ymarferol yn ein dehongliad ein hunain a nodir yn Adran 3.1.

Atodiad 4 - Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol: Man cychwyn

Mae rhaglen y Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol yn monitro coetiroedd a choed ym Mhrydain Fawr. Mae’n cynnwys yr arolwg mwyaf manwl a gynhaliwyd hyd yma ar goetir a choed Prydain. Mae’n arf allweddol ar gyfer datblygu ein polisïau a’n canllawiau ynghylch rheoli coetiroedd yn gynaliadwy. Mae’r Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol yn bodloni safonau rhyngwladol, sy’n golygu y gallwn ei defnyddio ar gyfer cymariaethau rhyngwladol o orchudd coed.

Mae’r Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol yn disgrifio isafswm arwynebedd o 0.5 hectar ac isafswm lled o 20 metr yn ei diffiniad o goetir. Mae hyn yn gyson â diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y DU (gweler Atodiad 5). Fodd bynnag, nid yw’n ystyried uchder coed. Mae diffiniadau eraill yn cytuno y dylai coesynnau coed fod â’r potensial i gyrraedd 5 metr mewn amodau tyfu arferol.

Fel y crybwyllwyd, rydym yn defnyddio y Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol fel canllaw. Er ei bod yn fan cychwyn da ar gyfer deall lle mae coetir yn bodoli, efallai nad yw’n adlewyrchu’n gywir y defnydd presennol o dir.

Atodiad 5 - Diffiniadau o goetir

Mae llawer o ddiffiniadau o goetir yn bodoli. Rydym yn ystyried pob un o’r ffynonellau awdurdod hyn wrth weithredu ein dehongliad cyffredin ein hunain. Ni fwriedir i’n dehongliad danseilio nac erydu unrhyw un o’r diffiniadau a fabwysiadwyd mewn mannau eraill, sydd â dibenion gwahanol i’r rhai yn y ddogfen hon.

Ffynhonnell Isafswm arwynebedd Isafswm lled % Mannau agored Gorchudd canopi Uchder coeden (posibl) Isafswm dwysedd stocio
>Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol (NFI) 0.5hectar 20metr Peidiwch â chynnwys llinellau pŵer, afonydd ac ati yng nghyfanswm arwynebedd y coetir pan fo’r toriad yn y coetir yn fwy nag 20 metr  O leiaf 20%  Heb ei nodi  Heb ei nodi
Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig (UKFS) Heb ei nodi Heb ei nodi  Heb ei nodi  O leiaf 20%  Heb ei nodi  Heb ei nodi
Rheoliad Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd, Erthygl 30 0.5 hectar 20 metr  Dylid cynnwys ffyrdd coedwig, rhwystrau tân a mannau agored bach eraill, ac ardaloedd heb eu stocio dros dro  O leiaf 10%  5 metr  Heb ei nodi
Safon y Cod Carbon Coetiroedd  

1 hectar net wedi’i blannu /

wedi’i adfywio (o fis Mai 2024)

 Heb ei nodi  Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys mannau agored annatod ac ardaloedd lle mae’r coed wedi’u cwympo sy’n aros i gael eu hailstocio (ailblannu)  O leiaf 20% (25% yng Ngogledd Iwerddon)  Heb ei nodi  400 coesyn fesul hectar
Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth  0.5 hectar 20 metr   Heb ei nodi  Dros10%  5 metr Heb ei nodi

 

Diweddarwyd ddiwethaf